Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mehefin 2018

Annwyl gydweithiwr

Bu Mehefin yn fis poeth a hir ac roedd hi’n syndod i sylweddoli mai dim ond tair wythnos yn ôl ar 6 Mehefin y lansion ni ein Strategaeth Cynaladwyedd Amgylcheddol newydd, sef un o’n strategaethau galluogi yn Y Ffordd Ymlaen 2018-2023. Cynhaliwyd y lansiad yn ystod Ras Cefnfor Volvo ac roedd yn cynnwys cyflwyniad rhagorol a difyr gan yr Athro Steve Ormerod. Gwnaeth ei arbenigedd ar lygredd plastig mewn afonydd argraff fawr ar y gynulleidfa o wahoddedigion. Roedd y rheini oedd yn bresennol yn cynnwys aelodau o Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cymru, oedd yn croesawu ein hymagwedd rwy’n credu, ynghyd â’r ffordd rydym ni wedi tynnu ein hamcanion strategol o nodau cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.  Dylwn bwysleisio er ein bod yn tynnu sylw at ddileu’r defnydd o blastig defnydd untro’n raddol, mae’r strategaeth wrth gwrs yn mynd llawer ymhellach, gan gynnwys allyriadau carbon, ailgylchu a nifer o faterion cysylltiedig eraill. Gallwch ddarllen y strategaeth yma os oes gennych chi ddiddordeb.

Hefyd ar 6 Mehefin, roeddwn yn bresennol yn seremoni dadorchuddio coron yr Eisteddfod Genedlaethol, a gyflwynir i enillydd un o’r ddwy brif gystadleuaeth lenyddol. Cynhelir yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni, ac fel noddwyr y Goron, ni oedd yn cynnal y seremoni, oedd yn fodd rhagorol i’n hatgoffa o’r diwylliant cyfoethog y mae Cymru yn ymfalchïo ynddi. Mae’r Goron ei hun yn wrthrych hardd (mae i’w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol tan 2 Awst) a gynlluniwyd gan y gemydd cyfoes Laura Thomas ac mae hi, fel y Gadair (a grëwyd gan Chris Williams), yn dyst i’r sgiliau artistig a chrefftus eithriadol sydd i’w gweld yng Nghymru. Ar y nodyn hwnnw, ni allaf feddwl am unrhyw achlysur arall lle y byddai’n cael ei ystyried yn ymddygiad hollol normal nid yn unig i gomisiynu a gwerthfawrogi gweithiau celf newydd, ond hefyd cael darlleniad o gerdd gan ei hawdur (Osian Jones), cân gan ganwr medrus (Steffan Rhys Hughes) a darlith addysgiadol a difyr (gan ein Hathro ni, Dylan Foster Evans, ar hanes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd). Hoffwn yn fawr pe bai mwy o bobl yn Lloegr yn ymwybodol o’r ffordd y caiff llwyddiannau diwylliannol a deallusol eu parchu, ac yn wir eu dathlu, yng Nghymru. I mi mae’n teimlo fel enghraifft gadarnhaol iawn i ni ei gosod.

Ar fater mwy ymarferol ond pwysig serch hynny, rydym ni’n agosáu at gamau olaf y cyfnod recriwtio ar gyfer eleni ac rwyf i’n falch i adrodd y cafwyd o ddeutu 5% o gynnydd yn y ceisiadau cyffredinol i’r Brifysgol a chynnydd o dros 7% yn y nifer o gynigion, gyda chyfanswm o yn agos i 57,000 o geisiadau. Er ein bod wedi gweld gostyngiad bach o tua 3% yn y nifer o geisiadau israddedig, mae ceisiadau i raglenni ôl-raddedig a addysgir wedi codi 19%, sy’n ardderchog. Da yw adrodd bod ceisiadau ymchwil ôl-raddedig wedi codi 26% yn gyffredinol, gyda chynnydd o 44% mewn ceisiadau rhyngwladol, sydd i’w groesawu. Mae’r gwaith mae ein timau recriwtio a phartneriaeth wedi’i wneud ar y cyd ag arweinwyr academaidd rhyngwladol i’w weld yn talu ar ei ganfed yn y maes hwn. Rydym ni wedi tueddu i lusgo gyda cheisiadau ymchwil ôl-raddedig, ond mae’n edrych bellach ein bod ar y ffordd i unioni’r cydbwysedd. Mae’n bosibl fod cyflwyno Ysgoloriaethau Rhyngwladol am Ragoriaeth Ymchwil wedi chwarae rhan yn y gwelliant hwn, a chefais gyfle i gyfarfod â rhai o’r bobl wych o bedwar ban byd sydd wedi derbyn ysgoloriaethau yn gynt yn y mis mewn derbyniad yn adeilad newydd yr Academi Ddoethurol yn Nhŷ’r Fynachlog. Ysbryd y dyfarniad yw caniatáu i fyfyrwyr talentog wneud cynnydd yn eu dewis o raglen ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda ffocws ar greu cysylltiadau rhwng Caerdydd a gwledydd lle nad oes darpariaeth leol ar gael yn rhwydd. Mae’r rhaglen yn fwy na chyfle gwych i fyfyrwyr rhagorol a’u goruchwylwyr; bydd yn helpu i gryfhau ein rhwydwaith byd-eang o gyn-fyfyrwyr, amrywio ein cymuned o ymchwilwyr ôl-raddedig a dangos bod Prifysgol Caerdydd yn ymrwymo i ehangu cyfranogiad ar lefel fyd-eang yn ogystal â lleol.

Ddiwedd mis Mehefin cyhoeddodd Gweinidog y prifysgolion yn Lloegr (a gwyddoniaeth ac arloesi ar draws y DU), Sam Gyimah, her i brifysgolion wneud mwy i gynorthwyo myfyrwyr i ymdrin â materion yn ymwneud ag iechyd meddwl. Rwy’n falch i ddweud bod Prifysgol Caerdydd yn un o dair yn y DU (gyda Phrifysgol Gorllewin Lloegr a Phrifysgol Caerefrog) sy’n peilota fframwaith Stepchange, sy’n golygu bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth strategol yn y sefydliad a sicrhau bod gennym ymwybyddiaeth uchel a’n bod yn monitro ein gweithgarwch yn y maes hwn. Mae llawer ohonom yn dod ar draws achosion cynyddol o broblemau iechyd meddwl yn ein bywydau personol a theuluol, ac rwyf i’n ymwybodol fod staff yn ogystal â myfyrwyr mewn perygl yn hyn o beth. Mae’n anodd gwneud mwy na dyfalu am achosion y cynnydd, sydd i’w weld yn gymdeithasol ac yn systemig, yn ogystal â bod yn gysylltiedig ag achosion unigol. I brifysgolion yn y DU, mae cystadleuaeth gynyddol a’r gofyniad gan lywodraethau i sicrhau gwerth am arian y trethdalwyr, ynghyd â phwysau etholiadol ar y gwleidyddion eu hunain, wedi creu sefyllfa lle mae achosion y straen a’r beichiau cynyddol ar y system yn dod yn anodd eu dirnad, er bod y pwysau eu hunain yn amlwg iawn. Am ein bod yn ymwybodol o’r pwysau hyn – a’r ffaith fod eu hachosion bron yn anweladwy – treuliom ni nifer o flynyddoedd yn gweithio gydag undebau’r campws i ddatblygu’r model llwyth gwaith academaidd a gyflwynwyd yn ystod 2016. Ein nod fu cyflwyno agwedd systematig at ddyrannu llwyth gwaith academaidd, er mwyn gwneud llwythi gwaith yn fwy tryloyw, a darparu ar gyfer cydraddoldeb, cysondeb a thegwch wrth ddyrannu llwythi gwaith i’r holl staff academaidd ym mhob Coleg. Rydym ni wedi mynd i gryn drafferth i ystyried nodweddion sy’n benodol i ddisgyblaethau ac, wrth gwrs, wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ein polisi, sydd i’w weld ar y fewnrwyd. Bydd y gwaith hwn yn parhau i gael ei fireinio.

Fel prifysgol rydym ni’n cymryd llesiant o ddifrif – beth bynnag yw’r amgylchiadau allanol y mae’n rhaid i ni ymdopi â nhw – ac wedi ei fabwysiadu fel un o’n meysydd gweithredu blaenoriaeth yn dilyn arolwg staff 2016. Hoffwn eich sicrhau fel Is-Ganghellor bod y gwaith hwn yn parhau’n flaenoriaeth uchel i fi, a byddwn yn annog cydweithwyr i gymryd pob gwyliau sy’n ddyledus iddyn nhw a siarad â’u rheolwr llinell os oes ganddynt bryderon am eu llwyth gwaith. Mae angen hefyd i ni ganolbwyntio ar ffyrdd y gallwn sicrhau nid yn unig bod y gwaith yn cael ei ddosbarthu’n deg, ond ein bod yn gweithredu mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. Dylem ni fod yn ystyried a allwn ni ddod o hyd i ffyrdd o gynnal asesiadau sy’n deg i’n myfyrwyr ac yn fwy hylaw i’r staff academaidd ymdopi â nhw. Mae angen i ni ystyried a oes prosesau gweinyddol y gellid eu mireinio a’u gwella, ac a oes modd mynd ati’n gymharol rwydd i awtomeiddio gweithdrefnau gweithrediadol sylfaenol sydd ar hyn o bryd yn cynnwys nifer o gamau, defnyddio copi caled ac ati. Rwy’n ddiolchgar am yr awgrymiadau rwyf i wedi’u derbyn am y materion hyn yn dilyn negeseuon ebost blaenorol, ac rwyf i bob amser yn croesawu mwy, felly os oes gennych chi syniad a allai fod yn ymarferol, cysylltwch â fi yn ddi-oed.

Yn olaf, efallai eich bod yn gwybod bod ein Prif Swyddog Gweithredol, Ms Jayne Sadgrove, wedi cyhoeddi yn gynharach y mis hwn ei bod yn bwriadu ymddeol y flwyddyn nesaf. Mae Jayne wedi gwneud gwaith rhagorol yn arwain a datblygu’r Gwasanaethau Proffesiynol yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd ddiwethaf, ar ôl gwasanaethu’n flaenorol fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol. Rwy’n hynod o ddiolchgar i Jayne am ei chymorth rhagorol, ac yn dymuno’n dda iddi at y dyfodol gan edrych ymlaen at weithio gyda hi am weddill ei chyfnod yn ei swydd. Rwyf i hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd yr Athro Damian Walford Davies, Pennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ar hyn o bryd, yn ymgymryd â swydd Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym mis Gorffennaf. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Damian a llongyfarchiadau iddo ar ei lwyddiant.

 

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor