Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Academyddion Caerdydd yng Ngŵyl y Gelli

Cartagena, Colombia - February 23, 2014 - Stacks of books are part of an art instalation in Catagena's colorful Getsemani neighborhood.
Cartagena, Colombia - February 23, 2014 - Stacks of books are part of an art instalation in Catagena's colorful Getsemani neighborhood.

Un o’r gwyliau uchaf ei bri y mae academyddion Prifysgol Caerdydd yn ymwneud â hi yw Gŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll. Yr wythnos ddiwethaf, cafwyd chwe chyflwyniad – dan yr enw Cyfres Caerdydd – gan gynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd, yn cynnwys Ysgol Fusnes Caerdydd, yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Ysgol y Biowyddorau, yr Ysgol Feddygaeth a’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Mewn blwyddyn o dirnodau llenyddol (100fed pen-blwydd Roald Dahl, 400 mlynedd ers marwolaeth Shakespeare), ac ar drothwy refferendwm yr UE ac etholiad yr Unol Daleithiau, bu ein tîm yn rhannu’r llwyfan â chymeriadau megis Benedict Cumberbatch, cyn-Weinidog Cyllid Gwlad Groeg Yanis Varoufakis, y Fonesig Jacqueline Wilson, Syr Tom Jones a Dara O’Briain.

  • Gwahoddodd Dr Jon Anderson o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ni i ailystyried y berthynas rhwng pobl, llenyddiaeth a thir. Cyflwynwyd ‘daearyddiaeth lenyddol newydd’ ar sail y rhagdybiaeth na ellir cyfyngu nofelau a storïau gan gynnwys llyfr, ond yn hytrach eu bod, trwy ddychymyg y darllenydd, yn dod yn rhan o’r profiad byw a gawn o’r byd o’n cwmpas.
  • Aeth Dr Simone Cuff o’r Ysgol Feddygaeth â ni ar daith o amgylch yr Ecosystem y tu mewn, gan esbonio bod y mwyafrif o bobl yn meddwl eu bod yn ddynol ond nad yw hynny mewn gwirionedd ond yn rhannol gywir. Mae gennym o’n mewn fwy o gelloedd nad ydynt yn ddynol na rhai dynol: o’r bacteria sy’n eich helpu i dreulio’ch bwyd, i’r ffyngau sy’n helpu i gadw eich croen yn iach.

Arweiniodd Yr Athro Haley Gomez o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth banel o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n ymwneud llawer â’r prosiect LIGO (Arsyllfa Tonnau Disgyrchiant Mesurydd Ymyriant Laser), a fu’n trafod yr hanesion personol diddorol a’r ffeithiau gwyddonol anhygoel y tu ôl i ddarganfod tonnau disgyrchiant, a beth mae hynny’n ei olygu o safbwynt ein dealltwriaeth o’r bydysawd yn y dyfodol.

Bu Dr Joe O’Mahoney o Ysgol Fusnes Caerdydd yn cyfareddu’r gynulleidfa ag enghraifft o chwarae rôl dan arweiniad myfyrwyr oedd yn trafod osgoi talu treth, a arweiniodd at ddadl fywiog ynghylch a ddylai cwmnïau amlwladol megis Facebook dalu treth o gwbl.

Bu Dr Kelly Berube o Ysgol y Biowyddorau yn chwalu mythau ynghylch llygredd aer a daeth ag amrywiaeth o offer syml a llai syml i ddangos sut mae tystiolaeth yn cael ei chasglu. Creodd ei ffotograffau o’r mwrllwch yn Llundain yn 1952 argraff fawr.

Eglurodd Dr Paul Roche o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, a adwaenir hefyd fel Llysgennad y Gofod yng Nghymru, â manylion graffig sut bu i asteroidau ladd y deinosoriaid, a sut gallent achosi difodiant torfol yn y dyfodol. Ei samplau o asteroidau oedd sêr y sioe ac roedd ei ddatganiad terfynol, oedd yn sôn am “wasgu, claddu, ffrio, berwi, toddi, rhewi, mogi” yn apelio’n arbennig at aelodau iau’r gynulleidfa.

Dyma beth o’r adborth cynnar gan gynulleidfaoedd yn y digwyddiadau:

  • “Siaradwr naturiol – galla i weld pam mae ei fyfyrwyr yn dwlu arno”
  • “Da iawn, iawn, iawn, iawn”
  • “Roedd y sgwrs yn ddadlennol-pwnc llosg iawn”
  • “Rwyf wedi gweld asteroid a nawr rwy’n gwybod beth oedd e”
  • “Fe ddown ni’n ôl flwyddyn nesa i weld Cyfres Caerdydd”

Wrth inni fyfyrio ar Ŵyl y Gelli eleni, yr ydym yn falch o glywed gan academyddion a fu’n ymwneud â hi fod nifer o weithgareddau dilynol eisoes wedi’u cynnal. Bydd hyn yn sicr o arwain at gydweithio ehangach, ymchwil o well ansawdd, effaith, ac o bosib arian ychwanegol ar gyfer ymchwil. Mae hon yn enghraifft arall o sut mae tîm Prifysgol Caerdydd yn llwyddo i dynnu sylw at ganfyddiadau gwaith ymchwil ac yn cyfrannu’n frwd at ddadleuon ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Diolch i’r academyddion a wnaeth hyn yn bosibl; edrychaf ymlaen at glywed mwy am sut mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn parhau i fod o fudd i’r economi a chymdeithas.