Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mai 2016

Annwyl gydweithiwr

Ers i mi ysgrifennu ddiwethaf, mae ymgyrch refferendwm yr EU wedi cyflymu ac yr ydym bellach o fewn mis i’r bleidlais. Fel yr eglurwyd yn fy negeseuon e-bost blaenorol, credaf yn bersonol y gwasanaethir buddiannau Prifysgol Caerdydd orau os bydd y Deyrnas Unedig yn parhau’n aelod.  Boed hynny o safbwynt mynediad at arian ymchwil neu allu staff a myfyrwyr i symud yn rhydd, mae ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn ein gwasanaethu’n dda, a bydd y trefniadau cydweithio a’r cyfeillgarwch y buom yn eu meithrin ers blynyddoedd lawer — nid yn Ewrop yn unig, ond yn y byd ehangach — yn sicr yn cael eu cryfhau ymhellach gan bleidlais glir dros aros. Mae barn ranedig yn parhau yn y wlad, ond erbyn imi ysgrifennu atoch nesaf bydd yr ymarferiad pwysig hwn mewn democratiaeth wedi’i gwblhau, a gobeithiaf y byddwn yn edrych ymlaen at ddyfodol diogel gyda chyn lleied o ansicrwydd â phosibl. Fel y dywedais y tro diwethaf mae’n bwysig iawn bod cynifer o bobl â phosibl yn ymarfer eu hawl i bleidleisio ar fater mor bwysig, ac felly rwy’n gobeithio bod ein myfyrwyr yn cael y neges bod ganddyn nhw tan 7 Mehefin i gofrestru (neu 8 Mehefin i gael pleidlais drwy’r post) er mwyn iddyn nhw fedru sicrhau bod eu barn  yn cyfrif ar 23 Mehefin.

Ers fy e-bost diwethaf cynhaliwyd etholiadau Cynulliad Cymru a chafwyd canlyniad hynod annisgwyl.  Fel y gwyddoch yn ddiau, yr Ysgrifennydd Cabinet newydd ar gyfer addysg yw AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, a ddaeth i gytundeb gyda’r Prif Weinidog a oedd yn cynnwys yr amodau y dylid rhoi sylw i argymhellion adolygiad Diamond ar gyfer ariannu cymorth i fyfyrwyr a phrifysgolion yn y dyfodol, gyda golwg ar eu mabwysiadu’n gynnar lle bo hynny’n briodol, ac y dylid diogelu’r trefniadau cyffredinol o ran neilltuo arian ar gyfer addysg uwch. Rwy’n barnu bod hyn yn newyddion cadarnhaol.  Mae bob amser yn ddoeth peidio â bod yn rhy optimistaidd wrth ystyried canlyniadau posibl penderfyniadau gwleidyddol, ond rwy’n eitha sicr y bydd dyfodol prifysgolion yng Nghymru a myfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn destun sylw gofalus, ac y bydd modd cael hyd i ateb a fydd yn gynaliadwy i’r dyfodol.  Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Ms Williams ar gael ei hethol a’i rôl newydd, ac edrychaf ymlaen at wneud pa gyfraniad bynnag y gallwn i ddatrys y materion sy’n ein hwynebu yn ystod y  blynyddoedd nesaf.

Hefyd ers fy e-bost diwethaf mae’r Papur Gwyn ar addysg uwch yn Lloegr wedi cael ei gyhoeddi, ac mae Bil Addysg Uwch ac Ymchwil 2016 eisoes ar ei ffordd trwy’r gwahanol gamau trafod.  Mae’r Bil yn agos iawn at yr hyn a gynigiwyd yn y Papur Gwyrdd yr hydref diwethaf, er ei bod yn amlwg bod y Llywodraeth wedi gwrando ar rai o’r pryderon a fynegwyd mewn ymateb i hynny. Yn benodol, y bwriad nawr yw deddfu i greu cymorth deuol ar gyfer  ymchwil; hynny yw, bydd rhwymedigaeth statudol i ddarparu cyllid ar gyfer ymchwil sylfaenol awyr las (arian QR sy’n cael ei ddosbarthu ar sail perfformiad REF) ar wahân i’r arian prosiectau sy’n cael ei ddosbarthu trwy’r cynghorau ymchwil.  Mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu a fydd yn tawelu ofnau ynghylch y potensial i symud arian oddi wrth waith ymchwil a sbardunwyd gan chwilfrydedd at faterion y gallai’r Llywodraeth eu hystyried yn flaenoriaethau. Fel y disgwylid, bydd holl faterion ymchwil Lloegr a’r Deyrnas Unedig ehangach yn cael eu llywodraethu gan un corff newydd, UK Research and Innovation (UKRI), a fydd yn cwmpasu pob un o’r saith cyngor ymchwil er mwyn eu cydlynu trwy un system lywodraethu, yn ogystal ag Innovate UK ac is-adran newydd o’r enw Research England, a fydd yn gyfrifol am REF a dosbarthu QR i brifysgolion yn Lloegr. Bydd QR ar gyfer prifysgolion yng Nghymru yn parhau’n fater datganoledig (ar hyn o bryd caiff ei ddosbarthu gan HEFCW ar sail y canlyniadau REF). Unwaith eto, yn ôl y disgwyl, mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth i ddileu HEFCE. Fel yr amlinellwyd uchod, bydd y swyddogaethau ymchwil yn cael eu trosglwyddo i UKRI, a bydd y cyfrifoldeb am faterion addysgol yn cael ei drosglwyddo i swyddfa newydd ar gyfer myfyrwyr (OfS). Fel y mae’r teitl yn awgrymu, y corff hwn fydd yn gyfrifol am ddiogelu buddiannau myfyrwyr — diogelu defnyddwyr os mynnwch — a hefyd bydd ganddo bwerau helaeth i roi ac yn wir i dynnu teitl prifysgol yn Lloegr, os derbynnir y darpariaethau fel y’u drafftiwyd. Mae’r newidiadau hyn yn drwyadl ac mae goblygiadau dwys iddynt; anuniongyrchol fydd yr effeithiau ar Gymru, ond byddant yn sylweddol serch hynny. Tra bod hyn i gyd yn digwydd, mae newidiadau i’r drefn sicrhau ansawdd ar waith hefyd; o safbwynt prifysgolion Cymru, rydym wedi dadlau’n gyson ein bod am barhau’n rhan o system ar draws y Deyrnas Unedig. Ymddengys bod yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn debygol o barhau’n gyfrifol am sicrhau ansawdd yng Nghymru a Lloegr, a fyddai’n ddatblygiad i’w groesawu o ystyried yr ansicrwydd a fu’n amlwg yn ystod y cyfnod diwethaf o ryw 18 mis. Yn olaf, mae Ymgynghoriad Technegol ar fanylion y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu arfaethedig (a fydd yng ngofal yr OfS) hefyd wedi’i gyhoeddi. Bydd prifysgolion Cymru yn dymuno cymryd rhan am yr un rhesymau ag y dymunwn ni fod yn rhan o system sicrhau ansawdd ar draws y Deyrnas Unedig, er mwyn cynnal cysondeb a chymharedd ar draws sectorau, yn ogystal ag amlygrwydd rhyngwladol.

Sylweddolaf fod llawer i’w amgyffred, ac wrth gwrs fy ngwaith i yw sicrhau bod y Brifysgol mewn sefyllfa gystal â phosibl wrth i’r newidiadau cymhleth hyn gael eu trafod, eu penderfynu a’u gweithredu.  Byddaf yn gwneud fy ngorau i’ch hysbysu am y datblygiadau allweddol yn ystod y misoedd nesaf.

Byddwch yn ymwybodol ein bod hefyd yn ymrafael â gweithredu diwydiannol gan Undeb y Prifysgolion a’r Colegau mewn anghydfod ynghylch cyflogau ar hyn o bryd.  Rwy’n gobeithio y bydd modd sicrhau bod buddiannau ein myfyrwyr yn cael eu diogelu wrth i aelodau’r UCU ymarfer eu hawl i streicio ar adegau a gweithio’n unol â’u contractau.  Rwy’n siŵr bod y ddwy ochr yn awyddus i chwilio am ateb a gobeithiaf y bydd modd ailddechrau trafodaethau ystyrlon yn y dyfodol agos. Nid oes unrhyw amheuaeth ein bod mewn cyfnod anodd yn ariannol, a gallaf weld pam mae tensiynau wedi codi, ond yn y pen draw cawn hyd i ateb trwy gyd-drafod; yr unig gwestiwn yw pa mor hir bydd hynny’n cymryd a sut gallwn ni reoli’r anawsterau y deuwn ar eu traws yn y cyfamser.

Yn olaf, y mis hwn roedd yn bleser croesawu Is-ganghellor Prifysgol Namibia, Yr Athro Lazarus Hangula, a Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Datblygu, Yr Athro Kenneth Matengu. Roeddent yn ymweld â ni mewn perthynas â Phrosiect Ffenics yr Athro Judith Hall, ein prosiect ymgysylltu blaengar sy’n rhan o fenter ehangach Llywodraeth Cymru, Cymru dros Affrica.  Roedd yn drafodaeth eithriadol o ddiddorol ac addysgiadol; mae hwn yn amlwg yn brosiect sy’n fuddiol i’r ddwy ochr ac yn strategol bwysig iddynt.   Mae angen llawer iawn o gymorth ar lywodraeth a phoblogaeth Namibia gan eu prifysgol genedlaethol, ac maent yn wynebu heriau enfawr yn sgîl hynny. Gall ein gallu ninnau o ran arbenigedd ac ymchwil chwarae rôl bwysig, a gallwn ddysgu llawer a fydd yn ein helpu gyda’n heriau ein hunain.  Edrychaf ymlaen at ddatblygu’r trafodaethau hyn yn y dyfodol.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor