{"id":895,"date":"2025-03-10T14:35:20","date_gmt":"2025-03-10T14:35:20","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/?page_id=895"},"modified":"2025-06-27T11:16:37","modified_gmt":"2025-06-27T10:16:37","slug":"llywio-newid-gyrfa","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/llywio-newid-gyrfa\/","title":{"rendered":"Llywio newid gyrfa"},"content":{"rendered":"<p>Mae newid gyrfa yn rhan arferol o fywyd gwaith! Mae <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/defnyddio-ai-yn-natblygiad-eich-gyrfa-using-ai-in-your-career-development\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial<\/a>\u00a0a thechnoleg wedi newid y farchnad lafur yn llwyr, gan greu swyddi newydd, newid gwraidd swyddi eraill, a dylanwadu ar y<a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/yr-hyn-y-mae-cyflogwyr-yn-chwilio-amdano\/\"> sgiliau y mae ar gyflogwyr eu heisiau<\/a>. Mae hyd yn oed yn bosibl y bydd eich gyrfa ymchwil wedi bod yn ganlyniad i awydd i fynd ati i ddilyn cyfeiriad newydd yn eich gyrfa. Efallai y bydd newidiadau i gynllun eich gyrfa yn rhai cynlluniedig neu efallai na fyddant wedi\u2019u cynllunio, ond yr hyn sy&#8217;n bwysig yw eich bod yn datblygu&#8217;r meddylfryd cywir i fynd i&#8217;r afael \u00e2 newid mewn modd cadarnhaol a chydnerth, gan werthuso&#8217;r hyn y mae arnoch ei eisiau o&#8217;ch gyrfa a derbyn rhywfaint o risg anochel. Gall datblygu sgiliau rheoli gyrfa cadarn a deall y modd y gallwch gynllunio a gweithredu prosesau pontio ym myd gwaith eich helpu i lywio newid ac ansicrwydd yn eich gyrfa eich hun.<\/p>\n<h4>Mathau o newidiadau mewn gyrfa<\/h4>\n<p>Yn ogystal \u00e2&#8217;r newid mwy amlwg o ran swydd, sector neu r\u00f4l, gallai newid mewn gyrfa hefyd gynnwys y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Newid ym mhatrwm y gwaith (e.e. o lawn-amser i ran-amser)<\/li>\n<li>Newid ym model yr yrfa (e.e. o un math o waith i bortffolio o opsiynau, o waith llawrydd i waith cyflogedig)<\/li>\n<li>Symud i fyny\/symud i lawr (newid mewn cyfrifoldeb neu o ran dwyster y gwaith)<\/li>\n<li>Newid o ran y cyd-destun (gwaith\/sgiliau tebyg yn cael eu defnyddio mewn sector\/diwylliant gwahanol, e.e. o&#8217;r sector preifat i&#8217;r sector cyhoeddus)<\/li>\n<li>Newid o ran galwedigaeth (cenhadaeth neu gyfeiriad newydd)<\/li>\n<li>Newid o ran blaenoriaethau\u2019r yrfa (yn cael ei gysylltu fel arfer \u00e2 chyfnod mewn bywyd a phrofiadau)<\/li>\n<\/ul>\n<p>Beth bynnag fo\u2019r canlyniad, gall newidiadau mewn gyrfa ddechrau gyda syniadau annelwig, e.e. &#8220;Mae angen newid arnaf&#8221; neu &#8220;Mae angen cyfeiriad newydd arnaf&#8221;; mae&#8217;r diweddbwynt yn llawer llai eglur na&#8217;r cymhelliad i wneud rhywbeth newydd. I\u2019ch helpu i sicrhau newid bydd angen i chi dorri pethau\u2019n ddarnau llai fel y gallwch harneisio eich parodrwydd i newid a chanolbwyntio ar gymryd camau bach i&#8217;r cyfeiriad cyffredinol y mae arnoch ei eisiau. Peidiwch \u00e2 phoeni os yw&#8217;r amcanion yn aneglur i ddechrau; canolbwyntiwch ar gyflawni rhywbeth sy&#8217;n rhoi cychwyn i&#8217;r broses ac sy&#8217;n caniat\u00e1u i chi adeiladu momentwm \u2013 yr hyn sy\u2019n bwysig yw dechrau yn <em>rhywle<\/em>.<\/p>\n<h4>Cynllunio ar gyfer newid<\/h4>\n<p>Mae siarad am newid gyrfa yn un peth, ond mae angen ymrwymiad a chymhelliant i roi hyn ar waith. Mae pontio\u2019n greiddiol i\u2019r broses, ond nid y newid mo hyn \u2013 y pontio yw&#8217;r amser, y broses a&#8217;r profiad yr awn drwyddo i gyrraedd man gwahanol. Tra bo newid swydd yn cael ei bennu gan amserlen proses recriwtio a gweithgareddau diffiniedig (dod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanynt, mynd i gyfweliadau, ac ati), mae newid gyrfa yn broses hirach sy&#8217;n cynnwys agweddau personol ac ymarferol.<\/p>\n<p>Yn gyntaf, gall fod o gymorth myfyrio ar le rydych \u2019nawr ac ar yr hyn sydd gennych mewn golwg o ran eich gyrfa yn y dyfodol. Gallech ddilyn y camau syml a amlinellir isod i&#8217;ch helpu i ddechrau arni:<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Cam 1<\/strong> &#8211; os oes gennych newid penodol mewn golwg, nodwch y newid hwnnw ar bapur. Bydd gwneud hyn yn ei newid o fod yn syniad amwys yn eich meddwl i fod yn nod penodol.<br \/>\nOs na allwch fod mor benodol \u00e2 hynny, dechreuwch o Gam 2.<\/li>\n<li><strong>Cam 2<\/strong> &#8211; nodwch hyd at dri pheth pwysig yr hoffech gael mwy ohonynt wrth newid gyrfa, a hyd at dri pheth yr hoffech gael llai ohonynt.<\/li>\n<li><strong>Cam 3<\/strong> &#8211; pa newidiadau ymarferol a allai fod ynghlwm wrth eich syniadau?<\/li>\n<\/ol>\n<p>Pan fydd gennych syniad pa newidiadau y gallech neu yr hoffech eu rhoi ar waith, gallwch ddefnyddio&#8217;r awgrymiadau ymarferol canlynol i helpu i reoli\u2019r broses o bontio rhwng gyrfaoedd:<\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-navigating-career-change-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Creu rhwydweithiau newydd<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-navigating-career-change-cy-1\"><p>Bydd arnoch angen cysylltiadau newydd yn y maes y gobeithiwch symud iddo. Dechreuwch gylchdroi yn y sector, mynd i ddigwyddiadau, ymuno \u00e2 chymunedau ar-lein \u2013 amlygwch eich diddordeb a dechrau dod yn rhywun cyfarwydd. Gallwch ddarllen ein cyngor mwy manwl yma ar rwydweithio yn r\u00f4l ymchwilydd gyrfa gynnar.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-navigating-career-change-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Gwnewch eich gwaith ymchwil<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-navigating-career-change-cy-2\"><p>Cloddiwch yn ddyfnach i'r hyn sy'n digwydd mewn sectorau a sefydliadau sy\u2019n eich denu. Chwiliwch eu gwefannau, dilynwch y newyddion a darllenwch adroddiadau allweddol. Cymerwch gam i'w byd a cheisio deall yr agend\u00e2u a'r problemau y maent yn mynd i'r afael \u00e2 nhw. Mae hon yn wybodaeth y gallwch ei defnyddio mewn ceisiadau a chyfweliadau.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-navigating-career-change-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Profwch y d\u0175r <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-navigating-career-change-cy-3\"><p>Os gallwch, ceisiwch ddod o hyd i gyfleoedd i fynd ar leoliad, i gyflawni cyfnod 'blasu' byr, neu i gysgodi neu wirfoddoli yn y sector neu'r r\u00f4l yr ydych am symud iddo\/iddi. Mynnwch weld y sector neu\u2019r r\u00f4l o'r tu mewn, gofynnwch gwestiynau, cesglwch wybodaeth, cr\u00ebwch gysylltiadau. Bydd hyn hefyd yn eich helpu i wirio bod eich rhagdybiaethau am y math hwn o lwybr gyrfa yn gywir neu\u2019n dangos i chi nad rhyw fan gwyn man draw yw\u2019r cyfan!<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-navigating-career-change-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Dysgwch yr iaith<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-navigating-career-change-cy-4\"><p>Mae gan y sector addysg uwch ddiwylliant ac iaith unigryw, ac felly hefyd sectorau a sefydliadau eraill. Pa eiriau, ymadroddion ac acronymau yr ydych yn eu gweld a'u clywed yn y sector y mae gennych ddiddordeb ynddo \u2019nawr? Mireiniwch eich <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/skills-and-attributes\/developing-commercial-awareness\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ymwybyddiaeth fasnachol<\/a> a\u2019r hyn a wyddoch am yr wybodaeth y tu mewn i\u2019r diwydiant yr ydych am ymuno ag ef.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-navigating-career-change-cy-5\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Byddwch yn barod i gamu\u2019n \u00f4l neu i'r ochr<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-navigating-career-change-cy-5\"><p>Weithiau gall y rhagolygon o ran symud i rywbeth a fydd yn cynnig yr un radd, yr un lefel o wobr, yr un budd-dal neu\u2019r un statws ddal newid yn ei \u00f4l. Os yw'r pethau hynny'n bwysig, hyd yn oed mewn lle nad ydych yn fodlon arno, mae\u2019n bosibl nad ydych yn barod am newid. Heb brofiad perthnasol na llwyddiant blaenorol yn eich maes newydd dewisol, efallai na fyddwch mor gystadleuol ag yr ydych \u2019nawr. Byddwch yn barod i nofio yn eich unfan, gwneud cynnydd yn araf neu gamu i lawr dros dro, a chynlluniwch ar gyfer hyn. Os symudwch i lwybr sy'n iawn ar eich cyfer chi, byddwch yn gwneud cynnydd yn gyflymach, a byddwch yn fwy bodlon o lawer yn eich gwaith.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-navigating-career-change-cy-6\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Dysgu sut i droi eich gyrfa<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-navigating-career-change-cy-6\"><p>Yn yr un modd \u00e2 chamu\u2019n \u00f4l neu i'r ochr, byddwch yn dechrau\u2019r broses o bontio rhwng gyrfaoedd, a symud ymlaen yn hynny o beth, ar yr un pryd \u00e2 gwneud beth bynnag yr ydych yn ei wneud \u2019nawr. Dyma beth yw ystyr troi eich gyrfa \u2013 yn debyg i b\u00eal-fasged, mae hyn yn golygu cadw un droed yn yr unfan tra bod y llall yn symud er mwyn eich helpu i ddod o hyd i gyfle i symud. Mae angen cyfres o gyfeiriadau arnoch i symud tuag at yrfa newydd mewn camau bach, ymarferol sy'n eich rhoi chi lle rydych am fod. Mae gan <a href=\"https:\/\/careerpivot.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gymuned Career Pivot<\/a> adnoddau gwych ar gyfer unigolion sy\u2019n ystyried newid swydd yng nghanol gyrfa. Mae\u2019n bosibl y bydd angen cymryd tactegau gyrfa anghyfarwydd wrth newid cyfeiriad. Mae dull gyrfa traddodiadol yn cynnwys nodi nodau gyrfa penodol a gweithio tuag atynt mewn modd rhesymegol, llinol a threfnus. Bydd angen chwilfrydedd arnoch chi, i archwilio cyfleoedd anghyfarwydd a bod yn agored i ddigwyddiadau ar hap; dyfalbarhad, i ddelio \u00e2 rhwystrau; hyblygrwydd, i fynd i'r afael ag amrywiaeth o amgylchiadau a digwyddiadau; ac optimistiaeth, i sicrhau'r manteision mwyaf posibl o ddigwyddiadau annisgwyl.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-navigating-career-change-cy-7\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Dod o hyd i fentor gyrfa<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-navigating-career-change-cy-7\"><p>Cysylltwch \u00e2 rhywun rydych chi'n ei adnabod sydd eisoes yn gweithio mewn r\u00f4l neu sector rydych chi'n gobeithio pontio iddo a gweld a fydd yn cynnig mentoriaeth i'ch helpu chi i lywio'ch ffordd yno. Efallai na fydd yn gallu agor drysau i chi, ond bydd yn gallu eich tywys trwy eich cyfnod pontio. Gall cael mentor fod yn amhrisiadwy ar gyfer <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/gwella-eich-cyflogadwyedd\/parhau-ach-datblygiad-proffesiynol\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">eich datblygiad proffesiynol parhaus<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n \n\n                        <div class=\"alert alert alert-error with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio rhagor am y pwnc hwn:<\/p>\n<ul>\n<li>Darllenwch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/rheoli-eich-gyrfa-managing-your-career\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ein cyngor ar sgiliau rheoli gyrfa ar<\/a> Dyfodol Myfyrwyr+<\/li>\n<li>Cyngor Jobs.ac.uk <a href=\"https:\/\/career-advice.jobs.ac.uk\/career-development\/top-tips-for-a-career-change\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ar awgrymiadau defnyddiol o ran newid gyrfa<\/a><\/li>\n<li>Cyngor Prospects <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/getting-a-job\/changing-careers\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ar newid gyrfa<\/a><\/li>\n<li>Arweiniad cam wrth gam Indeed <a href=\"https:\/\/www.indeed.com\/career-advice\/career-development\/switching-careers\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ar sut i newid gyrfa<\/a><\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Meithrin yr hyder angenrheidiol i newid eich gyrfa a throi tuag at r\u00f4l neu sector newydd cyffrous.","protected":false},"author":9374,"featured_media":597,"parent":0,"menu_order":3,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-895","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/895","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9374"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=895"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/895\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1169,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/895\/revisions\/1169"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media\/597"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=895"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=895"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=895"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}