Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Chwefror 2019

Annwyl gydweithiwr

Prin y gallaf gredu wrth ysgrifennu’r ebost hwn ddiwedd mis Chwefror 2019 – gydag ychydig dros fis i fynd cyn bod disgwyl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd – ein bod yn dal i droi yn yr unfan o ran Brexit. I bob golwg, mae hi wedi mynd yn nos ar y broses benderfynu yn ein system wleidyddol, ac ni all ein llywodraeth ni ein hunain, hyd yn oed, roi gwybod a fydd yn rhaid i ni fynd i’r afael â chyfres o sefyllfaoedd o bwys mawr, fydd yn tarfu, o fewn ychydig wythnosau. O ran Prifysgol Caerdydd, mae gennym gynlluniau manwl, bellach, ar gyfer y prif broblemau y gallwn eu rhagweld yn wyneb methiant i ddod i gytundeb, ac yn sgîl dod â phrosesau a chytundebau cyfreithiol i ben yn sydyn iawn. Yn ddiamheuol, fodd bynnag, byddai gorfod rhoi’r cynlluniau hynny ar waith yn beth hynod annymunol a chostus. Yn fy marn bersonol i, rydym wedi mynd heibio i’r pwynt di-droi’n-ôl a’r unig gam synhwyrol, bellach, yw gofyn am oedi darpariaethau Erthygl 50, a rhoi dwy flynedd arall i ni fel aelod-wladwriaeth i bennu’n eglur yr hyn y dymunwn i’r berthynas fod, yn y dyfodol. Hyd yn oed os gellir dod o hyd i ateb i’r broblem o ran y ffin yn Iwerddon dros yr ychydig wythnosau nesaf – ac mae hynny’n go annhebygol – yn syml, ni fydd digon o amser i wneud yr holl newidiadau deddfwriaethol a chael y gymeradwyaeth y byddai’n rhaid ei chael gan y naill ochr a’r llall er mwyn rhoi cytundeb gadael y Llywodraeth ar waith mewn modd synhwyrol, wedi’i reoli. Mae’n argoeli y byddai rhywfaint o oedi’n anochel o dan amgylchiadau o’r fath, hefyd. Byddai oedi mwy estynedig yn caniatáu amser i’r Senedd bresennol yn San Steffan i drafod a phleidleisio ynghylch nifer o opsiynau ar gyfer dod i gytundeb heblaw’r cytundeb presennol, neu ddim cytundeb o gwbl, neu gynnal ail refferendwm neu etholiad cyffredinol. Mae’n bryd i Senedd San Steffan a’r pleidiau gwleidyddol roi lles y wlad yn gyntaf, a chydnabod y byddai’r tarfu a’r ansicrwydd eang yn sgîl gadael heb gytundeb yn ei beri yn annioddefol mewn gwladwriaeth fodern. Gyda lwc, bydd y rheiny a etholwyd gennym i’n cynrychioli yn cydnabod ar y cyd bod ganddynt ddyletswydd i ddiogelu buddiannau pobl y wlad hon, a gweithredu’n unol â hynny.

Mae’r hyn sydd o dan reolaeth y llywodraeth, hyd yn oed, yn peri rywfaint o bryder. Hyd yn hyn, ni ddatgelwyd ffurf a gweithrediad y gronfa arfaethedig, Cronfa Ffyniant y DU, fyddai’n disodli Cyllid Datblygu Rhanbarthol Ewrop oedd yn ein cyrraedd drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Roedd y cyllid hwnnw’n werth miliynau o bunnoedd i gefnogi ymchwil ac isadeiledd Prifysgol Caerdydd. Er i’r Trysorlys gynnig sicrwydd, os na fydd cytundeb, y bydd yn ariannu prosiectau ymchwil Horizon 2020 a chytundebau Erasmus sydd wedi’u llofnodi erbyn i ni adael, ni chafwyd ymrwymiad i ariannu rhaglenni eraill i ddisodli’r rhai hyn cyn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant a ddisgwylir eleni. Byddai hynny’n gadael bwlch ariannu a threfnu sylweddol o ran ymchwil ryngwladol a symudedd myfyrwyr. Mae’r Papur Gwyn Mewnfudo yn dangos bwriad y Llywodraeth i drin pob un o fyfyrwyr yr UE fel myfyrwyr rhyngwladol o 2021 ymlaen, ac mae cael gwybod hynny’n help, o leiaf. Ni ellir dweud yr un peth am y cynnig i roi caniatâd i aros dros dro am 36 mis yn unig i fyfyrwyr yr UE sy’n dod atom ni ar ôl Brexit. Byddai myfyrwyr ar raglenni sy’n para’n hirach na thair blynedd yn cael eu gwthio ar y llwybr Haen 4 tuag at ddiwedd eu hastudiaethau, law yn llaw â’r holl ansicrwydd y byddai hynny’n ei olygu. Mae hyn yn codi cwestiwn ynglŷn â phryd bydd y llywodraeth yn cydnabod bod modd parchu canlyniad y refferendwm a gadael yr Undeb Ewropeaidd heb adael Undeb y Tollau (sydd wrth wraidd y broblem â’r ffin yn Iwerddon) neu’r Farchnad Sengl (sydd wrth wraidd y problemau mewnfudo a amlygwyd uchod). Eto, fel mae pawb yn gwybod, mae’r sefyllfa’n parhau i fod yn hynod newidiol a bydd unrhyw un o blith ystod o ganlyniadau’n bosibl hyd nes y bydd penderfyniad pendant yn cael ei wneud.

Gan symud ymlaen i faterion mwy lleol, diolch i’r 800 a mwy o staff wnaeth fynd i un o’r tri digwyddiad Trawsffurfio Caerdydd a gynhaliwyd tuag at ddiwedd y mis. Os nad oeddech wedi gallu mynd i’r digwyddiadau, ond hoffech wybod beth ddigwyddodd, gallwch wylio’r fideo yma. Cynhaliwyd digwyddiad i fyfyrwyr hefyd, ac at ei gilydd, atebais gwestiynau a gwrandawais ar safbwyntiau ynglŷn â’r rhaglen mewn 8 digwyddiad yn ystod yr wythnos honno, gan gynnwys y Senedd. Mae pawb wedi cael copi o’r papur y cytunodd y Cyngor arno, felly byddwch yn ymwybodol o’r pwyntiau allweddol. Roedd yn eithriadol o bwysig sicrhau cytundeb i gyrraedd y sefyllfa ariannol y mae’r Cyngor yn ei disgwyl dros gyfnod o 5 mlynedd, yn hytrach na mewn cyfnod llawer byrrach, a allai darfu, ac rydym o’r farn y byddwn yn gallu mireinio’r broses o reoli costau er mwyn i ni allu parhau i gyflawni ein hamcanion strategol, a hynny wrth gadw’r llwyth gwaith dan reolaeth. Rydym eisiau cyflawni hynny drwy ddiswyddo gwirfoddol a rheoli recriwtio ar un llaw, a thrwy newid y modd rydym yn trefnu a chynnal ein gwaith ymchwil, dysgu ac addysgu a gwasanaethau proffesiynol ar y llaw arall. Mae’r pwynt olaf yn hynod bwysig, dyma’r rheswm dros gyflwyno rhaglen o newid wedi’i reoli, yn hytrach na dim ond rheoli costau. Y gwir amdani yw bod ein sylfaen costau wedi tyfu’n gyflymach na’n hincwm, nid am fod y costau y tu hwnt i reolaeth (maent wedi codi’n sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf), ond am fod incwm wedi gostwng ddwy flynedd yn ôl, ac ond wedi tyfu’n araf ers hynny. Mae rhesymau i ddisgwyl y bydd twf mewn incwm yn cynyddu yn ei dro, ond mae cryn bwysau o ran costau, ac mae’n rhaid i ni ymateb i hynny drwy reoli’r pwysau gymaint ag y gallwn, yn gyson â chyflawni ein hamcanion strategol a tharfu cyn lleied â phosibl. Mae’n rhaid i ni wneud hynny tra’n cynyddu incwm â phob dull y gallwn ei ddefnyddio. Mae’r union fodd y byddwn yn gwneud hynny’n dal i fod yn destun trafod ac ymgynghori byw, a’r hyn sydd nesaf ar y rhestr yw ymgysylltu â staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid.

Y newyddion arall i’w rannu yw y bu’n bleser croesawu Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth newydd y DU, Chris Skidmore AS, i’r Brifysgol fis diwethaf, a’i dywys o gwmpas y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Cafwyd cyflwyniad ardderchog gan yr Athro Peter Smowton. Bu’n gosod rhai materion technolegol cymhleth mewn cyd-destun strategol ehangach o ran pwysigrwydd arloesedd wrth ddatblygu a chynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd, ac roedd gallu trafod perthynas Prifysgol Caerdydd â gwaith ymchwil yn y DU gyfan yn fuddiol. Roedd yn foddhad mawr cael gwybod hefyd am lwyddiant ein cais am Ganolfan Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ar gyfer Hyfforddiant Doethurol ym maes Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Bydd y ganolfan honno’n cefnogi bywiogrwydd a chynaliadwyedd y maes gweithgarwch pwysig hwn. Roedd yn destun balchder i ni hefyd yn gynharach y mis hwn i groesawu Ciaran Martin, pennaeth Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) y DU – rhan o Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU (GCHQ) – ar ei ymweliad â’r Brifysgol. Rydw i wedi sôn o’r blaen ein bod yn un ymhlith dim ond 16 o Ganolfannau Rhagoriaeth Academaidd y DU ym maes seiberddiogelwch sydd wedi eu cydnabod gan NCSC. Eto, mae hwn yn faes sy’n gynyddol bwysig a hanfodol, fel mae’n siŵr ein bod i gyd yn cydnabod, ac rydym yn ddiolchgar am y gydnabyddiaeth a gawsom ar gyfer ein rôl wrth ddeall sut i amddiffyn y DU, ei phobl a’i sefydliadau yn erbyn ymosodiadau seiber dinistriol.

Go debyg y cofiwch fod y Genhadaeth Ddinesig yn un o’r pum strategaeth sy’n ganolog i’r Ffordd Ymlaen 2018-23, ein strategaeth pum mlynedd fel Prifysgol. Yn unol â hynny, rydym wedi ymuno â 30 o sefydliadau eraill i gefnogi ‘Cytundeb Prifysgol Ddinesig’ ar y cyd â llywodraeth leol, a sefydliadau mawr eraill. Mae’r cytundeb newydd yn argymhelliad allweddol mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Prifysgol Ddinesig, a sefydlwyd gan Sefydliad UPP ac sydd wedi’i gadeirio gan gyn-bennaeth y Gwasanaeth Sifil, yr Arglwydd Kerslake. Nid yw hyn yn beth newydd i ni, wrth gwrs; mae ein rhwymedigaethau dinesig wedi bod o bwys mawr i ni erioed, ac roedd ymgysylltu’n elfen allweddol o’r Ffordd Ymlaen flaenorol. Yn yr ysbryd hwnnw, roeddwn yn falch yn gynharach y mis hwn i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog sy’n cadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd ac a fu’n gwasanaethu yn y gorffennol, a’u teuluoedd. Y diben yw gwneud yn siŵr eu bod yn cael pob chwarae teg, ac nad ydynt o dan anfantais. Fe wnes i fwynhau cwrdd â’r myfyrwyr a’r aelodau staff sy’n gadetiaid a milwyr wrth gefn yn y lluoedd arfog, ac rydw i wrth fy modd bod Lefftenant Paul Thomas, sy’n gweithio fel Rheolwr Busnes yn y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd, wedi cael ei benodi’n Hyrwyddwr Lluoedd Arfog cyntaf y Brifysgol.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor