Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mawrth 2016

Annwyl gydweithiwr

Yn gynharach y mis hwn, treuliais ran o’r bore yn gwibio fel cath i gythraul mewn ceir bymper, neu’r ceir osgoi (dodgems) fel yr oeddent yn cael eu galw’r tro hwn am reswm penodol. Rhaid i mi gyfaddef ei fod yn hwyl ac yn wahanol iawn i’r hyn rwyf yn arfer ei wneud fel Is-Ganghellor. Fodd bynnag, roedd y gweithgaredd yn tynnu sylw at fater pwysig. Efallai bod rhai ohonoch wedi gweld bod Undeb y Myfyrwyr wedi trefnu i’r ceir osgoi gael eu gosod ym maes parcio’r Prif Adeilad i godi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr o’r angen i gofrestru i bleidleisio. Roedd y placardiau o amgylch y lle yn gofyn p’un a oedd gwleidyddion yn osgoi’r materion sy’n bwysig i fyfyrwyr, gan esbonio enw’r reid o dan sylw. Yr hyn sy’n bwysig, fodd bynnag, yw annog myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio oherwydd ni allwn wneud hynny mwyach ar ran yr holl fyfyrwyr gyda’i gilydd. Yn amlwg, nhw a neb arall sydd i ddewis pwy i bleidleisio drostynt, ond ni chânt y cyfle i wneud hynny os nad ydynt wedi cofrestru. Bydd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn gallu cofrestru i bleidleisio yn eu prifysgol neu gartref, ble bynnag sydd fwyaf cyfleus iddynt (ond nid yn y ddau le, yn amlwg). Gall y rhai nad ydynt yn siŵr ble byddant, neu sydd i ffwrdd ar ddiwrnod yr etholiad, yn gallu cofrestru i bleidleisio drwy’r post. Baswn yn ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi’n fawr unrhyw beth y gallwch ei wneud i ledaenu’r neges.

Gan gadw at y thema wleidyddol, braint o’r mwyaf oedd cael fy ngwahodd i lofnodi’r Fargen Ddinesig ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gyhoeddwyd wedi hynny yn y Gyllideb. Roedd yn fraint gan fod y Fargen yn bartneriaeth lle mae’r prif randdeiliaid yn rhoi eu gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu i ddod ynghyd er lles de-ddwyrain Cymru yn ei chyfanrwydd. Eisteddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb, a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Greg Hands, gydag arweinwyr 10 awdurdod lleol i lofnodi dogfen sy’n cynnwys manylion y Fargen Ddinesig ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd y Fargen yn cael £1.2 biliwn dros yr 20 mlynedd nesaf gyda’r bwriad o ddenu £4 biliwn o fuddsoddiad preifat a chreu 25,000 o swyddi. Drwy ein Cyfnewidfa Dinas-Ranbarth, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn rhan greiddiol o ddatblygiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf ac rydym yn parhau i gymryd ein gwaith o ddifrif o safbwynt ein hymgysylltiad dinesig. Mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu bod pawb yn elwa pan mae prifysgolion yn cydweithio’n agos â llywodraethau, busnesau, diwydiant a chymdeithas sifil leol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn enwedig y prifysgolion eu hunain. Rwyf wrth fy modd ac yn falch bod Prifysgol Caerdydd mor amlwg yn y fenter hon, a’n bod yn cael sylw haeddiannol yn y Fargen Ddinesig ym meysydd sgiliau ac arloesedd. O ran sgiliau, mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yr ydym wedi’i sefydlu yng Nghasnewydd mewn partneriaeth â Sefydliad Alacrity, y diwydiant TG a Llywodraeth Cymru, yn denu cryn sylw. Mae hyn oherwydd ei ddull dysgu arloesol drwy gydweithio’n agos â chwmnïau go iawn sydd â phrosiectau y mae angen eu cwblhau. Mae cael cyflenwad o raddedigion medrus a pharod i weithio sy’n gallu mynd i’r afael â’r prinder parhaus, yn hanfodol i lwyddiant y Prifddinas-Ranbarth o ran adfywio economaidd. Dyma beth mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol, sy’n rhan o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn gallu ei chynnig. Yn yr un modd, mae’r clwstwr technoleg o ran lled-ddargludyddion cyfansawdd yr ydym yn ei greu mewn partneriaeth â chwmni lled-ddargludyddion cyfansawdd IQE, wedi’i ddewis i gael arian gan Innovate UK, a chyfeirir ato’n benodol yn y Fargen Ddinesig. Daeth y Canghellor, George Osborne, i’r Brifysgol ym mis Ionawr a chyhoeddodd Gatapwlt £50m i alluogi busnes a diwydiant i gydweithio ag ymchwilwyr academaidd er mwyn cyflymu’r gwaith o fasnacheiddio technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y rhanbarth. Mae’n bwysig dros ben bod Prifysgol Caerdydd wrth wraidd adfywio economaidd a bod hynny i’w weld, felly mae hyn oll yn newyddion da i ni.

Mae’n bleser o’r mwyaf cyhoeddi ein bod wedi ennill grant ymchwil mawr arall, ym maes systemau ynni’r tro hwn. Mae FLEXIS yn brosiect a arweinir gan Brifysgol Caerdydd ac mae’n cynnwys prifysgolion eraill o Gymru (Abertawe a De Cymru yn bennaf). Bydd FLEXIS yn ymchwilio i bob agwedd o gynhyrchu, cadw a dosbarthu ynni gan ystyried y materion technegol a’r goblygiadau cymdeithasol fel ei gilydd. Bydd y canlyniadau’n cael eu treialu drwy ddefnyddio arddangoswyr mewn lleoliadau. Yn y dyfodol, ni fydd ynni’n cael ei gynhyrchu ar raddfa eang mewn nifer fach o ganolfannau enfawr drwy ddefnyddio ffynonellau anadnewyddadwy a’i ddosbarthu i ddefnyddwyr ar draws ardaloedd mawr. Bydd angen i systemau ynni’r dyfodol fod yn rhai carbon isel a rhaid iddynt ystyried cynnyrch gwasgaredig ac anwastad o ffynonellau adnewyddadwy ac addasu i ddiwallu galw amrywiol cwsmeriaid. Er mwyn rheoli anghenion ynni yn y dyfodol, bydd angen systemau deallus sy’n gallu ymdopi â chyflenwad a galw amrywiol ac ar wasgar. Bydd hyn yn golygu gweddnewid ymddygiad, ond mae technolegau newydd yn aml yn cael eu datblygu cyn ystyried ffactorau fel parodrwydd y cyhoedd i’w derbyn a newid ymddygiad. Yn y prosiect hwn, caiff y materion hyn eu hystyried yn llawn. Y syniad hwn o integreiddio gwyddoniaeth cymdeithasol gyda datblygiadau gwyddonol a thechnolegol yw hanfod System Arloesedd Caerdydd. Pleser o’r mwyaf yw gweld pa mor amlwg ydyw mewn prosiect mor bwysig ym maes ymchwil academaidd yn ogystal ag er mwyn anghenion ynni ac economaidd y wlad yn y dyfodol. Cafodd FLEXIS ei lansio yn yr Ysgol Peirianneg yma ym Mhrifysgol Caerdydd gan Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru yn gynharach y mis hwn. Mae’n werth £24m i gyd gan gynnwys cyfraniadau arian cyfatebol gan bartneriaid y Brifysgol. Fodd bynnag, ni fyddai wedi bod yn bosibl heb yr £16m a gafwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Dyma enghraifft arall o’r gefnogaeth hollbwysig a gawn gan y Comisiwn Ewropeaidd. Yn ogystal â chael gwybod ein bod wedi llwyddo i ddenu pedwar Cymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie newydd, sef hanfod y rhaglen symudedd Ewropeaidd sy’n cael €800 bob blwyddyn gan y Comisiwn Ewropeaidd, mae wedi bod yn fis da o ran cael arian Ewropeaidd.

Fel y soniais fis diwethaf, mae arweinwyr prifysgolion ledled y DU yn unfrydol am unwaith ynglŷn â sut mae prifysgolion ar eu hennill yn sgîl ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, ac nid am resymau ariannol yn unig. Fodd bynnag, yn ogystal â’r arian y soniais amdano uchod, mae’n werth cofio bod yr Undeb Ewropeaidd wedi rhoi tua £61.5m ar gyfer ymchwil i Brifysgol Caerdydd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Ffactor cyn bwysiced, os nad pwysicach, yw’r ffaith ein bod hefyd yn cael tua £9m o incwm ffioedd gan fyfyrwyr sy’n ddinasyddion o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae gan y myfyrwyr hyn yr un hawl i fyw ac astudio yma o dan yr un amodau â myfyrwyr o Brydain. Yn yr un modd, mae gan ddinasyddion Prydain yr hawl i astudio yng ngwledydd eraill yr UE o dan yr un amodau â’r myfyrwyr sydd yno. Pe byddai hyn yn dod i ben — pe na allai myfyrwyr yr UE ddod yma i astudio yn yr un modd — byddai angen i ni ddod o hyd i tua 1,000 o fyfyrwyr israddedig o Brydain i gynnal ein hincwm ffioedd. Byddai hynny’n dalcen caled a byddem yn cystadlu gyda holl brifysgolion eraill y DU. Pe byddai pleidlais i adael yr UE ar 23 Mehefin, byddem ni yn wynebu heriau anodd dros ben fel prifysgol.

Agorodd Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC II) ei drysau’r mis hwn, a chefais y pleser o ddangos y cyfleusterau newydd i Gareth Davies, Prif Gyfarwyddwr Busnes a Gwyddoniaeth yn Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau Llywodraeth y DU. Ar ôl ymweld â’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yng Nghasnewydd a Sefydliad Catalysis Caerdydd, dau sefydliad a wnaeth gryn argraff, aethom ar daith o gwmpas CUBRIC. Cawsom weld rhai o’r sganiau cyntaf o’r ymennydd a chlywed am y cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol gan y Cyfarwyddwr, yr Athro Derek Jones, fydd yn cynnal y teithiau yn rheolaidd yn y dyfodol yn ôl pob sôn. Rwyf yn ddiolchgar dros ben am ei help gan fod y cyfleusterau newydd hyn yn wirioneddol rhagorol ac yn siŵr o sbarduno dychymyg pawb sy’n eu gweld. Does dim dwywaith ein bod ar flaen y gad ym maes delweddu’r ymennydd, ac mae’r ffaith mai ni yw’r ganolfan Ewropeaidd ar gyfer y math yma o waith yn ein rhoi mewn sefyllfa gref.

Bydd llawer ohonoch wedi clywed y newyddion trist iawn y mis hwn am farwolaeth yr Athro Chris McGuigan ar 11 Mawrth 2016. Roedd Chris yn ffigwr allweddol yn natblygiad ein cyflwyniad ar gyfer y REF, ac aeth ati wedi hynny i arwain y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol ym maes canfod cyffuriau yn ogystal â chwarae rhan flaenllaw yng nghanolfan y Gwyddorau Bywyd. Mae’n gadael bwlch enfawr a bydd colled mawr ar ei ôl. Ar ran y Brifysgol, hoffwn ddiolch am bopeth a wnaeth i Gaerdydd a chydymdeimlwn yn fawr â’i deulu.

Cofion gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor