Llwybrau Gyrfaol i Ymchwilwyr
Gallwch chi gael gafael ar adnoddau, gwybodaeth a chyngor gyrfaol yn eich amser eich hun. Crëwyd gan y Tîm Dyfodol Myfyrwyr ar gyfer ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn unig.
Dysgwch sut i gynllunio a rheoli eich gyrfa’n effeithiol, dim ots pa swydd neu ddiwydiant y byddwch chi’n ei (d)dewis.
Archwiliwch yr ystod eang o opsiynau gyrfa sydd ar gael i chi fel ymchwilydd, o fewn byd addysg uwch a thu allan iddo.
Nodi ffyrdd o ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol i wneud y gorau o gyfleoedd a symud ymlaen yn eich gyrfa.
Datblygu strategaethau i chwilio am swyddi mewn ffordd effeithiol a deall prosesau a chymwysiadau recriwtio academaidd.