Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mehefin 2016

Annwyl gydweithiwr

Mae cryn dipyn o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ac ni fydd llawer ohonom erioed wedi wynebu sefyllfa o’r fath o’r blaen. Rydym yn wynebu ansefydlogrwydd gwleidyddol ac ariannol, a bydd hyn yn cael effaith cynyddol negyddol ar yr economi yn ôl pob tebyg. Fodd bynnag, y gobaith yw y cawn sefydlogrwydd o’r newydd a hyd yn oed rhagor o ffyniant maes o law, fel y mae rhai wedi addo i ni. Roedd modd darogan yr ansicrwydd hwn, ac roedd llawer wedi’i ragweld. Fodd bynnag, rydym wedi gweld effeithiau eraill — rhai cymdeithasol ac emosiynol — sydd wedi bod yn fwy annisgwyl, a hoffwn roi sylw i’r rhain ar ddechrau’r neges hon.

Yn gyntaf oll, rhaid i ni wneud popeth y gallwn i fynd i’r afael â’r achosion diweddar sy’n bygwth sut mae cymdeithasau’n cyd-fyw. Byddwch yn ymwybodol o’r achosion o gam-drin hiliol yn ogystal â throseddau casineb ledled y wlad. Gadewch i ni fod yn gwbl glir na fyddwn yn goddef unrhyw beth o’r fath ar ein campws, yn ystod ein gweithgareddau nac yn ein cymunedau. Mae’n ddyletswydd arnom i greu lefel o bwysau cymdeithasol sy’n gwneud yn gwbl glir i unrhyw un sy’n teimlo bod hawl ganddynt i ymddwyn fel hyn, bod hiliaeth ac anoddefgarwch yn annerbyniol yn ein cymdeithas ac, yn wir, y gall fod yn drosedd. Dylem ddiogelu ac atgyfnerthu enw da Cymru fel gwlad gyfeillgar a chroesawgar, a darbwyllo pawb bod Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn brifysgol oddefgar, amrywiol, gyfeillgar a chroesawgar.

Wrth gwrs, rhaid cydnabod bod teimladau cryfion ar naill ochr y ddadl fel y llall. Mae llawer o’r rhai a bleidleisiodd o blaid gadael yr UE, yn teimlo’n rhydd ac wedi’i bywiogi gan ganlyniad oedd, o bosibl, yn annisgwyl hyd yn oed iddynt hwythau. Maent yn fodlon gan fod eu llais a’u safbwyntiau cryfion wedi cael eu clywed ac maent wedi gwneud gwahaniaeth. Mae’r rhai a bleidleisiodd o blaid aros yn yr UE yn teimlo galar gan fod miliynau yn mynd i golli eu dinasyddiaeth Ewropeaidd yn erbyn eu hewyllys. Mae dinasyddion o wledydd eraill yr UE sy’n byw yn y DU, wedi mynegi teimladau o frad ac ymddieithrio. Ar draws y sbectrwm, mae llawer o bobl yn ofni beth allai ddigwydd gan fod y dyfodol mor ansicr. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n bwysig dros ben ein bod yn ystyried teimladau pobl eraill. Yn amlwg, nid ydym am i ni deimlo bod yn rhaid sensro ein hunain, ofni sathru ar draed neb, na bod yn or-bwyllog. Mae lle i gellwair crocbren, ond gadewch i ni fod yn ofalus iawn er mwyn ystyried sut teimladau posibl cydweithwyr neu fyfyrwyr eraill am yr amgylchiadau yr ydym ynddynt, a gwneud yn siŵr bod Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan flaenllaw, ac yn gosod esiampl, wrth helpu i ddatrys yr anghydfodau sydd wedi dod i’r amlwg.

Yn ail, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gydweithio â’r Undeb Ewropeaidd ac yn datblygu’r partneriaethau a’r cyd-brosiectau yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd. Roeddwn yn falch iawn o gael ebost o gefnogaeth ddydd Gwener diwethaf oddi wrth yr Athro Riks Torfs a’r Athro Danny Pieters, Prifathro ac Is-brifathro KU Leuven. Yn y neges, roedd y ddau ohonynt yn fy sicrhau eu bod yn awyddus i barhau i gydweithio â ni, beth bynnag fydd yn digwydd nesaf.  Dywedon nhw: ‘Gall y realiti gwleidyddol newydd sy’n deillio o’r refferendwm ddoe olygu ein bod yn wynebu rhwystrau newydd; drwy gydweithio â chi, rydym yn barod i oresgyn unrhyw her newydd.’ Yn yr ysbryd hwnnw, gofynnaf i bob un o fy nghydweithwyr academaidd barhau â’u cynlluniau ar gyfer ceisiadau ymchwil, parhau i feithrin rhwydweithiau Erasmus, a bwrw ymlaen ag unrhyw gynlluniau eraill a allai fod ganddynt ar gyfer cyd-brosiectau Ewropeaidd. Rydym yn yr Undeb Ewropeaidd o hyd, ac ni chawn wybod am rai misoedd beth allai ddigwydd o ganlyniad i adael yr UE. Ni welwn unrhyw newidiadau pendant am rai blynyddoedd. Felly, mae gennym lawer i’w frwydro amdano: yn anad dim, rhaid i ni beidio â chymryd yn ganiataol y byddwn yn colli’r rhwydweithiau cydweithredol a’r holl fanteision y mae’r UE yn eu cynnig i ni ym meysydd ymchwil, addysgu, a chyfnewid myfyrwyr a staff. Nid yw ein hymdrechion wrth baratoi ceisiadau Ewropeaidd a meithrin cysylltiadau Ewropeaidd wedi bod yn wastraff amser. Rydym yn gweithio’n galed gyda’r llywodraeth a’r Comisiwn i wneud yn siŵr bod chwarae teg i’r DU nes bydd rheolau’n cael eu newid yn bendant. Hefyd, rhowch wybod am unrhyw awgrymiadau gan bartneriaid Ewropeaidd y dylai’r DU gael eu symud o gonsortia neu eu hisraddio o ran ein pwysigrwydd. Mae camau o’r fath yn gwbl ddiangen ar hyn o bryd, a byddwn yn gwneud popeth y gallwn i’w gwrthsefyll, gan gynnwys defnyddio eich gallu chi i argyhoeddi.

Yn yr un modd, roeddem yn falch iawn o weld y cyhoeddiad y bydd yr ymgeiswyr israddedig o’r UE sy’n gobeithio dod i astudio gyda ni ym mis Medi, yn parhau i allu cael gafael ar y cymorth ariannol disgwyliedig drwy gydol eu cyrsiau. Mae’n hollbwysig ein bod yn sicrhau unrhyw ymgeiswyr mai dyma’r sefyllfa o hyd. Rhaid i ni hefyd dawelu eu meddyliau y byddwn yn anrhydeddu pob ymrwymiad drwy gydol eu rhaglen. Gallai myfyrwyr rhyngwladol fod wedi cael yr argraff bod newidiadau ar y gorwel ar eu cyfer nhw hefyd. Yr un yw’r neges i fyfyrwyr rhyngwladol o hyd, a bydd yn parhau’r un fath yn y dyfodol. Mae Caerdydd yn brifysgol hynod fyd-eang a rhyngwladol, a byddwn yn parhau i groesawu myfyrwyr a staff o bedwar ban y byd.

Yn drydydd, mae ymgyrch y refferendwm wedi cael effaith fwy twyllodrus ac annisgwyl. Er mwyn gwrthsefyll y doreth o dystiolaeth arbenigol o blaid aros yn yr UE, gofynnodd yr ymgyrchwyr dros adael yr UE i’r cyhoedd anwybyddu’r arbenigwyr a’r holl dystiolaeth oedd yn dangos yr effaith negyddol y byddai gadael yr UE yn ei chael ar y DU yn gyffredinol. Go brin bod unrhyw ddiben mewn ailedrych ar y dystiolaeth erbyn hyn; yr hyn a allai beri anhawster i ni yw’r posibilrwydd y bydd y cyhoedd yn llai parod i ymddiried yn yr arbenigedd a gynigir gan brifysgolion. Hyd yn oed y tu hwnt i hyn, mae sawl rheswm pam y gallai’r cyhoedd fod wedi colli ffydd yn yr arbenigwyr tybiedig. Os felly, rydym yn wynebu cryn her i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i’r afael â’r mater ac yn rhoi sylw priodol i hyn dros amser.

Er mai unwaith y mis yr ydw i’n anfon yr ebost hwn fel arfer, gallaf eich sicrhau y cewch wybod gennyf am unrhyw ddatblygiadau o bwys sy’n effeithio ar addysg uwch. Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’r materion hanfodol yn bwysig ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol, a chaiff y rhain gryn sylw’n gyffredinol; fe wnaf fy ngorau i bwyso a mesur sut byddant yn effeithio arnom ni a gwneud yn siŵr y cewch y wybodaeth ddiweddaraf drwy bob sianel sydd ar gael i ni.

Cyn i mi orffen ar gyfer y mis hwn, gadewch i ni gofio bod bywyd yn mynd yn ei flaen. Bydd busnes arferol y Brifysgol yn parhau; graddio, derbyn myfyrwyr, y tymor newydd, ymchwil, dysgu ac addysgu, allgymorth a’r llu o weithgareddau yr ydym yn cymryd rhan ynddynt. Byddwn hefyd yn parhau i lwyddo, fel y gwnaethom ym mis Mehefin. Roedd cael Ei Mawrhydi’r Frenhines yma i agor CUBRIC yn uchafbwynt, a chawsom ragor o glod brenhinol pan ddyfarnwyd Proffeswriaeth Frenhinol i’r Ysgol Cemeg. Bydd teitl Proffeswriaeth Frenhinol yn cael ei rhoi i’r Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI), a hoffwn ei longyfarch am ennill yr anrhydedd nodedig hon. Roeddwn wrth fy modd pan welais fod yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, wedi’i henwi ar y rhestr gyntaf o’r 50 o fenywod mwyaf blaenllaw ym maes peirianneg. Llongyfarchiadau i Karen am ennill yr anrhydedd haeddiannol hon. Llongyfarchiadau diffuant hefyd i’m rhagflaenydd Syr David Grant, a gafodd ei urddo’n farchog yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Mae’r anrhydedd yn adlewyrchu ei waith ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg a’i wasanaeth nodedig i Gaerdydd, ac mae hyn yn ennyn cryn falchder i’r Brifysgol. Pleser o’r mwyaf oedd cael gwybod bod yr Academia Europaea wedi cyflwyno Medal Erasmus 2016 i’r Seryddwr Brenhinol yr Arglwydd Martin Rees yn eu cyfarfod a’u cynhadledd flynyddol yng Nghaerdydd. Cyflwynodd yr Arglwydd Rees ddarlith ddealladwy a diddorol dros ben i ddathlu’r achlysur, ac roedd yn hynod briodol o ystyried llwyddiannau anhygoel ein grŵp Tonnau Disgyrchiant yn ddiweddar. Mae Caerdydd yn un o bedair Canolfan Gwybodaeth Ewropeaidd, a bydd ganddi rôl bwysig wrth hwyluso’r Dull Cynghori Gwyddonol newydd ar gyfer y Comisiwn Ewropeaidd. Yn olaf, a thrwy gyd-ddigwyddiad llwyr, mae Prifysgol Caerdydd yn safle rhif 45 ledled Ewrop, ac yn 8fed yn y DU, ar restr newydd Thomson Reuters o’r 100 prifysgol mwyaf arloesol yn Ewrop. Mae hyn yn gydnabyddiaeth i’w chroesawu o lwyddiant ein system arloesedd ac mae’n ffordd wych o’n hatgoffa o ba mor bwysig yw cydweithio’n agos a’n cyfeillion a’n cydweithwyr yn Ewrop.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor