Newyddion yr Is-Ganghellor

Is-Ganghellor i gyd – staff e-bost – Ionawr 2017

Annwyl gydweithiwr

Wrth i mi ysgrifennu’r neges hon, gwaharddiad yr Unol Daleithiau ar deithio sy’n cael y prif sylw yn y newyddion. Mae amcanion gwleidyddol y gwaharddiad yn glir (ac yn cadw at un o addewidion yr ymgyrch etholiadol) ond go brin bod y goblygiadau ymarferol, yr effaith anfwriadol na’r canlyniadau gwleidyddol tymor hir wedi’u hystyried yn ddigonol, os o gwbl.  Mae’r effaith ar bobl hyd yma wedi amrywio o beri anhwylustod i achosi llanast llwyr, ac mae’r ffordd y mae confensiynau rhyngwladol safonol yn cael eu diystyru yn peri cryn bryder.  O ran Prifysgol Caerdydd, rydym am wneud yn siŵr ein bod yn cefnogi unrhyw staff a myfyrwyr a allai gael eu heffeithio. Yn amlwg, bydd angen i ni hefyd ystyried y goblygiadau ehangach wrth i’r polisi ennill ei blwyf.  Mae’n amlwg ein bod bellach yn byw mewn byd llai sefydlog lle gall newid cyflym a dramatig ddigwydd yn annisgwyl ar unrhyw adeg, a bydd angen i ni fod yn barod i ymateb yn gyflym ac yn hyblyg.

Fel y gwyddoch, cafwyd araith gan Brif Weinidog Prydain yn gynharach y mis hwn a chawsom awgrym, am y tro cyntaf, o sut mae’r llywodraeth yn bwriadu tywys y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n werth nodi bod Mrs May wedi datgan yn glir yr hoffai llywodraeth Prydain gael cytundeb cyn gynted â phosibl ynghylch statws dinasyddion yr UE yn y DU, yn ogystal â dinasyddion y DU yn yr UE. Gyda lwc, bydd modd cyflawni cytundeb o’r fath.  Nid yw ymateb y Swyddfa Gartref wedi bod yn arbennig o galonogol na sensitif i ymdrechion gan ddinasyddion o wledydd eraill yr UE (gan gynnwys gweithwyr mewn prifysgolion) i wneud yn siŵr eu bod yn cael aros yma wedi i’r DU adael yr UE. Byddwn ni a phrifysgolion eraill yn awyddus i gael eglurhad ynghylch y mater.  Rydym wedi cael cyngor cyfreithiol ynghylch sut gallwn gefnogi ein staff a byddwn yn cynnal sesiynau cynghori ac yn cynnig cefnogaeth benodol maes o law.

Ers ei haraith, bu cryn sôn am y ffaith i Mrs May awgrymu nad oes sicrwydd y byddwn wedi dod i gytundeb gyda’r UE cyn diwedd y cyfnod trafod drwy flynedd o hyd ar ôl rhoi cychwyn ar Erthygl 50.  Go brin y gallwn ddychmygu ffordd fwy anodd o adael yr UE, a does bosibl bod y Comisiwn Ewropeaidd a’r 27 aelod-wladwriaeth arall yn gwybod na fyddai neb ar ei ennill mewn sefyllfa o’r fath.  Mae ein deddfau a’n rheoliadau yn cyd-glymu ac mae trefniadau ariannol a diogelwch yn cael eu cynnal ar lefel Ewropeaidd ar hyn o bryd. Felly, byddai peidio â dod i gytundeb yn eu cylch cyn i’r DU adael yn achosi anhrefn llwyr i wledydd eraill yr UE.  Yn sicr, ni fyddai hyn o unrhyw fudd i’r Deyrnas Unedig, fel y nododd y Prif Weinidog yn glir yn ei haraith.  Felly, pam hyd yn oed rhagdybio posibilrwydd o’r fath?  Gallwn dybio’n rhesymol nad yw’r llywodraeth am ymgymryd â thrafodaethau oni bai bod posibilrwydd y gallent roi’r gorau iddynt os nad ydynt yn fodlon ar y canlyniad.  Fodd bynnag, thema’r araith drwyddi draw oedd cadarnhau ymrwymiad y llywodraeth i gael cytundeb sydd o fudd i bawb o dan sylw. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod ein partneriaid Ewropeaidd a’r Comisiwn yn helpu neb drwy fynnu bod yn rhaid i Brydain gael bargen lai ffafriol o ganlyniad i adael yr UE o’i chymharu â beth fyddai ganddi pe byddai dal yn aelod ohoni.  Dyna’r union agwedd a achosodd i bobl droi eu cefnau ar yr UE yn y lle cyntaf. Y gwir amdani yw y bydd pawb yn elwa drwy geisio cael y canlyniad gorau posibl i bawb o dan sylw. Gyda lwc, ceir ymateb synhwyrol yn y pen draw.

O ran prifysgolion y DU yn gyffredinol, hoffem barhau’n rhan o weithdrefnau ariannu a rhaglenni cyfnewid staff a myfyrwyr Ewrop. Fodd bynnag, rhaid i ni fod yn barod i edrych yn fanwl ar yr amodau sy’n gysylltiedig â chael mynediad parhaus o’r fath.  Mae angen i ni sylweddoli y byddem yn gofyn i lywodraeth y DU dalu llawer iawn o arian i’r Comisiwn Ewropeaidd i allu parhau i gymryd rhan fel hyn. Fodd bynnag, ni fyddai gennym y dylanwad yr ydym wedi gallu ei ddefnyddio hyd yma.  Mae hefyd yn fwy na phosibl na fydd modd i ni barhau i gymryd rhan o ganlyniad i ffactorau eraill yn y drafodaeth, fel penderfyniad y DU i atal pobl rhag symud rhwng gwledydd yn ddi-rwystr.  Felly, bydd yn bwysig ystyried pa ddewisiadau eraill allai fod ar gael, ac mae llawer o waith i’w wneud wrth chwilio am ateb i’r cwestiynau hyn.

Yn y cyfamser, efallai y cofiwch imi sôn ym mis Tachwedd ein bod wedi llwyddo i gael gafael ar arian ymchwil o bwys gan y Comisiwn Ewropeaidd.  Mae’r data o chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd yn hynod galonogol: erbyn 31 Rhagfyr, roeddem wedi cael £5.4m o’r ffynhonnell hon, y lefel uchaf ers pedair blynedd.  £52m oedd gwerth ein ceisiadau o hyd yn ystod yr un cyfnod. Mae hyn dros 25% yn uwch na’r ffigur uchaf yn ystod y cyfnod pedair blynedd.  Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gymryd rhan lawn yn ystod yr amser sydd gennym ar ôl fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Felly, rwyf mor falch o weld cydweithwyr ar draws y Brifysgol yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael o hyd gan ddangos ein hymrwymiad at gydweithio â phartneriaid ar draws y cyfandir.

Un o ganlyniadau eraill refferendwm yr UE yw’r papur gwyrdd gan y llywodraeth am y strategaeth ddiwydiannol. Yn y bôn, dogfen ymgynghori yw’r papur gwyrdd ac, o wrando ar Greg Clark mewn digwyddiad yn ddiweddar (Mr Clark yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol), mae’n amlwg bod y llywodraeth yn chwilio am syniadau a buddsoddiad.  Nid dewis unigolion neu gwmnïau diwydiannol unigol yw’r nod. Yn hytrach, mae’r llywodraeth am gynorthwyo sectorau penodol yn ogystal â chreu’r isadeiledd arloesedd fydd yn rhoi diwydiant y DU gam ar y blaen.  Ceir pwyslais clir hefyd ar gefnogi datblygiad economaidd y tu allan i Lundain.  Mae’n fwy na phosibl y bydd cyfleoedd i ni weithio gyda byd busnes a byddwn yn ystyried y posibiliadau hyn dros y misoedd nesaf.

O ran y Brifysgol yn benodol, byddwch eisoes yn gwybod bod y gwaith wedi dechrau ar yr adeiladau newydd ar y Campws Arloesedd yn Heol Maendy a Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr.  Mae’r rhain yn brosiectau enfawr sy’n costio degau o filiynau o bunnoedd, ac maent yn rhan o strategaeth academaidd ac ariannol gyffredinol dros nifer o flynyddoedd.  Mae trosiant y Brifysgol dros hanner biliwn o bunnoedd erbyn hyn ond rydym ar drothwy cyfnod anodd.  Nid wyf am drafod hyn yn fanwl yn y neges hon, ond os oes diddordeb gennych yn ein sefyllfa ariannol yn gyffredinol, cewch wybod rhagor ar y fewnrwyd.

Yn olaf, yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd yr Athro Dylan Jones ei fod am roi’r gorau i fod yn Ddirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd yn yr haf.  Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Dylan ac mae wedi gwneud gwaith gwych i’r Brifysgol a’i Goleg.  Mae wedi ymgymryd â gwaith ymchwil drwy gydol ei gyfnod yn Bennaeth yr Ysgol ac fel Dirprwy Is-Ganghellor wedi hynny. Mae’n llawn haeddu’r cyfle i ‘dreulio mwy o amser gyda’i ddata’, fel y dywedodd yn ei ffordd nodweddiadol.  Rydw i wrth fy modd y byddwn yn parhau i elwa ar ei ragoriaeth ymchwil a dymunaf bob llwyddiant iddo yn y maes hwn.  Byddwn yn mynd ati ar unwaith i geisio penodi Dirprwy Is-Ganghellor yn ei le. Gyda lwc, byddwn wedi penodi rhywun ar gyfer y swydd erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor