Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mai 2017

Annwyl gydweithiwr

Er bod y gwasanaethau diogelwch wedi bod yn rhybuddio ers peth amser y gallem ddisgwyl ymosodiad erchyll ar ryw adeg, roedd y newyddion ofnadwy o Fanceinion y mis hwn yn ergyd drom, ac rwy’n gwybod y byddech am i mi fynegi ein cydymdeimlad cyfunol â’r rhai a effeithiwyd gan yr ymosodiad. Mae’r digwyddiad hwn, a’r un yn San Steffan ddiwedd mis Mawrth, yn ein hatgoffa bod rhaniadau yn ein cymdeithas yn eithriadol o ddwfn mewn rhai achosion, a bod yn rhaid i ni fel sefydliad feddwl am ein rôl ni o ran gwrthwynebu eu heffeithiau fel rhan o’n cenhadaeth ddinesig. Wrth i ni ddrafftio ein strategaeth newydd, a oedd yn agored ar gyfer ymgynghori yn ail hanner y mis hwn, rydym yn ystyried sut i ymateb i’r pwysau ar gydlyniad cymdeithasol a welwyd dros y degawd diwethaf. Nid oes unrhyw atebion hawdd, ond rwy’n gwybod y bydd modd i gydweithwyr mewn amrywiaeth o feysydd ar draws y Brifysgol gyfrannu at fframio’r broblem a chwilio am ffyrdd o’i lleihau. Bydd ein Sefydliad Trosedd a Diogelwch yn sicr yn chwarae rôl flaenllaw, ond mae llawer i’w wneud o hyd o ran anghydraddoldebau iechyd, llunio polisïau a meysydd eraill y mae gennym arbenigedd ynddynt.

Mae’r newyddion gwleidyddol y mis hwn, wrth gwrs, wedi canolbwyntio’n bennaf ar yr etholiad cyffredinol. Un o’r problemau anodd sydd wedi dod i’r amlwg yw’r trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE, a’r tensiynau rhwng llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r etholiad hwn wedi achosi oediad o tua saith wythnos cyn dechrau’r trafodaethau, ond mae hefyd yn rheswm pam nad yw’r llywodraeth eto wedi cytuno i gronfa bwysig o gyllid UE tan ar ôl yr etholiad. Mae hyn, yn ei dro, wedi achosi dicter yn y Comisiwn ac wedi arwain at ymryson geiriol. Fel y sylweddolais yn ystod ymweliad â Brwsel yn gynharach y mis hwn, oedi yw’r peth olaf sydd ei angen arnom yn ystod y trafodaethau hyn. Gan fod gwneud cais am grantiau’n cymryd amser hir, gallem fod mewn sefyllfa lle mae angen i ni wybod mor gynnar â’r hydref hwn beth fydd y trefniadau ar gyfer gweddill rhaglen Horizon 2020 ar ôl Brexit, ac mae hyn yn wir i raddau helaeth ar gyfer ceisiadau grant Erasmus hefyd. Ar hyn o bryd, nid yw’n glir sut y byddwn yn ymdopi â hyn, ac oherwydd yr etholiad nid oes modd gofyn i unrhyw un. Cyn gynted ag y bydd gennym lywodraeth newydd, a gweinidogion a gweision sifil i gyfathrebu â nhw, byddaf i ac is-gangellorion eraill yn ceisio ateb i’r cwestiynau hyn.

O ran polisïau, os bydd gennym lywodraeth Geidwadol gallwn ddisgwyl na fydd unrhyw newidiadau sylweddol o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol, yn enwedig gan fod y Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil wedi dod yn gyfraith ychydig cyn diddymiad Senedd y DU. Fodd bynnag, mae Maniffesto’r Ceidwadwyr yn cynnwys dwysâd o ran iaith a bwriadau ynghylch fisâu ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol. Mae yna linell benodol ynglŷn â chyflwyno mwy o ofynion i fyfyrwyr sy’n dod yma o dramor, a sicrhau bod myfyrwyr yn rhan o’r polisi o leihau’r ffigurau mudo net i ddegau o filoedd. Rwy’n gobeithio y bydd y llywodraeth newydd, os yw’n llywodraeth Geidwadol, yn ystyried goblygiadau polisi o’r fath. Mae’n debygol y bydd degau o filoedd yn llai o fyfyrwyr fydd yn cael eu recriwtio o’r UE – efallai 90,000 o fyfyrwyr yn llai – ac os oes lleihad hefyd yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol yn gyffredinol, mae’n bosibl y bydd tarfu sylweddol ar y sector addysg uwch yn y DU. Os bydd yr etholiad yn arwain at lywodraeth Lafur (rydym wedi dychwelyd i sefyllfa lle gallai’r naill blaid neu’r llall ennill yr etholiad, yn ôl pob golwg, wrth i wahaniaethau ym mholisïau’r pleidiau ddod yn fwy amlwg, er bod y polau’n dangos nad yw buddugoliaeth i Lafur yn debygol), eu bwriad yw diddymu ffioedd dysgu ac ailgyflwyno grantiau cynhaliaeth cyn gynted â phosibl. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gyflwyno grantiau cynhaliaeth hael i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, ac os yw ffioedd dysgu’n cael eu diddymu yn Lloegr, byddai Cymru’n cael arian cyhoeddus i ariannu rhaglen debyg yn y wlad hon pe bai’r ewyllys yno. Y flaenoriaeth ar gyfer prifysgolion fyddai sicrhau bod lefelau cyllid yn parhau i fod yn ddigonol, a byddai angen datrys y cwestiwn ynglŷn â niferoedd myfyrwyr a ph’un a oes modd parhau heb uchafswm niferoedd.

Mewn newyddion arall, roeddwn i hefyd wrth fy modd i weld bod yr Athro Yves Barde wedi cael ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol y mis hwn. Mae hon yn anrhydedd fawr a hoffwn longyfarch Yves, sef, efallai y byddwch yn cofio, ein Hathro Sêr Cymru cyntaf. Hoffwn longyfarch yr Athro Anita Thapar hefyd, a gafodd y fedal Frances Hoggan gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru am ei gwaith ym maes seiciatreg plant a’r glasoed.

Yn olaf, cawsom newyddion trist iawn y mis hwn fod Rhodri Morgan, cyn-Brif Weinidog Cymru, wedi marw. Roedd Rhodri’n gyfaill da i Brifysgol Caerdydd, ac yn ymwelydd rheolaidd a oedd bob amser yn fodlon cefnogi datblygiad y Brifysgol, ei myfyrwyr a’i staff. Roedd Rhodri’n gefnogol iawn i addysg uwch ac ymchwil yng Nghymru, ac mae’r ffaith i Labordy Mellt Morgan-Botti Prifysgol Caerdydd gael ei enwi ar ei ôl yn adlewyrchu ei ymdrechion i weithio gyda phartneriaid ym mannau eraill yn Ewrop i ddod â chyfleuster o’r radd flaenaf fel hwn i Gymru. Roedd gan Rhodri ddawn unigryw i gyfuno deallusrwydd aruthrol â chyfeillgarwch diymhongar. Pan oeddwn i’n cael cyfarfodydd â Rhodri, roedd yn ymddangos ei fod bob amser wedi paratoi’n ofalus ymlaen llaw. Efallai nad oedd hynny o reidrwydd yn wir, ond roedd yn berson diddorol, gwybodus, a hyddysg. Rwy’n gwybod y bydd colled fawr ar ei ôl, a chydymdeimlaf â’i wraig Julie a’u teulu.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor