Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Ebrill 2019

Annwyl gydweithiwr

Fel y gwyddom, rhifyddeg seneddol sydd wedi achosi anrhefn Brexit yn y bôn, ynghyd â’r hollt yn y pleidiau traddodiadol ar hyd llinellau Gadael/Aros (er ei bod hi’n fwy cymhleth o lawer na hynny wrth gwrs). Fodd bynnag, mae’r cynnydd mewn grwpiau newydd, a’r ffaith bod tir cyfansoddiadol newydd wedi’i dorri o ran y berthynas rhwng Senedd y DU a’r Llywodraeth, hefyd wedi creu cyfleoedd newydd y tu hwnt i Brexit. Un maes o’r fath, lle ceir consensws trawsbleidiol eang iawn, yw’r polisi fisa ac ymfudo i fyfyrwyr.

Byddwch yn gwybod bod Prifysgolion y DU, ac is-gangellorion unigol (a minnau’n un ohonynt) wedi bod yn dadlau’n frwd, ers dechrau’r llywodraeth glymbleidiol bron i ddegawd yn ôl, mai camdybiaeth sylfaenol yw ystyried myfyrwyr yn fewnfudwyr. Yn syml, mae tystiolaeth gref iawn bod dros 98% o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n dod i’r DU i gwblhau eu hastudiaethau yn cydymffurfio â’r holl ofynion fisa ac yn gadael y DU ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Yn nhermau polisi, nid oedd unrhyw synnwyr mewn creu amgylchedd digroeso i fyfyrwyr rhyngwladol, ei gwneud hi’n anodd ac yn ddrud iddynt gael fisa, a chael gwared ar yr opsiwn o gael fisa gweithio sy’n para dwy flynedd ar ôl iddynt raddio. Y nod yn amlwg oedd helpu i gael y lefelau ymfudo o dan 100,000, ond nid oedd llawer o obaith o gyflawni hyn gan nad yw myfyrwyr erioed wedi gwneud unrhyw gyfraniad sylweddol i’r targed hwnnw. Efallai nad iddynt adael y DU o fewn blwyddyn, ond yn sicr fe wnaethant adael ar ôl hynny, felly roedd unrhyw effaith ar lefelau ymfudo yn ymylol, dros dro ac yn ymwneud â meintiau carfanau gwahanol dros amser yn unig. Llwyddodd cryfder ein dadleuon – gan gynnwys tystiolaeth gref o arolygon sy’n dangos nad yw myfyrwyr rhyngwladol yn destun pryder ymhlith y cyhoedd – i ddarbwyllo chwe phwyllgor dewisol, ond ni chafwyd llawer o sylw gan y Swyddfa Gartref nac, ers 2016, gan y Prif Weinidog. Rhaid cyfaddef y bu rywfaint o newid ers etholiad 2017, ond dim digon i wneud gwahaniaeth go iawn.

Mae digwyddiadau’r ychydig fisoedd diwethaf, fodd bynnag, yn cynnig cyfle pwysig. Mae Paul Blomfield, AS Llafur ar gyfer Sheffield Canolog a chefnogwr gweithgar o’n safbwyntiau ar y mater, yn gweithio gyda Jo Johnson, AS y Ceidwadwyr ar gyfer Orpington a chyn-weinidog prifysgolion, i gyflwyno diwygiad sylweddol i’r Bil Mewnfudo. Byddai hyn yn golygu bod yn rhaid i’r llywodraeth gael cymeradwyaeth seneddol ar gyfer unrhyw gyfyngiad ar nifer y myfyrwyr rhyngwladol yn y dyfodol, ac yn ailgyflwyno cyfnod o ddwy flynedd ar gyfer y fisa gweithio ar ôl astudio. Mae’r ail o’r mesurau hynny yn hanfodol. Mae strategaeth addysg ryngwladol newydd y llywodraeth yn dangos uchelgais amlwg ar gyfer y sector ond nid yw’r cynnig sydd wedi’i gynnwys ynddi i ehangu’r fisa gweithio ar ôl astudio i chwe mis yn ddigonol. Byddai’r diwygiad a gynigiwyd yn sicr yn helpu i’n rhoi mewn sefyllfa gystadleuol unwaith eto, ac fe fyddai’n cael ei groesawu gan y myfyrwyr rydym yn eu recriwtio o bedwar ban y byd. Mae gan y diwygiad gefnogaeth drawsbleidiol, gan gynnwys ffigurau blaenllaw ar ddwy ochr y ddadl dros Brexit. Mae cyfle’r Senedd i gymell y llywodraeth i dderbyn y diwygiad hwn yn hollbwysig, ac mae bob amser yn beth da i etholwyr anfon llythyrau neu ebyst at ASau yn eu hannog i gefnogi mesurau penodol. Os hoffech chi gael gwybod mwy am y mater hwn, gweler yma i gael rhagor o wybodaeth.

At hynny, o ystyried y costau y gallai cydweithwyr newydd a rhai presennol o’r tu allan i’r UE eu hwynebu wrth geisio mynd drwy’r broses o gael fisa, mae’n bleser gennyf ddweud ein bod ni’n cyflwyno cynllun benthyciad di-log i helpu gyda’r costau sy’n gysylltiedig ag ymfudo. Mae’r cynllun benthyciadau di-log yn agored i bob aelod o staff rhyngwladol sy’n wynebu costau mewnfudo o ganlyniad i naill ai ddechrau swydd, neu barhau â’u swydd gyda’r Brifysgol. Bydd dibynyddion hefyd yn cael eu cynnwys yn y benthyciad, a cheir rhagor o wybodaeth yma.

Canlyniad annisgwyl pellach o gyfyng gyngor Brexit yw ei bod hi bellach yn debygol, ac yn bendant yn bosibl, y bydd y DU yn cymryd rhan yn etholiadau Senedd Ewrop, proses sy’n amlwg yn cael ei ddehongli’n eang fel baromedr barn ar Brexit ei hun. Yn amlwg, mae’n rhaid bod ar y gofrestr etholiadol i bleidleisio, felly manteisiwch ar y cyfle i roi gwybod i’r myfyrwyr sut i gofrestru os ydynt yn dymuno arfer eu hawliau democratig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Cyn gorffen, un pwynt olaf o ran Brexit. Cyhyd â’n bod ni’n aros yn aelodau o’r UE, mae’n werth parhau i wneud ceisiadau am grantiau a chymryd rhan yn yr holl fecanweithiau sydd ar gael i aelod-wladwriaethau. Mae’r dull hwn o weithredu wedi bod yn fuddiol iawn hyd yn hyn a hoffwn annog cydweithwyr i barhau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn lle bynnag y bo modd.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor