Newyddion yr Is-Ganghellor

Is-Ganghellor i gyd – staff e-bost – Ionawr 2016

Annwyl gydweithiwr

Fel arfer, pan rwy’n ysgrifennu’r negeseuon ebost hyn, rwy’n ceisio peidio â dechrau â newyddion drwg. Yn wir, rwy’n ceisio canolbwyntio ar y newyddion da, ond rwy’n ofni y bydd hynny’n anodd y mis hwn. Ers cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17 (y soniais amdani yn ebost y mis diwethaf) rydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llen, i geisio eu hannog i adolygu’r penderfyniad. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi dwyn ymlaen y penderfyniad terfynol ar y gyllideb o fis Mawrth i 9 Chwefror. Mae hyn yn golygu y bydd angen i unrhyw newidiadau gael eu gweithredu ar frys.

Os bydd y toriadau arfaethedig yn cael eu cymeradwyo, bydd y swm sydd ar gael gan y cyngor cyllido i gefnogi prifysgolion yn gostwng o £151m i £87m. Mae hynny’n ostyngiad enfawr mewn blwyddyn, a byddai’r golled bosibl i Gaerdydd o tua £23m yn effeithio ar ein hincwm craidd. Mae arnaf ofn y byddai hyn yn ein gorfodi i ymgynghori ynghylch materion anodd iawn megis colli swyddi, yn enwedig gan fod Llafur Cymru yn gohirio unrhyw benderfyniad ynghylch ariannu prifysgolion tan adroddiad adolygiad Diamond ar ôl yr etholiad. Y syniad gwreiddiol oedd cael consensws trawsbleidiol na ddylai ariannu prifysgolion fod yn fater etholiadol, a chaniatáu i’r grŵp adolygu dan arweiniad Syr Ian Diamond lunio glasbrint ar gyfer y dyfodol a fyddai’n cael ei gyhoeddi ddiwedd yr haf ar ôl yr etholiad. Roedd y syniad hwn yn seiliedig ar y dybiaeth y byddai’r arian sydd ar gael ar hyn o bryd yn aros yn gymharol sefydlog, er mwyn i ni allu bod yn weddol hyderus na fyddem yn cymryd unrhyw risgiau annerbyniol wrth aros mor hir am awgrym o sut gellid sicrhau cynaliadwyedd arian ar gyfer prifysgolion yn y dyfodol. Yn anffodus, nid dyna fu’r achos. Nid oes unrhyw gonsensws trawsbleidiol ar ddyfodol arian prifysgolion, ac os daw i rym, byddai cynigion y gyllideb ddrafft yn gwthio prifysgolion i sefyllfa o argyfwng heb unrhyw ddealltwriaeth o beth fydd yr ateb maes o law.

Wrth gwrs, rydym yn deall bod arian cyhoeddus yn brin ar hyn o bryd, ond nid yw’n rhesymol disgwyl i brifysgolion yng Nghymru orfod delio â thoriadau o 40% neu fwy i’n harian cyhoeddus mewn blwyddyn, heb rybudd ymlaen llaw. Rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr y deuir o hyd i ateb, ac rydym yn rhoi gwybod i Undeb y Myfyrwyr am unrhyw ddatblygiadau. Byddwn hefyd yn siarad ag undebau pob campws, os na wneir cynnydd i osgoi canlyniad mor negyddol. Cynhelir y bleidlais ar 9 Chwefror, felly efallai y byddai’n syniad da gofyn i’ch AC beth mae’n bwriadu ei wneud. Nid yw hyn yn ymwneud yn unig â thynged y prifysgolion, y rhai sy’n gweithio ynddynt a’r myfyrwyr sy’n astudio gyda ni. Mae dyfodol pobl Cymru o ran iechyd, cyfoeth a lles yn dibynnu ar sector prifysgol cadarn, felly rwy’n mawr obeithio y deuir o hyd i ateb, er lles pawb. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf gennyf eto wedi i’r gyllideb gael ei phennu.

Gyda dymuniadau gorau, ac ymddiheuriadau am ebost eithaf digalon y mis hwn,

Colin Riordan

Is-Ganghellor