
Annwyl gydweithiwr,
Heddiw, mae aelodau Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) wedi pleidleisio o blaid derbyn cynnig ACAS i gael Panel Arbenigol ar y Cyd.
Mae hyn yn golygu bod yr holl weithredu diwydiannol – gan gynnwys streicio a gweithredu nad yw’n cynnwys streicio yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 16 Ebrill – wedi’i atal ar unwaith.
Rwyf yn croesawu’r penderfyniad a wnaed heddiw yn fawr gan ei fod yn dod â chyfnod anodd i ben i bawb o dan sylw.
Drwy gydol cyfnod y streic, rydym wedi canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod cyfleoedd priodol ar gyfer dysgu ac asesu i’r myfyrwyr hynny sydd wedi’u heffeithio gan y streic h.y. dosbarthiadau a gafodd eu heffeithio neu a amharwyd arnynt. Rydym wedi ceisio hysbysu’r holl fyfyrwyr yn llawn am y sefyllfa a byddwn yn anfon ebost atynt heno i roi’r wybodaeth ddiweddaraf.
Darllenwch y neges gan Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd.
Rwyf hefyd wedi gwahodd myfyrwyr i ymuno â mi mewn cyfarfod agored ar 17 Ebrill.
Hoffwn wahodd staff a allai fod â chwestiynau neu bryderon ynghylch a’r sefyllfa bresennol i ddigwyddiad agored gydag uwch-aelodau staff ddydd Iau 19 Ebrill.
Yn gywir,
Yr Athro Colin Riordan
Is-Ganghellor