Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Chwefror 2020

Annwyl gydweithiwr

Erbyn y bydd yr ebost hwn wedi’i gyfieithu a’i gylchredeg, mae’n bosibl y bydd unrhyw beth rwyf i’n ei ddweud am Covid-19 (novel coronavirus) wedi dyddio gan fod y sefyllfa’n newid mor gyflym. Mewn cyfnod fel hwn mae bob amser yn anodd cadw cydbwysedd rhwng gorymateb a difaterwch, ond hoffwn eich sicrhau bod y Brifysgol wedi cynnull grŵp cynllunio sy’n cyfarfod yn rheolaidd i ystyried cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England, ac sy’n cynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr yn y Brifysgol. Mae’n siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r cyngor i olchi eich dwylo’n rheolaidd (yr un cyngor ag a roddir bob amser yn ystod y tymor ffliw), a defnyddio hances bapur wrth beswch a thisian, gan ei thaflu’n syth wedyn cyn golchi eich dwylo’n drylwyr unwaith eto. Bydd cyngor teithio’n newid wrth i ddigwyddiadau ddatblygu, a dylid cofio amdano wrth gynllunio unrhyw daith. Mae tudalen diweddariadau Prifysgol Caerdydd i’w gweld yma, ac wrth gwrs byddwn yn mynd ati’n syth i’ch hysbysu am unrhyw ddatblygiadau pwysig. Ar hyn o bryd does dim llawer mwy i’w ddweud na’ch atgoffa i beidio ag ymddiried mewn sïon di-sail ond dilyn cyngor gan ffynonellau iechyd cyhoeddus dibynadwy.

Un sgil-effaith anffodus wrth i coronavirus ledu yw achosion annifyr o ragfarn yn erbyn pobl sy’n ymddangos fel pe baen nhw’n hanu o un o’r ardaloedd lle mae’r clefyd wedi cael effaith.  Mae’r math hwn o ymddygiad yn gwbl annerbyniol ar unrhyw adeg, ac mae’n hollbwysig ein bod yn cefnogi cydweithwyr, myfyrwyr neu yn wir unrhyw un sydd wedi dioddef y fath ymddygiad. Er nad oes unrhyw gyngor iechyd cyhoeddus yma wedi crybwyll gwisgo mygydau, maen nhw wrth gwrs ar yr un pryd yn eitemau hanfodol i weithwyr iechyd proffesiynol ar linell flaen epidemig y firws yn Tsieina ac am resymau amlwg maen nhw hefyd yn brin. Mae grŵp o gydweithwyr yn y Brifysgol yn codi arian i un o’n partneriaid, Ysbyty Canser Hubei yn Wuhan, i helpu i brynu anadlyddion N95, sy’n cynnig amddiffyniad ar raddfa glinigol i staff meddygol sydd ar hyn o bryd yn gofalu am nifer ormodol o gleifion sydd wedi’u heintio â coronavirus. Os hoffech ddangos undod a chefnogaeth, gwnewch hynny yma.

Yn agosach at adref, mae pobl Cymru’n dal i ddioddef effeithiau difäol Storm Dennis. Rwy’n gwybod bod ein myfyrwyr yn cynnig cymorth gweithredol drwy raglen wirfoddoli Undeb y Myfyrwyr, ond fe wn i hefyd ei bod o bosibl wedi effeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar rai cydweithwyr. Os felly, efallai yr hoffech wybod bod Care First – sy’n darparu ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr – yn gallu cynnig cefnogaeth i staff ar ffurf cymorth emosiynol mewn achosion o orbryder neu golled, neu gyngor ymarferol drwy Cyngor ar Bopeth. Byddai’r olaf yn cynnwys cyngor ariannol, cyngor cyfreithiol neu wybodaeth am yswiriant a chymorth ar sut i fynd ati i wneud hawliad. Ceir rhagor o wybodaeth yma neu drwy ffonio’r llinell gymorth 24 awr ar 0800 174319.

Mae’r gweithredu diwydiannol rydym ni’n ei brofi ar hyn o bryd yn digwydd yn erbyn cefndir o gynnydd adeiladol, ac nid lleiaf y trafodaethau cenedlaethol ar faterion yn ymwneud â phensiynau. Ers mis Ionawr, mae UCU, UUK ac USS wedi bod yn cymryd rhan mewn sgyrsiau tair ffordd dan gadeiryddiaeth Joanne Segars, cadeirydd y Cyd Banel Arbenigol (JEP) a sefydlwyd gan UCU ac UUK i ddod o hyd i ffordd ymlaen ar ôl atal anghydfod 2018. Dyma’r tro cyntaf i’r tair ochr gynnal trafodaethau ar y cyd, sydd wedi bod yn gynhyrchiol ac y disgwylir iddyn nhw barhau. Fel y soniais i fis diwethaf, mae Prifysgol Caerdydd a’i grŵp o arbenigwyr ar y staff yn cefnogi argymhellion y JEP ac rwy’n gobeithio y bydd yr argymhellion hyn yn dderbyniol i Ymddiriedolwr USS, er mwyn osgoi cynnydd pellach yng nghyfraddau’r cyfraniadau. Mae cwestiwn rhannu costau’n un gwahanol; fel y gwyddoch o bosibl, roedd y gymhareb 35:65 i rannu cost y cynllun buddion diffiniedig rhwng cyflogeion a chyflogwyr yn ganlyniad i gytundeb rhwng UCU ac UUK i ddatrys anghydfod 2011. Dyma yw’r sefyllfa ddiofyn o hyd yn rheolau’r Cynllun. Gwnaeth UUK gynnig ar hyn yn unol â’r argymhellion yn adroddiad cyntaf y JEP mewn ymdrech i osgoi’r anghydfod presennol, ond gwrthodwyd y cynnig ac nid yw UCU wedi gwneud unrhyw gynnig y tu hwnt i’w sefyllfa ‘dim niwed’, sydd mewn gwirionedd yn golygu rhoi’r gorau i’r cytundeb hirsefydlog hwn o ran rheolau’r Cynllun ynghyd â chostau ychwanegol sylweddol i brifysgolion.

O ran cyflogau ac amodau gwaith, y mae Cymdeithas Cyflogwyr y Prifysgolion a’r Colegau (UCEA) yn gyfrifol amdanynt ar ochr y cyflogwyr, ceir cytundeb cyffredinol bod rhaid mynd i’r afael â materion cytundebol a bylchau o ran cyflog, ac mae’r cyflogwyr yn fwy na pharod i wneud hyn. Fel y dywedais y tro diwethaf, ar 27 Ionawr cyflwynodd y cyflogwyr set o gynigion i’w hystyried, a’r gobaith yw y bydd y trafodaethau parhaus rhwng UCU ac UCEA yn caniatáu cynnydd ar y materion hyn. Er nad oes gan UCEA fandad i ailagor setliad cyflog y llynedd, rwy’n credu y gallai’r cynigion diweddar gynnig sail ar gyfer dod ag anghydfod 2019-20 i ben. Byddai hyn yn ei dro’n galluogi ymgysylltu adeiladol gan y ddwy ochr yn y cylch cyflog 2020-21, a fyddai fel rheol yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae llythyr agored diweddar gan UUK ac UCEA yn cynnig crynodeb defnyddiol o’r sefyllfa bresennol, a byddwn ni’n parhau i annog pob ochr i geisio datrysiad buan i’r gweithredu diwydiannol presennol er budd ein myfyrwyr a’n staff. Mae’r cynnydd yn wirioneddol galonogol ac rwy’n obeithiol bod modd dod o hyd i ffordd drwy’r sefyllfa ddisymud bresennol os oes ewyllys i wneud hynny.

Gan droi at faterion academaidd, rwy’n falch iawn i adrodd bod cyfanswm y dyfarniadau ymchwil ar gyfer dau chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd bron yn £100m, sef yr uchaf i’w gofnodi erioed a thua £30m yn uwch na dau chwarter cyntaf y flwyddyn flaenorol. Ar yr un pryd yn ystod y cyfnod, cyfanswm nifer y dyfarniadau yw’r isaf i’w gofnodi dros y pedair blynedd ddiwethaf, sef 440, sy’n golygu bod ein strategaeth o ganolbwyntio ar nifer llai o ddyfarniadau â gwerth uwch yn talu ffordd. Llongyfarchiadau arbennig i’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, lle sicrhaodd yr Athro Simon Murphy, yr Athro Donald Forrester a Dr Luke Sloan gyfanswm o dros £5.3m mewn dyfarniadau, sy’n gyflawniad rhyfeddol yn eu maes pwnc. Yn yr Ysgol Meddygaeth, mae’r Athro Ian Jones, yr Athro John Chester a Dr Andrew Fry ill tri wedi derbyn dyfarniadau, gyda chyfanswm o dros £17.3m mewn meysydd sy’n amrywio o iechyd meddwl i ganser a geneteg. Unwaith eto mae hwn yn gyflawniad rhagorol, ac mae pob un, yn ogystal â’r rheini a gyfrannodd at sicrhau dyfarniadau ledled y Brifysgol, yn haeddu ein llongyfarchiadau gwresog a’n diolch am yr holl ymdrech a wnaed i sicrhau’r llwyddiannau nodedig hyn.

Yn y flwyddyn academaidd hon rydym ni’n gweld cynnydd rhyfeddol mewn ceisiadau gan fyfyrwyr, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd cyffredinol o 25.4%. Mae cynnydd o 13% ymhlith ceisiadau israddedig cartref, yn erbyn gostyngiad bach o 0.6% ar draws y sector. Rwy’n prysuro i ychwanegu nad yw hyn yn golygu y byddwn ni’n gweld cynnydd cyfatebol yn nifer ein myfyrwyr; ond bydd hyn yn ein caniatáu ni i ddewis yr ymgeiswyr mwyaf cymwys a’u cydweddu â’u dewis o raglenni. Mae hefyd yn dangos bod Prifysgol Caerdydd yn boblogaidd gydag israddedigion rhyngwladol a chartref ar adeg o ansicrwydd na welwyd ei debyg mewn perthynas â modelau mewnfudo a chyllido yn y dyfodol. Ni ddylem amau am funud bod rhai prifysgolion yn y DU yn wynebu’r gwrthwyneb, ac rwy’n gwbl sicr bod gweld twf mewn ceisiadau’n well sefyllfa i fod ynddi na gweld gostyngiad. Ar yr un pryd mae’n bwysig fod gennym ni ddigon o staff i addysgu a chynnig cefnogaeth ehangach, ynghyd â’r cyfleusterau angenrheidiol. A dyna yn wir fel y mae hi, ac mae’n werth nodi ein bod yn dal i fod mewn safle ffafriol o ran cymarebau myfyrwyr-staff yn y sector (25ain o 121) ac o fewn Grŵp Russell, a’n bod hefyd eleni wedi codi dau safle yng Ngrŵp Russell o ran tariff UCAS. Dyw hi ddim yn hawdd cadw cydbwysedd rhwng cynaladwyedd ariannol, niferoedd myfyrwyr sy’n hylaw gydag adnoddau digonol a sicrhau lefelau priodol o ansawdd, ond mae’r data sydd gennym yn dangos ein bod yn gwneud hyn.

Ar ôl peth oedi, o ganlyniad i’r aildrefnu cadarnhawyd y byddai swydd Chris Skidmore fel Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth yn cael ei rhannu’n ddwy. Y gweinidog prifysgolion newydd yw Michelle Donelan yn yr Adran Addysg a’r gweinidog gwyddoniaeth yw Amanda Solloway yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mantais hyn i ni yw y bydd un gweinidog yn canolbwyntio’n llwyr ar wyddoniaeth, sy’n gymhwysedd ar draws y DU, ac felly Ms Solloway fydd ein gweinidog yma yng Nghymru hefyd, er ei bod hi fel Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol reng yn is na’i rhagflaenydd, ac yn wahanol i weinidogion gwyddoniaeth y DU ers 2010, ni fydd yn mynychu’r cabinet. Bydd Ms Donelan yn ymwneud â ni’n ymylol yn unig, neu o ganlyniad i’r hyn sydd ym mholisi addysg uwch Lloegr, er bod ganddi gyfrifoldeb am y strategaeth addysg ryngwladol a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, sydd ill dau’n effeithio ar brifysgolion Cymru.

O ran Brexit, mae’r ddwy ochr bellach wedi cyhoeddi eu mandadau trafod, sy’n bell iawn oddi wrth ei gilydd.  O ddarllen mandad y DU, sydd i’w weld yma, ceir ymrwymiad pendant i geisio cyswllt â Horizon Ewrop, ond mae’r arwyddion o ran Erasmus+ yn fwy amwys (gweler t. 21). Dyw hyn ddim yn hollol sicr, ond mae’n glir na fydd y DU yn estyn y cyfnod trawsnewid y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn, mai ychydig iawn o amser sydd i ddod i gytundeb, ac yn wir bod y llywodraeth wedi datgan ei bod yn barod i derfynu’r trafodaethau os nad oes cynnydd digonol wedi’i wneud erbyn mis Mehefin. O ganlyniad, ac oherwydd y bwlch rhwng y ddau safbwynt o ran cysondeb, rhyddid i symud a rôl Llys Cyfiawnder Ewrop, rwy’n teimlo bod angen i brifysgolion nawr gydio mewn agenda cadarnhaol i helpu i ffurfio dyfodol newydd i ymchwil a chyfnewid academaidd sy’n cwmpasu’r byd. Er bod cyswllt â Horizon Ewrop a chymryd rhan mewn elfennau o Erasmus+ o bosibl yn ddymunol ac yn nodau mae’r llywodraeth yn eu cefnogi os ydynt er budd y DU, efallai na fydd modd eu cyflawni. Mae angen i ni ddadlau’n gryf dros ymchwil a thalent ryngwladol per se, oherwydd y pwynt hollbwysig yw bod y rhain yn flaenoriaethau sy’n werth eu cyllido. Mae llawer yn y fantol ac ni fydd ymladd brwydrau’r gorffennol yn ein helpu. Yn hollbwysig, rydym ni’n ddibynnol ar ein cydweithwyr a’n myfyrwyr o Ewrop ac o bedwar ban byd, ac mae gennym ni ymrwymiad iddyn nhw hefyd felly rhaid i ni barhau i ddadlau bod angen i Drysorlys y DU fuddsoddi’n sylweddol mewn cydweithio rhyngwladol, a bydd angen i ni weithio gyda blaenoriaethau llywodraeth y DU os ydym ni am gyflawni hynny, boed hynny drwy offerynnau’r UE neu ddewisiadau domestig amgen.

Yn olaf, yn gynharach y mis hwn cyhoeddwyd y bydd yr Athro Gary Baxter yn cwblhau ei dymor yn Ddirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biolegol a Bywyd yn yr haf. Mae Gary wedi bod yn gydweithiwr rhagorol ac rwyf i’n mwynhau cydweithio ag e’n fawr. Er fy mod yn gwerthfawrogi cymaint mae’n ei wneud i ni yn ei rôl bresennol rwyf i hefyd yn deall ei awydd i ddychwelyd at ymchwil ar ôl cyfnod sylweddol yn Bennaeth Ysgol ac yna’n Ddirprwy Is-Ganghellor, ac yn fuan byddwn yn dechrau chwilio am ei olynydd.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor