Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Medi 2016

Annwyl gydweithiwr

Rydym yn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd mewn byd gwahanol iawn. Mae’r ansefydlogrwydd yn dilyn y bleidlais i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd wedi lleihau am y tro, er bod gwerth y bunt wedi gostwng ers hynny. Er bod rhai deunyddiau llyfrgell a chyfarpar ymchwil yn ddrytach oherwydd hynny, mae o fantais i ni yn gyffredinol gan fod myfyrwyr rhyngwladol yn cael gwerth gwell am eu harian. Roedd hefyd yn braf cael cadarnhad y bydd y Trysorlys yn gwarantu arian Ewropeaidd ar gyfer prosiectau Horizon 2020 tan 2023. Cafwyd cadarnhad o’r fath hefyd ar gyfer y cronfeydd strwythurol a fydd, gyda lwc, yn cefnogi ein prosiectau seilwaith mawr. Nid yw nifer y myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd wedi gostwng yn gyflym, er bod hynny wedi edrych fel posibilrwydd cryf yn wreiddiol. Fodd bynnag, mae angen cadarnhad gan y llywodraeth arnom y bydd myfyrwyr yr UE sy’n cyflwyno cais i ddechrau astudio yma yn 2017-18, yn cael arian gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau, hyd yn oed os byddwn yn ymadael â’r UE yn y cyfamser. Fel y gwyddoch, fodd bynnag, ceir ansicrwydd o hyd o ran beth yn union fydd y broses ymadael yn ei olygu i ni, ac mae cwestiynau lu y bydd angen eu hateb ynghylch dyfodol y prifysgolion. Rwyf wedi cael fy mhenodi’n aelod o ddau o bwyllgorau Llywodraeth Cymru fydd yn cynghori ar y materion hyn. Mae un ohonynt yn ymwneud yn benodol ag addysg uwch, ac mae gan y llall gylch gorchwyl eang i gynghori ar oblygiadau ymadael â’r UE i Gymru’n fwy cyffredinol. Bydd faint o ddylanwad a gawn yn hollbwysig. Rwyf yn hyderus y bydd Prif Weinidog Cymru a’i gydweithwyr yn llais cryf dros Gymru wrth i Lywodraeth y DU baratoi ar gyfer y trafodaethau. Byddwn ni yn y sector AU yn chwarae ein rhan, nid yn unig drwy gynghori ar faterion sy’n ymwneud ag addysg uwch ac ymchwil, ond hefyd drwy gynnig ein harbenigedd i Lywodraeth Cymru lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

Cafodd adroddiad hirddisgwyliedig Adolygiad Diamond ei gyhoeddi ddiwedd y mis hefyd. Bydd ffioedd a dulliau ariannu yn dibynnu llawer ar yr adroddiad hwn. Efallai eich bod yn gwybod fy mod wedi bod yn rhan o’r adolygiad ers ei sefydlu yng ngwanwyn 2014, felly rwyf wedi bod yn gysylltiedig â’r trafodaethau ers hynny. Mae’r adroddiad ar gael yma, ond ei uchafbwynt yw’r ffaith y bydd y grant ffioedd dysgu cyfredol yn cael ei ddisodli gan grant cynnal a chadw llawer mwy hael na’r un bresennol. Yng Nghymru fyddai’r system fwyaf blaengar yn y DU ar gyfer cefnogi myfyrwyr oherwydd byddai pob myfyriwr yn cael o leiaf £1,000 ar gyfer pob blwyddyn astudio. Ar ben hynny, byddai’r rhai sy’n dod o deuluoedd sy’n ennill llai na chyfanswm o £80,000 y flwyddyn yn cael mwy na hynny, gyda’r rhai sy’n ennill y cyflogau isaf yn cael hyd at £9,000 y flwyddyn. Bydd y grantiau cynhaliaeth nad oes rhaid eu had-dalu, ar gael ar gyfer ôl-raddedigion a addysgir ar yr un telerau, a bydd myfyrwyr rhan-amser yn gymwys i gael arian yn yr un modd ar lefel briodol. Ym mhob achos, bydd benthyciad yn cael ei roi i dalu’r ffioedd dysgu. Bydd y rhain yn parhau i fod yn £9,000 ar gyfer israddedigion amser llawn yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi arian ym mhocedi myfyrwyr pan mae arnynt ei angen fwyaf, ac ni fydd yn rhaid iddynt ei dalu’n ôl. Ar yr un pryd, bydd prifysgolion yn cael yr arian sydd ei angen arnynt i roi addysg o’r safon uchaf i’r myfyrwyr hyn. Bydd hyn hefyd yn talu am bynciau cost uchel, ehangu mynediad a rhoi mathau eraill o gefnogaeth i fyfyrwyr, yn ogystal â 450 o ysgoloriaethau ymchwil ledled Cymru. Byddai arian ar gyfer ymchwil sy’n ymwneud ag ansawdd yn cael ei ddiogelu mewn termau real, a byddai arian ar gael ar gyfer mentrau strategol. Os caiff y pecyn cyfan ei dderbyn, gallwn edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair ar gyfer prifysgolion yng Nghymru ac i fyfyrwyr o Gymru, ble bynnag y maent yn dewis astudio. Rydym yn croesawu’r datblygiad hwn yn fawr gan ein bod yn wynebu cyfyngiadau ariannol llym yn y tymor byr i’r tymor canolig sydd i ddod. Os caiff ei dderbyn, go brin y bydd modd rhoi diwygiadau Diamond ar waith cyn blwyddyn academaidd 2018-19, ac ni ddaw’r manteision i’r amlwg yn llawn tan o leiaf dair neu bedair blynedd ar ôl hynny. Yn y cyfamser, ni fydd modd i ni allu cynhyrchu’r incwm sydd ei angen i ymdopi â’r pwysau cynyddol o ran costau. Felly, bydd yn rhaid i ni ystyried yn ofalus iawn sut byddwn yn ymdopi dros y blynyddoedd nesaf.

Fy nod bob amser yw sôn am lwyddiant ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd. Fodd bynnag, rhaid i mi sôn am eiliad am bethau sydd heb fynd cystal eleni, yn anffodus. Cafwyd canlyniadau siomedig yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) eleni, gan mai 87% oedd y boddhad cyffredinol, o’i gymharu â 90% y llynedd. Roedd hyn yn drueni gan fod y ganran wedi codi’n raddol o 86% bum mlynedd yn ôl, i 90% y llynedd. Bydd angen i ni gynnal dadansoddiad manwl i weld beth sydd wedi achosi hyn a beth y gallwn ei wneud am y peth. O ran y dangosyddion perfformiad yn Y Ffordd Ymlaen, mae nifer yr ysgolion sydd â lefel boddhad o dros 90%, wedi gostwng o 17 i 12, ac mae nifer yr ysgolion sydd â lefel boddhad o dros 80% am asesu ac ymchwil, wedi gostwng o 4 i 2. Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw cydweithio er mwyn gwella hyn, a byddwn yn paratoi cynllun gweithredu cyn bo hir. Rydym hefyd wedi cwympo o safle 122 i 140 ar restr detholion QS; unwaith eto, mae hyn ar ôl sawl blwyddyn o welliant cyson. Cafodd canlyniad Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, yn ogystal â’r gwymp o 6 phwynt canran yng nghyfran y graddedigion neu ôl-raddedigion sydd mewn swyddi lefel gradd chwe mis ar ôl graddio, effaith negyddol arnom yn Good University Guide y Times a’r Sunday Times. Er bod ein safle o ran cymarebau staff-myfyrwyr wedi gwella ryw ychydig, rydym wedi cwympo o safle 33 i 46 yn gyffredinol. Rhaid i ni gydnabod bod hwn yn ganlyniad hynod siomedig. Efallai y cofiwch mai fy nghyngor bob amser gyda thablau cynghrair yw peidio â gorfoleddu na digalonni’n ormodol gan ein bod yn gallu codi a chwympo. Mae’r canlyniadau eleni yn dangos doethineb ymagwedd o’r fath. Yr hyn y bydd angen i ni wneud nawr yw deall beth yn union aeth o’i le a sut gallwn ei wella, a byddaf yn canolbwyntio ar hyn dros y misoedd nesaf. I ddod â’r rhan hon i ben ar nodyn mwy cadarnhaol, mae’n werth cofio i ni godi 26 o safleoedd yn nhabl cynghrair y byd Times Higher Education y llynedd, a bod ymhlith y 200 uchaf am y tro cyntaf wrth gyrraedd safle 182. Rydym wedi dal ein gafael ar yr un safle eleni hefyd. Roedd yn galonogol gweld Busnes ac Economeg wedi’u rhestru yn y 100 uchaf am y tro cyntaf, yn safle 93. Wrth gwrs, mae angen bod yn ofalus gyda hyn oll hefyd.

Mewn newyddion arall, roeddwn yn falch iawn o glywed bod Caerdydd ymhlith y 14 o bartneriaethau hyfforddiant doethurol newydd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Dyma brawf o ansawdd ein gwaith ym maes y gwyddorau cymdeithasol, ond mae hefyd o gymorth yng nghyd-destun ein strategaeth sy’n gosod gwyddorau cymdeithasol wrth wraidd ein system arloesedd. Ym mis Medi, cawsom y fraint o groesawu Ysgrifennydd Addysg a Sgiliau newydd y Cabinet, Ms Kirsty Williams, a gyflwynodd ei haraith gyntaf ers ei phenodi ym mis Mai. Yn ei haraith, fe atgoffodd y prifysgolion o’u rhwymedigaeth i geisio hyrwyddo a gwella cydlyniant cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig ers y bleidlais i ymadael â’r UE. Mae’n bleser gennym dderbyn yr her hon ac edrychaf ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod ein cymunedau yn teimlo bod ganddynt berchnogaeth dros eu prifysgolion yn y blynyddoedd i ddod. Yn olaf, mae pedwar cais sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau’r Times Higher Awards eleni: Mae Gofal Iechyd GAMA ar y rhestr fer oherwydd eu gwaith gyda Phrifysgol Caerdydd yn y categori Cyfraniad Mwyaf Arloesol at Gydweithrediad rhwng Busnes a Phrifysgol; mae Ieithoedd i Bawb ar y rhestr fer yn y categori Cefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr; mae Newyddiaduraeth Gymunedol ar y rhestr fer yn y categori Cyfraniad Rhagorol i’r Gymuned Leol; ac mae Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ar y rhestr fer yn y categori Cyfraniad Rhagorol at Ddatblygu Arweinyddiaeth. Pob lwc i bob un ohonynt ac rwy’n gobeithio y byddaf yn llongyfarch un neu ragor ohonynt cyn bo hir.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor