Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Tachwedd 2016

Annwyl gydweithiwr

Fe gawsom newyddion trist yn ystod y mis am farwolaeth fy rhagflaenydd, Syr Aubrey Trotman-Dickenson, yn 90 oed. Roedd Syr Aubrey yn ffigwr hollbwysig yn hanes Prifysgol Caerdydd gan iddo oruchwylio’r broses o uno Sefydliad Technoleg Prifysgol Cymru a Choleg Prifysgol Caerdydd. Fe wnaeth hynny ar adeg pan oedd yr esgid fach yn gwasgu ond llwyddodd i greu’r sylfaen ar gyfer y Brifysgol sydd gennym heddiw. Ni chefais y cyfle i gwrdd â Syr Aubrey nes i mi gael fy mhenodi’n Is-Ganghellor yma, ond rwy’n cofio digwyddiadau arwyddocaol 1988 yn dda. Hyd yn oed bryd hynny, a minnau’n ddarlithydd ifanc yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ar y pryd, gwyddwn am sut y llwyddodd ‘T-D’ i drawsnewid Prifysgol Caerdydd. Ar ran Prifysgol Caerdydd, hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Syr Aubrey a chofnodi ein cydnabyddiaeth a’n diolch am y ffordd eithriadol y llwyddodd i arwain y sefydliad rhagorol hwn.

Yn fy ebost diwethaf cyn gwyliau’r haf, fe wnes i bwysleisio y dylem barhau i chwarae rhan lawn mewn rhwydweithiau ymchwil a rhaglenni ariannu Ewropeaidd. Rydym yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd o hyd nes bydd y DU yn gadael, ac fe ddylem barhau i gymryd rhan mewn cyfleoedd i gydweithio a manteisio ar y ffynhonnell werthfawr hon o gefnogaeth gyn hired â phosibl. Mae’n bleser gen i gadarnhau bod ein ceisiadau yn dal i ffynnu a’n bod wedi bod yn hynod lwyddiannus yn ddiweddar. Yn ystod pedwar mis cyntaf y flwyddyn academaidd, fe gyflwynwyd cynigion gwerth dros £50m i Gomisiwn Ewrop, gan gynnwys £33m i Horizon 2020. Roedd y rhain yn cynnwys yr amrediad llawn o gynlluniau ariannu sydd ar gael gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC), Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA), a rhaglenni Heriau Cymdeithasol ac Arweiniad Diwydiannol sy’n cefnogi ymchwil ar y cyd ledled Ewrop a thu hwnt. Erbyn hyn, mae’r Brifysgol wedi ennill dros 50 o gytundebau ymchwil drwy Horizon 2020. Mae’r dyfarniadau ymchwil hyn werth ychydig dros £25m; dyma rai o’r uchafbwyntiau:

Mae Dr Penny Lewis o’r Ysgol Seicoleg wedi ennill Grant Atgyfnerthu gwerth £1.7m gan ERC ar gyfer ei phrosiect SOLUTION SLEEP – Deall creadigrwydd a datrys problemau drwy beirianneg cysgu, fydd yn dechrau ym mis Chwefror 2017. Mae’r Athro Vincenzo Crunelli o Ysgol y Biowyddorau yn bartner yn Rhwydwaith Hyfforddiant Ewropeaidd EU-GliaPhd MSCA. Consortiwm o sefydliadau ymchwil blaenllaw a chwmnïau diwydiannol Ewropeaidd yw hwn. Prifysgol Saarland sy’n ei arwain a bydd yn cynnwys 12 o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd yn cydweithio ledled Ewrop. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar rôl rhyngweithiadau niwron-glia yn yr ymennydd ac mewn patholeg, a rhoddir pwyslais amlwg ar epilepsi. Byddwn yn cael bron £200,000 am gymryd rhan. Mae’r Athro Lorraine Whitmarsh o’r Ysgol Seicoleg, sydd eisoes wedi cael Grant Cychwynnol gan ERC, yn bartner ym mhrosiect cydweithredol CHEETAH sydd newydd gael arian grant. Mae CHEETAH (Newid Dulliau Mabwysiadu Technoleg Effeithlonrwydd Ynni mewn Cartrefi) yn cael ei arwain gan Sefydliad Systemau ac Arlosedd Fraunhofer yn yr Almaen, ac mae ganddo bartneriaid yn Awstria, Ffrainc, yr Iseldiroedd a Sweden.  £71,000 fydd ein cyfran ni o’r arian. Yn olaf, mae’r Athro Yacine Rezgui o’r Ysgol Peirianneg wedi cael ychydig dros £500,000 am ei rôl mewn dau brosiect sy’n ymwneud ag ynni: Y cwmni Prydeinig Exergy Limited sy’n cydlynu prosiectau THERMOSS a PENTAGON, ac mae ganddo bartneriaid yng Ngwlad Belg, Gweriniaeth Siec, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, y Swistir a’r DU. Mae THERMOSS yn gwneud gwaith ôl-osod a rheoli thermol mewn adeiladau, ac mae PENTAGON yn gwella hyblygrwydd gridiau lleol yn Ewropeaidd drwy drawsnewid ynni yn ehangach. Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yw un o’r partneriaid Prydeinig yn PENTAGON, ac mae hynny’n cysylltu’n daclus â’n gwaith ymgysylltu. Llongyfarchiadau a diolch i bawb o dan sylw. Er bod cael yr arian yn bwysig, hoffwn bwysleisio cymaint o fantais yw cynnal y rhwydweithiau cydweithredol. Cynnal a datblygu rhwydweithiau ymchwil rhyngwladol fydd un o’n prif heriau wedi i’r DU adael yr UE.

Wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod yn ehangu ein sylfaen gymorth mewn ffyrdd eraill hefyd, a phleser o’r mwyaf yw gallu dweud ein bod cael rhodd o ychydig dros £1m gan Sefydliad Hodge i greu Canolfan Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig. Bydd y rhodd eithriadol hon yn ein rhoi ar lefel uwch o ran ein hadnoddau ymchwil. Dyma ddechrau partneriaeth newydd 5 mlynedd o hyd gyda Sefydliad Hodge sydd wedi ein cefnogi’n hael mewn meysydd eraill dros nifer o flynyddoedd gan gynnwys ym maes Bôn-gelloedd Canser ac ymchwil yn yr Ysgol Busnes. Hefyd ym maes y niwrowyddorau, gwych o beth oedd gweld bod Caerdydd wedi ennill gwobr Momentwm gan y Cyngor Ymchwil Feddygol. Mae hynny’n golygu y cawn gyfran o gronfa gwerth £4.3m sy’n ceisio rhoi hwb i sylfaen ymchwil y DU ym maes dementia. Rydym yn cryfhau’n sylweddol ym maes eang y niwrowyddorau ac iechyd meddwl, ac mae ein hymchwil yn cael ei chynnal ar draws ystod o ysgolion a disgyblaethau. Mae gweithio mewn ffyrdd strategol fel hyn yn hollbwysig ac yn ein galluogi i lwyddo.

Fe gyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad Diamond o ffioedd ac arian yn ystod mis Tachwedd hefyd. Rwyf yn falch o ddweud y cafodd bron yr holl argymhellion eu derbyn mewn egwyddor, er bod rhai newidiadau i’r model cefnogi myfyrwyr a gynigiwyd yn yr adolygiad. Os caiff popeth ei gyflwyno yn ôl y bwriad, rwyf o’r farn mai Cymru fydd â’r model mwyaf blaengar ar gyfer cefnogi myfyrwyr yn y DU. Bydd grantiau ar gael ar gyfer israddedigion amser llawn a rhan-amser yn ogystal ag ôl-raddedigion. Bydd pwyslais ar roi adnoddau i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, ond fe gedwir elfen o grant cyffredinol. Nid yw’r ymateb yn dweud wrthym beth fydd y goblygiadau o ran ariannu prifysgolion, ond mae’n amlwg y bydd angen i Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru edrych ar y manylion, ac rwy’n siŵr y cafodd yr holl ddadleuon perthnasol eu cyflwyno yn ystod yr adolygiad.

Hoffwn godi rhai pwyntiau i gloi. Roedd yn braf gweld bod Caerdydd yn safle 149 yn y byd (29 lle yn uwch na’r llynedd) ac yn 18fed yn y DU ar restr Prifysgolion Byd-eang US News and World Report. Mae’r rhestr hon yn un uchel iawn ei pharch ac fe chyfeirir ati yn eang. Rydym hefyd wedi codi 8 lle i fod yn gydradd 38ain ar restr cynaliadwyedd Pobl a’r Blaned. Braf oedd gweld yn adroddiad diweddaraf London Economics am berfformiad economaidd ein bod yn cyfrannu tua £2.9 biliwn at economi’r DU erbyn hyn. Roedd hyn yn cynnwys £217m mewn gweithgarwch rhyngwladol, sy’n gynnydd o 60% dros y ddwy flynedd diwethaf yn unig. Ac yn olaf, roeddwn yn digwydd bod yn arwain un o sesiynau Dyfodol Caerdydd y bore ar ôl canlyniad yr etholiad yn yr Unol Daleithiau. Fe benderfynwyd y byddem yn treulio rhywfaint o amser yn trafod goblygiadau’r canlyniad, a chafwyd trafodaeth lle mynegwyd safbwyntiau emosiynol ac academaidd fel ei gilydd. Wrth gwrs, nid ydym yn gwybod beth fydd y goblygiadau llawn, ond fe gefais fy nharo gan dri pheth yn benodol. Yn gyntaf, roedd rhai yn anochel yn teimlo’r un fath ag oeddent ar ôl refferendwm Ewrop a chawsom ein hatgoffa o’r peryglon o weld cynifer o bobl yn rhannu safbwyntiau sydd mor wahanol i’n safbwyntiau ni. Yn ail, mae angen i ni ddeall pam nad yw’r broses wleidyddol, yn ôl pob golwg, yn seiliedig mwyach ar drafod mewn ffyrdd rhesymegol na chadw at ffeithiau ar sail gwerthoedd cymharol debyg. Os na allwn ddeall hyn, rwy’n ofni y gallai prifysgolion ymbellhau’n beryglus oddi wrth y gymdeithas yr ydym yn ceisio ei chefnogi. Ac yn drydydd, fe gefais fy atgoffa bod angen edrych ar y sefyllfa yn ei gwir oleuni a bod yn gadarn mewn byd sy’n newid. Mae’n anodd osgoi’r teimlad ein bod yn wynebu newid enfawr ac annisgwyl pob ychydig fisoedd. Mae’n werth cofio bod newidiadau o’r fath wedi digwydd yn y gorffennol, ac fe fyddant yn digwydd eto; nid ydw i am orffen gydag ystrydeb, ond rydw i’n sicr yn cael cysur o gymryd safbwynt hanesyddol a chofio pa mor gadarn yw ein prosesau democrataidd.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor