Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Tachwedd 2019

Annwyl gydweithiwr

Hoffwn ddechrau’r ebost hwn gyda diweddariad neu ddau. Yr amser yma llynedd dechreuais fy ebost mis Tachwedd gydag amlinelliad cryno o’r sefyllfa ariannol anfanteisiol roeddem ni ynddi, gan grybwyll y camau y byddai eu hangen i’n gosod ni ar lwybr cynaliadwy. Esboniais fod ein hincwm wedi codi 2.5% yn unig yn ystod blwyddyn ariannol 2017-18, tra bod ein gwariant wedi cynyddu 5.2%. Rwy’n falch o ddweud bod ein canlyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19 (y flwyddyn academaidd ddiwethaf) yn dangos bod ein hincwm wedi cynyddu 4% a’n gwariant 2.3%. O ganlyniad cawsom tua thraean o leihad yn ein diffyg gweithrediadol blynyddol a disgwyliwn y byddwn yn talu ein ffordd eleni. Dylwn bwysleisio fy mod yn cyfeirio at ein perfformiad ariannol gwaelodol yn hytrach na’n diffyg cyfrifyddol, sydd, yn debyg i lawer o brifysgolion eraill, yn llawer uwch ar gyfer 2018-19 oherwydd ymrwymiadau pensiwn ac eitemau eithriadol eraill. Fodd bynnag, mae’r gostyngiad dramatig yn ein diffyg gweithrediadol yn newyddion da ac yn dangos bod y camau rydym ni’n eu rhoi ar waith drwy Trawsffurfio Caerdydd yn cael yr effaith roeddem ni am ei gweld o ran ein cyfeiriad ariannol. Rhaid i ni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau gan fod llawer eto i’w wneud, ond da yw gweld ein bod ni yn gwella ac ar y trywydd cywir i sicrhau sefyllfa ddiogel dros y ddwy neu dair blynedd nesaf.

Yn fy ebost diwethaf i chi a’r un ym mis Medi, soniais am argyfwng yr hinsawdd a’n cynlluniau i ychwanegu ein llais at y rheini sy’n gwneud datganiad ar y pwnc. Fy mhryder oedd y dylai unrhyw ddatganiad a wnawn fod yn sylweddol yn hytrach nag yn rhethregol yn unig, gan olygu ei bod yn bwysig i ni lunio cynlluniau am yr hyn y bwriadwn ei wneud yn wahanol er mwyn ymateb i argyfwng yr hinsawdd. Mae’r gwaith hwn wedi cael hwb enfawr gyda phenodi Deon newydd ar gyfer Cynaladwyedd Amgylcheddol, yr Athro Mike Bruford, ac mae ei arbenigedd eisoes wedi profi’n amhrisiadwy. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi gwneud datganiad y gallwch ei weld yma yn amlinellu ein nod i fod yn garbon niwtral erbyn 2030 a’n hymrwymiad i amrywiaeth o gamau fydd yn ein galluogi ni i gyflawni hyn. Yn ogystal â’n hymrwymiad i roi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil, sydd wedi’i gyflawni ddwy flynedd yn gynt na’r disgwyl, byddwn yn lleihau ein hôl troed carbon drwy uwchraddio ein hystâd, diwygio ein polisïau teithio a dadansoddi effeithiolrwydd Regrow Borneo fel prosiect cydbwyso carbon. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar adolygu ein hymagwedd at allfeydd bwyd ar y campws, ac wrth gwrs bydd ein cynllun i ddileu defnydd o blastig untro yn raddol yn cael effaith sylweddol ar ein hôl troed carbon hefyd. Yn ogystal, mae’r Athro Bruford yn cynnal archwiliad o ymwneud academaidd mewn cynaladwyedd amgylcheddol, gan helpu i ddeall ymhle mae ein cryfderau a hwyluso’r cydweithio a’r gweithio amlddisgyblaethol sydd eu hangen yn benodol yn y maes hwn. Mae’r arolwg ar agor o hyd ac rydym ni am gael darlun mor gynhwysfawr â phosibl, felly os hoffech gymryd rhan, gwnewch hynny ar bob cyfrif, yn defnyddio’r ddolen hon. Dros amser byddwn yn datblygu dangosfwrdd i dracio cynnydd ar ein hymateb i argyfwng yr hinsawdd, a byddaf yn adrodd yn ôl ar y canlyniadau.

Wrth i fi ysgrifennu rydym ni yng nghanol ymgyrch etholiad cyffredinol, a dim ond dyfalu’r canlyniad y gall hyd yn oed y dadansoddwyr gwleidyddol mwyaf craff ei wneud. Ceir gwahaniaethau polisi mwy o faint rhwng y pleidiau nag ydym ni wedi’u gweld ers cenhedlaeth, ac mae Brexit yn torri’n ddramatig ar draws y pleidiau. Dwyf i ddim am fentro crynhoi safbwyntiau’r pleidiau ar addysg uwch yma, yn enwedig gan fod addysg wedi’i datganoli, er ein bod yn gwybod bod unrhyw newidiadau i’r system cymorth i fyfyrwyr a chyllido prifysgolion yn Lloegr yn tueddu i gael effaith dilynol yng Nghymru.  Mae unrhyw un nad yw wedi cofrestru i bleidleisio bellach wedi colli’r cyfle i wneud hynny, ond gallai fod newidiadau mawr o’n blaenau ac mae mor bwysig ag erioed i annog ein myfyrwyr i ymarfer eu hawliau democrataidd. O ran ymchwil ac arloesi, mae’r ddwy brif blaid wedi ymrwymo i gynyddu’r gyfran o’r cynnyrch domestig gros a gaiff ei neilltuo i’r maes hwn a rhaid i ni barhau i bwyso i sicrhau bod buddsoddi mewn ymchwil yn flaenoriaeth uchel i unrhyw lywodraeth yn y DU oherwydd ei bwysigrwydd i iechyd, cyfoeth a llesiant pobl y wlad hon.

Fel y byddwch heb os yn ei wybod, rydym ni hefyd ar ddiwedd yr wythnos gyntaf o weithredu diwydiannol gan Undeb y Prifysgolion a’r Colegau. Rwyf i wedi ysgrifennu ar y pwnc hwn ar wahân, ac mae’n eithaf cymhleth y tro hwn, gan ei fod yn cynnwys dau edefyn gweithredu gwahanol gyda’r naill yn ymwneud â phensiynau a’r llall â chyflog ac amodau gwaith, a’r ddau’n cynnwys nifer o feysydd lle ceir anghytuno. Mae streiciau ar waith mewn cyfanswm o 60 o sefydliadau, gyda staff yn 43 o’r rhain yn gweithredu ar y ddau anghydfod. I ychwanegu at y cymhlethdod, ceir 340 o gyflogwyr yn USS a 147 o sefydliadau yn rhan o’r cydfargeinio cyflog. O safbwynt Prifysgol, rhaid i ni flaenoriaethu buddiannau ein myfyrwyr gan geisio hefyd sicrhau canlyniad teg i holl bartïon yr anghydfod. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd modd dod o hyd i ddatrysiad yn yr ysbryd hwnnw a bod modd osgoi streiciau pellach.

O sôn am ein myfyrwyr, yn ystod mis Tachwedd cynhaliom ni ein dathliad blynyddol o amrywiaeth rhyngwladol a chyfleoedd byd-eang yn ystod Wythnos Fyd-eang. Yn ogystal â’r Ffair Cyfleoedd Byd-eang, oedd yn gyfle i fyfyrwyr siarad gyda’r rheini sydd eisoes wedi treulio cyfnod dramor a chlywed am gyfleoedd i astudio a gwirfoddoli, cafwyd amrywiaeth o weithgareddau wedi’u hanelu’n bennaf at ein myfyrwyr a’n staff rhyngwladol. Roedd hyn yn cynnwys Noson Gymdeithasol Rhwydwaith y Staff, y Pentref Byd-eang a gafodd gefnogaeth dda ac oedd yn gyfle i gefnogi’r cyfuniad gwych o ddiwylliannau a bwydydd rhyngwladol sydd ar y campws, Caffi Iaith, digwyddiad ar Gyflogadwyedd Rhyngwladol, dadl CU Enghreifftiol, Cwis Byd-eang a Noson Ddiwylliannol ym Mharc y Mynydd Bychan. Roedd pawb yn cytuno i’r wythnos fod yn llwyddiant ac mae’n faes rwyf i’n teimlo y dylem ni roi mwy o sylw iddo. Diolch enfawr i bawb a fu’n rhan o’r gwaith, yn enwedig Tom Spare (Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr), a gydlynodd ddigwyddiadau’r wythnos, Annika Axelsen a’r Tîm Cyfleoedd Byd-eang ehangach, Katrina Taylor a Saffron McDarren (Cyfathrebu a Marchnata), a Bryony Humphries (SUON).

Yn olaf, ar 16 Tachwedd llofnododd Prifysgol Caerdydd Ddatganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA). Efallai y cofiwch i’r datganiad hwn ein hymrwymo ni i sicrhau ein bod yn defnyddio mesuriadau ymchwil yn gyfrifol nid yn unig yn ein gweithdrefnau dyrchafiad ond hefyd yn y meysydd niferus eraill y gellid effeithio arnynt. Roedd hwn yn brosiect llawer mwy nag y gallai ymddangos, oherwydd fel gydag argyfwng yr hinsawdd, cyn gwneud ymrwymiad mawr mae’n bwysig deall y goblygiadau a sicrhau ein bod yn gallu gwireddu’r addewidion sefydliadol rydym ni’n eu gwneud. Diolch felly i’r Athro Claire Gorrara am gadeirio’r grŵp a ymgymerodd â’r gwaith hwn ac i’r Athro Kim Graham a lywiodd y cynigion drwy’r holl gymeradwyaeth angenrheidiol. Penodwyd Karen Desborough yn Swyddog Asesu Ymchwil yn Gyfrifol i gefnogi’r gwaith o roi cynllun gweithredu DORA ar waith, fydd yn cynnwys cyflwyno sesiynau hyfforddiant a gwybodaeth ynghylch asesu ymchwil yn gyfrifol, a monitro cydymffurfiaeth ag egwyddorion DORA. Mae hwn yn gam pwysig i’r Brifysgol ac rwy’n falch fod gennym ni bellach y gweithdrefnau, arferion a phobl iawn yn eu swyddi i’n galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiadau.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan