Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Dyfodol ymchwil ac ysgolheictod yn y DU: trafodaeth banel

Trefnwyd sesiwn banel ar 11 Tachwedd gan Ganolfan Wybodaeth Caerdydd Academia Europaea yn CUBRIC, i drafod syniadau ynglŷn â’r ffordd orau o sicrhau cydweithio ag Ewrop ac yn rhyngwladol ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Roeddwn i’n un o bum panelwr a wahoddwyd, ac roedd yr Athro Peter Halligan, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn cymedroli’r sesiwn.

Rhoddodd yr Athro Richard Catlow, Ysgrifennydd Tramor y Gymdeithas Frenhinol, ei ddarlith agoriadol, gan atgoffa ni bod STEM yn y DU yn llwyddiant mawr ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi a chymdeithas Prydain. Drwy roi tair enghraifft o brosiectau â chefnogaeth yr UE ym maes deunyddiau newydd ar gyfer technolegau ynni, dangosodd pa mor bwysig oedd cydweithio, nid yn unig rhwng sefydliadau academaidd, ond hefyd gyda phartneriaid diwydiannol blaenllaw.

Pwysleisiodd Syr John Skehel, Is-lywydd y Gymdeithas Frenhinol, pa mor bwysig oedd meithrin cysylltiadau cryf gyda’r ystod lawn o randdeiliaid allweddol. Mae cefnogaeth y cyhoedd i’r sector gwyddoniaeth yn hanfodol, ynghyd â gwaith ar y cyd â sectorau eraill, gan gynnwys y Ddinas, byd busnes a byd diwydiant. Gan fod byd diwydiant yn cael cyllid sylweddol gan Ewrop, mae cyfle gwych i gyflwyno achosion busnes a straeon o lwyddiant a ddatblygir ar y cyd.

Canolbwyntiodd yr Athro Ole Petersen, Cyfarwyddwr Academaidd Hwb Caerdydd, ar rôl gwyddoniaeth wrth lunio polisïau, yn benodol Mecanwaith Cyngor Gwyddonol Ewrop. Mae Canolfan Academia Europaea Caerdydd yn chwarae rhan weithredol mewn prosiect ategol o’r enw SAPEA (Cyngor Gwyddoniaeth ar gyfer Polisïau gan Academïau Ewrop), sy’n rhoi cyfle enfawr i ni lunio arferion gorau o ran rhoi cyngor gwyddonol wrth lunio polisïau.

Siaradodd yr Athro Angela Casini, Aelod o Fwrdd Academi Ifanc Ewrop, am yr angen i ymchwilwyr ar ddechrau neu yng nghanol eu gyrfaoedd ymgysylltu â llunwyr polisïau a chyfrannu at yr agenda wyddoniaeth. Mae Angela yn awyddus i ddatblygu’r cysylltiad rhwng yr Academi Ifanc a Chanolfan Academia Europaea Caerdydd drwy ddigwyddiadau a phrosiectau ar y cyd.

Yn fy rôl fel Dirprwy Is-ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop, pwysleisiais pa mor bwysig oedd partneriaethau cryf – y partneriaethau sefydliadol lefel-uchel fel sydd gennym â KU Leuven a Phrifysgol Xiamen, y prosiectau i feithrin gallu a rhwydweithio yn Affrica is-Sahara, ynghyd â’r nifer enfawr o brosiectau cydweithredol sydd gan ein staff academaidd ledled y byd. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i roi cyfle i fyfyrwyr cartref dreulio amser dramor, naill ai’n astudio, gweithio, neu’n gwirfoddoli, ac i groesawu myfyrwyr tramor i’n sefydliad – boed hynny am ran o’u gradd neu’r radd gyfan. Bydd y gweithgareddau hyn yn parhau er gwaethaf Brexit, ac yn y cyfamser, rydym yn dal i fod yn bartner allweddol mewn rhaglenni UE megis Erasmus+ a Horizon 2020.

Roedd aelodau’r gynulleidfa’n gyfranwyr brwdfrydig i drafodaeth fywiog. Cytunodd pawb ar bwysigrwydd bod yn agored, ac rydyn ni fel sefydliad yn sicr yn dal i fod ar agor ar gyfer busnes. Mae meithrin a chynyddu ein cysylltiadau ymchwil â’n cydweithwyr dramor yn hanfodol er mwyn llwyddo. O ran gwyddoniaeth ryngwladol, mae cyfleoedd newydd cyffrous fel y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang. Ar yr un pryd, mae cynnal a datblygu cysylltiadau ag Ewrop yn parhau i fod yn gwbl hanfodol.

Mae Canolfan Academia Europaea Caerdydd yn trefnu gweithdai, darlithoedd a digwyddiadau eraill. Y sesiwn banel hon oedd y cyntaf mewn cyfres newydd o’r enw Lunchtime Debates, a fydd yn ystyried materion cyfoes sy’n effeithio ar wyddoniaeth a pholisïau.  I ymuno â’r rhestr bost neu i gael eich hysbysu am ddigwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â Judith Lockett (LockettJG@caerdydd.ac.uk).