Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Hydref 2017

Annwyl gydweithiwr

Yn gynharach y mis hwn clywom ni fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw at y lefel ffioedd presennol o £9,000 yn hytrach na chaniatáu iddynt godi gyda chwyddiant fel y cyhoeddwyd yn wreiddiol yn gynt yn y flwyddyn. Roedd Mrs May wedi cyhoeddi penderfyniad tebyg yn Lloegr yng nghynhadledd y Ceidwadwyr, er bod y ffi yno eisoes wedi cael un cynnydd o ran chwyddiant i £9,250. Felly bydd yn cael ei rhewi ar y lefel uwch honno wrth aros am adolygiad o gyllido a chymorth i fyfyrwyr. Rydym ni eisoes wedi cael ein hadolygiad ni wrth gwrs, felly bydd rhaid i ni aros am ganlyniad y broses yn Lloegr i weld beth fydd y goblygiadau i Gymru. Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £26 miliwn yn ychwanegol i brifysgolion dros y tair blynedd nesaf fydd yn helpu i liniaru colli incwm ffioedd yn y dyfodol. Bydd y rheini ohonoch a glywodd fy anerchiadau i’r staff cyfan ym mis Hydref (ar gael ar-lein yma) yn gwybod ar ôl i fi siarad bod ein Prif Swyddog Ariannol newydd, Mr Rob Williams, wedi gwneud cyflwyniad ar sefyllfa ariannol y Brifysgol, oedd yn dangos ein bod mewn cyflwr ariannol cryf, er wrth gwrs y bydd rhaid i ni fod yn ddarbodus a rheoli ein gwariant a’n refeniw yn ofalus. Mae gennym flwyddyn neu ddwy o gyfyngder o’n blaenau, ond rwyf i’n hyderus y byddwn yn gallu dod drwyddynt yn llwyddiannus a chyflawni ein hamcanion strategol. Neilltuais fy anerchiad y tro hwn i Y Ffordd Ymlaen ar ei newydd wedd, yn cwmpasu’r cyfnod 2018-23. Fydd hwn ddim yn cael ei lansio’n swyddogol tan fis Ionawr 2018 ond gallwch weld y testun a dogfen eglurhaol yma, a bydd adroddiad cryno terfynol ar gyfnod blaenorol Y Ffordd Ymlaen ar gael cyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

Fel sy’n arferol, byddwn yn adrodd yn rheolaidd ar gynnydd a byddwch yn gallu cyfrannu at ffurfio’r cynlluniau gweithredu fydd yn ein helpu i droi strategaeth yn weithredu. Mae Y Ffordd Ymlaen ar ei newydd wedd yn ganlyniad dwy flynedd o ymgynghori, a byddwn i’n hoffi gweld y dull hwn o weithredu’n parhau wrth i amser fynd rhagddo. Cam ar hyd y ffordd o wireddu ein cynlluniau ar gyfer y Brifysgol yw cynhyrchu dogfen; mae’n broses yn hytrach na bod yn nod ynddo’i hun. Mewn negeseuon ebost yn y dyfodol byddaf yn dychwelyd at wahanol agweddau o Y Ffordd Ymlaen i egluro mwy am y dangosyddion perfformiad allweddol, pam eu bod wedi’u dewis a sut rydym ni’n bwriadu eu rhoi ar waith, ond y tro hwn byddaf yn canolbwyntio ar y Genhadaeth Ddinesig, sy’n un o bum thema Y Ffordd Ymlaen (y lleill yw Addysg a Myfyrwyr, Ymchwil, Arloesi a Rhyngwladol).

Cenhadaeth Ddinesig yw’r gweithgaredd a elwid yn flaenorol yn Ymgysylltu, ac mae’n cofleidio ein holl waith allgymorth a chymunedol. Traddododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, araith ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2016 gan alw ar brifysgolion yng Nghymru i ail-egnïo ein hymrwymiad i’r Genhadaeth Ddinesig, sydd yn wir yn ffurfio ffrwd strategol allweddol yn Y Ffordd Ymlaen 2018-23. Yn y bôn, ein nod yw gwella iechyd, cyfoeth a llesiant pobl Cymru, gan gofio bod digwyddiadau ers refferendwm yr UE wedi dangos ei bod hyd yn oed yn bwysicach ein bod yn cysylltu’n well gyda’n cymunedau. Rydym yn ymrwymo i helpu i wella ansawdd addysg yng Nghymru, hybu cydlyniad cymdeithasol drwy raglen o waith allgymorth wedi’i dargedu drwy bartneriaeth gyda’r GIG i wella canlyniadau iechyd cyhoeddus, sicrhau ein bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad y Gymraeg, cynyddu graddfa a chwmpas ein cysylltiadau gyda busnesau, y trydydd sector a chyrff cyhoeddus yng Nghymru, a chefnogi creu 1,000 o swyddi gwerth uchel yn economi Cymru. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud gwahaniaeth i bobl ein gwlad, yn enwedig o ystyried y cymorth rydym ni’n ei dderbyn gan y trethdalwr, ac felly roeddwn yn falch i dderbyn gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i gynnal uwchgynhadledd Cenhadaeth Ddinesig, a gynhaliwyd ar 25 Hydref dan y teitl Cenhadaeth Ddinesig Cymru: Cysylltu campws, cymuned a’r byd. Roedd nifer dda iawn yn bresennol a chafwyd prif araith gan Kirsty Williams, a ail-bwysleisiodd rôl prifysgolion yn helpu i godi safonau addysgol mewn ysgolion, datblygu dinasyddiaeth weithredol a gweithredu fel injan menter ac arloesi cymdeithasol. Rwyf i am weld Prifysgol Caerdydd wrth galon y gweithgarwch hwn yng Nghymru ac rwyf i’n hyderus y bydd ein cynlluniau’n gwneud i hynny ddigwydd.

Cyn symud ymlaen at newyddion y campws hoffwn gyfeirio’n gyflym at rai cyhoeddiadau a wnaed y mis hwn gan Jo Johnson, Gweinidog llywodraeth y DU dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth. Yng nghynhadledd flynyddol olaf Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr cyn iddo gael ei ddiddymu ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, cyfeiriodd Jo Johnson at bwysigrwydd gweithio gyda diwydiant ar arloesi (fel y gwnawn ni yn helaeth wrth gwrs), gan ddweud ei fod yn bwriadu cyflwyno Fframwaith Cyfnewid Gwybodaeth (KEF) i ategu’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) a’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF). Mewn rhai ffyrdd gallaf weld y synnwyr yn hyn; mae’n ddiarhebol o anodd cadw cofnod o gyfnewid gwybodaeth (neu arloesi, neu drosglwyddo technoleg; mae nifer o dermau) a’i fesur, a gallai’r fframwaith newydd hwn fod yn offeryn defnyddiol. Ond un anfantais yw y bydd yn creu mwy o waith a biwrocratiaeth, waeth pa mor ddilys y bwriad i’w gadw’n ysgafn. Gallai fod yn opsiwn i ni yma yng Nghymru ei anwybyddu, ond mae perygl bob amser y gallai ddechrau bwydo i’r cynghreiriau pwysig, neu gallai aros allan ohono arwain at ganlyniadau o ran enw da. Mae’n anodd gwybod tan i ni dderbyn rhagor o fanylion, ond bydd rhaid i ni ei ystyried o ddifrif pan fydd hynny’n digwydd. Mae’r mater arall yn ymwneud â rhyddid mynegiant, sydd wrth gwrs yn fater hollbwysig ond braidd yn gymhleth i ni ac yn wir i’r llywodraeth. Dywedodd Jo Johnson ei fod yn disgwyl y byddai’r Swyddfa Myfyrwyr newydd yn gweithio gyda phrifysgolion yn Lloegr i annog diwylliant agored o drafodaeth a sicrhau bod pobl â chefndiroedd neu safbwyntiau gwahanol yn gallu ffynnu mewn amgylchedd addysg uwch. Does fawr o ddim byd i anghytuno amdano yma, ond byddai rhai’n tybied a allai elfennau o strategaeth Prevent filwrio’n erbyn y nodau canmoladwy hyn. Fel mae’n digwydd, yn ddiweddar rydym ni wedi cytuno ar god ymarfer diwygiedig ar ryddid mynegiant (gallwch ei ddarllen yma), sy’n cwmpasu pob agwedd o fynegiant rhydd a rhyddid academaidd. Rhaid i ni weithredu o fewn y gyfraith, sy’n arwain at nifer o gyfyngiadau ymarferol yn ymwneud â gwahodd siaradwyr ymweliadol ymhlith pethau eraill, ac felly mae’n ddefnyddiol cael canllawiau ar gyfer sicrhau y gallwn gynnal yr amgylchedd cywir ar gyfer astudio ac ymchwil.

Uchafbwynt yn ystod y mis oedd dyfarnu Gwobr Nobel am Ffiseg i Rainer Weiss, Barry C. Barish a Kip S. Thorne, y gwyddonwyr yn yr Unol Daleithiau sy’n arweinwyr ym maes darganfod tonnau disgyrchol a gyhoeddwyd y llynedd. Roedd gan ein grŵp Ffiseg Ddisgyrchol ni ran allweddol yn narganfyddiad y signalau hyn, ac yn wir yn yr arsylwad arloesol diweddaraf o wrthdrawiad rhwng dwy seren niwtron lle cysylltwyd tonnau disgyrchol ag allyrru golau am y tro cyntaf. Mae hwn yn faes newydd hynod o bwysig a chyffrous mewn gwyddoniaeth, ac rwyf i’n falch iawn bod gwyddonwyr o Gaerdydd yn chwarae rhan mor bwysig. Mewn newyddion arall, rwyf i’n falch i gyhoeddi bod Cynghrair GW4 wedi sicrhau rhaglen hyfforddi ddoethurol gyntaf y DU mewn biowyddoniaeth dŵr croyw i fynd i’r afael â’r heriau cymhleth sydd eu hangen i gynnal ecosystemau’r byd. Bydd grant o £2m gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC) yn sefydlu canolfan hyfforddi ddoethurol gyntaf y DU, yn benodol ar gyfer “biowyddoniaeth dŵr croyw a chynaladwyedd”. Ym mis Hydref hefyd agorwyd canolfan benodol ar gyfer ymdrin â seiber-droseddu yn y Brifysgol. Canolfan Ragoriaeth Airbus mewn Dadansoddeg Diogelwch Seiber, yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yw’r gyntaf o’i math yn Ewrop, ac mae’n ymdrin ag un o’r meysydd troseddu sy’n tyfu gyflymaf, y gall unrhyw un ohonom ei ddioddef. Yn olaf yn yr adran hon, os ydych chi’n meddwl tybed sut mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr amrywiol brosiectau adeiladu sy’n rhan o’n Huwchgynllun Ystadau, gan gynnwys y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr, y Cyfleuster Ymchwil Trawsfudol ac Arloesi Canolog, fe gewch ddiweddariad defnyddiol yma.

Gobeithio y maddeuwch i mi am orffen ar nodyn personol y mis hwn. Wrth bori drwy Blas ddiwedd mis Medi, sylwais ar eitem yn dweud y bu 23 Medi yn ‘Ddiwrnod Gwelededd Bi’, pan godon ni ein baner Balchder Bi i ddangos cefnogaeth i staff a myfyrwyr deurywiol. Roedd yr eitem yn dipyn o syndod i fi oherwydd doeddwn i ddim yn sylweddoli bod y math ddiwrnod yn bodoli, na bod gennym faner, na bod y faner honno wedi’i chodi uwchben y Prif Adeilad. Roedd hyn yn drueni oherwydd rwyf i’n ystyried fy hun yn y categori hwn ac roeddwn yn meddwl tybed sut y gallwn fod wedi peidio â chlywed amdano. Yn amlwg roedd hyn oherwydd nad oedd pobl yn gwybod y byddwn yn uniaethu yn ddeurywiol, ac felly dyma feddwl – os yw hyn yn ymwneud â gwelededd – y gallai helpu pe baen nhw yn gwybod. A dweud y gwir dwyf i ddim yn gwybod a yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth, ond rwyf i’n teimlo os oes posibilrwydd y byddai unrhyw rai o’n myfyrwyr neu gydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth wrth i mi sôn am hyn, yna mae’n werth ei wneud. Mae’r erthygl yn Blas yn cynnwys dolen at gofnod blog dadlennol gan ein Hyrwyddwr Bi, Jessie Atkinson (gyda chyflwyniad gan Gadeirydd rhagorol Enfys, rhwydwaith LGBT+ staff Prifysgol Caerdydd, Karen Cooke). Roeddwn i’n bendant yn gyfarwydd â mwyafrif helaeth yr hyn mae Jessie’n ysgrifennu amdano ynghylch yr amrywiol faterion mae rhywun yn eu hwynebu, ond rwy’n meddwl y byddai’n ddiddorol i’w ddarllen hyd yn oed os nad ydych yn cael eich effeithio’n uniongyrchol.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor