Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Medi 2017

Annwyl gyfaill

Go brin fy mod i erioed wedi mynd ati i ysgrifennu fy ebost ym mis Medi mewn awyrgylch sy’n cyferbynnu i’r fath raddau â’r sefyllfa yr oeddem ynddi y tro diwethaf i mi ysgrifennu ym mis Gorffennaf. Ers hynny, mae effeithiau gwleidyddol llawn ymgais etholiadol aflwyddiannus y Prif Weinidog pan alwodd am etholiad cyffredinol fis Ebrill diwethaf wedi chwarae rhan amlwg yn y wleidyddiaeth sy’n ymwneud â phrifysgolion. Yn ôl pob golwg, mae’r Blaid Geidwadol yn bryderus ynghylch sut y llwyddodd y Blaid Lafur i ddenu pleidleiswyr iau — tua hanner miliwn o bobl oedd heb bleidleisio o’r blaen. Credir mai’r addewid i ddiddymu ffioedd dysgu ac ailgyflwyno grantiau cynhaliaeth oedd i’w gyfrif am hynny, yn rhannol o leiaf. Wrth gwrs, yma yng Nghymru, mae’r grantiau cynhaliaeth am gael eu hailgyflwyno beth bynnag, ond bydd yn ddiddorol gweld a fydd y ffioedd dysgu yn goroesi yn eu ffurf bresennol o ystyried yr amgylchiadau newydd yn San Steffan. Mae cyflogau is-gangellorion yn ogystal â chyflogau cydweithwyr yn gyffredinol wedi bod yn destun cryn drafod, ac nid yw’r rhagolygon ar gyfer Cynllun Pensiwn y Prifysgolion yn argoeli’n dda yn ôl y gwerthusiad diweddaraf. Mae hyn yn rhoi’r argraff gyffredinol bod prifysgolion wedi llwyddo i osgoi’r holl doriadau y mae llawer o wasanaethau cyhoeddus wedi gorfod eu hwynebu, a’i bod yn amser i’r prifysgolion ysgwyddo rhywfaint o’r baich erbyn hyn. Er nad oes rhesymeg i hyn mewn gwirionedd, mae’n bwysig deall pryderon y cyhoedd a’n bod yn derbyn bod amgylchiadau gwleidyddol wedi newid, ac efallai bod angen newid polisïau ac arferion mewn ymateb.  Ni allwn ragweld beth fydd yn digwydd yn y pen draw. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae hyn yn cynyddu’r ansicrwydd ac yn creu ymdeimlad nad yw prifysgolion yn gweithredu er lles y cyhoedd. Hynny yw, yr argraff bod gormod o bobl yn mynd i brifysgolion sy’n cael gormod o arian, yn rhoi eu hunain yn gyntaf ac wedi anghofio beth yw eu pwrpas. Nid wyf yn credu bod hyn yn adlewyrchiad teg o brifysgolion y DU o bell ffordd gan eu bod yn cael eu hystyried yn esiamplau o lwyddiant ac arfer da mewn llawer o ffyrdd pwysig. Yn amlwg, does dim byd yn berffaith, ond rydym serch hynny yn cynnig budd enfawr i’r cyhoedd yn ogystal â chyfleoedd a phrofiadau anhygoel sy’n newid bywydau llawer iawn o bobl. Beth bynnag fo’n barn ynghylch sut mae llywodraethau’r DU, un ar ôl y llall, wedi ceisio gorfodi’r un drefn ar draws y sector addysg uwch, ei ddefnyddio fel teclyn gwleidyddol a’i farchnadeiddio, rhaid i ni ganolbwyntio ar ein prif bwrpas, sef creu a rhannu gwybodaeth er lles pawb. Mae prifysgolion yn rym er daioni, ac mae gennym ni ym Mhrifysgol Caerdydd rôl bwysig dros ben wrth helpu i lunio dyfodol cadarnhaol i Gymru.

Er gwaethaf yr amgylchedd cythryblus hwn, mae’n braf gallu sôn am newyddion gwell o ran y tablau cynghrair o gymharu â’r llynedd. Rydw i’n arbennig o falch ein bod wedi cyrraedd y 100 uchaf am y tro cyntaf yn ystod y deng mlynedd ers dechrau Tabl Cynghrair o Brifysgolion y Byd (ARWU; neu restr Shanghai Jiao-Tong, fel mae rhai’n ei galw). Yn ôl yr arfer, mae’n bwysig ein bod yn ymwybodol o gyfyngiadau tablau cynghrair, ond dyma un sy’n cael ei barchu’n fawr. Er nad yw o’r un bri â Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd, sef y rhestr yr ydym wedi bod yn ei thargedu ac wedi codi i safle 137 arni erbyn hyn, mae’n anfon neges bwysig dros ben i bawb am ein gallu a’n perfformiad academaidd. Pan gyrhaeddais yma bum mlynedd yn ôl, yr hyn yr oeddwn yn ei glywed gan randdeiliaid allanol yn bennaf oedd bod Cymru yn haeddu cael prifysgol sydd yn y 100 uchaf. Rydw i’n cytuno, a dyna pam mae bod ymhlith 100 prifysgol orau’r byd yn ddyhead amlwg yn Y Ffordd Ymlaen, ac rydw i wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i wneud hynny ymhen y cyfnod pum mlynedd. Yn wir, rydym wedi codi ar dair o bedair prif restrau’r byd hyd yma eleni. Yn ogystal â chodi ar restrau ARWU a QS, rydym hefyd wedi codi 20 i safle 162 yn The Times Higher Education World University Rankings. (Nid yw rhestr Best Global Universities wedi’i chyhoeddi ar gyfer 2017 eto. Rydym yn safle 149 ar y rhestr hon ar hyn o bryd.) Yn olaf, ar ôl gostwng yn siomedig y llynedd, rydym wedi codi 11 lle y tro hwn yn The Times a’r Sunday Times Good University Guide i’r 35ain safle; braf yw mynd yn ôl i’r cyfeiriad cywir, ond mae rhagor i’w wneud eto. Rhan o’r rheswm dros beidio â gwneud hyd yn oed yn well y tro hwn oedd ein canlyniad hynod siomedig yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr. Aeth ein sgôr gyffredinol i lawr i 84, a hynny ar ôl bod mor uchel â 90 ddim ond dwy flynedd yn ôl. Bydd angen i ni edrych yn fanwl ar hyn oherwydd mae gan ein myfyrwyr neges ar ein cyfer, ac mae angen i ni wrando. Byddaf yn sôn am hyn eto mewn ebost yn y dyfodol.

Efallai eich bod yn ymwybodol ein bod wedi lansio Cynllun Diswyddo Gwirfoddol ar gyfer cydweithwyr academaidd. Mae hyn yn caniatáu i’r rhai sy’n dymuno rhoi’r gorau i weithio i ni gyflwyno cais am y cyfle i wneud hynny ar delerau manteisiol. Y syniad y tu ôl iddo yw ein galluogi i ailddyrannu adnoddau yng nghyd-destun amgylchiadau sy’n newid; nid ydym yn ceisio lleihau’r nifer a gyflogir, ac rydw i’n disgwyl i nifer y staff godi rhywfaint yn ystod y tair i bedair blynedd nesaf. Hoffwn bwysleisio hefyd mai proses gwbl wirfoddol yw hon ar y naill ochr fel y llall. Fel y soniais yn fy ebost diwethaf, mae’r esgid fach yn gwasgu ar hyn o bryd, ond ein bwriad yw defnyddio ein hadnoddau ein hunain i ymdopi â’r prinder arian nes bydd y sefyllfa yn gwella. Yn amlwg, mae’r arian sydd ar gael i brifysgolion o dan fygythiad, fel y soniais uchod; gallai unrhyw newidiadau i’r system ffioedd gyfredol olygu bod llai prifysgolion yn cael llai o arian. Pe byddai hynny’n digwydd, byddai angen i ni ymateb, wrth gwrs, ond rydym yn bwrw ymlaen ar hyn o bryd ar sail y ffeithiau sydd ar gael.

Ar ôl dwy flynedd o waith ac ymgynghori eang, fe gymeradwyodd y Cyngor strategaeth y Brifysgol ar gyfer y cyfnod nesaf yn ei gyfarfod ym mis Medi. Byddwn yn ei lansio’n ffurfiol ym mis Ionawr, ond byddaf yn manteisio ar fy anerchiad blynyddol i staff ddechrau mis Hydref i amlinellu’r prif nodweddion. Byddaf yn egluro’r prif newidiadau ers yr Y Ffordd Ymlaen ddiwethaf ac yn amlygu’r ffyrdd yr ydym wedi gallu ystyried yr awgrymiadau defnyddiol a gyflwynwyd yn ystod y broses ymgynghori. Os hoffech fynd i un o’r cyflwyniadau, mae’r manylion i’w gweld yma. Bydd y Prif Swyddog Ariannol yn ymuno â mi hefyd i roi braslun o’r sefyllfa ariannol.

O ran beth arall sy’n newydd, rydw i eisoes wedi sôn am Brosiect Phoenix sy’n ymgymryd â gweithgareddau hynod lwyddiannus gyda phartneriaid yn Namibia a Zambia. Mae’n un o dri phrosiect o Brifysgol Caerdydd sydd ar y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Times Higher Education a gynhelir ym mis Tachwedd. Mae hefyd wedi llwyddo i gael 17 o gymrodoriaethau rhyngwladol i’w cyflwyno dros y 6 wythnos nesaf ar gyfer ymchwilwyr ac addysgwyr gwadd o Namibia a Zambia. Ymysg ffrydiau ariannu eraill, cefnogir y Cymrodoriaethau gan raglen symudedd credyd rhyngwladol fawr gan Erasmus+, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Cymdeithas Anesthetyddion Pediatrig Prydain Fawr ac Iwerddon, yn ogystal â chynllun Ysgoloriaethau’r Gymanwlad. Bydd llawer o gyfleoedd i drafod mewn grwpiau ac un-wrth-un, a byddai’n wych pe gallem fanteisio’n llawn ar y cyfle i greu cysylltiadau gyda’n gwesteion a gwneud iddynt deimlo’n gartrefol. Os oes gennych ddiddordeb, ebostiwch yr Athro Judith Hall i gael rhagor o fanylion. Mae’n werth nodi bod arian ar gael i alluogi staff Prifysgol Caerdydd i ymweld â Namibia a Zambia hefyd.

Yn olaf, yn ei haraith ddiweddar am Brexit yn Florence, fe soniodd y Prif Weinidog am y posibilrwydd o gael cyfnod pontio dwy flynedd o hyd wedi i ni adael yr UE ym mis Mawrth 2019. Bydd hyn yn dibynnu ar ddod i gytundeb cyffredinol ar y telerau ymadael. Fodd bynnag, os bydd hyn yn digwydd, bydd modd i ni barhau i gymryd rhan yn Horizon 2020 ac Erasmus+ tan ddiwedd cyfnod ariannol presennol y Comisiwn Ewropeaidd. Byddai hyn yn ddefnyddiol dros ben ac yn rhoi mwy o amser i ni gynllunio ar gyfer yr hyn fydd yn digwydd wedi hynny. Croesi bysedd.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor