Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – hyrwyddwyr nodweddion a amddiffynnir

Ar ddiwrnod cwrdd i ffwrdd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn ddiweddar fe fues i’n arwain sesiwn ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac roeddwn wrth fy modd yn clywed am sut mae fy holl gydweithwyr yn sicrhau ein bod ni’n wir yn cyflawni ein hymrwymiad i gyflog, triniaeth a chyfle cyfartal, er mwyn cefnogi amrywiaeth a chreu cymuned agored, gynhwysol.

Penderfynwyd y byddai pob aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol yn hyrwyddwr ar gyfer un nodwedd benodol a amddiffynnir, gyda Colin Riordan a minnau yn parhau i hyrwyddo ar draws yr holl nodweddion.  Rwy’n rhagweld y bydd hyn yn cadw materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar flaen ein meddyliau ym mhopeth a wnawn.  Rwy’n falch iawn o hynny, gan y bydd yn golygu bod modd i’m syniadau ynghylch y pwnc gael eu herio drwy bwyslais penodol.

Byddaf yn egluro rhywfaint am y nodweddion a amddiffynnir o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010), sy’n gyfreithiol yn amddiffyn pobl rhag camwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae’r un Ddeddf hon wedi disodli cyfreithiau gwrth-wahaniaethu blaenorol, ac o ganlyniad mae’r gyfraith yn haws ei deall ac mae’r amddiffyniad yn gryfach mewn rhai sefyllfaoedd. Mae’n nodi’r gwahanol ffyrdd o drin rhywun sy’n anghyfreithlon, ac yn cwmpasu naw o nodweddion a amddiffynnir.  Daw’r iaith a ddefnyddir isod yn uniongyrchol o Deddf Cydraddoldeb 2010, er ein bod yn cydnabod, mewn rhai achosion e.e. ailbennu rhywedd, bod iaith hon eisoes yn teimlo fel bod wedi dyddio gan gymunedau a effeithir arnynt gan y Ddeddf.  Rydym wedi cydnabod hynny yn ein disgrifiadau.  Mae hefyd yn bwysig cofio y gall gwahaniaethu ddigwydd pe tybir bod gan rhywun nodwedd warchodedig neu bod y person hwnnw’n gysylltiedig â rhywun sydd â nodwedd warchodedig:

  1. Oedran (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Rob Williams, Prif Swyddog Ariannol)

Mae’r Ddeddf yn amddiffyn pobl o bob oed. Fodd bynnag, nid yw triniaeth wahanol oherwydd oedran yn gamwahaniaethu anghyfreithlon uniongyrchol neu anuniongyrchol os gallwch ei chyfiawnhau (er enghraifft, os gallwch chi ddangos ei bod yn ddull cymesur o gyflawni nod dilys). Oedran yw’r unig nodwedd a amddiffynnir lle gall cyflogwyr gyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol.

  1. Anabledd (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd)

Mae gan berson anabledd os oes ganddynt nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Byddai hyn yn cynnwys pethau fel defnyddio ffôn, darllen llyfr neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar y cyflogwr i wneud addasiadau rhesymol i staff i’w helpu i oresgyn anfantais sy’n deillio o nam (er enghraifft, drwy ddarparu technolegau cynorthwyol i helpu staff â nam ar eu golwg i ddefnyddio cyfrifiaduron yn effeithiol).

  1. Ailbennu rhywedd (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Ruedi Allemann, Dirprwy Is-Ganghellor y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg)

“Mae’r Ddeddf yn amddiffyn unigolion trawsrywiol. Mae person trawsrywiol yw rhywun sy’n bwriadu, sy’n dechrau neu sydd wedi cwblhau proses o newid rhywedd. Bellach, nid yw’r Ddeddf yn gofyn bod person o dan oruchwyliaeth feddygol i gael eu hamddiffyn – felly, er enghraifft, byddai menyw sy’n penderfynu byw fel dyn, ond heb fynd trwy unrhyw driniaethau meddygol, yn cael ei chynnwys. Mae’n gamwahaniaethu i drin unigolion trawsrywiol yn llai ffafriol am fod yn absennol o’r gwaith nag y byddent yn cael eu trin petaen nhw’n absennol oherwydd eu bod yn sâl neu wedi’u hanafu”

Nid diogelir unrhyw ryw heblaw dyn (sy’n cynnwys menyw yn y broses o newid i fod yn ddyn) a menyw (sy’n cynnwys dyn yn y broses o newid i fod yn fenyw) yn benodol o dan gyfraith y Deyrnas Unedig. Maent yn hunaniaethau anneuaidd – er enghraifft, y rheini y mae’n bosibl eu bod yn ystyried nad ydynt yn ddyn neu’n fenyw.  Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod ac yn cefnogi’r holl staff a myfyrwyr sy’n ystyried eu bod yn anneuaidd.

 

  1. Priodas a phartneriaeth sifil (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Jayne Sadgrove, Prif Swyddog Gweithredol)

Mae’r Ddeddf yn amddiffyn cyflogeion sydd wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil rhag camwahaniaethu. Nid yw pobl sengl yn cael eu hamddiffyn.

  1. Beichiogrwydd a mamolaeth (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Claire Saunders, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata)

Caiff unigolion eu hamddiffyn rhag camwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn ystod cyfnod beichiogrwydd ac unrhyw hawl i absenoldeb mamolaeth statudol. Yn ystod y cyfnod hwn, ni ellir trin camwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth fel camwahaniaethu ar sail rhyw. Ni chewch gymryd cyfnod cyflogai o absenoldeb oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniad ynghylch y gyflogaeth.

  1. Hil (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-ganghellor, Rhyngwladol ac Ewrop)

At ddibenion y Ddeddf, mae ‘hil’ yn cyfeirio at grŵp o bobl a gaiff eu diffinio gan eu hil, eu lliw a’u cenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth), a’u tarddiad ethnig neu genedlaethol.

  1. Crefydd neu gred (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu)

O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae gan grefydd yr un ystyr ag arfer ond mae cred yn cynnwys credoau crefyddol ac athronyddol, gan gynnwys diffyg cred (megis Anffyddiaeth) neu fod yn ddi-grefydd. Yn gyffredinol, dylai cred effeithio ar eich dewisiadau mewn bywyd neu’r modd yr ydych yn byw i gael ei gynnwys yn y diffiniad. Diogelir cyflogeion neu geiswyr gwaith os nad ydynt yn dilyn crefydd benodol neu os nad oes ganddynt grefydd o gwbl. Yn ogystal, rhaid bod gan grefydd system gred a strwythur clir. Gellir ystyried enwadau neu sectau oddi mewn i grefydd yn grefydd neu gred grefyddol a amddiffynnir. Gall camwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred ddigwydd hyd yn oed os oes gan y sawl sy’n camwahaniaethu a’r derbynnydd yn un crefydd neu gred.

Nid yw’r nodwedd hon yn cynnwys credoau gwleidyddol, credoau gwyddonol, na chefnogi timau pêl-droed.

  1. Rhyw (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr)

Mae’n bwysig cydnabod bod dynion a menywod yn cael eu hamddiffyn o dan y Ddeddf.

  1. Cyfeiriadedd rhywiol (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Gary Baxter, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.

Ystyr cyfeiriadedd rhywiol yw cyfeiriadedd rhywiol unigolyn tuag at bersonau o’r un rhyw neu rywedd, pobl o’r rhyw neu rywedd arall, neu bobl o’r naill ryw neu rywedd neu’r llall.

Rydym wedi ychwanegu nodwedd arall nad yw’n cael ei hamddiffyn o dan y gyfraith (eto), ond sydd yn ein barn ni yn disgrifio ffynhonnell bwysig o anfantais:

Statws Sosio-economaidd (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – George Boyne, Dirprwy-Is Ganghellor y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol)

Mae statws sosio-economaidd yn cwmpasu nid dim ond incwm ond hefyd cyrhaeddiad addysgol, sicrwydd ariannol a chanfyddiadau goddrychol o statws cymdeithasol.  Mae cyfatebiaeth rhwng statws sosio-economaidd isel a chyrhaeddiad addysgol is, tlodi a iechyd gwael.  Mae dyletswydd foesol a dinesig arnom i geisio rhoi sylw i’r materion hyn.

Gobeithiaf y bydd pawb ohonoch yn ein cefnogi yn ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, nid yn unig oherwydd ein rhwymedigaethau cyfreithiol ond hefyd oherwydd ein hachos moesol neu foesegol.  Creu diwylliant sy’n cydnabod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yw’r peth iawn i’w wneud i alluogi ein staff a’n myfyrwyr i fod pwy ydynt tra’u bod yn gweithio ac astudio.