Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Rhagfyr 2019

Annwyl gydweithiwr

Mae wedi bod yn flwyddyn llawn digwyddiadau i’r Brifysgol ac i’r wlad. O ran y Brifysgol rydym ni wedi dod â hyfforddiant meddygol i ogledd Cymru am y tro cyntaf, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor; mae’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi ymgartrefu yn ei hadeilad newydd sbon y drws nesaf i BBC Cymru; rydym ni wedi parhau i ddatblygu ein Hacademi Gwyddor Data newydd hynod lwyddiannus; wedi sefydlu’r Clwstwr Creadigol yn ei adeilad newydd gyda £10m o gyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau drwy raglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol; cael grant o £10m gan Sefydliad Wolfson i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc; sefydlu ein Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol newydd gyda chefnogaeth o £5m gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol; cyfrannu at gynhyrchu’r ddelwedd gyntaf erioed o dwll du mewn galaeth (gymharol) agos; cefnogi llu o wyliau diwylliannol yng Nghymru yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol; a dechrau gwaith ar y Ganolfan Gymunedol yng nghanol prosiect Porth Cymunedol y Brifysgol yn Grangetown gyda £1.6m o gronfa’r Loteri Genedlaethol. Ceir manylion am yr holl lwyddiannau hyn a mwy yn ein hadroddiad blynyddol, sydd wedi’i gyhoeddi bellach. Ceir dolen at yr adroddiad, ynghyd â sylwebaeth ddefnyddiol ar ein canlyniadau ariannol gan ein Prif Swyddog Ariannol, Rob Williams, yma.

O ran y DU, o’r diwedd mae’r broses benderfynu a ataliwyd i raddau helaeth o ganlyniad i’r senedd grog a pharlys Brexit bellach wedi ailgychwyn. Unwaith eto mae gennym eglurder ar y cwestiwn allweddol sy’n rheoli Brexit, ar ôl i’r eglurder gwreiddiol hwnnw bylu am gyfnod yn sgîl canlyniadau etholiad 2017. Mae ein democratiaeth seneddol wedi cadarnhau canlyniad refferendwm 2016 yn bendant a does dim sôn bellach am ail refferendwm. Ceir ansicrwydd o hyd o ran telerau ein perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd unwaith y daw’r cyfnod pontio a ragwelir yn y Cytundeb Ymadael (a gaiff ei gadarnhau gan y Senedd newydd dros y dyddiau nesaf) i ben yn 2020. Cyn yr etholiad, polisi’r llywodraeth oedd ceisio cadw cyswllt gydag Erasmus+ a Horizon Europe pe bai’n bosibl. Mae nodiadau briffio’r llywodraeth ar Araith y Frenhines a gyflwynwyd ar 19 Rhagfyr yn cadarnhau bod y bwriad i ‘gydweithio’n rhyngwladol a gyda’r UE ar ymchwil wyddonol, yn cynnwys […] drwy Horizon’ yn parhau. Felly, heb os bydd llawer o waith i’w wneud a’r gobaith yw y bydd prifysgolion yn chwarae rhan allweddol i gefnogi’r uchelgais hwnnw. Mae’r adran ar ymchwil yn hynod uchelgeisiol, gan ymrwymo’r llywodraeth i ‘wneud y DU yn archbŵer gwyddonol byd-eang sy’n denu pobl a busnesau disglair o bedwar ban byd’. Rhagwelir newidiadau i’r system fewnfudo i’w gwneud yn haws recriwtio ymchwilwyr, ynghyd â hwb mawr o ran cyllid a chorff cyllido ymchwil newydd yn seiliedig ar genhadaeth. Does dim sôn am Erasmus+ yn y nodiadau briffio, nac am gyfnewid addysgol na symudedd allanol. Felly, byddwn am wybod cyn gynted â phosibl pa gynlluniau, os o gwbl, sydd gan y llywodraeth ynghylch y materion hyn. Ar gwestiwn sy’n peri gryn bryder i ni, prin yw’r manylion am gyflwyno Cronfa Rhannu Ffyniant y DU i gymryd lle Cronfeydd Strwythurol yr UE (sy’n cefnogi datblygu rhanbarthol), dim ond y bydd yn ‘mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac amddifadedd ym mhob un o’r pedair cenedl, gan glymu’r holl Deyrnas Unedig at ei gilydd.’ Y bwriad yw y bydd yn llai biwrocrataidd na’r system Ewropeaidd bresennol, ac yn wir mae lleihau biwrocratiaeth yn thema gyson wrth drafod ymchwil.

Ceir llinell arwyddocaol arall yn yr adran ar addysg: ‘Bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod ein prifysgolion yn fannau lle gall rhyddid mynegiant ffynnu, a bydd yn cryfhau rhyddid academaidd’. Mae melin drafod Policy Exchange eisoes wedi codi’r syniad y gallai fod Bil ar ryddid academaidd a rhyddid mynegiant. Felly, mae’n amserol bod HateLab ym Mhrifysgol Caerdydd dan gyfarwyddyd yr Athro Matthew Williams o’r Brifysgol, newydd gyhoeddi adroddiad mewn partneriaeth â’r cwmni cyfreithiol Mishcon de Reya o’r enw Hatred Behind the Screens: A Report on the Rise of Online Hate Speech, sy’n edrych ar ochr dywyll rhyddid mynegiant; sef natur a graddfa cam-drin ar-lein. Mae’r adroddiad yn ymdrin â chwestiynau sylfaenol gan holi i ba raddau yr ydym yn fodlon plismona a chwtogi rhyddid mynegiant, a phwy ydym ni’n eu dal yn atebol, yn enwedig platfformau (fel Twitter a Facebook) sy’n cyhoeddi cynnwys gan drydydd partïon. Mae’r enghreifftiau ar dudalen 19 o fynegiant sydd â grym cyfathrebol (illocutionary) – ‘gweithred o siarad neu ysgrifennu ag iddo ganlyniad diriaethol neu real’ yn addysgiadol ac yn werth eu darllen, o ystyried y rhaniadau mae ein cymdeithas wedi eu profi yn ystod yr ymgyrch etholiadol diweddar.  Mae’n ein hatgoffa yn amserol am bwysigrwydd dewis gofalus o iaith, a’r cyfrifoldeb sydd gan bawb i barchu urddas pobl eraill. Mae gan brifysgolion ran hanfodol i’w chwarae yn hyn o beth. Rhaid i ni hyrwyddo a chynnal gwerthoedd ac arfer rhyddid academaidd a rhyddid mynegiant. Ar yr un pryd, rhaid hefyd sicrhau ein bod yn gweithio i wella cydlyniad cymdeithasol, cyd-ddeall a thegwch.

Yn hyn o beth mae’n bleser gennyf adrodd bod un o’n myfyrwyr wedi mynd ati’n argyhoeddiadol i ddangos pa mor bwysig yw gallu mynegi barn yn briodol drwy ennill cystadleuaeth genedlaethol a gynlluniwyd i helpu myfyrwyr i baratoi at eu gyrfa yn y dyfodol fel meddygon. Creodd y myfyriwr meddygol Aisling Sweeney weithdy oedd yn trin a thrafod thema ‘codi llais’ yn rhan o’r gystadleuaeth, a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol a Chyngor yr Ysgolion Meddygol. Mae’r gweithdy a gynlluniwyd gan Aisling yn helpu myfyrwyr meddygol i deimlo’n fwy hyderus ynglŷn â chodi llais am faterion hanfodol fel diogelwch cleifion pan fyddan nhw ar leoliad gwaith, ymddygiad amhroffesiynol a’u hiechyd a lles eu hunain ac eraill. Mae Aisling yn ein hatgoffa bod angen i bob un ohonom ni gofio ein cyfrifoldeb personol yn hyn o beth.

Mae hyn yn bwysig mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae llawer ohonom yn gorfod ymdrin â ffurf arall o gam-drin ar y rhyngrwyd gydag ebyst ‘phishing’ sy’n ceisio twyllo pobl neu gael mynediad at eu data at ddibenion amrywiol.  Eleni mae ein cydweithwyr TG wedi helpu i’n cadw ni’n ddiogel drwy rwystro 81 miliwn o ddarnau unigol o sbam ebost, ond mae angen i bawb fod yn ofalus rhag clicio ar ddolenni mewn ebyst sy’n ymddangos yn amheus mewn unrhyw ffordd neu na ofynnwyd amdanyn nhw. Mae bob amser yn werth gwirio bod gwahoddiad i glicio ar ddolen yn dod o ffynhonnell ddibynadwy. Ceir peth gwybodaeth ddefnyddiol ar y fewnrwyd am sut i osgoi cael eich twyllo gan un o’r sgamiau hyn a hefyd beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl eich bod wedi derbyn neges o’r fath. Mewn gwirionedd, mae’n syniad da gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr hyfforddiant ar-lein diweddaraf rydym ni’n ei gynnig am ddiogelwch gwybodaeth.

Wrth i ni groesawu 2020 ceir rhai newidiadau staff allweddol. Llongyfarchiadau i Tracey Stanley sydd wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Llyfrgell newydd a Llyfrgellydd y Brifysgol, ar ôl bod yn gweithio dros dro yn y rôl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dymunaf yn dda iddi yn y swydd bwysig hon. Y mis hwn, rydym ni’n ffarwelio â’r Athro Nora de Leeuw, Rhag Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop, sy’n ymadael i ymuno â Phrifysgol Leeds yn Ddeon Gweithredol Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol. Rwyf i’n ddiolchgar i Nora am bopeth mae wedi’i wneud dros y Brifysgol ac mae’n gadael gyda’n dymuniadau gorau at y dyfodol. Yn gynharach y mis hwn cyhoeddwyd y byddai’r Athro Amanda Coffey yn gadael y Brifysgol ddiwedd mis Mawrth 2020 i ymgymryd â rôl bwysig Pennaeth Prifysgol Gorllewin Lloegr. Bydd yn chwith colli Amanda ond mae hwn yn gyfle enfawr ac rwyf i’n falch iawn drosti.  Caiff y broses i benodi olynydd Amanda ei rhoi ar waith yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Y cyfan sydd ar ôl i mi ei wneud yw dymuno Nadolig heddychlon a hamddenol i bawb a Blwyddyn Newydd Dda, ac yn ôl ein harfer byddwn yn cofio am y cydweithwyr hynny fydd yn cadw’r gwasanaethau hanfodol ar waith a hefyd y myfyrwyr fydd yn treulio cyfnod y gwyliau yn y Brifysgol. Rwyf i’n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth, ymdrech a gwaith mae cydweithwyr a myfyrwyr wedi’i gyflawni i sicrhau bod y Brifysgol wedi bod yn gymaint o lwyddiant yn 2019, a dymunaf y gorau i bawb yn 2020.

Cofion cynnes

Colin Riordan