Y diweddaraf am Gyfarfodau

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Chwefror 2016

Annwyl gydweithiwr

Y newyddion mawr y mis hwn oedd y cyhoeddiad y bydd refferendwm ar 23 Mehefin i benderfynu a fyddwn yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd ai peidio. Efallai eich bod wedi gweld fy mod yn un o’r 103 o is-gangellorion a lofnododd lythyr a gyhoeddwyd yn y Sunday Times ar 21 Chwefror i ddatgan ein bod o blaid parhau’n aelod. Am unwaith, mae arweinwyr prifysgolion ledled y DU yn unfrydol bod y raddfa a’r amrywiaeth a gynigir gan yr UE yn amhrisiadwy i fyfyrwyr a staff, ac y bydd dyfodol economi wybodaeth y DU yn fwy diogel drwy allu dylanwadu o fewn yr Undeb, na phe byddem y tu allan iddo. Drwy lobïo ym Mrwsel a chynrychioli buddiannau ymchwil a rhyddid staff a myfyrwyr i symud, rydym wedi cyflawni manteision nodedig o safbwynt rhagoriaeth wyddonol a chyrhaeddiad addysgol. Mae amddiffyn Horizon 2020 ac ehangu cyfnewidfeydd Erasmus, yn ogystal â’n cefnogaeth frwd dros raglen Marie Curie-Skłodowska, wedi cynnig manteision gwych ac maent yn enghreifftiau o sut gallwn ddylanwadu er lles. Does dim dwywaith fod prifysgolion y DU yn cystadlu’n hynod lwyddiannus am arian ymchwil gan y Comisiwn Ewropeaidd. Hyd yma, mae gan y DU gyfran uwch o geisiadau cymwys ar gyfer Horizons 2020 nag unrhyw wlad arall yn Ewrop. Rydym wedi ennill 15.5% o’r arian hyd yn hyn, er mai 12.6% yw ein cyfran o’r boblogaeth. Yn anad dim, mae’n gyfle i fod yn rhan o faes ymchwil ac addysg enfawr a chyffredin. Mae systemau effeithiol a hael yn y maes hwn sy’n cynnig cyfleoedd ariannu i’r 508 miliwn o ddinasyddion yn y boblogaeth a rhoi rhwydd hynt iddynt symud o le i le. Gallwn recriwtio’r myfyrwyr gorau a chyflogi’r staff gorau heb orfod poeni am gael fisa neu drwyddedau preswyl. Mae ein system agored a chystadleuol yn rhoi mantais enfawr i ni wrth gystadlu yn erbyn cewri eraill o safbwynt ymchwil ac addysg, yn enwedig UDA a Tsieina. Mae prifysgolion cryf yn hollbwysig ar gyfer yr economi wybodaeth nawr ac, yn hanfodol, yn y dyfodol. Dyna pam mae arweinwyr prifysgolion ledled y DU yn gryf o blaid parhau’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

O ran y Brifysgol, fel y soniais yn fy ebost ym mis Hydref 2015, mae cyfnod cynllunio Y Ffordd Ymlaen (2012-17) ar fin dod i ben, felly mae’n gwneud synnwyr i ni ddechrau meddwl am ein strategaeth ar ôl 2017. Mae angen i ni ganolbwyntio o hyd ar y prif ddangosyddion perfformiad yn Y Ffordd Ymlaen gan mai ar sail y meini prawf hyn yr asesir ein llwyddiant. Fodd bynnag, dylem fanteisio ar y cyfle i dreulio mwy o amser yn meddwl am y dyfodol o ystyried y newidiadau enfawr sydd ar y gweill ym maes addysg uwch. Hefyd, mae treulio mwy o amser yn datblygu strategaeth yn ein galluogi i ymgynghori’n eang ac yn caniatáu cynifer o randdeiliaid â phosibl i gyflwyno eu safbwyntiau a’u syniadau. I’r perwyl hwnnw (fel y cyhoeddwyd gennym cyn y Nadolig), rydym wedi trefnu cyfres o weithdai ar themâu allweddol.

Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf, ‘Strategaeth a arweinir gan werthoedd?’ ar 5 Chwefror. Roedd tua 80 o bobl yn bresennol, gan gynnwys cymysgedd o staff academaidd, proffesiynol a chynorthwyol, myfyrwyr ac aelodau’r Cyngor. Nod y diwrnod oedd pwyso a mesur beth yw gwerthoedd mewn gwirionedd, pa mor bwysig ydynt, ac a fyddai’n bosibl cael strategaeth a arweinir gan werthoedd. Ar ddechrau ac ar ddiwedd y digwyddiad, cynhaliwyd pleidlais ddigidol anffurfiol i weld beth oedd barn pobl ynghylch strategaeth a arweinir gan werthoedd. Crëwyd cwmwl geiriau hefyd i weld beth oedd y teimlad cyffredinol ynghylch y gwerthoedd y dylem eu harddel. Cafwyd cyflwyniad gan Peter Sedgwick a Simon Robertson o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Fe wnaethant hefyd arwain trafodaeth am rai o’r cwestiynau sylfaenol y byddai’n rhaid i ni eu hystyried, a bu Robin Alfred o Sefydliad Findhorn yn sôn am y profiad o roi gwerthoedd wrth wraidd y sefydliad. Yn y prynhawn, cawsom ein rhannu’n grwpiau i drafod astudiaethau achos damcaniaethol. Roedd y rhain yn trin a thrafod sefyllfaoedd lle byddai angen dod i benderfyniad ynghylch cyfyng-gyngor moesegol neu ar sail gwerth. Roedd yr enghreifftiau’n cynnwys sut i ymdrin â gwaith ymchwil dadleuol, beth i’w wneud pe byddai rhodd sylweddol yn cael ei chynnig o ffynhonnell amheus, a ddylid ceisio argyhoeddi pobl i beidio ag yfed alcohol er mwyn gwella iechyd myfyrwyr a staff, sut i sicrhau bod addysgu ac ymchwil yn cael eu parchu yn yr un modd, ac achosion tebyg eraill.

Mae crynodeb o’r diwrnod ar gael yma, ond roedd y drafodaeth am ein diffiniad o werthoedd o dan arweiniad y ddau athronydd, ymhlith yr agweddau oedd fwyaf defnyddiol a chofiadwy i mi. Ymhlith pethau eraill, amlygwyd y gwahaniaeth rhwng beth ydym yn ei werthfawrogi a beth sy’n werthfawr drwy ystyried dymuniad ar y naill ochr, a’r hyn sy’n ddymunol ar yr ochr arall. Hynny yw, hwyrach ein bod yn dymuno rhywbeth nad yw’n ddymunol. Yn yr un modd, efallai ein bod yn gwerthfawrogi rhywbeth nad yw’n werthfawr; mewn geiriau eraill (fy ngeiriau a fy nehongliad i yw’r rhain), mae angen i ni ystyried o ddifrif beth sy’n bwysig i’r Brifysgol, ei dyfodol a buddiannau’r rhai sy’n gweithio ac yn astudio yma. Dyma’r materion y dylem eu gwerthfawrogi a’u blaenoriaethu. Gall yr hyn sy’n bwysig fod yn rhywbeth eithaf haniaethol — fel rhyddid mynegiant — a gallai fod yn amod yn hytrach na’n nod ynddo’i hun. Mae angen i ni hefyd ystyried budd yr unigolyn ochr yn ochr â budd y sefydliad. Ni ddylai cymhlethdod y materion hyn ein hatal rhag meddwl amdanynt yn y ffordd orau bosibl. Siaradodd Robin Alfred am sut i greu strategaeth sy’n cael ei arwain gan werthoedd, yn hytrach na siarad gwag yn unig. Mae hynny’n dibynnu ar greu diwylliant ar sail adborth lle mae rhoi a chael adborth mewn modd cadarnhaol ac adeiladol yn atgyfnerthu’r gwerthoedd yn ogystal â’r ymddygiad sy’n deillio ohonynt. Mae’n edrych i mi fel bod hwn yn faes gwerth ei ddilyn, hyd yn oed os ydym yn dewis ymagwedd lle caiff ein gwerthoedd eu hymgorffori yn ein strategaeth yn hytrach na’u hamlygu. Rwyf yn aml wedi meddwl bod cael adborth yn anoddach na’i roi, a’i bod yn anoddach dysgu sut i wneud hynny. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael trafferth cael canmoliaeth gydag urddas. Felly, mae ymarfer sut i gael adborth – boed hynny gan rai ar yr un lefel â chi, ar lefel is neu ar lefel uwch – heb fod yn amddiffynnol a thrwy fod yn chwilfrydig ac yn agored i ddysgu, yn her go iawn. Mae’r rhai sydd eisoes yn gallu gwneud hynny yn bobl ffodus, ond rwyf o’r farn y bydd hyn yn cynnig manteision clir i unrhyw un sy’n dod dros eu swildod.

Rydym wedi trefnu rhagor o weithdai strategaeth; mae’r amserlen ar gael yma. Bydd y digwyddiad cwrdd-i-ffwrdd nesaf ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth, a dylai fod yn achlysur gwerth chweil. Byddwn yn trafod addysg yn y bore, ac ymchwil yn y prynhawn. Os oes lleoedd ar gael o hyd, gallwch gofrestru yma. Yn ystod y diwrnod strategaeth, gwerthfawrogais yn fawr y ffaith ein bod yn gwneud beth y dylai pobl mewn prifysgol fod yn ei wneud: pwyso a mesur problemau eithaf haniaethol a chymhleth fydd yn effeithio ar ein bywydau yn y dyfodol, a threulio amser yn trafod syniadau. Rwyf yn edrych ymlaen at ailddarllen yr holl ddeunyddiau sydd wedi’u cynhyrchu drwy’r broses hon maes o law (gan gynnwys o ganlyniad i ddigwyddiad cwrdd-i-ffwrdd y Cyngor a Chynhadledd yr Uwch-Staff y soniais amdani ym mis Hydref) a’u trafod gyda chydweithwyr ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ac aelodau’r Cyngor. Credaf y gallwn ddatblygu strategaeth sy’n seiliedig ar ddeunydd cyfoethog wedi’i lywio gan dystiolaeth ddefnyddiol ac ymgynghori ystyriol. Mae’r broses ei hun yn hynod werthfawr, ond rwyf hefyd yn siŵr y bydd beth gaiff ei gyflawni maes o law yn well oherwydd yr amser a’r gofal yr ydym wedi’u cymryd i gau pen y mwdwl ar y broses.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor