Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mehefin 2017

Annwyl gydweithiwr

Roedd prif ganlyniad yr Etholiad Cyffredinol yn gwbl groes i’r hyn a fwriadwyd, ac yn hynny o beth mae wedi achosi lefel llawer uwch o ansicrwydd. Mae i’r ansicrwydd hwnnw agweddau cadarnhaol yn ogystal â negyddol i brifysgolion. Ar yr ochr gadarnhaol, gellir gobeithio bod yr agwedd galetach fyth at fyfyrwyr rhyngwladol a amlinellwyd ym maniffesto’r Ceidwadwyr yn llai tebygol o gael ei rhoi ar waith nawr fod y llywodraeth yn un leiafrifol, er ei bod yn dal yn Geidwadol. Roedd y cwestiwn ynghylch myfyrwyr rhyngwladol yn un oedd yn cael ei chysylltu i raddau helaeth gyda Mrs May’n bersonol (ynghyd â’i chynghorwyr agosaf) pan oedd yn Ysgrifennydd Cartref, a daeth â’r agwedd honno gyda hi i Rif 10. Mae’n bosibl y bydd ymadawiad y cynghorwyr hynny, a sefyllfa wannach y Prif Weinidog yn gyffredinol yn dilyn methiant ei gambl etholiadol, yn gadael rhywfaint o le i symud. Mae’r dadleuon o blaid croesawu myfyrwyr i’r wlad a’u trin mor hael â phosibl yn anorchfygol. Mae’n debyg bod y data dibynadwy diweddaraf sydd gan y Swyddfa Gartref yn dangos bod myfyrwyr rhyngwladol yn dod i’r wlad hon i astudio ac yna’n dychwelyd adref, fel rydym ni wedi dadlau erioed. Mae’r mwyafrif llethol o’r rhai nad ydyn nhw’n gadael y DU ar ddiwedd eu hastudiaethau yn aros yma’n gyfreithlon. Does dim tystiolaeth fod y cyhoedd yn meddwl am fyfyrwyr rhyngwladol fel mewnfudwyr, ac yn wir nid yw’n ymddangos fod mewnfudo wedi chwarae rhan bwysig yn yr etholiad. Mae’r grym meddal a’r manteision economaidd sy’n deillio o system sy’n agored i’r byd yn hysbys, ac mae’r rhod yn sicr yn troi o blaid Brexit yn seiliedig ar swyddi. Felly, rwyf i’n parhau i obeithio y bydd yn bosibl cyflawni cynnydd o ryw fath ar y mater hwn yn y dirwedd wleidyddol newydd. Mae sefyllfa’r Ceidwadwyr yn y Senedd hefyd yn golygu bod diwygiadau pellach ym maes addysg uwch yn Lloegr yn annhebygol; mae hyn yn bwysig i ni oherwydd byddai cyfnod o sefydlogrwydd tra bo diwygiadau eraill yn ymsefydlu yn cael eu croesawu’n fawr. Mae hefyd yn beth da na chafwyd newid yn y tîm gweinidogol, sy’n cynnig mesur o gysondeb. Ar yr ochr negyddol, mae’r tebygolrwydd o ddod i gytundeb gyda Chomisiwn yr UE ac aelod-daleithiau ar ymadawiad Prydain o’r UE yn edrych yn anoddach bellach, ac fel y nodais fis diwethaf, bydd problemau ymarferol yn codi’n fuan. Fel yr addawyd yn fy ebost diwethaf, rwyf i ac Is-Gangellorion eraill wedi hysbysu gweinidogion perthnasol am y pryderon hyn ac rwyf i’n hyderus y bydd atebion yn dod i’r amlwg maes o law.

Ar fater mwy cyffredinol ond sy’n berthnasol iawn i lawer o gydweithwyr, byddwch yn ymwybodol fod y llywodraeth o’r diwedd wedi cyhoeddi ei chynigion ar ddinasyddion gwledydd eraill yr UE sy’n byw ym Mhrydain.  Gyda lwc, bydd mwy o symud ar y cynigion hyn oherwydd nid yw’r ymateb iddyn nhw wedi bod yn gwbl gadarnhaol, naill ai o du’r Comisiwn na’r rheini sy’n cael eu heffeithio’n fwyaf uniongyrchol. Byddai’n ddefnyddiol pe bai cydweithwyr o wledydd eraill yn yr UE yn fy hysbysu am unrhyw bryderon penodol a allai fod ganddyn nhw er mwyn i fi eu bwydo’n ôl drwy UUK a Grŵp Russell. Mae’r Adran Ymadael a’r UE hefyd wedi gofyn i ni gyflwyno sylwadau’n uniongyrchol iddyn nhw. Y canlyniad gorau fyddai i’r llywodraeth ddod â’r ansicrwydd i ben unwaith ac am byth, cyn gynted â phosib, gan gydnabod y pryderon a allai fod gan bobl sydd wedi byw yma ers blynyddoedd lawer ac sy’n awyddus i gadw eu sefyllfa bresennol. Felly, mae’n bwysig i ni allu cyflwyno awgrymiadau ymarferol ar sut y gellid cyflawni hynny.

Yn y cyfamser yng Nghymru mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi papur gwyn Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus, sy’n ymwneud â’r hyn a elwir bellach yn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol neu PCET. Mae hyn yn cwmpasu addysg uwch yn ogystal ag addysg bellach, dysgu’n seiliedig ar waith, prentisiaethau ac ati, gan gynnwys ymchwil ac arloesedd. Y syniad yw creu corff newydd o’r enw Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru a fyddai’n ymgymryd â holl swyddogaethau cyfredol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ogystal â chyfrifoldeb am gynllunio, cyllido, contractio, ansawdd, monitro ariannol ac archwilio addysg bellach a dysgu’n seiliedig ar waith.  Gallai goblygiadau hyn fod yn bellgyrhaeddol; af i ddim i fanylu ar y cynigion nawr, ond y nod yw gallu ymateb i anghenion newidiol economi Cymru yn y dyfodol a gallu mabwysiadu agwedd fwy strategol ar draws yr holl dirwedd ‘ôl-orfodol’ neu ‘drydyddol’. Roeddwn i’n falch iawn o weld ymrwymiad penodol i bwysigrwydd a chynhaliaeth cyllid ymchwil QR (ar sail REF) yn y papur gwyn, ynghyd â chynigion ar sut i reoli ymchwil ac arloesi yng Nghymru drwy greu pwyllgor statudol â’r teitl Ymchwil ac Arloesi Cymru yn rhan o’r corff newydd. Mewn rhai ffydd mae hyn yn adleisio creu UK Research and Innovation, sy’n cynnwys Innovate UK a Research England oddi mewn iddo. Bydd addysg uwch yn Lloegr yn cael ei rheoleiddio gan gorff ar wahân o’r enw’r Office for Students, wrth gwrs; yng Nghymru bydd y ddwy swyddogaeth yn dod ynghyd dan yr un corff ymbarél, sy’n fanteisiol mewn sawl ffordd. Yr her fawr fydd sicrhau uniondeb y system ariannu ddeuol (QR ar y naill law a chyllid cyngor ymchwil neu strategol ar y llall) ynghyd â chadw egwyddor Haldane. Mae sicrwydd wedi’i roi ar y mater hwnnw yn y papur gwyn ond byddwn ni’n awyddus i edrych ar y goblygiadau’n fanwl. Mae’n braf gweld bod llawer o ymdrech yn cael ei neilltuo i’r broses ymgynghori ar y mater pwysig hwn, a bod gennym ni tan yr hydref ar ymgynghoriad y papur gwyn, a bydd ymgynghoriad technegol yn dilyn. Bydd hi’n beth amser cyn i unrhyw gynigion ddod i rym; blynyddoedd yn wir oherwydd byddai angen deddfwriaeth ar y diwygiadau, ac yna peth amser i’w rhoi ar waith.

Y mis hwn rydym ni hefyd wedi cael canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF); cyflawnodd Caerdydd arian yn ôl y disgwyl ac wrth gwrs byddwn yn gweithio’n galed i gyflawni aur neu beth bynnag fydd yn cyfateb i hynny yn y dyfodol. Rwyf i’n dweud hynny oherwydd yn 2019 cynhelir adolygiad annibynnol o’r TEF a allai arwain at nifer o newidiadau, neu, hyd yn oed ei ddiddymu, o bosibl. Er nad yw hyn yn debygol yn ôl pob golwg, go brin bod neb ag unrhyw synnwyr yn ceisio rhagweld dim byd y dyddiau hyn. Yn sicr mae angen ystyried y fethodoleg o ddifrif, yn enwedig mewn perthynas â’r cwestiwn a yw’r neges mae’n ei hanfon (drwy’r system medalau Olympaidd) at ddarpar ymgeiswyr a allai fod yn anghyfarwydd â phrifysgolion yn un sydd o reidrwydd yn ddefnyddiol iddyn nhw.

Hefyd codon ni dri safle yn Rhestr Detholion QS y Byd, i 137. Mae’n werth sylwi bod 51 o’r 76 prifysgol yn y DU sydd yn y QS wedi disgyn, sy’n dweud rhywbeth am y gystadleuaeth drwy’r byd a’r heriau rydym ni’n eu hwynebu yn y DU.

Y newyddion da arall oedd ei bod yn wych gweld cynifer o academyddion Caerdydd yn derbyn cydnabyddiaeth yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines Dyfarnwyd OBE i’r Athro Malcolm Mason, Athro Ymchwil Canser Cymru mewn Oncoleg Glinigol yn yr Ysgol Meddygaeth am ei wasanaethau i’r GIG ac ymchwil Canser; derbyniodd Dr Alison Parken o Ysgol Busnes Caerdydd OBE am ei gwaith ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, tra bo Ms Wendy Sadler o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi derbyn MBE am wasanaethau i wyddoniaeth, peirianneg cyfathrebu ac ymgysylltu. Dyfarnwyd CBE i’r Athro Pamela Taylor, deiliad Cadair Seiciatreg Fforensig yn yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol yn yr Ysgol Meddygaeth am ei gwasanaethau i seiciatreg fforensig. Hoffwn ddweud hefyd bod y Gymdeithas Ddaearegol wedi dyfarnu Medal Bigsby glodfawr eleni i’r Athro Carrie Lear o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr i gydnabod ei gwaith ar ddaeareg a’i chyfraniad i wyddoniaeth yr hinsawdd. Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt ar ran y Brifysgol.

Mewn mynegiant arall o hyder ym Mhrifysgol Caerdydd ac arbenigrwydd rhagorol ein hacademyddion, yn gynharach y mis hwn cyhoeddom ni sefydlu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Bydd y Ganolfan hon (sy’n adeiladu ar waith y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn flaenorol), yn cael £6m dros bum mlynedd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru. Y syniad yw darparu cyngor annibynnol a thystiolaeth ddibynadwy, drylwyr i hwyluso’r broses o lunio polisi. Nid yw hwn yn syniad newydd ynddo’i hun, ond mae ei roi ar waith yn effeithiol yn ddiarhebol o anodd a bydd y Ganolfan newydd yn defnyddio cyfuniad pragmataidd o gasglu’r dystiolaeth fwyaf dibynadwy o ffynonellau cyfredol a thynnu ar arbenigwyr blaenllaw ar faterion penodol, gydag ymchwil i’r hyn sy’n gweithio ac i ddulliau arloesol o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ac yn y blaen. Mae hon yn bluen wirioneddol yn ein het ac yn dangos y gallwn gyfrannu yn nhermau ymchwil, arloesi ac effaith ar draws ystod lawn o ymdrech academaidd.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor