Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mawrth 2018

Annwyl gydweithiwr

Mae mis Mawrth wedi bod yn fis anodd iawn arall i’r prifysgolion sy’n rhan o anghydfod USS, ac mae Caerdydd, wrth gwrs, yn eu plith. Buan iawn y daeth i’r amlwg nad oeddem ni fel cyflogwyr wedi rhagweld pa mor gryf y byddai teimladau pobl ynglŷn â chynnig gwreiddiol UUK, ac roedd symud i’r cam o gynnal trafodaethau gyda chefnogaeth ACAS yn rhan o gydnabod hynny. Daeth pryderon staff Caerdydd yn gwbl amlwg i mi pan gymerais ran yn y sesiwn holi ac ateb a drefnwyd gan UCU ar 5 Mawrth. Rwy’n credu y gallai mwy o gyfleoedd i gyfnewid ein safbwyntiau mewn awyrgylch â llai o densiwn ein helpu i wneud cynnydd, o leiaf o ran deall y gwahanol safbwyntiau. Rydw i wedi bod yn gwneud pob ymdrech i gynrychioli safbwyntiau ein staff i Grŵp Russell ac UUK, ac i Fwrdd Ymddiriedolwyr a Grŵp Gweithredol USS. Rydw i hefyd wedi siarad â dau o’n ASau lleol, Jo Stevens a Stephen Doughty, i drafod sefyllfa ein staff a ffyrdd posibl o rybuddio llywodraeth y DU pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa. Er bod yr anghydfod yn parhau, yn anffodus, ar adeg ysgrifennu’r ebost hwn, efallai bydd y cynnig diweddaraf i adolygu’r dull prisio yn cynnig ffordd ymlaen. Mae hefyd yn ddefnyddiol bod un o’r egwyddorion allweddol –  cadw elfen Budd Diffiniedig ystyrlon yng nghynllun USS – wedi cael ei chydnabod ar gyfer y prisiad hwn. Rwy’n gobeithio nawr bod cyflogwyr yn deall yn well sut mae ein cydweithwyr yn teimlo, a bod dealltwriaeth well yn gyffredinol o’r problemau sy’n gysylltiedig â chynlluniau pensiwn yn y DU. Mae’n bosibl, felly, y bydd modd i ni gydweithio i gael ateb sy’n gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Fe wna i adael hi yn y fan honno am nawr, oherwydd hoffwn roi ychydig o sylw i faterion eraill, ond i gael newyddion, gwybodaeth a safbwyntiau eraill ynglŷn â’r pensiynau, cliciwch ar y ddolen hon.

Mewn newyddion arall, yn gynharach y mis hwn roeddwn i ym Mrwsel i drafod y diweddaraf o ran Brexit â’r Comisiwn ac ASEau. Dywedwyd wrthym fod llawer yn dibynnu ar gytundeb rhwng y ddwy ochr ynglŷn â’r cyfnod pontio (neu weithredu), ac ers hynny mae hyn wedi digwydd, yn rhannol o leiaf. Dylid croesawu hyn, ond mae llawer i’w drafod o hyd ac mae’n annhebygol y byddwn yn gallu cael trafodaethau o bwys ynglŷn â’r sefyllfa ar ôl 2020 hyd nes y bydd cytundeb manylach yn yr hydref. Bydd y trafodaethau hynny’n gymhleth ac mae posibilrwydd cryf y bydd unrhyw gytundeb ar Horizon 2020 ac Erasmus+ yn dibynnu ar ddod i gytundeb boddhaol ynghylch materion eraill fel rhan o becyn, a allai achosi oedi fydd yn ein rhoi dan bwysau amser unwaith eto cyn y bydd Prydain yn ymadael yn gyfan gwbl yn 2021. Mae gwir angen i ni ddatrys materion o’r fath o leiaf 18 mis ymlaen llaw – hynny yw, erbyn canol 2019 fan bellaf – er mwyn osgoi newid sydyn, neu o leiaf bwlch rhwng diwedd Horizon 2020 ac Erasmus+ a’r rhaglenni a ddaw ar eu hôl. Byddai bwlch o’r fath yn anodd ac ni fyddai’n sefyllfa ddelfrydol, a gallai olygu y byddem yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu’n ddigonol â rhaglenni olynol pan fydd gennym fynediad atynt. Ar ben hynny, mae materion cysylltiedig fel treialon clinigol a’r fframwaith diogelu data, a allai gael effaith go iawn ar ymchwil. Mae ewyllys da ar y naill ochr i fynd i’r afael â’r holl gwestiynau hyn a’u datrys, a bydd gennym ddigon o amser i wneud hynny yn ôl pob golwg. Fodd bynnag, mae llawer yn dibynnu ar ddatrys y problemau mawr yn ystod y chwe mis nesaf.

Mae dwy neu dair eitem arall yr hoffwn dynnu eich sylw atynt cyn cau. Rwy’n falch o ddweud bod yr Athro Siladitya Bhattacharya wedi cael ei benodi’n Bennaeth newydd yr Ysgol Meddygaeth. Mae’r Athro Bhattacharya yn dod atom o Aberdeen, lle bu’n Athro Meddygaeth Atgenhedlu, a bydd yn cymryd yr awenau oddi wrth Bennaeth Dros Dro’r Ysgol, yr Athro Ian Weeks, ym mis Mai 2018. Hoffwn estyn croeso cynnes iddo a dymuno pob lwc iddo yn ei swydd newydd, a diolch i’r Athro Weeks am ei waith hanfodol fel pennaeth dros dro.

Efallai y byddwch yn ymwybodol bod y Cyngor, yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, wedi cytuno i roi’r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau tanwyddau ffosil erbyn 2021, ar ôl dod i’r casgliad mai bach iawn fyddai effaith hyn ar ei refeniw buddsoddi. Mae hwn yn rhan o’r ymrwymiad eang i gynaliadwyedd a welir yn ein hymrwymiad strategol i ddechrau rhoi’r gorau i ddefnyddio plastig untro, a bellach mae gennym gynllun gweithredu ar gyfer hyn. Gallwch gael gwybod rhagor yma am y camau y byddwn yn eu cymryd yn ystod y 12 mis nesaf a sut y gallwch chi ein helpu i ddod yn fwy cynaliadwy.

Yn olaf, mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru nawr yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg, o ganlyniad i fenter a ddyfeisiwyd gan Brifysgol Caerdydd sy’n cael ei ariannu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Trefnir y gwersi hyn mewn partneriaeth â Chyngor Ffoaduriaid Cymru ac fe’u cynigir mewn sawl lleoliad o amgylch y ddinas. Eu nod fydd cyflwyno bywyd a diwylliant Cymraeg i’r rhai sy’n cymryd rhan. Dyma un o sawl enghraifft o sut rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau cymdeithasol ac yn rhoi ein cenhadaeth ddinesig ar waith, rhywbeth y mae’n werth ei gofio yn y cyfnod cythryblus hwn.

 

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor