Newyddion yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

Annwyl gydweithiwr,

Dim ond pythefnos sydd wedi mynd heibio ers i ni fynd ati o ddifrif i ddechrau ein prosesau rheoli mewn argyfwng, er ei bod yn teimlo fel cyfnod llawer hwy. Rydym wedi cyflawni llawer iawn yn ystod y cyfnod hwn oherwydd gwaith caled ac ymrwymiad cydweithwyr ar draws y Brifysgol, yn ogystal â doethineb a chydweithrediad ein myfyrwyr. Mae pawb yn gwneud eu gorau i barhau i addysgu myfyrwyr Caerdydd a chynnal ymchwil lle bo hynny’n bosibl (sy’n amrywio’n aruthrol ar draws yr holl ddisgyblaethau). Fel y gwyddom oll, gallai’r cyfyngiadau sydd ar waith bara misoedd, ac ychydig iawn o reolaeth sydd gennym drostynt, os o gwbl. Felly, mae’n anochel y byddwn dros amser yn symud o fod yn rheoli argyfwng i fath o fusnes fel arfer, hyd yn oed os bydd hyn o dan yr amodau presennol lle mae’r rhan fwyaf o bethau ar gau, neu sefyllfa debyg iddi.

O ganlyniad, mae angen i ni edrych ar i ba raddau y gallwn barhau â’r holl weithgareddau rydym yn eu cynnal fel arfer, a llunio rhan o’n strategaeth fel prifysgol ar sail hynny. Addysg, ymchwil, arloesedd, rhyngwladol a chenhadaeth ddinesig yw’r pum prif faes yr ydym yn canolbwyntio arnynt. Hoffwn drafod yr olaf o’r rhain heddiw.

Yn amlwg, yn yr un modd â’n holl weithgareddau arferol, ni allwn barhau â’n cenhadaeth ddinesig fel yr oeddem wedi’i fwriadu. Er enghraifft, bydd rhaid oedi ein gwaith gyda’r holl ysgolion yng Nghymru nes byddant ar agor eto. Fodd bynnag, yn union fel y mae cydweithwyr wedi mynd i’r afael â her y coronafeirws mewn ffyrdd mor arbennig, gallwn ddangos ymrwymiad parhaus Prifysgol Caerdydd i’n cenhadaeth ddinesig, hyd yn oed os bydd hynny mewn modd sydd wedi’i addasu’n gwbl briodol yn yr amgylchiadau presennol.

Yn anad dim, rydym wedi gweld ymateb ein cydweithwyr clinigol yn yr Ysgolion Meddygaeth, Gofal Iechyd, y Gwyddorau a Deintyddiaeth. Mae gan bob un ohonom reswm dros fod yn ddiolchgar iddynt am eu gwaith yn helpu’r wlad i ymdopi â’r argyfwng. Maent yn gwneud hynny drwy weithio gyda chleifion yn uniongyrchol neu gefnogi mewn ystod o ffyrdd eraill gan gynnwys drwy gynnig hyfforddiant a chyrsiau gloywi’r sgiliau hynny sydd eu hangen ar y rheng flaen er mwyn defnyddio pethau fel peiriannau anadlu, offer diagnostig a Chyfarpar Diogelu Personol (PPE). Rydym wedi bod yn cynnig ein cyflenwadau PPE ni hefyd oherwydd gwyddwn cymaint o broblem yw hyn ar hyn o bryd a pha mor hanfodol yw’r rhain er mwyn diogelu staff y GIG sy’n trin cleifion â COVID-19.

Rydym hefyd yn gweithio’n galed iawn yn cyflymu’r broses o alluogi myfyrwyr meddygaeth blwyddyn olaf a chyrsiau eraill sy’n ymwneud â meysydd iechyd i gofrestru cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd yn gobeithio rhoi’r cyfle i fyfyrwyr blynyddoedd iau wirfoddoli yn y GIG. Bydd myfyrwyr o bob disgyblaeth yn cael cyfleoedd eraill i wirfoddoli os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Ar ben hynny, rydym yn cydlynu ymateb i alwad gan Lywodraeth Cymru yn gwahodd cwmnïau ac ymchwilwyr i gysylltu sydd ag arbenigedd, gallu a chyfleusterau a all gefnogi’r gwaith o weithgynhyrchu peiriannau anadlu, ac o bosibl dyfeisiau meddygol eraill sy’n debygol o fod â galw mawr amdanynt dros y misoedd nesaf.

Mewn ymateb i’r galw gan y GIG, rydym eisoes wedi sicrhau bod nifer o’n hadeiladau, labordai a neuaddau preswyl ar gael os oes angen. Mae rhannau o Adeilad Cochrane yn cael eu newid i fod yn gyfleuster hyfforddiant ar gyfer staff y GIG, ac mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn defnyddio llawr gwaelod ein Ysbyty Deintyddol i gynyddu’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer ymateb i achosion brys. Gallem fod mewn sefyllfa i gynnig cymorth TG hefyd.

Ar ben hynny, gallwn chwarae ein rhan yn yr ymdrech ymchwil enfawr fydd ei angen i fynd i’r afael â’r her ddigynsail hon. Mae cydweithwyr o Ysgol y Biowyddorau yn chwarae rôl flaenllaw wrth fapio lledaeniad y Coronafeirws yn rhan o brosiect £20m a gyhoeddwyd gan brif gynghorydd gwyddonol y DU. Bydd hwn yn creu’r unig ganolfan dilyniannu COVID-19 yng Nghymru fydd yn cynnwys tîm o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Drwy ddadansoddi genomau COVID-19 gan gleifion o Gymru, bydd y tîm yn gallu olrhain esblygiad y feirws yng Nghymru a rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i lywio’r ymateb gan iechyd y cyhoedd yma a ledled y DU. Mae ein Canolfan Treialon Ymchwil mewn trafodaethau am ddatblygu treialon o driniaethau i gefnogi gofal sylfaenol er mwyn atal COVID-19 ysgafn rhag dod yn fwy difrifol, ac mewn gofal eilaidd i drin cleifion COVID-19 sydd mewn cyflwr difrifol. Yn olaf, drwy weithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Dr Emma Thomas-Jones o’r Ysgol Meddygaeth yn helpu i lansio un o’r prosiectau ymchwil cyntaf i geisio mesur agweddau’r cyhoedd yn y DU tuag at y coronafeirws a’u hymatebion i’r pandemig. Mae’r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd hyd at 10,000 o bobl yn cymryd rhan, a bydd y rhai sy’n trefnu ymateb y rheng flaen yn cael mynediad cynnar at yr adroddiadau er mwyn eu helpu i lywio’r camau maent yn eu cymryd.

Efallai y cofiwch imi alw am wirfoddolwyr yr wythnos ddiwethaf i gysylltu a chefnogi ein myfyrwyr sydd heb unrhyw ddewis ar wahân i aros yn llety’r myfyrwyr drwy ymneilltuo gan nad ydynt yn cael teithio, neu am nad oes ganddynt unman arall i fynd iddo.  Rwyf yn ddiolchgar iawn i’r 120+ o staff sydd wedi gwirfoddoli gan olygu ein bod yn gallu lansio’r prosiect hwn a rhoi gwybod i fyfyrwyr ein bod yma i’w cefnogi. Rwyf hefyd yn gwybod bod llawer o staff a myfyrwyr yn cefnogi cydweithwyr, ffrindiau, teulu ar gymuned ehangach yn eu ffyrdd eu hunain wrth i ni addasu i’r ffordd newydd hon o weithio a byw ein bywydau.

Yn olaf, mae mwy i fywyd dynol na chamau ymarferol, er mor angenrheidiol a phwysig yw’r rhain yn yr argyfwng iechyd presennol. Mae llawer o bobl yn meddwl am sut y gallwn ehangu ein gorwelion yn ddiwylliannol ac yn ddeallusol er gwaethaf y cyfyngiadau a wynebwn. Er enghraifft, roedd yn wych gweld yr ymateb cadarnhaol a gafwyd i’r rhaglen ‘The Hidden History of the Mantelpiece’ ar Radio 4 a gafodd ei hysgrifennu a’i chyflwyno gan Dr Rachel Hurley o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Rwyf yn argymell y rhaglen yn fawr, os hoffech wrando.

A dywedodd yr Athro Ken Hamilton (Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth) wrtha i, gan nad yw Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd yn cael perfformio ar hyn o bryd, bydd recordiad o’u premiere byd-eang o Symffoni Rhif 1 Michael Csányi-Wills ar gael am 24 awr am 19:30 ar 27 Mawrth 2020 drwy’r ddolen ganlynol.

Bydd hyn yn lle’r cyngerdd sydd fel arfer yn cael ei chynnal ar ddiwedd y semester. Os ydych yn darllen hwn ar ôl i’r recordiad gael ei chwarae, bydd ar gael ar CD maes o law.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor