Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Ionawr 2019

Annwyl gydweithiwr

Gyda Brexit yn cael cymaint o’n sylw (rhywbeth y bydda i’n ei drafod nes ymlaen), efallai y byddwch yn fodlon i mi ddechrau ebost y mis hwn drwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Trawsffurfio Caerdydd.

Erbyn hyn, mae Bwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi cyflwyno papur swyddogol am y pwnc i’w ystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Chwefror. Bydd y papur yn egluro i ba gyfeiriad y bydd Trawsffurfio Caerdydd yn ein tywys. Fel y gwyddoch, nod y rhaglen yw helpu’r Brifysgol i fod yn gynaliadwy yn ariannol mewn amgylchiadau anodd, a llwyddo i gyflawni’r dyheadau a nodwyd yn Y Ffordd Ymlaen, 2018-23. Roedd y ddogfen honno yn destun ymgynghoriad dwys ac eang am gyfnod o ddwy flynedd. Felly, er gwaethaf yr amgylchiadau ariannol, mae’n bwysig ein bod ni, fel cymuned y Brifysgol, yn cyflwyno’r gwelliannau a nodwyd yn y ddogfen o ran ein hymchwil, dysgu ac addysgu, ac ym meysydd arloesedd, cenhadaeth ddinesig a gweithgareddau rhyngwladol.

Wrth gwrs, bydd angen sêl bendith y Cyngor cyn cyflwyno papur Trawsffurfio Caerdydd, ac ni fyddai’n briodol i mi fynd i fanylion cyn iddo gael ei ystyried, ond bydd yn dangos sut rydym yn bwriadu lleihau ein diffyg gweithredu eleni a bod mewn gwarged yn 2019-20. Fel yr wyf wedi sôn o’r blaen, er nad oes modd gwarantu na fydd diswyddiadau gorfodol yn y dyfodol, ein nod yw cyflawni ein hamcanion drwy ddulliau gwirfoddol os oes modd.  Fel y byddwch yn gwybod, agorodd y cynllun diswyddo gwirfoddol ar 3 Ionawr a bydd yn parhau i fod ar agor tan ddiwedd Mai, a byddwn yn gallu adolygu’r sefyllfa wedi hynny. Bydda i ac aelodau eraill o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol yn cwrdd â Phenaethiaid a Rheolwyr Ysgolion ar ôl cyfarfod y Cyngor, a bydd Deborah Collins, ein Prif Swyddog Gweithredu newydd, yn cynnal digwyddiad ar gyfer Rhwydwaith Arweinyddiaeth y Gwasanaethau Proffesiynol. Ar ben hynny, byddwn yn cynnal tri digwyddiad ar gyfer yr holl staff ynghylch Trawsffurfio Caerdydd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Chwefror. Bydd dau o’r rhain yn Cathays, a’r llall yn y Mynydd Bychan. Mae’r manylion ar y fewnrwyd ac wedi’u cyhoeddi yn Blas hefyd. Bydd yn bwysig dros ben gwrando ar safbwyntiau a theimladau cydweithwyr a myfyrwyr ledled y Brifysgol, a’u deall. Bydd digonedd o gyfleoedd eraill i gyflwyno sylwadau ar unrhyw gynigion a allai gael eu cynnig a’u gwella wrth eu datblygu ymhellach. Yn benodol, hoffwn eich sicrhau y bydd eich llwyth gwaith, a lles staff yn gyffredinol, yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr yn y dyfodol, a bydd yn rhan annatod o raglen Trawsffurfio Caerdydd. Mewn gwirionedd, mae gwella prosesau a gweithdrefnau er mwyn lleihau llwyth gwaith yn rhan bwysig o’r elfen trawsffurfio gwasanaethau yn Trawsffurfio Caerdydd, ac rydym eisoes wedi lansio adolygiad o’n model llwyth gwaith (cewch wybod rhagor yma).

Rwy’n siŵr y byddwch yn awyddus i wybod hefyd pa baratoadau rydym yn eu gwneud os na fydd cytundeb ynghylch Brexit o ystyried y broses wleidyddol sydd ohoni. Yn y lle cyntaf, hoffwn ddweud ein bod yn paratoi cynlluniau wrth gefn yn rheolaidd os oes angen ymateb gan y Brifysgol gyfan. Felly, bydd ein paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o ddim cytundeb yn seiliedig i raddau helaeth ar gynlluniau sydd eisoes yn bodoli. Y flaenoriaeth gyntaf yw lles unrhyw staff sy’n ddinasyddion o wledydd eraill yn yr UE. Rydym eisoes wedi rhoi arweiniad a chefnogaeth ynghylch sut i wneud cais am statws sefydledig, a byddwn yn parhau i gynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl yn ystod y cyfnod anodd ac ansicr hwn. O ran y myfyrwyr, rydym yn cydweithio’n agos â’n partneriaid Erasmus+ ac asiantaethau perthnasol i wneud yn siŵr bod y myfyrwyr sydd ar raglenni cyfnewid Erasmus yn cael eu diogelu. Rydym yn disgwyl cael arweiniad ynghylch unrhyw gamau y bydd angen i ni eu cymryd mewn cysylltiad â myfyrwyr o wledydd eraill yr UE sy’n awyddus i ennill gradd. Mae cydweithwyr o’r gwasanaeth Caffael yn ystyried goblygiadau methu dod i gytundeb ar gyflenwi nwyddau a gwasanaethau, ac maent yn cymryd rhagofalon lle ystyrir bod hynny’n ddoeth. O ran sut gallai hyn effeithio ar deithio, ni fyddwn yn gwybod beth fydd y risg tan yn nes at yr amser, a byddwn yn gwneud unrhyw baratoadau yn unol â hynny. O ran arian ymchwil yr UE, rydym yn cydweithio’n agos â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i fanteisio ar ffynonellau Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Rydym hefyd yn gwneud yn siŵr bod ein ceisiadau i Lywodraeth y DU sy’n cadw golwg ar arian Horizon 2020 yn parhau’n gyfredol. Rydym yn disgwyl cael rhagor o fanylion am warant y Trysorlys (a gyhoeddwyd yn 2016) fydd yn sicrhau’r arian ar gyfer prosiectau Horizon 2020 a rhaglen Erasmus+ os na fydd cytundeb. Mae’r Grŵp Cynlluniau Wrth Gefn ar gyfer Brexit yn ystyried y materion hyn yn rheolaidd ac yn cynnal cofrestr fanwl o risgiau, ond rhowch wybod os oes gennych unrhyw bryderon neu awgrymiadau penodol. Fe wnes i gwrdd â grŵp o academyddion yn gynharach y mis hwn i drafod rhai o’r problemau sy’n ymwneud â Brexit, felly rwy’n ymwybodol o’u pryderon ac rydym yn gwneud popeth posibl i liniaru’r risgiau a wynebwn.

Ar nodyn hapusach, roeddwn wrth fy modd bod Prifysgol Caerdydd wedi codi i’r 11eg safle yn arolwg blynyddol Stonewall o 100 cyflogwr gorau’r DU i bobl LGBT+. Rydym wedi codi tri lle o gymharu â’r llynedd ac rydym yn parhau i fod yn y safle uchaf o blith prifysgolion y DU ar y rhestr. Llongyfarchiadau mawr i bawb sy’n gysylltiedig. Roedd hefyd yn braf gweld bod Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar wedi gwrthdroi collfarn mewn achos a gynhaliwyd yn 2008.  Roedd dwsinau o fyfyrwyr, gyda chymorth pro bono dau fargyfreithiwr sy’n gynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, ymysg y rhai fu’n gyfrifol am helpu i wrthdroi’r gollfarn. Dyma’r ail gollfarn i Brosiect Dieuogrwydd Caerdydd helpu i’w wrthdroi, a hyd yma, ni yw’r unig Brosiect Dieuogrwydd gan un o Brifysgolion y DU i wneud hynny.

Hoffwn longyfarch y cydweithwyr canlynol a gafodd eu henwi yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Llongyfarchiadau i’r Athro Nicola Phillips, OBE, am ei gwasanaeth ym maes ffisiotherapi, i’r Athro Barbara Ryan, MBE, am ei gwasanaeth ym maes optometreg, ac i’r Athro Derek Jones, MBE, am ei wasanaeth ym maes delweddu meddygol a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o’r gwyddorau. Mae pob un ohonynt yn glod i Brifysgol Caerdydd ac rydw i’n eu llongyfarch yn fawr ar eu rhagoriaeth. Mae’r Athro Bernhard Schutz o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi cael anrhydedd hynod fawreddog Medal Eddington am ei waith arloesol ym maes tonnau disgyrchiant. Mae’r gwaith hwn wedi helpu i ddangos pa mor bwysig yw dysgu sut i’w canfod er mwyn gwella ein dealltwriaeth o hanes y bydysawd. Mae’r Athro Schutz yn llawn haeddu’r anrhydedd hon ac mae’n brawf pellach o’i rôl hollbwysig wrth arwain y darganfyddiadau yn y maes hwn sy’n torri tir newydd. Ar ran y Brifysgol, hoffwn longyfarch yr Athro Schutz a diolch iddo am yr arbenigedd y mae’n ei roi i ni.

Yn olaf, gair o groeso. Mae Ms Deborah Collins yn ymuno â ni o Gyngor Southwark i fod ein Prif Swyddog Gweithredu newydd, fel y soniais uchod. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda Deborah a dymunaf bob llwyddiant iddi yn ei rôl newydd. Ac mae’n bleser gen i groesawu ein Canghellor newydd, y Farwnes Jenny Randerson. Mae’r Farwnes Randerson yn ein hadnabod yn dda a hithau wedi cael Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn 2011, ac mae wedi bod yn Rhag Ganghellor ers 2017. Ar ran y Brifysgol, hoffwn longyfarch Jenny, a diolch a dymuno’n dda iddi. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda hi.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-ganghellor