Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Ionawr 2020

Annwyl gydweithiwr

Mae’n ffaith wybyddus fod rhythmau bywyd prifysgol hyd y dydd heddiw dan ddylanwad confensiynau oesol yn ymwneud ag anghenion economi wledig yn bennaf a thraddodiadau paganaidd a Christnogol. Mae un o’r rhythmau hyn yn dilyn cylch aml-flwyddyn yn hytrach nag un blynyddol: ers 1986 (y flwyddyn y cefais fy swydd ddarlithio gyntaf) cynhaliwyd ymarfer i farnu ansawdd ymchwil prifysgolion y DU bob pum i saith mlynedd. Wrth i ni gychwyn degawd newydd dyma ni mewn blwyddyn nodedig o’r fath: nid yn unig mae 2020 yn flwyddyn naid, mae hefyd yn flwyddyn REF. Dyma’r flwyddyn y byddwn ni’n cyflwyno i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Mae llawer yn dibynnu ar y canlyniad; nid yn unig £40m o incwm blynyddol o flwyddyn academaidd 2021-22, ond hefyd ein henw dan am ansawdd, amrywiaeth a maint ein hymchwil. Felly sut mae’n mynd? I’ch atgoffa, rydym ni’n anelu at gyflawni’r 12fed safle drwy’r wlad yn nhermau ein pŵer ymchwil y tro hwn. Caiff hwn ei gyfrifo drwy luosi ein cyfartaledd pwyntiau ymchwil â’r nifer o staff cyfwerth ag amser llawn a gynhwysir yn ein cyflwyniad. Yn nhermau’r allbynnau angenrheidiol, mae’r sefyllfa’n edrych yn gryf, yn enwedig gan fod amser ar ôl i allbynnau eraill ymddangos cyn i ni wneud ein cyflwyniad yn yr hydref, ac mae’r sefyllfa o ran ansawdd hefyd yn gadarnhaol. Byddwn yn cyflwyno llawer mwy o staff yn REF 2020 o’i gymharu â REF 2014; yr hyn na wyddom ni yw faint o staff fydd prifysgolion eraill yn eu cyflwyno o’u cymharu â’r tro diwethaf. Cafwyd twf sylweddol yn ein sail ymchwil, ond mae’r un peth heb os yn wir am eraill. Unwaith eto, mae amser ar ôl  i’r sefyllfa wella cyn dyddiad cyfrifiad 31 Gorffennaf, ac mae rhaglen amnewid staff ymchwil Disglair wedi bod yn fuddiol iawn. Yr her fawr i holl brifysgolion ymchwil y DU ar y cam hwn fydd gwneud y defnydd gorau o’u datganiadau effaith ac amgylchedd, fydd yn cael dylanwad sylweddol ar y canlyniad. Mae ein paratoadau yn hyn o beth yn mynd yn dda ond mae rhagor ar ôl i’w wneud ac rwy’n ddiolchgar i bawb sy’n gweithio’n galed i wella ein cyfleoedd fel sefydliad.

Un o’r heriau sy’n ein hwynebu yw sut i gydweithio’n effeithiol ar ymchwil. O ystyried faint o ymchwil feddygol ac ymchwil yn gysylltiedig ag iechyd rydym ni’n ei chyflawni, mae ein gwaith ar y cyd â’r GIG yn arbennig o bwysig. Mewn amgylchedd sy’n gynyddol gystadleuol rhaid i ni sicrhau ein bod yn parhau i ddenu buddsoddiad gan lywodraeth a diwydiant i Gaerdydd a Chymru. Yn ddiweddar cyhoeddodd Academi’r Gwyddorau Meddygol adroddiad diddorol a defnyddiol o’r enw Transforming Health Through Innovation: Integrating the NHS and academia. Mae’r adroddiad hwn yn argymell (t.20) y dylai is-gangellorion prifysgol a phrif weithredwyr byrddau iechyd sefydlu cyfleuster swyddfa ymchwil integredig rhwng swyddfeydd ymchwil a datblygu’r GIG a swyddfeydd ymchwil prifysgolion, â’r nod o ddarparu un cyfleuster sy’n croesi’r ddau sefydliad. Rwy’n falch i adrodd ein bod ni, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn agor gwasanaeth cymorth ymchwil integredig o’r fath. Mae’r prosiect integreiddio wedi bod ar waith ers tro a bydd wedi’i gyflawni erbyn mis Hydref. Mae pwysigrwydd strategol sylweddol i’r Swyddfa Ymchwil ar y Cyd, fydd yn ffurfio un pwynt cyswllt i staff academaidd a chlinigol gan leihau biwrocratiaeth a hefyd leddfu’r angen am drafodaethau hir rhwng ein sefydliadau. Bydd sefydlu’r Swyddfa hon, ynghyd â chynhyrchu strategaeth ymchwil ar y cyd yn y dyfodol, yn ffurfioli’r berthynas ymchwil rhwng Prifysgol Caerdydd a’r Bwrdd Iechyd, ac yn cefnogi ein huchelgais i arwain y byd mewn ymchwil ac arloesi clinigol a biofeddygol. 

Ar fater yr anghydfod diwydiannol, efallai eich bod yn gwybod bod Cymdeithas Cyflogwyr y Prifysgolion a’r Colegau (UCEA) wedi gwneud cynnig ar 27 Ionawr i ddod â’r anghydfod gydag Undeb y Prifysgolion a’r Colegau i ben. Mae’r ffordd y bydd hyn yn datblygu wrth gwrs yn fater ar gyfer trafodaethau cenedlaethol ar y ddwy ochr ond byddwn ni ym Mhrifysgol Caerdydd yn parhau i ymgysylltu’n gadarnhaol gyda’r disgwyliadau a osodir yn y cynnig ynghylch cyflogaeth achlysurol, llwyth gwaith ac iechyd meddwl yn ogystal â bylchau cyflog mewn perthynas â rhywedd ac ethnigrwydd. Mae’r cynnig yn cynnwys amrywiol awgrymiadau adeiladol ar gyfer ymdrin â’r materion pwysig hyn, ac mewn ymgynghoriad â’n cynrychiolwyr undeb ein hunain rydym ni’n dymuno eu dilyn mewn modd sy’n bodloni dyheadau staff Prifysgol Caerdydd a sy’n gadael i ni barhau hefyd i gyflawni ein cenhadaeth fel Prifysgol. O ran pensiynau, rwy’n ddiolchgar iawn i aelodau ein Grŵp Technegol Prisio Actiwaraidd USS, yn arbennig Dr Richard Baylis, yr Athro Huw Dixon a Dr Woon Wong o Ysgol Busnes Caerdydd, yr Athro Simon Rushton o’r Ysgol Seicoleg, yr Athro Frank Sengpiel o Ysgol y Biowyddorau a Mr Dave Atkins o Adran TG y Brifysgol. Mae eu gwaith yn ategu gwaith y Cyd-banel Arbenigol cenedlaethol, ac rydym ni’n croesawu eu hail adroddiad gan ei ystyried yn ffordd adeiladol iawn ymlaen. Yn sicr byddwn yn pwyso ar i gynigion y Cyd-banel gael eu dwyn ymlaen gan Ymddiriedolwr USS gan obeithio y bydd yn bosibl dod i sefyllfa sy’n dderbyniol i’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn ogystal a’r UCU, cyflogwyr y brifysgol a’r Ymddiriedolwr.

Yn gynt y mis hwn cawsom gyfarfod Neuadd y Dref ar yr anghydfod i staff ac un i fyfyrwyr, a gallwch chi eu gweld yma os nad oedd modd i chi fod yn bresennol. Cawsom drafodaethau defnyddiol ar amrywiol faterion yn cynnwys llwyth gwaith. Un o’r eitemau roeddwn i’n gallu adrodd arni oedd trafodaeth ddiweddar ym Mwrdd Gweithredol y Brifysgol ar sut, yn ymarferol, y gallwn roi myfyrwyr yn gyntaf a’r cyfleoedd a allai fod ar gael i leihau’r pwysau ar fyfyrwyr a staff drwy ystyried (mewn ymgynghoriad â’r arholwyr allanol) sut rydym ni’n asesu. Pe bai modd i ni haneru’r asesu a sicrhau bod ymarfer asesu mewn modiwlau cytras yn gyson ar draws y sefydliad (nad yw i’w weld yn amhosibl), gallem ar yr un pryd wella’r profiad dysgu i fyfyrwyr a helpu i wneud y llwyth gwaith yn fwy hylaw i staff sydd dan bwysau.  O ystyried y cyfyngiadau rydym ni’n eu profi mae angen i ni weithio gyda’n gilydd fel Prifysgol i ymchwilio i bosibiliadau fel hyn.

O sôn am fyfyrwyr, mae Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Jackie Yip yn fy atgoffa bod etholiadau’r gwanwyn ar gyfer swyddi sabothol ar y trothwy. Mae gennym broses ddemocrataidd fywiog yn yr Undeb, a byddwn yn gwerthfawrogi pe baech yn annog myfyrwyr i gymryd rhan drwy bleidleisio maes o law neu yn wir sefyll fel ymgeiswyr. Mae ein perthynas waith agos gydag Undeb y Myfyrwyr yn hanfodol i brofiad myfyrwyr a staff ac fe wn eu bod yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth. Ar nodyn ychydig yn wahanol, ystyriwch hefyd ddathlu gwaith staff, myfyrwyr a thiwtoriaid i wella profiad y myfyriwr yng Nghaerdydd drwy eu henwebu am Wobr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr. Fe wn fod yr enwebeion a’r enillwyr yn gwerthfawrogi’r math hwn o enwebiad yn fawr, a gallwch eu cyflwyno yma.

Yn gynt yn y mis ymunais i â’r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC, i blannu coeden yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf i lansio Coed Phoenix gydag Ysgolion Cymru, prosiect sy’n ategu menter Coed Phoenix gydag Ysgolion Namibia sydd eisoes ar waith yn Affrica. Y nod yw plannu miliwn o goed ac annog y genhedlaeth iau i gydnabod pwysigrwydd gweithredu ar unwaith, am resymau sy’n amlwg i bawb. Y bwriad maes o law yw estyn y prosiect i Zambia, ac roedd yn drawiadol gweld ymrwymiad myfyrwyr yr ysgol pan fuom ni’n eu hannerch a sicrhau eu help i blannu’r goeden symbolaidd gyntaf. Mae hyn yn ei dro yn ategu Aildyfu Borneo a grybwyllais yn fy ebost ym mis Tachwedd, ac mae’n gwbl briodol a chywir fod y Brifysgol yn cefnogi gwaith rhagorol hyrwyddwyr fel yr Athro Judith Hall o Brosiect Phoenix a Dr Benoit Goossens Ganolfan Maes Danau Girang yn Borneo gyda’u cyfraniad i’n Cenhadaeth Ddinesig a’n gweithgarwch ymchwil ac addysg. Caiff y ddau brosiect, ynghyd â chyfres o fentrau, gwybodaeth a gweithgareddau amgylcheddol eraill, eu cynrychioli yn ein Hwythnos Cynaladwyedd, a gynhelir yn ystod wythnos 2-6 Mawrth. Rhagwelir y bydd grwpiau allanol fel Dŵr Cymru, Dr Bike, Caffi Trwsio Cymru ac un o siopau Sero Wastraff Caerdydd (Iechyd Da) hefyd wrth law. Mae’r cynlluniau’n cynnwys Cynulliad y Dinasyddion lle caiff aelodau o staff drafod popeth yn ymwneud â chynaladwyedd, yn ogystal â thrafodaeth ar ffermio di-garbon a drefnir gan y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy. Cadwch olwg am fanylion maes o law a chysylltwch â’r Athro Mike Bruford, ein Deon Cynaladwyedd Amgylcheddol, os hoffech gynnig cymorth.

Mewn newyddion arall, yn ddiweddar gosodwyd ni yn y tri uchaf mewn cynghrair newydd o’r enw ‘Rags to Riches’ sy’n mesur pa mor dda mae prifysgolion yn perfformio wrth drosi eu hymchwil yn gwmnïau llwyddiannus a chreu cwmnïau deillio gwerth uchel. Dim ond Prifysgol Queens, Belfast a Phrifysgol Caergrawnt oedd yn uwch na ni ar y rhestr, a grëwyd gan Octopus Ventures, un o gronfeydd cyfalaf menter mwyaf Ewrop. Mae’r rhybuddion arferol yn berthnasol wrth ystyried cynghreiriau, ond rwy’n credu bod hwn yn adlewyrchu gwaith rhagorol ein staff, myfyrwyr a chydweithwyr gwasanaethau proffesiynol mewn cydweithrediad â phartneriaid busnes allanol i sicrhau bod ein harbenigedd ymchwil yn cael ei drosi’n gymwysiadau ymarferol a gwerth masnachol. 

Llongyfarchiadau gwresog i’r holl gydweithwyr a dderbyniodd anrhydedd yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Cafodd yr Athro Sophie Gilliat-Ray o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd,  OBE am wasanaethau i Addysg a Chymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain, a dyfarnwyd OBE i’r Athro Ian Weeks, Deon Arloesi Clinigol yng Ngholeg Gwyddorau Biolegol a Bywyd y Brifysgol am wasanaethau i drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi meddygol.  Derbyniodd yr Athro Phil Jones o Ysgol Pensaernïaeth Cymru OBE am wasanaethau i bensaernïaeth a datgarboneiddio, a dyfarnwyd OBE i’r Athro Timothy Walsh, o’r Ysgol Meddygaeth am wasanaethau i Ficrobioleg a Datblygu Rhyngwladol. Mae ei waith ar ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR; y broblem fod gwrthfiotigau hanfodol yn peidio â bod yn effeithiol) yn ddiweddar wedi ei gydnabod gyda grant MRC i sefydlu system oruchwylio AMR drwy Fietnam mewn cydweithrediad â Phrifysgol Rhydychen a Chanolfan Ymddiriedolaeth Wellcome yn Hanoi. Yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, mae’n destun balchder bod ein Rheolwr Partneriaethau Porth Cymunedol, Ali Abdi, wedi derbyn BEM am wasanaeth gwirfoddol i gymuned BAME Caerdydd. Ymunodd Ali â Thim Porth Cymunedol y Brifysgol ym mis Hydref 2015 ac mae wedi bod yn gyswllt allweddol rhwng y Brifysgol a chymuned Grangetown a hefyd yn aelod allweddol o’r prosiect ymgysylltu Cenhadaeth Ddinesig hynod lwyddiannus hwn.

Yn olaf, ar hyn o bryd does fawr i’w ychwanegu i’r hyn a ddywedais ym mis Rhagfyr mewn perthynas â’r llywodraeth Geidwadol newydd. Cafwyd cyhoeddusrwydd eang i gynlluniau i aildrefnu adrannau San Steffan ynghyd â newid sylweddol fydd yn digwydd ddechrau mis Chwefror felly rwy’n disgwyl dychwelyd at y materion hyn yn fy ebost nesaf. Yn amlwg, bydd y cynlluniau ar gyfer polisi a chyllid ymchwil y DU o ddiddordeb allweddol, a bydd llawer o weithgaredd ynghylch ein perthynas yn y dyfodol gyda’r Undeb Ewropeaidd unwaith y bydd trafodaethau’n dechrau ar Mawrth 3 gyda therfyn amser cyfreithiol ar gyfer cytundeb ddiwedd y flwyddyn. Mae’n anodd dychmygu y gellir cael cytundeb masnach cynhwysfawr erbyn y dyddiad hwnnw, ond dylai fod yn bosibl cytuno ar ein cyfranogiad yn Horizon Ewrop ac Erasmus+ os oes parodrwydd ar y ddwy ochr i wneud hynny, a dylai hefyd fod yn bosibl dod i gytundeb ar ddigon o faterion hanfodol i osgoi’r math o ddibyn roeddem ni fel pe baem ni’n ei wynebu yn ystod 2019. Yn ddomestig, mae’n hanfodol mai ein blaenoriaeth yw sicrhau setliad ar Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU (fydd yn cymryd lle cronfeydd strwythurol yr UE) nad yw’n anfanteisiol i Gymru nac i brifysgolion Cymru.

Am y tro, wrth gwrs, mae’n nodedig mai 11pm ar ddiwrnod olaf mis Ionawr 2020 yw’r pwynt pan fydd y DU yn peidio â bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol. Ar 24 Mehefin 2016, y diwrnod ar ôl refferendwm yr UE, dywedais hyn mewn ebost i gydweithwyr: ‘Rydym yn ffodus ein bod yn byw mewn democratiaeth sy’n cael gwybod beth yw ewyllys y bobl a’i pharchu. Boed hynny drwy etholiad cyffredinol neu refferendwm, fel yn yr achos hwn, rydym yn gweithio yng nghyd-destun goblygiadau penderfyniadau gwleidyddol pwysig ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’r Brifysgol, ein myfyrwyr, ein staff a’n rhanddeiliaid. Rydym wedi bod yma ers dros 100 mlynedd ac wedi gweld llu o newidiadau. Rydym yn sefydliad hyblyg, uchelgeisiol a llwyddiannus. Ni fydd hynny’n newid: Yn y byd newydd sydd ohoni, rwyf yn hyderus y byddwn yn chwilio am y manteision gorau i’r Brifysgol yn ogystal ag i Gymru, y DU a’r Byd. Rhaid i ni fynd ati nawr i uno, manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd, a pharhau i adeiladu ar ein llu o lwyddiannau.’ Y cyfan y gallaf i ei ychwanegu yw bod ewyllys y bobl bellach wedi’i mynegi drwy refferendwm a thrwy etholiad cyffredinol: mae ein tasg ni dros y blynyddoedd nesaf yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd yn 2016.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor