{"id":905,"date":"2025-03-10T15:57:38","date_gmt":"2025-03-10T15:57:38","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/?page_id=905"},"modified":"2025-06-23T09:44:27","modified_gmt":"2025-06-23T08:44:27","slug":"creu-syniadau-gyrfa","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/archwilio-opsiynau-gyrfa\/creu-syniadau-gyrfa\/","title":{"rendered":"Cynhyrchu syniadau ar gyfer eich gyrfa"},"content":{"rendered":"<p>Mae ymchwilwyr heddiw yn dilyn amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa. Rhagdybir yn aml bod y rhan fwyaf o raddedigion doethurol, neu bob un ohonynt, yn parhau i weithio yn y byd academaidd, ond mae\u2019r rhan fwyaf o raddedigion doethurol mewn gwirionedd yn dilyn rolau y tu allan i\u2019r byd academaidd, gan amlygu\u2019r cyfleoedd diddiwedd sydd ar gael i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i gymhwyso eu harbenigedd a\u2019u sgiliau ymchwil yn y farchnad lafur ehangach neu i roi cynnig ar rywbeth newydd yn gyfan gwbl! Cyn rhoi mwy o fanylion am lwybrau gyrfa poblogaidd i ymchwilwyr yng ngweddill yr adran hon, bydd y dudalen hon yn amlygu sut y gallwch chi gynhyrchu syniadau gyrfa ac archwilio&#8217;r ystod lawn o opsiynau sydd ar gael i chi fel ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa.<\/p>\n<h4>Archwilio eich opsiynau a dewis sut i ddefnyddio&#8217;ch doethuriaeth<\/h4>\n<p>Nododd Gr\u0175p Tasg Myfyrwyr Ymchwil a Staff Ymchwil The Association of Graduate Careers Advisory Services (AGCAS) y ffyrdd canlynol o ddisgrifio\u2019r opsiynau gyrfa sydd ar gael i ymchwilwyr, yn dibynnu ar sut y maent yn dewis defnyddio eu doethuriaeth:<\/p>\n<ul>\n<li>\u2018gyrfaoedd <strong>mewn<\/strong>\u2019 \u2013 swyddi lle mae meddu ar ddoethuriaeth yn ofyniad hanfodol (yn debygol o fod yn gysylltiedig \u00e2 maes eich gradd)<\/li>\n<li>\u2018gyrfaoedd <strong>gyda<\/strong>\u2019 \u2013 swyddi lle mae meddu ar radd ymchwil yn ddymunol<\/li>\n<li>\u2018gyrfaoedd <strong>o<\/strong>\u2019 \u2013 swyddi lle nad yw gradd ymchwil yn ofyniad, ond bydd y sgiliau trosglwyddadwy a enillwyd o ganlyniad i wneud doethuriaeth yn werthfawr<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae gradd ymchwil yn gymhwyster hynod drosglwyddadwy a all eich helpu i symud ymlaen yn y byd academaidd, yn ogystal \u00e2 symud ymlaen mewn llawer o rolau a diwydiannau eraill. Efallai y byddai\u2019n ddefnyddiol ystyried <strong>yn gyntaf sut yr hoffech ddefnyddio\u2019ch gradd ymchwil yn eich gyrfa yn y dyfodo<\/strong>l a pha mor agos yr hoffech i\u2019ch gyrfa nesaf alinio naill ai \u00e2 maes eich gradd ymchwil neu ymchwil yn ehangach. Er enghraifft, os ydych yn gwneud doethuriaeth mewn cynaliadwyedd, efallai y byddwch yn dewis parhau i weithio yn y byd academaidd yn y maes hwn, neu ddefnyddio&#8217;ch sgiliau trosglwyddadwy mewn sector gwahanol \u2013 er enghraifft gweithio ym maes polisi cynaliadwyedd neu o fewn elusen sy&#8217;n canolbwyntio ar wella cynaliadwyedd.<\/p>\n<p>Mae sectorau cyffredin lle gallai fod angen gradd ymchwil \u00f4l-raddedig yn cynnwys rolau&#8217;r llywodraeth a&#8217;r gwasanaeth sifil, peirianneg a\u2019r diwydiant fferyllol. Efallai na fydd llawer o sectorau eraill yn nodi gradd ymchwil \u00f4l-raddedig, ond nid yw hyn yn golygu na allwch wneud cais. Os nad yw gradd o&#8217;r fath wedi&#8217;i nodi, gallwch amlinellu yn eich cais sut mae&#8217;r wybodaeth, y sgiliau a&#8217;r profiad yr ydych chi wedi eu hennill yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf.<\/p>\n<p>Gallai meddu ar ddoethuriaeth hefyd eich helpu i fod yn fwy cystadleuol ar gyfer rolau, waeth beth fo&#8217;r pwnc, oherwydd efallai y gwelwch fod eich gwybodaeth, eich sgiliau a&#8217;ch profiad fel ymchwilydd yn eich galluogi i wneud cynnydd yn gyflymach. Enghraifft dda yw Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil. Mae pawb yn dechrau ar yr un pwynt ond mae cyflymder dyrchafiad yn cael ei bennu gan berfformiad, felly gall cefndir ymchwilydd fod yn werthfawr wrth eich helpu i wneud cynnydd yn gyflymach.<\/p>\n<h4>Cynhyrchu syniadau gyrfa<\/h4>\n<p>I gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich gyrfa eich hun, rydym yn argymell eich bod yn wneud y canlynol:<\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-generating-career-ideas-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Cael ysbrydoliaeth o deithiau gyrfa ymchwilwyr go iawn, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-generating-career-ideas-cy-1\"><p>Gall astudiaethau achos fod yn ffordd wych o gael ysbrydoliaeth o lwybrau gyrfa ymchwilwyr eraill, gan eu bod yn arddangos yr ystod eang o rolau a diwydiannau y mae ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn eu dilyn. Mae gan wefannau fel <a href=\"https:\/\/fromphdtolife.com\/resources\/transition-q-as\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">From PhD to Life<\/a> ystod wych i ddewis ohonynt, fel sy\u2019n wir hefyd am <a href=\"https:\/\/vitae.ac.uk\/resource\/careers-in-research\/research-career-stories\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Vitae<\/a>.<\/p>\n<p>Gall myfyrwyr ymchwil \u00f4l-raddedig hefyd wrando ar amrywiaeth o gyfweliadau gyda graddedigion doethurol drwy wrando ar gyfres podlediad Caffi Gyrfaoedd yr Academi Ddoethurol. Gellir cael mynediad at bob recordiad <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/skills-and-attributes\/networking-and-social-media\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">drwy fodiwl Dysgu Canolog yr Academi Ddoethurol.<\/a><\/p>\n<p>Gallwch hefyd ddefnyddio\u2019r adnodd cyn-fyfyrwyr ar LinkedIn i chwilio am broffiliau o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd am syniadau am gyrchfannau gyrfa gan raddedigion doethurol sydd wedi bod yn yr un sefyllfa \u00e2 chi yn ddiweddar. I gael rhagor o gyngor ar sut i greu proffil LinkedIn a sut i ddefnyddio\u2019r nodwedd cyn-fyfyrwyr, darllenwch ein cyngor ar <a href=\"https:\/\/learningcentral.cf.ac.uk\/ultra\/organizations\/_423964_1\/outline\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Dyfodol Myfyrwyr+ ynghylch rhwydweithio.<\/a><\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-generating-career-ideas-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Adolygu hysbysebion am swyddi a swyddi gwag<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-generating-career-ideas-cy-2\"><p>Monitrwch hysbysfyrddau swyddi a gwefannau swyddi gwag yn rheolaidd i archwilio rolau sy'n apelio atoch ar unwaith ac i gadw cofnod o'r swyddi y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Efallai y gallwch nodi patrymau yn y math o rolau neu sefydliadau rydych chi'n cael eich denu atynt.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-generating-career-ideas-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ymgymryd \u00e2 phrofiad gwaith <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-generating-career-ideas-cy-3\"><p>Ymgymryd \u00e2 phrofiad gwaith<br \/>\nHyd yn oed os oes gennych chi brofiad gyrfa yn barod, mae profiad gwaith yn rhoi cyfle i chi brofi eich syniadau, yn enwedig os ydych chi'n archwilio rhywbeth newydd. Mae yna lawer o fathau o gyfleoedd i gael profiad gwaith y gallech chi ymgymryd \u00e2 nhw gyda lefelau amrywiol o ran yr ymrwymiad ac amser sydd eu hangen i\u2019w cwblhau. Er enghraifft, nid yw c<a href=\"https:\/\/uk.indeed.com\/career-advice\/interviewing\/informational-interview\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">yfweliad i gael gwybodaeth neu ddiwrnod o gysgodi<\/a> swydd yn gofyn am unrhyw geisiadau fel arfer ac maent yn gyflym i\u2019w trefnu ac nid ydynt yn cymryd llawer o amser. Gall hyd yn oed cyfleoedd fel hyn fod yn ffordd wych o ddarganfod sut beth yw r\u00f4l neu sector mewn gwirionedd. Gallwch ddarllen ein cyngor <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/gwella-eich-cyflogadwyedd\/ennill-profiad-gwaith\/]. &gt; Mynd i ddigwyddiadau cyflogwyr\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">manylach ar sut i gael profiad gwaith ar y wefan hon<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-generating-career-ideas-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Mynd i ddigwyddiadau cyflogwyr<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-generating-career-ideas-cy-4\"><p>Gall cyfarfod \u00e2 chyflogwyr eich helpu i ehangu eich gorwelion, archwilio eich opsiynau a thyfu eich rhwydwaith. Os ydych chi'n fyfyriwr doethuriaeth presennol ym Mhrifysgol Caerdydd neu wedi graddio'n ddiweddar, gallwch fynd i ddigwyddiadau cyflogwyr a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd. Mae gwasanaethau prifysgol fel yr Academi Ddoethurol a Dyfodol Myfyrwyr yn gweithio gyda llawer o gyflogwyr graddedigion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys ffeiriau gyrfaoedd, sesiynau sgiliau a gwybodaeth, a chyfleoedd i rwydweithio. Os nad ydych bellach yn gallu cael mynediad at gymorth gan Brifysgol Caerdydd, rhowch gynnig ar gyrff a chymdeithasau proffesiynol sydd yn yr un maes \u00e2\u2019ch doethuriaeth neu sector o ddiddordeb \u2013 bydd llawer yn cynnal gweminarau ar-lein neu ddigwyddiadau rhwydweithio.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-generating-career-ideas-cy-5\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Rhwydweithio ac adeiladu eich proffil<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-generating-career-ideas-cy-5\"><p>Mae rhwydweithio yn sg\u00ecl amhrisiadwy ar gyfer eich gyrfa! Mae gennym fwy o awgrymiadau i'ch helpu i <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/gwella-eich-cyflogadwyedd\/rhwydweithio-ar-cyfryngau-cymdeithasol\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">feistroli rhwydweithio fel ymchwilydd ar y wefan hon<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-generating-career-ideas-cy-6\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ymchwilio i opsiynau gyrfa mewn sectorau o ddiddordeb <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-generating-career-ideas-cy-6\"><p>Fel ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa, rydych mewn sefyllfa unigryw oherwydd eich cymwysterau i ymchwilio i\u2019ch opsiynau! Cymhwyswch eich sgiliau dadansoddi, meddwl beirniadol a gwerthuso i archwilio a phwyso a mesur eich opsiynau. Yn ogystal \u00e2'r awgrymiadau uchod, gallech ddefnyddio gwefannau ag enw da fel Prospects, TargetJobs, Gyrfa Cymru a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol i archwilio proffiliau manwl o gannoedd o rolau, yn ogystal \u00e2 gwahanol sectorau swyddi. O fewn y proffiliau hyn, byddwch yn canfod adnoddau a gwefannau ychwanegol ar gyfer archwilio rolau o ddiddordeb ymhellach. Gallwch ddarllen mwy o <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/ymchwilio-i-opsiynau-gyrfa-researching-career-options\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gyngor ar sut i ymchwilio i'ch opsiynau gyrfa ar Dyfodol Myfyrwyr+<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n \n\n                        <div class=\"alert alert alert-error with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Use the below resources to explore this topic further:<\/p>\n<ul>\n<li>Canllaw defnyddiol EURAXESS <a href=\"https:\/\/euraxess.ec.europa.eu\/career-development\/researchers\/discover-careers-beyond-academia\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ar yrfaoedd y tu hwnt i'r byd academaidd<\/a><\/li>\n<li>Mae e-lyfr Vitae '<a href=\"https:\/\/pgrcareerplanning.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/The-career-wise-researcher-Vitae-2013.pdf1\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">The Career-Wise Researcher<\/a>' yn nodi pum opsiwn eang yn yr hyn a elwir yn 'dwndis ehangu gorwelion'<\/li>\n<li>Rhestr Jobs on Toast o adnoddau <a href=\"https:\/\/www.jobsontoast.com\/blog\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ac erthyglau i helpu myfyrwyr doethuriaeth i archwilio eu hopsiynau gyrfa<\/a><\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ymchwilio i lwybrau gyrfa cyffredin i ymchwilwyr a deall sut i gynhyrchu syniadau ar gyfer eich gyrfa. ","protected":false},"author":9374,"featured_media":630,"parent":903,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-905","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/905","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9374"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=905"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/905\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1037,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/905\/revisions\/1037"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/903"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media\/630"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=905"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=905"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=905"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}