Newyddion yr Is-Ganghellor

Arbenigwr amgylcheddol yn cynghori Bwrdd Gweithredol y Brifysgol

Yn niwrnod cwrdd i ffwrdd diweddar Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, cawsom sesiwn PESTLE, i ystyried y  risgiau, yr heriau a’r cyfleoedd Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasol, Technolegol, Cyfreithiol ac Amgylcheddol sy’n wynebu’r Brifysgol.  Byddwn yn rhannu sesiynau PESTLE y dyfodol drwy flog Bwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Gwahoddais yr Athro Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Newid Hinsoddol a Thrawsnewid Cymdeithasol i’n helpu i ddeall beth yw’r newidiadau amgylcheddol pwysicaf a ragfynegir ar gyfer y flwyddyn nesaf a beth yw’r prif bethau y mae angen i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol eu hystyried. Ysgogi’r drafodaeth, ehangu’r meddylfryd a chyflwyno syniadau newydd i ni eu hystyried oedd y nod, wrth i ni adolygu ein strategaeth cynaliadwyedd amgylcheddol a’n cynllun gweithredu.

Roeddwn eisiau rhannu cyfraniad arbenigol Lorraine a’r materion a drafodom ni.

Beth yw’r pynciau llosg cyfredol?

Mae’r newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth, technoleg werdd a phlastigau’n faterion pwysig i bolisi a’r cyhoedd; gellir dadlau mai’r newid yn yr hinsawdd yw’r un mwyaf sylfaenol a hanfodol – a gall mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd helpu i fynd i’r afael â materion amgylcheddol ehangach (e.e. mae lleihau’r defnydd o adnoddau’n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn golygu llai o blastig a llygredd arall).

Yn sgîl cyhoeddiad adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar gyfer Newid Hinsawdd (IPCC) ynghylch cyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd i 1.5oC o gynhesu byd-eang[1], fe ddiwygiodd llywodraeth y DU ei deddfwriaeth ynghylch y newid yn yr hinsawdd (Deddf y Newid yn yr Hinsawdd) i nod mwy uchelgeisiol o gynhyrchu dim allyriadau ar y cyfan erbyn 2050. Mae hyn yn golygu trawsffurfio cymdeithas yn gyflym ac yn systematig i fod yn un garbon isel a chynaliadwy. Er bydd rhywfaint o’r newid hwn yn deillio o arloesedd technolegol, bydd cyfran fawr (62%) yn gofyn am newidiadau sylweddol gan gymdeithas a’i harferion.[2] Yn benodol, bydd angen lleihad sylweddol i sut a faint rydym yn teithio ac yn treulio nwyddau. Bydd llawer o’r newidiadau y gofynnwyd amdanynt yn cynnig sgîl-fanteision – er enghraifft, gall defnyddio dulliau mwy actif o deithio (e.e. seiclo a cherdded) a bwyta deiet sy’n seiliedig ar blanhigion wella iechyd; a gall defnyddio llai o ynni wrth aerdymheru ein cartrefu a’n busnesau arbed arian.[3]

Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ddarn arloesol o ddeddfwriaeth sy’n mynnu bod cynaliadwyedd yn cael ei ymgorffori ym mhob agwedd ar bolisi. Ynghyd â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’r genedl wedi ymrwymo i leihau ei hallyriadau ar draws pob sector; ac mae’n rhaid i’r sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Anogir Sefydliadau Addysg Uwch i fod yn rhan o’r ymdrechion hyn, yn ogystal â chefnogi ymdrechion i wella dealltwriaeth o gynaliadwyedd ar draws cymdeithas Cymru, a thrwy ymchwil ac arloesedd ynghylch y newid yn yr hinsawdd, i gyflwyno atebion ar ei gyfer.[4]

Ochr yn ochr â chwtogi allyriadau er mwyn lleddfu’r newid yn yr hinsawdd, bydd angen i Sefydliadau Addysg Uwch fel Prifysgol Caerdydd ystyried effeithiau’r newid yn yr hinsawdd sy’n gwaethygu, ac sydd i’w profi yn y DU ac ar draws y byd yn barod. Yng Nghymru, mae’r rhain yn cynnwys hafau poethach a sychach, sy’n arwain at sychder a thonnau gwres, a’r effeithiau cysylltiedig ar iechyd (trawiad gwres, llosg haul ac ati); a gaeafau mwy cynnes a gwlyb, sy’n arwain at fwy o lifogydd, yn ogystal â mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol (e.e. stormydd), erydu a chynnydd yn lefel y môr, tarfiadau ar gyflenwadau o fwyd a’r seilwaith teithio, lledaeniad clefydau, difodiant rhywogaethau, ac yn y blaen.[5]

Beth yw’r newidiadau pwysicaf a ragfynegir ar gyfer y flwyddyn nesaf?

Dros y 12 mis nesaf, gwelwn newidiadau pwysig i bolisi Cymru a’r DU; o ran arloesedd technegol, amodau hinsoddol (e.e. mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol), fel y nodir yn barod, a phwysau gan y cyhoedd (pobl ifanc yn arbennig) yn ogystal â’n staff a’n myfyrwyr i weithredu.

Polisi. Yn nhermau datblygiadau polisi, gan fod y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth amgylcheddol y DU wedi dod o Ewrop, bydd ymadawiad y DU o’r UE yn cael effaith sylweddol ar allu’r wlad i lywodraethu’r amgylchedd – gyda risgiau uchel iawn i ansawdd aer a dŵr, systemau bwyd, bywyd gwyllt, ac ati, os ydym yn gadael heb gytundeb.[6] Bydd Bil newydd yr Amgylchedd, sydd ar ei ffordd drwy’r senedd ar hyn o bryd, yn ceisio mynd i’r afael â’r bwlch hwn mewn llywodraethiant amgylcheddol, ac mae’n canolbwyntio’n benodol ar: wella ansawdd aer; adfer a hybu natur; gwella sut y rheolir gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau; a gwella dŵr wyneb, dŵr daear a sut rheolir dŵr gwastraff.

Technoleg. O ran newid technolegol, mae cerbydau trydan yn dod yn fwyfwy fforddiadwy a seilwaith gwefru ar gael yn fwy eang; ar yr un pryd mae arloesiadau eraill mewn systemau ynni (e.e. gwresogi hydrogen) a TG (e.e. technoleg glyfar, rhyngrwyd y pethau) yn cael eu datblygu’n gyflym a byddant ar gael yn y dyfodol agos. Mae cyfleoedd pwysig yma i Brifysgol Caerdydd fod ar reng flaen gwaith ymchwil a datblygu ym maes carbon isel / yr amgylchedd; er gallai’r datblygiadau hyn gynnig atebion i’r Brifysgol fod yn fwy cynaliadwy yn ei gweithrediadau ei hun (e.e. fideo-gynadledda i ddisodli teithio; fflyd o gerbydau trydan; rhannu symudedd).[7]

Cymdeithas. Yn gymdeithasol, mae mwy a mwy o bryderon ymysg y cyhoedd ynghylch y newid yn yr hinsawdd; mewn gwirionedd, mae pryderon ynghylch y newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd ar eu huchaf erioed.[8] Ers rhyddhau adroddiad yr IPCC ym mis Hydref 2018, rydym hefyd wedi gweld protestiadau cyhoeddus, wedi’u trefnu gan Extinction Rebellion a rhai eraill, a streiciau gan ysgolion ar draws y byd, wedi’u sbarduno gan yr actifydd o Sweden, Greta Thunberg. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn bryder arbennig ymysg pobl ifanc; dyma’r prif bryder ymysg pobl dan 30 oed am y tair blynedd ddiwethaf yn ôl arolwg Fforwm Economaidd y Byd i bobl ifanc y byd.[9]

Beth yw’r materion nad ydym yn eu hystyried eisoes?

Ar wahân i’r datblygiadau uchod, mae’n debygol y gwelwn ni’r amgylchedd yn troi’n bryder cyffredinol i gymdeithas, ac yn ofyniad i sefydliadau ei ystyried, yn yr un modd â newidiadau a disgwyliadau ynghylch hawliau dynol a chyfleoedd cyfartal. Yn y ffordd hon, mae’n synhwyrol bod Prifysgol Caerdydd yn cadw un cam ar y blaen i ddisgwyliadau cymdeithas a gofynion ynghylch polisi, ac ymgorffori cynaliadwyedd i mewn i’w gweithrediadau a’i gweithgareddau. Yn fwy uchelgeisiol fyth, fodd bynnag, gallai Caerdydd ddewis bod ar reng-flaen y pontio carbon isel drwy fachu ar gyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd, fel a amlinellir isod. Yn olaf, er mai 2019 yw blwyddyn gweithgarwch gwyrdd DEFRA, sydd wedi gweld newidiadau cymdeithasol digynsail o ran pryder a gweithgarwch, fe fydd 2020 yn flwyddyn gritigol arall. Cynhelir cynadleddau hinsoddol byd-eang y Cenhedloedd Unedig – COP26 – yn Glasgow, a Claire Perry fydd Llywydd y Gynhadledd. Mae hyn yn cynrychioli cyfle i’r DU hyrwyddo ei pholisi sydd ar flaen y gad yn fyd-eang ynghylch yr hinsawdd, ac amlygu ymchwil, arloesedd ac ymdrechion addysgiadol prifysgolion y DU. Rhaid canolbwyntio ymdrechion cyfathrebu ar y cyfle hwn i arddangos gwaith Prifysgol Caerdydd yn y maes hwn.

Beth yw’r cyfleoedd a’r pethau i gynhyrfu yn eu cylch?

Mae cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd yn cwmpasu pob agwedd ar waith y Brifysgol, gan gynnwys addysg, gweithrediadau, ymchwil a’i chenhadaeth ddinesig. Yng Nghanolfan CAST[10], rydym yn amlinellu hyn yn nhermau ‘sgîl-fanteision’ gweithredu dros yr hinsawdd – h.y. manteision ychwanegol lleihau allyriadau – megis:

  1. Iechyd staff a myfyrwyr: e.e. hyrwyddo dulliau teithio actif (cerdded/seiclo) a bwyta llai o gig; gwneud yn siŵr nad yw swyddfeydd a phreswylfeydd yn rhy boeth yn ystod tywydd poeth.
  2. Arbed costau: e.e. biliau ynni llai drwy gamau effeithlonrwydd ac adnoddau adnewyddadwy; costau llai drwy ddefnyddio llai o ddeunyddiau a theithio lai; lleddfu tarfiadau oherwydd peidio â theithio er lles yr hinsawdd drwy weithio gartref.
  3. Incwm: e.e., manteisio ar gyfleoedd am ymchwil ac arloesedd sy’n gysylltiedig â phontio carbon isel.
  4. EDI: e.e. mae cynadleddau rhithwir yn fwy cynhwysol (e.e. i ofalwyr).
  5. Pobl: e.e. bydd bod yn gyflogwr cynaliadwy yn helpu i ddenu’r staff a’r myfyrwyr gorau a’u cadw.
  6. Enw da: e.e. bydd hyrwyddo cynaliadwyedd yn cefnogi ein cenhadaeth ddinesig.

Yn olaf, mae’n amlwg bod ein staff a’n myfyrwyr am i’r Brifysgol fod yn fwy uchelgeisiol o ran mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd – dylem ddefnyddio’r brwdfrydedd a’r arbenigedd hyn i wireddu’r cyfleoedd a restrir yma a chyfleoedd eraill sy’n codi yn y dyfodol.


[1]IPCC (2018). Special Report: Global Warming of 1.5 Degrees. https://www.ipcc.ch/sr15/chapter/spm/

[2] CCC (2019). Net Zero: The UK’s contribution to stopping global warming. Pwyllgor y DU ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd, Llundain.

[3] Jennings, N., Fecht, D. & De Matteis, S. (2019). Co-benefits of climate change mitigation in the UK: Papur Hysbysu Sefydliad Grantham Rhif 31. https://www.imperial.ac.uk/media/imperial-college/grantham-institute/public/publications/briefing-papers/Co-benefits-of-climate-change-mitigation-in-the-UK.pdf

[4]Llywodraeth Cymru (2019). Ffyniant i Bawb. Low-Carbon Delivery Planhttps://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-06/low-carbon-delivery-plan_1.pdf

[5] CCC (2017). UK Climate Change Risk Assessment 2017 Evidence Report: Summary for Wales. https://www.theccc.org.uk/wp-content/uploads/2016/07/UK-CCRA-2017-Wales-National-Summary.pdf

[6] Burns, C., Carter, N., Cowell, R., et al. (2018). Environmental policy in a devolved United Kingdom: Challenges and opportunities after Brexit. https://www.brexitenvironment.co.uk/wp-content/uploads/2018/10/BrexitEnvUKReport.pdf

[7]Swyddfa’r Llywodraeth o Wyddoniaeth (2019). The Future of Mobility: A time of unprecedented change in the transport system. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/780868/future_of_mobility_final.pdf

[8] BEIS (2019). BEIS Public Attitudes Tracker: Wave 29 – key findings. https://www.gov.uk/government/statistics/beis-public-attitudes-tracker-wave-29

[9] WEF (2018). Global Shapers Survey. http://www.shaperssurvey2017.org/

[10] www.cast.ac.uk