Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mehefin 2019

Annwyl gydweithiwr

Yn gynharach y mis hwn bûm i mewn cyfarfod o arweinwyr prifysgol yn Hamburg, ar bwnc Prifysgolion a Chymdeithas (mae’r pynciau o reidrwydd yn gorfod bod yn eang). Roedd yn drawiadol fod cynifer o brifysgolion ar draws y byd – er nad y cwbl – yn wynebu datblygiadau tebyg i’r rheini rydym ni wedi’u nodi yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Un yn benodol yw colli ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd, sy’n cyd-fynd yn aml gyda lleihad tebyg mewn cefnogaeth wleidyddol.

Roedd un farn o’r Unol Daleithiau’n dweud bod prifysgolion yn arfer cael eu gweld yn rym cadarnhaol o fewn cymdeithas ond eu bod bellach yn cael eu hystyried yn negyddol, gyda’r dirywiad yn ymddiriedaeth y cyhoedd yn cael ei briodoli i ‘gydio yn y gorffennol sychlyd’. Dwyf i ddim yn siŵr ai dyma yw’r achos gwaelodol i ni, ond mae’r datrysiad a gynigir – sef bod angen i ni fod yn ein cymunedau’n dangos beth yw prifysgol a pham ei bod yn bwysig i gymdeithas – yn un y byddwn i’n ei gymeradwyo’n llawn ac yn wir gallwn ni ddangos ein hymgysylltu cymunedol yn lleol ac yn rhyngwladol, fel y gwelir er enghraifft gan ein prosiect Caerdydd- Somaliland, dan arweiniad Dr Richard Gale a Dr Andrew Williams o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a’r arweinydd cymunedol lleol Mr Ali Abdi mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn cynnwys Dr Rhys Jones yn yr Ysgol Biowyddorau. Yn y cyfarfod yn Hamburg, nododd eraill ‘ddad-gyllido gan ddeddfwyr’ fel achos anghydraddoldeb cynyddol a rhaniad cymdeithasol sy’n tyfu, a thra bod hwn yn sicr yn faes dadleuol yn y DU, gallaf ddweud o’n cymharu â rhai o’n cydweithwyr rhyngwladol, yma yng Nghymru rydym ni mewn sefyllfa dda iawn, yn enwedig wrth edrych i’r dyfodol. Clywom ni gan gynrychiolwyr sawl gwlad lle mae llywodraethau poblyddol wedi dod i rym bod prifysgolion yn cael eu darlunio fel ‘y dynion drwg’ a’i bod yn ymddangos ein bod yn gwbl ddi-rym i gyfathrebu’n effeithiol yn oes y cyfryngau cymdeithasol, sy’n tanseilio ein gallu i gyflwyno amddiffyniad cyhoeddus i addysg uwch.

Mynegwyd barn hefyd na ddylai prifysgolion ddarparu llwyfan i ymgyrchoedd, ac er bod gen i gydymdeimlad sylweddol â’r farn hon mewn sawl ystyr, ni allwn ddianc rhag ein cyfrifoldebau cymdeithasol. Mae rhai materion yn rhy bwysig a’u heffaith yn rhy fawr i’w hanwybyddu. Nid siarad am Brexit wyf i yma (er y gellid ei gyflwyno fel enghraifft) ond am yr argyfwng amgylcheddol rydym ni’n ei ddioddef. Mae argyfwng yr hinsawdd yn rhan hynod o bwysig o hynny, ond mae llygredd plastig wedi cael statws cyffelyb gan rai, ac mae’r ddwy ffenomen anthropogenig hyn wedi cael effaith sylweddol iawn ar fioamrywiaeth. Yn gynharach y mis hwn cynhaliom ni seremoni wobrwyo flynyddol rhaglen Effaith Gwyrdd, a drefnir gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, sy’n hyrwyddo mentrau cynaladwyedd mewn prifysgolion. Eleni cymerodd 37 tîm o staff a myfyrwyr o wahanol rannau o’r Brifysgol ran, gan ennill amrywiaeth o wobrau i gydnabod eu hymdrechion gwirfoddol i sicrhau newid ystyrlon o ran cynaladwyedd yn eu maes. Chwaraeodd ein myfyrwyr rôl sylweddol, gyda 35 ohonyn nhw’n dysgu cynnal archwiliadau amgylcheddol fel archwilwyr Effaith Gwyrdd a derbyn hyfforddiant achrededig gan y Sefydliad Rheolaeth ac Asesu Amgylcheddol a llythyr o argymhelliad gan yr NUS. Ar yr achlysur hwnnw cyfeiriais at y mudiad argyfwng hinsawdd gan ddweud ei bod yn ymddangos yn debygol y byddwn yn dymuno ymuno unwaith y byddwn wedi gallu cwblhau asesiad o’r hyn y byddai’n ei gynnwys ac yn gallu gwneud argymhelliad i’r Cyngor na fyddai’n cael ei weld fel gwyrddgalchu.  Mae hwn yn gwestiwn difrifol: bydd rhai darllenwyr wedi sylwi bod cyfarfodydd rhyngwladol fel y rhai a grybwyllir uchod (cyfran fechan iawn o’n gweithgaredd rhyngwladol) yn cynnwys teithio, o leiaf yn rhannol mewn awyren, ac mae angen i ni fod yn gliriach ynghylch beth rydym ni’n barod i’w wneud yn y cyd-destun hwn. Mae angen ystyried ein huchelgais ar gyfer recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, gwelededd ymchwil a chydweithio, a’r holl weithgareddau amrywiol eraill sydd â dimensiwn rhyngwladol yng nghyd-destun ymdrechion i reoli faint o deithio rydym ni’n ei wneud er mwyn cyflawni ein huchelgais i weithredu mewn modd sy’n gyfrifol yn amgylcheddol. Heb os ceir amrywiol fesurau y gallem ni eu hystyried, a bydd codi’r mater hwn yn uwch ar yr agenda’n rhan allweddol o ystyried sut rydym ni’n cwrdd â gofynion yr argyfwng hinsawdd.

Wedi dweud hynny, rydym ni heb os yn gwneud cyfraniad pwysig i’r drafodaeth hon yn nhermau ein hymchwil a’n haddysgu. Mae prosiect ein Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol £5m a gyllidir gan yr ESRC, dan arweiniad yr Athro Lorraine Whitmarsh ac a sefydlwyd fis diwethaf, yn brosiect cydweithredol rhwng Caerdydd a phrifysgolion Manceinion, Caerefrog, East Anglia ac Utrecht, a’r elusen Climate Outreach. Mae’n canolbwyntio ar y newidiadau cymdeithasol ac ymddygiadol y bydd eu hangen ym meysydd bwyd a diet, teithio, defnyddio nwyddau a rheoli tymheredd mewn adeiladau. Mae’r Ganolfan yn bluen fawr yn ein het a phob clod i’r Athro Whitmarsh a’i thîm am sicrhau’r cyfle hwn i ymchwilio’r ffactorau dynol critigol: heb hyn byddai’n anodd neu’n amhosibl sicrhau gwelliannau ystyrlon yn y rhagolygon sy’n wynebu’r ddynoliaeth. Does dim amheuaeth bod gwaith mawr o’u blaenau, ond gobeithio y byddwn ni fel sefydliad yn gallu sicrhau dealltwriaeth ddefnyddiol ynghylch y mathau o newidiadau sydd angen i ni eu gwneud ar ein lefel ni. Mae’r Athro Liz Bagshaw, o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, yn arwain prosiect gwych arall yn y maes hwn a’i nod yw mesur cyfradd llif rhewlifoedd fel procsi o’r gyfradd maen nhw’n toddi, fydd yn caniatáu casgliadau am newid yn yr hinsawdd. Mae’r ‘cryoeggs’ sy’n ganolog i’r gwaith yn ddyfeisiau sydd wedi’u cynllunio’n benodol ac a gaiff eu gollwng i lawr tyllau turio i waelod y rhewlif a bydant yn trosglwyddo darlleniadau dros amser y gellir eu tracio i gasglu’r data angenrheidiol ar bwysedd, dargludedd trydanol a thymheredd y dŵr o’i amgylch. Mae eu hymagwedd ddyfeisgar, yn defnyddio technolegau rhad sydd ar gael yn rhwydd, yn ficrocosm ar gyfer y ffordd mae angen i’r ymagwedd at newid hinsawdd yn gyffredinol gyfuno ystod enfawr o ddisgyblaethau a dulliau arloesol. Mae hyn yn wir gyda’n mentrau addysgol yn y maes hwn hefyd. Mae Ysgolion yn y tri Choleg, gan gynnwys Daearyddiaeth a Chynllunio, Gwyddorau’r Ddaear ar Môr a Seicoleg yn cynnig rhaglenni ar lefel israddedig, ôl-raddedig a PhD fydd yn helpu i greu’r arbenigedd fydd ei angen yn y dyfodol i fynd i’r afael â’r broblem hynod gymhleth a phwysig hon. Ceir sawl menter arall ar draws y Brifysgol ac mae arolwg o’n cyfraniad presennol i’r ymdrech gyfunol sydd ei hangen i frwydro newid yn yr hinsawdd yn un rhan yn unig o’r gwaith sy’n rhaid i ni ei wneud i lunio ymateb cydlynol i argyfwng yr hinsawdd, ond mae’n un bwysig.

Yn olaf, llongyfarchiadau i’r Athro Lynne Boddy, o Ysgol y Biowyddorau, sydd wedi derbyn MBE am ei gwasanaethau i Fycoleg ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd ym maes Gwyddoniaeth. Os hoffech wybod mwy am waith yr Athro Boddy, gallaf argymell yn gryf ei hymddangosiad ar raglen Radio 4 The Life Scientific. Roedd yn rhaglen mor ddifyr pan glywais hi flwyddyn neu ddwy yn ôl fel y bu’n rhaid i mi wrando arni’r eildro. Llongyfarchiadau i’r Athro Antony Bayer, o’r Ysgol Meddygaeth, a gafodd MBE am wasanaethau i Ofal Iechyd, ac yn nodedig, ein myfyriwr peirianneg fecanyddol 19 mlwydd oed, Lauren Shea, a gafodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i hyrwyddo gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) i bobl ifanc. Mae’r rhain i gyd wedi gwasanaethu Prifysgol Caerdydd gyda chlod ac rydym ni’n falch iawn ohonynt.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor