Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mawrth 2017

Annwyl gydweithiwr

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi rhoi cychwyn ar Erthygl 50 erbyn hyn gan olygu bod y cloc yn tician a buan iawn y bydd y trafodaethau’n dechrau o ddifrif. Yn ôl yr hyn rydw i’n ei ddeall, ni fydd y cwestiynau anodd a wynebwn o ran a oes modd i ni barhau i gael arian ymchwil a bod yn rhan o brosiectau cydweithio yr UE, yn ogystal â hawl myfyrwyr a staff i symud o le i le, ymhlith y blaenoriaethau cychwynnol, ond fe fyddant yn cael sylw nes ymlaen yn y broses. Y flaenoriaeth i ni ar hyn o bryd yw diogelu statws dinasyddion o wledydd eraill yr UE sydd yn y DU, yn ogystal â statws dinasyddion o Brydain yng ngwledydd eraill yr UE. Mae prifysgolion y DU wedi bod yn lobïo’n ddiflino fel bod hyn yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl, a cheir rhai awgrymiadau bod y naill ochr fel y llall am i hyn ddigwydd. Braf oedd gweld yn llythyr Prif Weinidog y DU i Donald Tusk bod statws dinasyddion y DU yn cael blaenoriaeth. Gyda lwc, bydd Comisiwn, Senedd a Chyngor Ewrop yn dilyn yr un patrwm. Os oes gennych ddiddordeb mewn safbwynt y DU, mae cwestiynau cyffredin i’w gweld yma yn ogystal â datganiadau o flaenoriaethau. Mewn ystyr ehangach, bydd statws ffin y DU gyda Gweriniaeth Iwerddon wedi i ni adael yn hollbwysig: ni ddylem anghofio bod Cytundeb Gwener y Groglith, a lwyddodd i ddod â heddwch ar ôl 30 mlynedd o wrthdaro, yn dibynnu i raddau helaeth ar y gydnabyddiaeth bod modd diystyru’r ffin rhwng y gogledd a’r de yn ymarferol gan fod y ddwy wlad yn aelodau o’r UE. Er nad yw hyn yn effeithio ar Brifysgol Caerdydd yn uniongyrchol, rwy’n cyfeirio ato oherwydd gall y goblygiadau fod yn hynod ddifrifol os na chaiff y sefyllfa ei thrin ar fyrder, yn ofalus a gyda pharodrwydd i gyfaddawdu. Mewn geiriau eraill, rydym mewn cyfnod o newid mawr. Er ein bod ni, fel prifysgolion, yn mynd i amddiffyn buddiannau staff, myfyrwyr a’n sefydliadau yn ehangach, rhaid i ni barhau i gadw golwg ar yr hyn sydd yn y fantol yn y darlun ehangach.

Wedi dweud hynny, mae angen i ni fynd i’r afael â rhai cwestiynau yn benodol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i chi am eich ymatebion i ebost y mis diwethaf. Rydw i mewn sefyllfa well i ddweud fy nweud yn yr amrywiaeth o bwyllgorau Brexit yr wyf yn aelodau ohonynt os ydw i’n gallu mynegi safbwyntiau fy nghydweithwyr, a dyna’n sicr yr ydw i am ei wneud. Ym mis Chwefror, fe siaradais am y rhagolygon ar gyfer Horizon 2020 a’i rhaglen olynol, FP9. Dywedais mai cymryd rhan yn FP9 fyddai’r canlyniad gorau, ond nid am unrhyw bris. Roedd un o’r ymatebion a gefais fwy neu lai’n awgrymu bod FP9 mor bwysig, fel nad modd rhagweld sefyllfa lle byddai’r pris yn rhy uchel. Rydw i’n bendant yn gallu meddwl am sefyllfaoedd o’r fath; er enghraifft pe byddai’r gost o gymryd rhan ymhell y tu hwnt i faint o arian Ewropeaidd a gawn ar hyn o bryd (tua £1bn. y flwyddyn) a bod hynny’n llyncu arian ymchwil arall fel arian y cynghorau ymchwil neu ymchwil sy’n ymwneud ag ansawdd (QR). Byddai colli unrhyw arian QR yn ergyd drom ar adeg pan mae angen rhagor o gefnogaeth arnom ar gyfer ymchwil arloesol. Yn yr un modd, gallai effeithio ar ein dylanwad: os ydym yn cyfrannu biliynau, go brin ein bod am eistedd ar yr ymylon heb unrhyw bŵer i lywio’r rhaglenni, y fframweithiau na’r strategaeth. Mae cynnal elfen o ddylanwad yn gorfod bod yn ffactor yn ystod y trafodaethau. O safbwynt tactegol, os ydym yn dweud nad oes dewis amgen ar gael mewn gwirionedd, go brin y gallwn ddisgwyl dim byd ond bargen galed iawn gan y Comisiwn a Chyngor Ewrop. Wedi dweud hynny, rwyf yn ddiolchgar iawn i fy nghydweithwyr am eu pwyntiau grymus o safbwynt rheoleiddio a diogelu data ym maes ymchwil glinigol, yn ogystal â’r cyfleoedd a gynigir gan yr UE i weithio ar raddfa eang. Mae’r rhain ymhlith y llu o resymau a gyflwynwyd gan gynifer ohonom wrth ddadlau o blaid aros yn yr UE; a ninnau bellach yn gadael, rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cadw’r manteision anariannol hyn neu’n dod o hyd i rai i gymryd eu lle mewn ffordd arall. Rydw i’n gwybod bod y Llywodraeth yn ymwybodol o’r materion hyn, ond byddaf yn defnyddio eich ymatebion i roi rhagor o bwysau arnynt y tro nesaf y caf y cyfle.

Rydych hefyd wedi cynnig awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut y dylem ymateb yn fwy cyffredinol fel prifysgol; er enghraifft, awgrymodd dau ohonoch safleoedd penodol a fyddai’n rhoi presenoldeb i’r Brifysgol yn yr Undeb Ewropeaidd ac y gallai hynny ein helpu i barhau i gydweithio ar ôl i ni adael. Byddai cael campws cyfan yn ymrwymiad mawr, ond gallai swyddfa, endid cyfreithiol neu bresenoldeb ymchwil, neu hyd yn oed drefniadau addysgu arbenigol ar lefel Meistr fod yn fwy ymarferol, ac rydym yn ystyried ein hopsiynau ar y mater ar hyn o bryd. Gallai cymryd cam o’r fath cyn y dyddiad gadael fod o fantais. Felly, byddwn yn mynd ati i gynnal y dadansoddiad angenrheidiol o’r dewisiadau ac yn dod i benderfyniad. I fod yn gwbl glir, rydym yn ystyried dewisiadau ar wahân i ymrwymo i greu presenoldeb mewn gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd. I’n hatgoffa i beidio â rhoi’r drol o flaen y ceffyl, ni aeth Prifysgol Rhydychen ati i sefydlu campws ym Mharis wedi’r cyfan, er gwaethaf eu bwriad cychwynnol.

Mewn meysydd eraill, rydw i wedi treulio amser yr wythnos hon yn dysgu rhagor am ein dau brif brosiect ymgysylltu. Ddydd Llun, cefais y cyfle i fynd i Bafiliwn Grange sydd wedi’i adnewyddu yn rhan o’n Prosiect Porth Cymunedol, a chwrdd ag aelodau’r gwahanol is-brosiectau. Roedd y rhain yn cynnwys ‘Siopa a Gweithio’n Lleol’, ‘Grangetown Mwy Diogel’, ‘Diogelwch ar y Ffyrdd’, ‘Darpariaeth i Bobl Ifanc’, ‘Cymunedau Cyfeillgar’, ‘Cyfathrebu Heb Ffiniau’ ‘Mannau Cyfarfod Cymunedol’ a ‘Mannau Gwyrdd’. Mae’n eithaf amlwg beth yw ystyr y prosiectau hyn o’u teitlau. Fodd bynnag, yr hyn sydd wrth wraidd pob un ohonynt yw bod myfyrwyr a staff o Brifysgol Caerdydd yn gweithio ochr yn ochr ac ar sail gyfartal gydag arweinwyr y gymuned leol, pobl ifanc ac unrhyw un arall o ardal leol Grangetown sydd â diddordeb. Mae pwyslais amlwg ar gyfathrebu ardderchog ac ar alluogi pobl leol h.y. fel bod pobl ifanc yn llywio eu materion eu hunain ac yn ymgynghori’n eang. Yr argraff gyntaf a gefais yw ein bod ni fel Prifysgol wedi gallu hwyluso gweithgareddau na fyddai wedi digwydd fel arall, o bosibl. Rydym hefyd wedi dod â gwahanol brosiectau ynghyd fel eu bod yn ategu ei gilydd yn well, yn ogystal â chreu prosiectau newydd. Mae pobl Grangetown wedi bod yn trefnu eu gweithgareddau eu hunain ers blynyddoedd lawer; y flwyddyn nesaf, bydd Gweithredu Cymunedol Grangetown yn 40 oed ac mae wedi bod yn cyhoeddi taflen rad ac am ddim o’r enw Grangetown News drwy gydol y cyfnod hwn. Cynigiodd hyn gysylltiad defnyddiol gydag un o’n prif brosiectau eraill, Newyddiaduraeth Gymunedol, ac mae prosiect Porth Cymunedol wedi atgyfnerthu ymhellach y cryfderau yr oedd gan y bobl leol eisoes fel grŵp.

Bydd y prosiectau hyn yn cael eu hariannu am bum mlynedd arall, yn ogystal â Phrosiect Phoenix, ein cydweithrediad â Phrifysgol Namibia (UNAM). I ddweud y gwir, yn Namibia yr ydw i’n ysgrifennu’r neges hon gan fy mod yma i drafod rhagor o gydweithio ac i lofnodi cytundeb newydd. Mae Prosiect Phoenix, o dan arweiniad egnïol yr Athro Judith Hall, wedi bod yn llwyddiant ysgubol hefyd. Mae gan y prosiect cyffredinol dros 30 o is-brosiectau sy’n cynnwys amrywiaeth o ddisgyblaethau, o feddygaeth i fathemateg, a chyfrifiadureg i astudiaethau cyfieithu. Mae Namibia yn wlad gymharol ifanc; mae’n ddemocratiaeth sefydlog ac yn hynod uchelgeisiol, ond mae llawer i’w wneud o ran darpariaeth gofal iechyd, ffyniant a lles. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid rhagorol yn UNAM i feithrin gallu mewn ystod eang o feysydd. Mae’r prif brosiectau yn cynnwys hyfforddi anaesthetyddion i helpu dioddefwyr trawma mewn ffordd sy’n lleihau risg yn sylweddol. Gyda chymorth y Cyngor Ymchwil Feddygol, rydym yn cynnig pecynnau trawma y caiff heddweision sy’n ymateb i ddamweiniau ar y ffyrdd eu hyfforddi i’w defnyddio. Er mai Saesneg yw’r iaith swyddogol, mae Namibia yn wlad amlieithog gydag amrywiaeth o ieithoedd cydnabyddedig, ac rydym yn cynnal prosiect cydweithredol o bwys mewn cyfieithu a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Ei nod yw galluogi gwahanol grwpiau ieithyddol i gyfathrebu’n fwy effeithiol. Mae cydweithwyr o’r Brifysgol wedi bod yn cefnogi hyfforddiant am ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored Python. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr UNAM i greu eu rhaglenni penodol eu hunain sy’n diwallu anghenion Namibia. Fel y prosiectau blaenllaw eraill, mae’n bartneriaeth sydd o fudd i’r naill ochr fel y llall: Mae cydweithwyr o’r Brifysgol wedi bod yn ennill grantiau ymchwil ac yn dysgu o’u gwaith yn Namibia, tra bod ein myfyrwyr yn elwa ar gyfleoedd i ennill profiad na fyddai wedi bod ar gael iddynt fel arall. Er enghraifft, bydd y rhaglen Cyfleoedd Byd-eang yn gweithio gyda Phrosiect Phoenix yr haf hwn i alluogi myfyrwyr y Brifysgol i weithio gyda myfyrwyr UNAM yn Namibia. Byddant yn cynnal gweithdy pythefnos o hyd i wella uchelgais plant difreintiedig a’u hysbrydoli. Nod y gweithdy yw cyd-greu ymgyrch Iechyd y Galon ar gyfer Namibia. Mae hyn yn adeiladu ar y traddodiad hir o arloesedd ym maes iechyd cyhoeddus sy’n nodwedd ddiffiniol o hanes ymchwil feddygol yng Nghymru. Rydw i’n gwybod nad oes gennym ateb i bob problem, ond mae Prosiect Phoenix, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’i rhaglen Cymru o Blaid Affrica, yn enghraifft wych o beth allwn ei wneud wrth ddefnyddio ein hadnoddau a’n harbenigedd y tu hwnt i’n buddiannau cul a mwyaf brys.

Mae ein llywodraeth yn gofyn i Brydain fod yn ‘agored i’r byd’. Dyna’n union y mae Prifysgol Caerdydd yn ei wneud nawr, ac am barhau i’w wneud yn y dyfodol. Wrth i broses Brexit fynd yn ei blaen, y peth pwysicaf i’w gofio yw ein diben ni fel prifysgol: yn y pen draw, rydym yma i wneud y byd yn lle gwell. Er mor uchelgeisiol yw datganiad o’r fath, o bosibl, rydw i’n credu mai dyna beth ydym yn ei wneud, ac am barhau i’w wneud.

Yn olaf, llongyfarchiadau i’r Athro Rudolf Allemann sy’n rhoi’r gorau i’w swydd yn Bennaeth yr Ysgol Cemeg i fod yn Ddirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda Ruedi a dymunaf bob llwyddiant iddo yn ei rôl newydd.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor