Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Hydref 2016

Annwyl gydweithiwr

Mae bron i bedwar mis wedi mynd heibio bellach ers y digwyddiadau cythryblus a arweiniodd at gael Prif Weinidog newydd yn Stryd Downing. Cyn gynted ag y daeth hi’n amlwg fod Mrs May yn sicr o gymryd lle David Cameron, fe’m hatgoffwyd o’r blog a ysgrifennais ar 29 Tachwedd 2010, pan oeddwn yn is-ganghellor Prifysgol Essex. Theresa May oedd yr Ysgrifennydd Cartref ac roeddwn yn bryderus iawn am gynlluniau’r Swyddfa Gartref nid yn unig i wahardd twyll fisa a cholegau ffug – mesurau yr oedd prifysgolion yn gefnogol iawn iddynt – ond i’w gwneud hi’n fwy anodd, yn ddrutach ac yn fwy trafferthus i fyfyrwyr gael fisa i ddod i astudio ym mhrifysgolion y DU. Ychwanegu at y pryderon hynny’n unig wnaeth cynlluniau i ddileu eu gallu i aros ôl hynny ac i weithio. Yn y swydd honno, nodais, yn groes i rai canfyddiadau, nad yw myfyrwyr rhyngwladol yn cymryd lleoedd oddi wrth fyfyrwyr cartref, ac er mwyn ffynnu, bod rhaid i brifysgolion ddenu ymgeiswyr sydd â’r gallu a’r potensial i lwyddo, ble bynnag yn y byd y bônt. Nid mudwyr oedd myfyrwyr rhyngwladol, dadleuais; myfyrwyr oeddent. Felly, ni ddylent gyfrif yn y ffigurau ymfudo net yr oedd y llywodraeth yn dymuno ac y mae’n dymuno eu lleihau. Cyflwynais amrywiaeth o ddadleuon eraill, yn gosod y sail ar gyfer ymgyrch yr ydym, drwy UUK a dulliau eraill, wedi ei pharhau fyth ers hynny. Credaf fod digwyddiadau diweddar wedi’i gwneud hi’n angenrheidiol imi ailadrodd y dadleuon hynny unwaith eto, yn enwedig yng ngoleuni datblygiadau newydd.

Un o’r rhesymau a roddwyd inni oedd y broblem honedig fod myfyrwyr yn aros yn anghyfreithlon yn hwy na’u fisa. Yn ôl yn 2010 dyma oedd gennyf i’w ddweud ar y mater: ‘Ymddengys fod ofn fod gormod o fyfyrwyr yn aros yn y wlad ar ôl iddynt orffen astudio. Yma, y broblem yn rhannol yw’r ffordd y cesglir data ac y rhoddir cyfrif amdanynt. Af i ddim i fanylion, ond credaf y gallwn ni ddangos bod mwyafrif helaeth y myfyrwyr tramor yn dychwelyd i’w gwledydd eu hunain maes o law, neu os ydynt yn aros, eu bod yn gwneud hynny’n hollol gyfreithlon.’ Ers 2010 mae’r Swyddfa Gartref wedi seilio ei hamcangyfrif am y rhai sy’n aros yn hwy na’i fisa ar ddata hynod annibynadwy a gafwyd o’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol, nad yw’n olrhain myfyrwyr unigol ac na all ystyried hydoedd gwahanol cyrsiau astudio. Er y dywedwyd bod y rhai sy’n aros yn hwy na’u fisa rhwng 80,000 a 90,000, a fyddai’n gyfran sylweddol o’r rhai sy’n dod yma i astudio yn y lle cyntaf, ymddengys bellach yn glir fod y ffigur go iawn yn llai o lawer mewn gwirionedd; o dan 2% ac ymhell o fewn terfynau yr oeddem bob amser wedi honni ei fod oddi mewn iddynt. Mae’r ffigur newydd hwn yn seiliedig ar astudiaeth a gomisiynodd y Swyddfa Gartref ond nad oedd wedi’i rhyddhau i’r cyhoedd (fe’i datgelwyd drwy gais Rhyddid Gwybodaeth). Felly mae un o’r prif ddadleuon a ddefnyddir am yr angen i leihau nifer y myfyrwyr sy’n dod i’r DU yn syrthio, er na welwyd eto fod y Swyddfa Gartref wedi derbyn y pwynt.

Roedd yr araith a roddodd Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Cartref newydd, yn parhau â’r rhethreg yr ydym yn gyfarwydd â hi. Ymddengys fod y Llywodraeth newydd yn gwrthod gwrando ar yr awgrym mai’r ffordd orau o lawer i weithredu fyddai rhoi’r gorau i ystyried myfyrwyr yn fudwyr. Er bod hyn yn gyson â safbwynt Theresa May pan oedd yn Ysgrifennydd Cartref, nid yw’n gwneud synnwyr. Mae UUK wedi gwneud arolwg o’r cyhoedd ddwywaith, yn fwyaf diweddar yn gynharach y mis hwn, ac mae’r canlyniadau’n debyg iawn i rai arolygon eraill. Roedd dros 70% o’r rhai a fynegodd farn yn fodlon â nifer y myfyrwyr rhyngwladol ac yn wir byddent yn cefnogi polisi a fyddai’n rhoi hwb pellach i’r niferoedd. Mae llai na chwarter yn ystyried myfyrwyr yn fewnfudwyr, a byddai bron i dri chwarter o blaid caniatáu i fyfyrwyr rhyngwladol weithio yma am gyfnod wedi iddynt raddio. Nid oes unrhyw dystiolaeth fod mwyafrif y cyhoedd yn ystyried myfyrwyr yn broblem. Felly nid oes mater gwleidyddol yma. Er y gwyddom fod gan y cyhoedd bryderon mawr ynghylch mewnfudo, nid yw myfyrwyr rhyngwladol yn rhan amlwg o’r pryderon hynny.

Ar y llaw arall, ceir tystiolaeth gref o’r budd economaidd y mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod ag ef i’r DU, amcangyfrifir yn geidwadol ei fod yn £10.7bn bob blwyddyn. Dyma dystiolaeth nad oes neb wedi ei herio o ddifrif. Ac mae’r manteision a ddaw gyda myfyrwyr rhyngwladol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r elfen economaidd, eto fel y nodais yn 2010. Ar ôl iddynt raddio, dywedais, mae llawer o’r myfyrwyr tramor ‘yn parhau i fod yn gyfeillion cadarn i’w prifysgolion ac i’r DU. Wrth iddynt wneud eu gyrfa ac ennill dylanwad, mae’r effaith ar “rym meddal” yn sylweddol. Heb sôn am y bywiogrwydd a’r amrywiaeth ddiwylliannol sy’n dod gyda nhw i gampysau’r DU, mae myfyrwyr tramor yn ased hirdymor i bartneriaethau diwylliannol a masnachol y wlad hon.’

Felly roedd hi’n fwy siomedig fyth, er nad oedd yn gwbl annisgwyl, imi glywed yr Ysgrifennydd Cartref yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn sôn am gynigion newydd i gyfyngu ar niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol sy’n dod i’r DU. Mae awgrym Amber Rudd, sef y dylid cyhoeddi fisâu’n wahaniaethol, yn dibynnu ar ansawdd y prifysgolion o dan sylw, yn llawn trafferthion. Sut byddir yn canfod yr ansawdd hwnnw? Nid yw’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu arfaethedig wedi’i ddylunio at ddiben rheoli fisâu myfyrwyr. Ychydig o ystyriaeth y mae’n ei rhoi i fyfyrwyr rhyngwladol fel y cyfryw ac mae’n canolbwyntio’n fawr iawn ar israddedigion, er bod y mwyafrif y myfyrwyr rhyngwladol yn ôl-raddedigion. Bu cynllun peilot, nad yw eto wedi’i gwblhau, a fyddai’n cymryd ymagwedd sy’n seiliedig ar risg gan ddefnyddio cyfraddau gwrthod fisa (cyfran y ceisiadau am fisa sy’n aflwyddiannus ar draws pob prifysgol). Er bod y gyfradd gwrthod fisa yng Nghaerdydd yn isel iawn, mae’n amlwg y gallai dull o’r fath dueddu i wahaniaethu yn erbyn prifysgolion llai lle gallai nifer fach iawn o wrthodiadau gael effaith gymesur fawr, a beth bynnag gallai ddweud mwy am y broses ymgeisio na’r ymgeisydd neu’r brifysgol dan sylw.

Mae gennym ddigon o faterion i ymdrin â nhw ar ôl y bleidlais Brexit. Mae’r teimladau a fynegwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref yn anfon y neges gwbl anghywir ar adeg pan ddylem fod yn dechrau ar gyfnod newydd lle mae’r DU yn agored i’r byd. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr economaidd, ac ni fydd yn cyfrannu dim i’r gwelliannau y mae angen inni eu gwneud i gydlyniant cymdeithasol yn dilyn y rhwygiadau sydd wedi ymagor ers 23 Mehefin. Efallai mai’r datblygiadau diweddaraf hyn yn y saga hirfaith o newidiadau i’r drefn fisa ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yw’r risg mwyaf inni ar ôl Brexit. Yr eironi yw eu bod i raddau helaeth yn ganlyniad damweiniol bron o’r symudiadau yn y Blaid Geidwadol yn dilyn ymddiswyddiad Mr Cameron. Nid oes dim yn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i weithredu fel hyn. Yn wir mae llawer i’w ddweud o blaid y gwrthwyneb. Rhaid inni ddadlau’n gryf y dylai myfyrwyr rhyngwladol gael eu trin fel myfyrwyr, nid mudwyr, y dylid dychwelyd at fisa gwaith ôl-astudio ac y dylai prifysgolion gael cyfle i gyfrannu’n llawn i’r byd newydd o gyfnewid rhyngwladol a ragwelir ar gyfer Prydain ar ôl yr UE.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor