Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Ebrill 2018

Annwyl gydweithiwr

Er nad yw’r anghydfod pensiynau wedi’i ddatrys yn llawn eto, mae rheswm i fod yn obeithiol y bydd y cytundeb i atal gweithredu diwydiannol tra bo panel arbenigol yn cael ei gynnull i adolygu prisiad 2017 yn cynnig ffordd gadarnhaol ymlaen. Mae’r wybodaeth allweddol am y cytundeb a’r broses arfaethedig yn y parth cyhoeddus, a’r disgwyl yw y bydd y panel yn adrodd cyn diwedd yr haf i roi amser i USS weithredu unrhyw gynigion erbyn mis Ebrill 2019. Rwyf i’n deall bod y ddwy ochr yn gwneud cynnydd, gyda chymorth ACAS, yn y dasg o ganfod cadeirydd annibynnol (na fydd yn meddu ar bleidlais fwrw). Unwaith y penodir cadeirydd, bydd yn gallu cyfrannu at gytuno ar broses ar gyfer penodi aelodau o’r panel a drafftio cylch gorchwyl cyn bwrw i’r gwaith o ddifrif. Mae hyn yn debygol o gymryd peth amser, ond byddwn yn gobeithio y gallai’r gwaith ddechrau erbyn diwedd mis Mai. Er bod y gweithredu diwydiannol wedi’i atal erbyn diwedd mis Ebrill, penderfynais barhau â dau gyfarfod a gynlluniwyd i drafod y mater; y naill gyda myfyrwyr a’r llall gyda staff. Fy argraff oedd i’r ddau gyfarfod fod yn gyfleoedd adeiladol a defnyddiol i holi ac ateb cwestiynau, a sicrhau dealltwriaeth o’r safbwyntiau gwahanol ar yr anghydfod.

Cyn parhau gyda newyddion arall, byddai’n syniad i mi roi diweddariad i chi ar ein sefyllfa ariannol. Fe fyddwch chi’n gwybod bod cyflwyno’r grant ffioedd dysgu yng Nghymru o 2012 wedi gosod straen sylweddol a chynyddol ar gyllido addysg uwch, sefyllfa oedd angen mynd i’r afael â hi am fod modd rhagweld, hyd yn oed ar y pwynt hwnnw, y byddai’r system dros amser yn mynd yn anghynaladwy. Cydnabu Llywodraeth Cymru hyn drwy gomisiynu adolygiad o ffioedd a chyllido dan arweiniad Syr Ian Diamond, a adroddodd yn 2016 ar ôl deng mis ar hugain o gasglu tystiolaeth ac ystyried. Yn ogystal â darparu system decach i fyfyrwyr, gan wthio adnoddau at y rheini sydd eu hangen fwyaf ar yr adeg mae eu hangen arnynt, mae’r adolygiad yn caniatáu cyllido i brifysgolion godi’n ôl i lefelau cynaliadwy maes o law. Mae costau cychwynnol yr ymagwedd newydd yn gymharol uchel, fodd bynnag, oherwydd am gyfnod bydd y systemau newydd a hen yn gorfod cyd-redeg. Mae pob prifysgol yng Nghymru’n gorfod amsugno rhai o effeithiau’r costau cynyddol hynny. Mae Prifysgol Caerdydd bob amser wedi cyllidebu’n ddigon gofalus i’n galluogi i oroesi cyfnodau anodd, sef yr hyn rydym ni wedi bod yn ei wneud, fel mae’r Prif Swyddog Ariannol, Mr Rob Williams, wedi dangos yn ei anerchiadau i staff ers iddo gyrraedd yma ryw flwyddyn yn ôl. Rwyf i’n deall y pwysau ar gyllid cyhoeddus yng Nghymru, a pham y bu angen lleihau grant y llywodraeth i Brifysgol Caerdydd o £68m yn 2015/16 i £45m eleni. Fodd bynnag, y bwriad bob amser oedd y byddai cyllid yn codi unwaith eto wrth i effeithiau Adolygiad Diamond ddilyn eu hynt. Mae hynny’n dal i fod yn wir, a gallwn ddisgwyl adennill y cyfan ond am £6m o’r gwahaniaeth mewn termau arian parod erbyn 2019/20. Mae diddymu’r cynnydd ffioedd a gyhoeddwyd yn flaenorol i £9,925 y flwyddyn i fyfyrwyr israddedig cartref a’r UE yn creu pwysau ariannol pellach, sydd ond yn cael eu lliniaru’n rhannol gan gyllid cyhoeddus ychwanegol. Nid oes gennym fawr o ddylanwad uniongyrchol dros y pwysau hyn; mae’n bwysig felly ein bod yn sicrhau’r ffynonellau incwm y gallwn ddylanwadu arnynt ac yn rheoli ein costau.

Un maes lle mae gennym ni lefel uchel o reolaeth yw grantiau ymchwil sydd wedi’u dyfarnu. Mae’n eithriadol o bwysig ein bod yn gwario dyfarniadau grantiau yn amserol ac yn unol â gofynion y prosiect. Os nad yw hynny’n digwydd byddwn mewn sefyllfa anffodus o orfod dychwelyd cyllid a ddyrannwyd i’r cyllidwr gwreiddiol. Ambell waith ceir oedi dilys, wrth gwrs; gall fod yn anodd gwneud penodiadau mor fuan ag yr hoffem ni, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod prosesau gweinyddol canolog yn gallu ymdopi’n ddigon cyflym gyda gofynion y deiliad grant. Fe wyddom, serch hynny, bod hwn yn faes y gallwn ei wella ac yn un sydd dan ein rheolaeth ni. Ar yr ochr gadarnhaol mae ein hymchwilwyr wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn ennill dyfarniadau newydd eleni (rhagor am hyn fis nesaf), ac felly os gallwn gynnal yr ymchwil yn ôl y cynllun a’r gyllideb, caiff y broblem hon ei datrys yn raddol.

Maes allweddol arall yw recriwtio myfyrwyr, ac mae bob amser yn dda gallu tynnu sylw at welliant yn ein safle yn y cynghreiriau wrth hysbysu darpar ymgeiswyr. Felly mae codi pedwar safle yn y The Complete University Guide eleni i safle 33 i’w groesawu. Rwy’n gobeithio serch hynny eich bod yn ymwybodol fy mod yn ofalus wrth drin cynghreiriau, gan fod llawer o ffactorau eraill wrth gwrs sy’n effeithio ar ble y gallai darpar fyfyrwyr ddymuno astudio. Mae’n bwysig iddynt gael ymdeimlad da o’r lle y byddant yn byw, y bobl fydd yn eu dysgu ac yn eu cefnogi, a’r cyfleusterau y byddant yn eu mwynhau. Yng Nghaerdydd mae gennym stori dda i’w hadrodd; fel y gwyddom ni i gyd, ar ddiwrnod heulog mae llawer o’n hadeiladau os nad pob un yn rhyfeddol o ddeniadol a gall diwrnod agored llwyddiannus fod yn hynod o bwysig; yn wir dyma’r ffactor anacademaidd pwysicaf i ddarpar fyfyrwyr wrth ddewis prifysgol. Tua diwedd y mis yn ystod diwrnod agored mis Ebrill roeddem i’n ddigon ffodus i fwynhau tywydd annhymhorol o gynnes a godidog. Cyfrannodd cannoedd o staff ar draws y Brifysgol i’r digwyddiad, dan arweiniad y tîm recriwtio myfyrwyr, ac rwyf i’n ddiolchgar i bawb a fu’n cymryd rhan. Croesawom ni 4,600 o ddarpar fyfyrwyr, ynghyd â rhieni a thua 100 o athrawon. Am y tro cyntaf roedd yn bosibl i ni gofrestru pawb wrth iddynt gyrraedd, felly gallwn ni dracio eu llwyddiant yn rhwyddach. Rydym ni wedi cyflwyno llawer o nodweddion eraill yn 2018 i’n helpu i gyflwyno Caerdydd gystal ag y gallwn, gan gynnwys arwyddion a brandio newydd, ap diwrnod agored newydd, mwy o weithgaredd ar Gampws Parc y Mynydd Bychan, sefydlu Marchnad Ffermwyr Glan yr Afon yn y Prif Adeilad a chyflwyno llysgenhadon Cyn-fyfyrwyr. Mae dros 600 o ymwelwyr eisoes wedi rhoi adborth i ni ar y digwyddiad; mae’n hynod o gadarnhaol a gallwch weld ffilm fer ar y datblygiadau newydd yma.

Tra bo hyn i gyd ar waith, mae holl ddigwyddiadau eraill y Brifysgol yn mynd rhagddynt, ac yn eu plith mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) wrth gwrs yn hawlio lle blaenllaw, ac roedd yn dda gweld bod nifer o staff Prifysgol Caerdydd wedi’u penodi’n aelodau o baneli’r REF 2021. Er bod hyn yn faich sylweddol i’r rheini sy’n ymgymryd â’r gwaith, mae’n golygu y bydd gennym ni ymwybyddiaeth dda o’r prosesau dan sylw er yn amlwg cawn ein beirniadu ar ansawdd, ehangder ac effaith ein hymchwil yn unig, fel y bydd yr holl brifysgolion sy’n cymryd rhan. Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) yn llawer mwy dadleuol, ac nid yw eto’n rhan mor sefydlog o weithgaredd y sector, ond fe wyddom eisoes ei fod wedi denu sylw rhyngwladol a beth bynnag yw’r problemau ynghylch y meini prawf a beth sy’n cael ei fesur, bydd yn fanteisiol i ni gymryd rhan yn llwyddiannus. Nid ydym yn rhan o’r peilot ar lefel pwnc, ond mae’n eithriadol o bwysig ein bod yn gwneud gystal ag y gallwn yn yr ymarfer hwn, ac mae gan bawb sy’n cefnogi ein hymdrechion fy nghefnogaeth lawn. Fel gyda’r REF, bydd cylch nesaf y TEF ar ein gwarthaf cyn hir ac mae’n rhaid i ni gynllunio ar ei gyfer nawr.

Mae’n bleser cael cynnig fy llongyfarchiadau personol i Ms Joanne Lamacraft, a enwyd yn Swyddog Diogelwch y Flwyddyn am Wasanaeth Rhagorol yn seremoni wobrwyo Cymdeithas y Prif Swyddogion Diogelwch Prifysgolion (AUCSO) yn gynt y mis hwn. Mae gwaith ein swyddogion diogelwch yn mynd ymhell y tu hwnt i ddiogelwch a gofal am fyfyrwyr, ac mae’r wobr hon yn cydnabod ei gwaith rhagorol a phroffesiynol, yn ogystal â’i chyfraniad i’r gymuned ac i brofiad y myfyriwr.

Yn olaf, er y byddaf yn drist iawn i’w golli, llongyfarchiadau enfawr i’r Athro George Boyne, sydd wedi’i benodi’n Bennaeth ac Is-Ganghellor newydd Prifysgol Aberdeen. Bu George yn gydweithiwr rhagorol ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor cyntaf rhagorol i Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr ond dymunaf y gorau iddo yn ei swydd newydd yn y dyfodol.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor