Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Tachwedd 2018

Annwyl gydweithiwr

Yng nghyfarfod y Cyngor ar 26 Tachwedd, cytunwyd ar Gynllun Diswyddo Gwirfoddol ar draws y Brifysgol gyfan. Agorir y ceisiadau ar gyfer y cynllun ar 3 Ionawr, a bydd ar agor tan ddiwedd mis Mai. Rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol bod y Cyngor yn disgwyl i’r Brifysgol symud o fod â diffyg o £21m yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, i warged o £24m ymhen dwy flynedd. Mae hwn yn darged heriol, ond yn un sy’n gyraeddadwy cyhyd a’n bod yn cymryd ymagwedd strategol, yn parhau i ganolbwyntio ar amcanion y Ffordd Ymlaen 2018-23, yn ogystal â chydnabod bod rhaid i ni weithredu’n wahanol yn yr amgylchedd newydd hwn. O ganlyniad i’r rhesymau a nodir yn fanylach yma, hanfod hyn oll yw bod ein hincwm wedi cynyddu 2.5% yn unig y llynedd, tra bod ein gwariant wedi cynyddu 5.2%. Rwy’n siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi, nid yw hon yn sefyllfa gynaliadwy. Er mwyn rhoi’r newid angenrheidiol ar waith yn strategol, a gwneud yn siŵr bod y Brifysgol yn parhau i lwyddo, rydym yn datblygu cynigion trwy raglen Trawsffurfio Caerdydd i’w cyflwyno gerbron y Cyngor i’w hystyried yn y Flwyddyn Newydd. Bydd y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol yn rhan bwysig o’r broses, ond bydd y rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cwmpasu amrywiaeth eang o weithgarwch. Bydd pum thema: newid sefydliadol, addysg, ymchwil, rhesymoli ystadau a’r rhaglen Trawsffurfio Gwasanaethau sy’n parhau. Mae rhai agweddau o’r ymdriniaeth hon yn cynnwys dod â gweithgareddau sy’n bodoli eisoes ynghyd, megis REF Treigl a Trawsffurfio Gwasanaethau, a gwneud yn siŵr bod y camau amrywiol yn cydlynu’n briodol fel bod modd cyflawni’r gwelliannau ariannol angenrheidiol a’n hamcanion strategol ill dau. Rydym ni’n gweithio gydag undebau’r campws, a byddwn yn parhau i wneud hynny, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cael eu mewnbwn wrth ddatblygu’r cynigion. Ar ôl i’r Cyngor gytuno ar y cynigion llawn, byddant yn cael eu dosbarthu’n eang er mwyn ymgynghori yn eu cylch yn ystyrlon. Mae’n bwysig iawn bod unrhyw gynigion sy’n cael eu cyflwyno er mwyn ymateb i’r heriau a osodwyd gan y Cyngor yn rhai cadarn, teg ac ymarferol.

Fel rwyf wedi sôn droeon dros y blynyddoedd diwethaf, ceir nifer helaeth o risgiau yn yr amgylchedd allanol ar hyn o bryd. Tri o’r prif heriau yw cynnydd yng nghostau pensiwn, canlyniad Adolygiad Augar yn Lloegr, a Brexit. Ni wnaf ymhelaethu ar y ddau gyntaf yn yr ebost hwn, ond o ran Brexit, nid yw’n glir wrth i mi ysgrifennu’r neges hon beth fydd canlyniad y cytundeb rhwng y Prif Weinidog a’r Undeb Ewropeaidd. Pe gwrandewir ar yr holl ragfynegiadau, ymddengys mai ychydig iawn o obaith sydd i’r cytundeb gael cefnogaeth y Senedd. O ystyried ein sefyllfa bresennol, rwyf o’r farn bod angen cymaint o ddilyniant â phosibl ar y Brifysgol. Yn benodol, byddai’n fanteisiol gallu aros yn rhan o raglenni Erasmus+ a Horizon 2020 nes y byddant yn dod i ben a chael y cyfle i drafod y posibilrwydd o allu parhau i ddefnyddio’r rhaglenni fydd yn eu dilyn yn y dyfodol. Os nad oes modd gwneud hynny (fel y dywedais mewn ymateb i ymholiad gan y cyfryngau yn ddiweddar), byddai’r Brifysgol ar ei hennill o gael ail refferendwm. Y posibilrwydd o adael yr UE mewn modd anhrefnus am 11pm 29 Mawrth yw’r sefyllfa leiaf derbyniol o safbwynt y Brifysgol o bell ffordd. Byddai’r ansicrwydd posibl i staff a’n myfyrwyr, yn ogystal â’n hymchwil, addysgu, teithio a recriwtio, yn ychwanegu’n sylweddol at y llu o heriau yr ydym eisoes yn eu hwynebu. Beth bynnag fydd yn digwydd, byddwn yn wynebu gwahanol raddau o ansicrwydd dros y misoedd nesaf. Hyd yn oed os bydd y llywodraeth yn llwyddo’n annisgwyl, pan ddaw’r amser i bleidleisio dros y cytundeb arfaethedig yn y Senedd ar 11 Rhagfyr, bydd yn esgor ar rownd newydd o drafodaethau ynghylch sut berthynas fydd gennym ar ôl gadael yr UE, ac ni all unrhyw un ddarogan beth fydd goblygiadau hynny.

Yn y cyfamser, yma yng Nghaerdydd roeddwn i wrth fy modd yn gweld bod un o’n recriwtiaid diweddaraf i’r grŵp Tonnau Disgyrchol yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Dr Katherine Dooley, wedi derbyn Gwobr nodedig Philip Leverhulme. Dyfernir y wobr o £100,000 am waith gwyddonol ar ddechrau gyrfa ‘sydd wedi cael effaith sylweddol yn rhyngwladol’. Mae hyn yn gyflawniad eithriadol a hoffwn longyfarch Katherine, sydd wedi dod i Gaerdydd i’n helpu ni i ddatblygu’r gwaith offeryniaeth yr ydym wedi’i gyflwyno. Nod y gwaith yw ychwanegu dimensiynau pellach i’r cyfraniad damcaniaethol hollbwysig y mae grŵp Tonnau Disgyrchol Caerdydd wedi’i wneud i’r canfyddiad hanesyddol sylweddol cyntaf yn 2015. Gan aros ym maes ymchwil, mae Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau yr Unol Daleithiau wedi mabwysiadu Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais a ddatblygwyd gan yr Athro Jonathan Shepherd. Mae gwaith yr Athro Shepherd a’i dîm wedi bod yn un llwyddiant trawiadol ar ôl y llall ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae’n un o’r tlysau yng nghoron y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch, sydd yn ei dro yn cael effaith enfawr mewn amrywiaeth o ffyrdd ar draws y byd. Nid yn unig bydd y defnyddio Model Caerdydd yn yr Unol Daleithiau yn help mawr wrth ymdrin â phroblemau anodd iawn a achosir gan drais mewn cymdeithas, ond bydd ei weithredu’n eang yn y ffordd hon yn creu data amhrisiadwy a fydd yn caniatáu i’r ymchwil ddatblygu hyd yn oed ymhellach a chynyddu effeithiolrwydd y model.

Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi penodi ein Deon cyntaf ar gyfer yr Iaith Gymraeg yn ddiweddar, Dr Huw Williams, o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. P’un a ydych yn darllen hwn yn Gymraeg neu’n Saesneg, rwy’n gobeithio eich bod chi’n cytuno ei fod yn hanfodol bod iaith ein gwlad yn cael ei chynrychioli’n briodol yn y Brifysgol. Rhaid i ni gymryd yr holl gamau posibl i wneud yn siŵr ein bod ni nid yn unig yn cydymffurfio â’n cyfrifoldebau cyfreithiol yn hyn o beth, ond ein bod ni’n dathlu ac yn meithrin y diwylliant ieithyddol rhyfeddol o gyfoethog sydd gennym yma. Rwy’n siŵr y bydd eraill yn cytuno â mi bod dysgu Cymraeg yn hwyl ac yn ddiddorol. Fodd bynnag, yn llawer pwysicach na hynny, rhaid gwneud yn siŵr fod gennym strategaeth addysgu gadarn trwy gyfrwng y Gymraeg a’n bod, er enghraifft, yn gweithio mor agos â phosibl gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dylwn grybwyll hefyd yn y cyd-destun hwn y bydd Huw yn gweithio’n agos gyda’r Athro Damian Walford-Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Yn olaf, hoffwn estyn croeso cynnes i Ms Deborah Collins, fydd yn ymuno â ni fel ein Prif Swyddog Gweithredu ar 21 Ionawr 2019, gan olynu Ms Jayne Sadgrove, sydd yn ymddeol cyn hir (bydd gen i fwy i’w ddweud am Jayne fis nesaf). Mae Deborah yn dod â chyfoeth o brofiad proffesiynol o’i hamser yng Ngwasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth a’i rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Strategol Materion yr Amgylchedd a Hamdden yng Nghyngor Southwark. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda hi wrth i ni wynebu’r heriau a’r cyfleoedd o’n blaenau.

Dymuniadau gorau

 

Colin Riordan

Is-Ganghellor