Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Rhagfyr 2017

Annwyl gydweithiwr

Mae bob amser yn braf gorffen blwyddyn galendr ar nodyn cadarnhaol. Felly, rhyddhad o’r mwyaf (heb gyfrif cywion cyn iddyn nhw ddeor) oedd gweld y llywodraeth yn llwyddo i gytuno ar drefniadau dros dro gyda’r Cyngor a’r Comisiwn Ewropeaidd ym mis Rhagfyr, fel yr oeddem wedi’i obeithio. Mae’r ddogfen yn un eithaf byr a dealladwy ac mae’n datgelu’r newyddion calonogol y bydd statws dinasyddion o wledydd eraill yr UE yn cael ei ddiogelu nes bydd y DU yn gadael yr UE yn ffurfiol. Mae hyn yn golygu na chaiff newidiadau ôl-weithredol eu cyflwyno, fel yr oeddem wedi’i ofni. Yn bwysig iawn i brifysgolion, mae’r ddogfen yn nodi y byddwn yn parhau i allu cymryd rhan yn rhaglenni Horizon 2020 ac Erasmus+ tan ddiwedd cyfnod cyllidebol presennol yr EU ar 31 Rhagfyr 2020. I bob pwrpas, awgrymir y bydd prifysgolion y DU yn parhau i chwarae rhan flaenllaw am 20 mis yn rhagor cyn y dyddiad gadael, ac mae sylwadau gan y Comisiwn wedi cadarnhau hynny. Felly, byddwn yn annog fy holl gydweithwyr academaidd i barhau i gyflwyno cais am raglenni ariannu Ewropeaidd er mwyn i ni fanteisio’n llawn ar allu parhau i gymryd rhan. Mae hyn yn hynod ddefnyddiol gan ei fod yn rhoi rhagor o amser i ni ystyried a thrafod beth fydd y sefyllfa ar ôl y dyddiad hwn. Mae llawer o gwestiynau i’w gofyn a’u hateb o hyd. Fodd bynnag, rydw i’n argyhoeddedig bod ewyllys da a chytundeb ar y naill ochr ynghylch rôl barhaus y DU ym mecanweithiau ymchwil yr UE yn y dyfodol. Felly, mae gobaith o hyd y gallwn gynnal o leiaf rhai o’r manteision presennol, cyn belled â bod modd goroesi rhai o’r rhwystrau niferus (e.e. rhwydd hynt i symud o le i le).

Dros yr wythnosau diwethaf, cawsom hefyd gael y cyhoeddiad hirddisgwyliedig gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) ynghylch rheolau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf. Nid oedd unrhyw beth annisgwyl yn y cyhoeddiad, ac mae’r amod y dylai 100% o’r staff sydd o dan gontract i wneud gwaith ymchwil yn bennaf, yn cyd-fynd â’r strategaeth yr ydym wedi bod ar ei thrywydd ers pum mlynedd. Ein nod yw anelu at gyflawni Cyfartaledd Pwynt Gradd uchel drwy broses gyflwyno ddewisol i REF 2014, cyn mynd ati i gynyddu nifer y staff sy’n cyflwyno. Ein bwriad fyddai cynnal y lefelau a gyflwynwyd gennym yn 2007 (tua 1,200) a chynnal yr ansawdd uchel a gyflawnwyd yn 2014. Mae’r rheol 100% yn cyd-fynd i raddau helaeth â’r ymagwedd hon. Mae’r penderfyniadau eraill yn fân addasiadau i’r cynigion gwreiddiol y bu HEFCE yn ymgynghori arnynt. Un yw isafswm yr allbwn gan bob ymchwilydd a phump yw’r uchafswm fel bod modd cyflawni o leiaf sgôr o 2.5 ar gyfartaledd ar draws y sefydliad. Dyma ddull llawer mwy rhesymegol na’r cysyniad gwreiddiol o gael isafswm o sero ac uchafswm o chwech. Bydd hefyd yn ein galluogi i gyflwyno proffil mwy cynnil o allbynnau ymchwil y sefydliad yn gyffredinol. Cam doeth hefyd yw cael cymhareb astudiaethau achos i nifer y staff, a bydd yn helpu sefydliadau i ganolbwyntio ar ansawdd yr astudiaethau achos. Hoffwn dynnu sylw ei bod yn ofynnol o hyd i gyflwyno allbynnau mewn storfa mynediad agored ddim hwyrach na thri mis ar ôl y dyddiad cyhoeddi cynharaf, os ydynt yn gymwys i’w cyflwyno. Os ydych yn cyhoeddi allbynnau gyda’r bwriad o’u gwneud yn gymwys ar gyfer REF, mae’n hollbwysig eich bod yn eu hychwanegu at ein storfa sefydliadol (ORCA) cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael eu derbyn i’w cyhoeddi, ac yn bendant o fewn yr amserlen a amlinellwyd uchod. Rhaid i ni wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd yn gyson.

Cawsom wybod y mis hwn ein bod ymhlith y 23 o brifysgolion sydd wedi’u dewis i ymuno â rhaglen beilot fisa’r Swyddfa Gartref. Dim ond prifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Imperial a Chaerfaddon oedd yn rhan ohoni’n wreiddiol, felly mae hyn yn newyddion gwych. Bydd yn rhoi hwb sylweddol i brofiad y myfyrwyr rhyngwladol sy’n cyflwyno cais i astudio yng Nghaerdydd a bydd yn gwneud yn haws iddynt weithio yma ar ôl cwblhau eu hastudiaethau. Dim ond dwy brifysgol yng Nghymru sydd wedi’u cynnwys yn ail gam y cynllun peilot hwn — Y Drindod Dewi Sant ar eu campws yn Abertawe yw’r llall. Rwyf wrth fy modd y bydd Prifysgol Caerdydd a’n ymgeiswyr rhyngwladol yn gallu elwa ar y broses newydd hon ac mae’n awgrym pellach bod yr ymagwedd at fyfyrwyr rhyngwladol yn newid yn sylweddol er gwell yn y DU. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith ardderchog ym maes ceisiadau fisa — un o’r prif resymau dros gael ein dewis — yn enwedig Glyn Lloyd (Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol) a June Davies (Swyddog Mewnfudo ar Sail Pwyntiau). Mae’r ddau ohonynt yn gwneud gwaith gwych ar ein cyfer ni, ein hymgeiswyr a’n myfyrwyr.

Mae cael sêl bendith allanol yn bwysig dros ben, ac rydym wedi cael nifer o anrhydeddau dros yr wythnosau. Mae’r rhain yn brawf o’n hymrwymiad fel Prifysgol yn ogystal â llwyddiannau personol arwyddocaol y rhai sy’n cymryd rhan. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am ein hymchwil arloesol ynghylch problemau golwg plant sydd â syndrom Down. Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down o dan arweiniad Dr Maggie Woodhouse sydd wedi cynnal yr ymchwil. Mae’n wych gweld y gwaith pwysig hwn yn cael cydnabyddiaeth a sut mae’n gwella bywydau plant sydd â syndrom Down yn sylweddol. Yn aml, mae gan y plant hyn ystod o anhwylderau llygaid ac mae gwneud diagnosis cywir ohonynt a’u cywiro wedi bod yn dalcen caled.  Yn y cyfamser, fe enillodd Prosiect Phoenix wobr Cydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn yng Ngwobrau Times Higher Education ym mis Tachwedd. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar Namibia ac yn cael ei arwain gan yr Athro Judith Hall. Fe wnaethom hefyd ennill y wobr am Gyfraniad Rhagorol i’r Gymuned Leol am waith Prosiect Treftadaeth CAER. Dr Dave Wyatt sy’n arwain y prosiect hwn ac mae’n cynnwys cymunedau Caerau a Threlái — yn enwedig ysgolion lleol — mewn ymchwil archeolegol i fryngaer bwysig o Oes yr Haearn y mae’r tîm wedi bod yn ei astudio ers rhai blynyddoedd. Llongyfarchiadau mawr i’r ddau dîm. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cael cydnabyddiaeth hefyd am ei gwaith sy’n ymwneud â Brexit a gwleidyddiaeth Cymru yn fwy eang. Cadeiriodd yr Athro Laura McAllister grŵp annibynnol o arbenigwyr etholiadol a seneddol sydd wedi bod yn ystyried rhai cwestiynau anodd ond hollbwysig ynghylch cyfansoddiad y Cynulliad a’r system bleidleisio a ddefnyddir i ethol yr aelodau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun Brexit a’i effaith ar y system ddemocrataidd yn y DU. Os caiff argymhellion yr adroddiad eu rhoi ar waith (ac mae’n anochel y bydd ystyriaethau gwleidyddol o bwys), bydd y goblygiadau yn rhai hanesyddol i Gymru. Hoffwn hefyd longyfarch yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sydd wedi ei enwi’n Gyfathrebwr Gwleidyddol y Flwyddyn gan Gymdeithas yr Astudiaethau Gwleidyddol. Mae’n anrhydedd hynod arwyddocaol, a dyma’r tro cyntaf i ymchwilydd o Gymru ei ennill. Mae’r Brifysgol yn parhau i gael effaith sylweddol yng Nghymru o ran polisïau hefyd. Fe gadeiriodd yr Athro Emma Renold o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol y Panel Arbenigol am Addysg Rhyw a Pherthnasoedd. Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg y Cabinet a sefydlodd y panel ym mis Mawrth 2017 i geisio datblygu addysg rhyw a pherthnasoedd o safon uchel yng nghwricwlwm newydd yr ysgolion yng Nghymru. Er bod rôl gan fioleg, daeth y panel i’r casgliad bod angen rhoi mwy o bwyslais ar emosiynau, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hawliau lleiafrifoedd a pherthnasoedd. Unwaith eto, dyma waith pwysig dros ben a allai gael effeithiau buddiol a phellgyrhaeddol.

Nid wyf am wadu bod 2017 wedi bod yn flwyddyn anodd. Yn ogystal â hynt a helynt Brexit, rydym wedi gweld llu o adroddiadau anffafriol yn y wasg am brifysgolion yn y DU. Rydym yn parhau i geisio dod i gytundeb ynghylch pensiwn USS, ac mae cymorth i fyfyrwyr a dull ariannu prifysgolion erbyn hyn yn faterion gwleidyddol o bwys yn Lloegr, a hynny ar adeg pan oeddem yn teimlo ein bod wedi canfod ateb cynaliadwy yng Nghymru. Wedi dweud hynny, gall Prifysgol Caerdydd fod yn falch o beth ydym wedi’i gyflawni. Ein rôl hollbwysig yn narganfyddiad nodedig y tonnau disgyrchol; cael ein henwi ymhlith 100 prifysgol orau’r byd yn Nhabl Cynghrair o Brifysgolion Gorau’r Byd; cael ein henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru gan The Times and Sunday Times; y brifysgol uchaf unwaith eto ym Mynegai Stonewall o 100 Cyflogwr Gorau’r DU; ennill un o chwe chanolfan Sefydliad Ymchwil Dementia y DU mewn proses hynod gystadleuol: mae’r rhain yn llwyddiannau arwyddocaol a chalonogol ochr yn ochr â’r rhai a amlinellwyd uchod. Llongyfarchiadau a diolch i bawb sydd wedi chwarae rhan.

Rydw i’n ymwybodol y gallwn fod wedi sôn am lu o lwyddiannau eraill hefyd. Mae’r Brifysgol hon yn lle mawr gyda thros 7,000 o staff a thros 30,000 o fyfyrwyr. Mae’r hyn yr ydym yn ei gyflawni yn ymdrech enfawr ar y cyd. Ar ran y Brifysgol, hoffwn ddiolch i’r cydweithwyr fydd wrth law i ofalu am bopeth dros y gwyliau drwy gynnal gwasanaethau hanfodol a chefnogi’r llu o fyfyrwyr fydd yn aros yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod hwn.

Hoffwn ddymuno Nadolig llawen a heddychlon, a Blwyddyn Newydd lewyrchus i chi gyd.

Colin Riordan

Is-Ganghellor