{"id":907,"date":"2025-03-11T09:56:44","date_gmt":"2025-03-11T09:56:44","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/?page_id=907"},"modified":"2025-06-27T14:14:56","modified_gmt":"2025-06-27T13:14:56","slug":"gyrfaoedd-yn-y-byd-academaidd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/archwilio-opsiynau-gyrfa\/gyrfaoedd-yn-y-byd-academaidd\/","title":{"rendered":"Gyrfaoedd yn y byd academaidd"},"content":{"rendered":"<p>Mae gyrfaoedd yn y byd academaidd yn amrywiol a gall rolau penodol newid yn dibynnu ar grwpiau ymchwil, sefydliadau a disgyblaethau. Serch hynny, mae gyrfaoedd academaidd fel arfer yn canolbwyntio ar ymchwil a\/neu addysgu mewn sefydliad addysg uwch. Bydd cyfrifoldebau o fewn y meysydd hyn hefyd yn dibynnu ar y swydd a\u2019r lefel.<\/p>\n<h4>Rolau academaidd cyffredin<\/h4>\n<p>Yn gyffredinol, cynigir swyddi ymchwil cynnar ar gontractau cyfnod penodol ac nid yw&#8217;n anghyffredin gweithio ar gontractau o&#8217;r fath am beth amser cyn cael r\u00f4l barhaol. Fodd bynnag, mae llwybr gyrfa arferol, hirsefydlog o fewn y byd academaidd sy&#8217;n cynnig llwybr clir o ran dilyniant, er y gall cystadleuaeth am swyddi fod yn ffyrnig.<\/p>\n<p>Isod ceir canllaw sy\u2019n ymwneud \u00e2 gwahanol rolau yn y byd academaidd, wedi\u2019u trefnu yn \u00f4l statws, o rolau sydd \u00e2\u2019r statws isaf i\u2019r rhai sydd \u00e2\u2019r statws uchaf. Mae hyn yn cynrychioli llwybr ar gyfer datblygu gyrfa o fewn y byd academaidd i\u2019r rhai sy\u2019n dymuno aros yn y byd hwnnw ac sy\u2019n dymuno symud ymlaen, ond yn anaml y mae teithiau gyrfa yn dilyn patrymau llinellol! Mae&#8217;n bwysig cofio nad yw gyrfaoedd modern pob tro yn dilyn llwybr llinol. Er enghraifft, gallwch weithio y tu allan i&#8217;r byd academaidd am gyfnodau byr neu gallwch dderbyn cynnig i weithio mewn prifysgol arall neu o fewn gr\u0175p ymchwil gwahanol.<\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-careers-in-academia-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Cymrodoriaeth \u00f4l-ddoethurol neu gydymaith ymchwil<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-careers-in-academia-cy-1\"><p>Yn nodweddiadol, mae\u2019r r\u00f4l academaidd gyntaf y mae ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn ei chael ar \u00f4l cwblhau eu gradd ymchwil yn llwyddiannus (\u2018cymrodoriaeth \u00f4l-ddoethurol\u2019) fel arfer yn swydd cyfnod penodol sy\u2019n canolbwyntio ar ymchwil sy\u2019n caniat\u00e1u i raddedigion doethurol ddatblygu ymhellach ac arbenigo yn y maes a ddewiswyd ganddynt. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar <a href=\"https:\/\/www.findapostdoc.com\/advice\/what-is-a-postdoc.aspx\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">FindaPostDoc.<\/a><\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-careers-in-academia-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Darlithwyr cynorthwyol neu gyswllt<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-careers-in-academia-cy-2\"><p>Mewn llawer o sefydliadau, mae gan uwch ddarlithwyr r\u00f4l sy'n canolbwyntio mwy ar addysgu, tra bod darllenwyr yn fwy seiliedig ar ymchwil. Mae darllenydd fel arfer yn swydd ganolraddol rhwng athro cyswllt neu uwch-ddarlithydd ac athro. Mae gan <a href=\"https:\/\/career-advice.jobs.ac.uk\/academic\/reader-he\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Jobs.ac.uk<\/a> ddisgrifiad o r\u00f4l darllenydd.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-careers-in-academia-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Darlithydd <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-careers-in-academia-cy-3\"><p>Fel arfer, dyma'r swydd academaidd barhaol gyntaf i lawer o ymchwilwyr, ond mae nifer cynyddol o ddarlithyddiaethau cyfnod penodol ar gael hefyd. Mae gan ddarlithwyr gyfrifoldeb i gynnal ymchwil ac addysgu israddedigion yn eu sefydliad. Bydd cyfran yr ymchwil o\u2019i chymharu \u00e2 chyfran yr addysgu yn wahanol yn dibynnu ar y sefydliad. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen canllawiau <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\/higher-education-lecturer\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a>\u00a0a <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/job-descriptions\/lecturer-higher-education-job-description\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> ar sut i ddod yn ddarlithydd addysg uwch.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-careers-in-academia-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Uwch-ddarlithydd neu ddarllenydd <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-careers-in-academia-cy-4\"><p>Mewn llawer o sefydliadau, mae gan uwch ddarlithwyr r\u00f4l sy'n canolbwyntio mwy ar addysgu, tra bod darllenwyr yn fwy seiliedig ar ymchwil. Mae darllenydd fel arfer yn swydd ganolraddol rhwng athro cyswllt neu uwch-ddarlithydd ac athro. Mae Jobs.ac.uk has a <a href=\"https:\/\/career-advice.jobs.ac.uk\/academic\/reader-he\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ddisgrifiad o r\u00f4l darllenydd<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-careers-in-academia-cy-5\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Athro cyswllt<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-careers-in-academia-cy-5\"><p>Mae llawer o sefydliadau yn y DU bellach yn defnyddio\u2019r term athro cyswllt yn hytrach nag uwch-ddarlithydd a darllenydd. Er ei fod yn debyg iawn i'r rolau hyn, c\u00e2nt eu recriwtio'n gyffredin ar gontract cyfnod penodol i ddechrau a all ddod yn gontract parhaol ar \u00f4l adolygiad.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-careers-in-academia-cy-6\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Athro<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-careers-in-academia-cy-6\"><p>Dyma\u2019r swydd academaidd uchaf yn y DU ac mae\u2019n cynrychioli r\u00f4l arweinyddiaeth academaidd, yn ogystal ag addysgu a gwneud gwaith ymchwil o fewn adran neu gyfadran. Fel arfer, mae gan athrawon r\u00f4l barhaol yn eu sefydliad.<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r rolau hyn, defnyddiwch wefan fel Jobs.ac.uk [DOLEN: https:\/\/www.jobs.ac.uk\/] i archwilio hysbysebion swyddi cyfredol ar gyfer pob swydd. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o'r hyn a ddisgwylir ar bob lefel a chyfrifoldebau pob swydd.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-careers-in-academia-cy-7\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Tiwtoriaid graddedig<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-careers-in-academia-cy-7\"><p>Mae rhai ysgolion yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ymchwil \u00f4l-raddedig ymgymryd ag addysgu israddedig \u00e2 th\u00e2l tra byddant yn astudio. Mae pob tiwtor graddedig hefyd yn cael hyfforddiant trwy\u2019r Academi Ddysgu ac Addysgu ar ddulliau addysgu a dysgu. Felly, mae r\u00f4l <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/documents\/2771013-appointment-of-graduate-tutors-and-graduate-demonstrators-on-fixed-term-contracts\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">tiwtor graddedig<\/a> yn ffordd wych o gael profiad uniongyrchol o addysgu mewn addysg uwch a mewnwelediad i sut beth yw cael eich cyflogi fel darlithydd<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n<h4>Gweithio yn y byd academaidd<\/h4>\n<p>Mae llawer o bethau i\u2019w hystyried wrth ddewis gweithio yn y byd academaidd, o amodau gwaith a th\u00e2l i ddisgwyliadau o ran sgiliau, rhinweddau ac ymddygiad. Fel sy\u2019n wir am lawer o sectorau, mae addysg uwch yn esblygu&#8217;n barhaus, felly er nad yw gyrfa academaidd byth yn sefydlog, bydd yr adnodd isod yn rhoi trosolwg defnyddiol i chi o amgylchedd gwaith y byd academaidd.<\/p>\n\n<!-- iframe plugin v.6.0 wordpress.org\/plugins\/iframe\/ -->\n<iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_23400#\" width=\"100%\" height=\"500\" scrolling=\"yes\" class=\"iframe-class\" frameborder=\"0\"><\/iframe>\n\n<p>Os ydych chi\u2019n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni\u2019n argymell eich bod yn <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_23094\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>agor y gweithgaredd<\/strong><\/a> hwn mewn ffenestr ar wah\u00e2n.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Archwilio llwybrau gyrfa ar gyfer rolau ymchwil ac addysgu yn y byd academaidd.","protected":false},"author":9374,"featured_media":634,"parent":903,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-907","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/907","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9374"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=907"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/907\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1179,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/907\/revisions\/1179"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/903"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media\/634"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=907"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=907"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=907"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}