Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Chwefror 2017

Annwyl Gydweithiwr

Y mis hwn treuliais ddau ddiwrnod yn y Swistir fel rhan o ddirprwyaeth a oedd â’r nod o ddysgu o’r profiad a gafodd ein cydweithwyr ac academyddion cyfatebol yn y Swistir pan, yn sydyn, nad oedd modd i’r Swistir gymryd rhan yn Horizon 2020 ac Erasmus+. Roedd hyn oherwydd canlyniad refferendwm am fudo, a olygai nad oedd llywodraeth y Swistir yn gallu llofnodi protocol â Chroatia, gwlad a oedd newydd ymuno â’r UE, ynglŷn â hawl pobl i symud. Cawsom drafodaethau diddorol a buddiol, ac rwy’n falch o ddweud bod prifysgolion y Swistir wedi cael mynediad unwaith eto at elfennau allweddol Horizon 2020 ers 1 Ionawr 2017. Dros y blynyddoedd nesaf, rywffordd neu’i gilydd byddwn ni yn y DU yn wynebu llawer o’r un problemau a gafodd ein cydweithwyr yn y Swistir. Er hynny, rydym yn ffodus i gael digon o rybudd, i gael statws aelod ar hyn o bryd, ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at ymchwil yn Ewrop o ran ein maint. Mewn adroddiad o’r enw UK research and the European Union: The role of the EU in funding UK research, amcangyfrifodd y Gymdeithas Frenhinol mai cyfraniad y DU at ariannu ymchwil ac arloesedd oedd tua €5.5bn yn ystod Rhaglen Fframwaith 7 (2007-13), a’n bod wedi cael tua €8.8bn yn ôl o’r gronfa honno. Os yw’r ffigurau hynny’n ddibynadwy, mae’r DU yn cael tua £1bn y flwyddyn gan yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesedd. Os na fyddwn yn gallu cymryd rhan yn Rhaglen Fframwaith 9 (FP9; olynydd Horizon 2020), bydd angen i’n llywodraeth ddod o hyd i ffordd o gael gafael ar yr un lefel o gyllid, neu wynebu lleihad sylweddol yn ein gallu i wneud gwaith ymchwil.

Yn baradocsaidd, fodd bynnag, mae’n annhebygol mai arian fydd y brif broblem. Yn hydref y llynedd, cyhoeddodd y Canghellor Philip Hammond y byddai £2bn yn ychwanegol fesul blwyddyn ar gyfer ymchwil ac arloesedd am weddill y cyfnod gwariant hwn, a dywedodd yn benodol y byddai’r cynnydd hwn ar ben unrhyw anghenion ariannol ar ôl Brexit. Mae’n braf gweld bod y llywodraeth, yn ôl pob golwg, yn ein cefnogi yn y maes hwn felly. Y cwestiwn mwyaf yw sut y gallwn barhau i gymryd rhan mewn mentrau cydweithredol rhyngwladol. Un o’r ffactorau sy’n helpu’r DU i gynnal ei safle cryf ar lefel fyd-eang ym maes ymchwil yw’r ffaith ein bod yn cymryd rhan mewn mecanweithiau ymchwil Ewropeaidd megis y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, gan eu bod yn tueddu i annog mentrau cydweithredol ledled Ewrop. At hynny, mae’n gymharol hawdd i ymchwilwyr Ewropeaidd fyw a gweithio yn y wlad hon (er, mae problemau sy’n gysylltiedig â threfniadau pensiwn anghydnaws wedi bod yn broblem erioed). Yr hyn y mae angen i ni ganolbwyntio arno yw sut i barhau i gael mynediad at raglenni rhyngwladol uchel iawn eu bri (am eu bod yn gystadleuol ac wedi eu hariannu’n hael) ar gyfer ariannu ymchwil, fel y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, a sut i sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnig hawliau preswylio a chyflogaeth i ddinasyddion yr UE sydd eisoes yma, a’r rhai sy’n cael eu recriwtio yn y dyfodol. Mae’n bosibl, felly, bod yr ochr ariannu, a’r ochr gyflogaeth/preswylio yn ddau fater ar wahân. Mae’n bosibl dychmygu sefyllfaoedd lle caiff hyd at £1bn ei wario ar ariannu rhaglen ymchwil ryngwladol uchel ei bri – rhaglen a ddatblygir yn y wlad hon sy’n agored i ymgeiswyr rhyngwladol, efallai – ond os nad ydym yn cadw hawliau cyflogaeth a phreswylio ar gyfer yr ymchwilwyr gorau o’n cymdogion Ewropeaidd, neu’n ehangu hawliau o’r fath y tu hwnt i Ewrop, byddwn ar ein colled.

Ar ôl cael rhywfaint o amser i ystyried y mater, rwy’n credu bod yn rhaid i ni geisio parhau â mynediad at y rhaglen a fydd yn olynu Horizon 2020, ond nid am unrhyw bris. Hynny yw, byddai angen i ni sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian am swm a allai o bosibl fod yn fawr iawn, ac y gellid ei wario ar ymchwil ac arloesedd mewn ffyrdd eraill. Yr un mor bwysig â hynny, byddem am i’r DU barhau i gael rhywfaint o ddylanwad dros raglenni’r dyfodol, oherwydd byddem yn gyfrannwr a chyfranogwr mor sylweddol. Cyn y bleidlais i adael yr UE, roedd gan y DU ddylanwad sylweddol ar bolisïau ymchwil ac arloesedd, ac roedd modd i ni sicrhau bod gennym lais. Am resymau amlwg gallwn ddisgwyl y bydd ein dylanwad yn lleihau’n sylweddol, ond ni fyddem am fod yn gyfan gwbl ar y cyrion. Am y rheswm hynny, ac oherwydd gallai’r trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE o bosibl arwain at beidio â chynnig mynediad i’r DU at FP9 ar ôl Brexit, mae’n bwysig ystyried opsiynau eraill posibl. Byddwn yn ymddiddori’n fawr mewn clywed eich barn am hyn, felly ysgrifennwch ataf ar bob cyfrif os oes gennych syniadau am y mater. Wrth i’n llywodraeth gymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE, beth ddylai geisio ei gyflawni o safbwynt ymchwil ac arloesedd? Pa senario arall fyddai orau os nad yw FP9 yn opsiwn?

Rwy’n credu bod dadleuon tebyg yn bodoli ynglŷn ag Erasmus+. Byddai’n fuddiol cael mynediad ato, ond nid am unrhyw bris, ac efallai dylem fod yn pledio achos asiantaeth symudedd allanol â digon o gyllid ar gyfer y DU, er mwyn sicrhau bod gan raddedigion y dyfodol fyd-olwg rhyngwladol o ganlyniad i’w profiadau wrth astudio. Mae’n haws dychmygu cyflawni swyddogaethau Erasmus+ drwy greu cynllun yn y wlad hon (dyma beth mae’r Swistir wedi’i wneud), ond eto, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed eich barn am y mater.

Ffordd arall o fynegi eich bawn am amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud â’ch profiad o Brifysgol Caerdydd yw cwblhau’r Arolwg Staff, a fydd yn agored tan 10 Mawrth. Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad ato yn fawr, a byddwn yn eich hysbysu am y camau gweithredu yr ydym yn eu cymryd ar sail eich sylwadau. Nid yw cyfathrebu mewn sefydliad mor fawr â Phrifysgol Caerdydd yn hawdd, ac mae deall barn y staff drwy’r arolwg yn hynod bwysig. Hoffwn eich annog i gymryd rhan os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.

Yn olaf, llongyfarchiadau i’r Athro Karen Holford, olynydd yr Athro Elizabeth Treasure, a fydd yn dechrau yn ei rôl fel Rhag Is-Ganghellor ar 3 Ebrill. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda Karen, ac rwy’n gwybod y bydd hi’n ffynnu yn y rôl newydd hon. Rydw i eisoes wedi lansio’r broses ar gyfer penodi ei holynydd fel Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ac rwy’n gobeithio cwblhau hynny mewn da bryd er mwyn sicrhau proses drosglwyddo lwyddiannus. Yn ôl yr arfer, byddaf yn parhau i rannu’r newyddion diweddaraf.

Dymuniadau gorau,

Colin Riordan

Is-Ganghellor