{"id":911,"date":"2025-03-11T10:03:28","date_gmt":"2025-03-11T10:03:28","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/?page_id=911"},"modified":"2025-06-20T14:42:02","modified_gmt":"2025-06-20T13:42:02","slug":"gyrfaoedd-ymchwil-a-pholisi","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/archwilio-opsiynau-gyrfa\/gyrfaoedd-ymchwil-a-pholisi\/","title":{"rendered":"Gyrfaoedd ym meysydd ymchwil a pholisi"},"content":{"rendered":"<p>Mae llawer o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn defnyddio eu sgiliau rheoli ymchwil i ddilyn rolau sy&#8217;n ymwneud ag ymchwil a pholisi y tu allan i&#8217;r byd academaidd. Mae <a href=\"https:\/\/www.ncub.co.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/01\/Impact-1.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ymchwil<\/a> wedi amlygu\u2019r gwerth enfawr y mae cyflogwyr yn ei roi ar sgiliau ymchwil a dadansoddol graddedigion doethurol, yn ogystal \u00e2 sgiliau cysylltiedig megis meddwl beirniadol ac arloesi. Mae gyrfaoedd ymchwil a pholisi y tu allan i\u2019r byd academaidd yn bodoli mewn llawer o wahanol sectorau, gan roi cyfleoedd i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i barhau i ymchwilio yn y maes y mae ganddynt arbenigedd ynddo, i gefnogi neu i hwyluso ymchwil a chyfathrebu ymchwil, ac i ddefnyddio eu sgiliau ymchwil i gael effaith gymdeithasol ehangach.<\/p>\n<h4>Rolau ymchwil y tu allan i&#8217;r byd academaidd<\/h4>\n<p>Mae data\u2019n amlygu\u2019n gyson boblogrwydd gyrfaoedd ymchwil y tu allan i&#8217;r byd academaidd ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Mae cyhoeddiad diweddaraf Vitae, \u2018<a href=\"https:\/\/vitae.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/What-do-researchers-do-doctoral-graduate-employment-activities-earnings-2022-1.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">What do researchers do?<\/a>\u2019, sy\u2019n archwilio cyflogaeth graddedigion doethurol, yn dangos bod 70% o\u2019r holl raddedigion doethuriaeth cyflogedig sy\u2019n hanu o\u2019r DU a arolygwyd yn defnyddio sgiliau ymchwil yn eu r\u00f4l a bod dros 60% wedi cynnal ymchwil neu ddehongli ymchwil.<\/p>\n<p>Cynhelir ymchwil ym mron pob sector a diwydiant at ddibenion ac amcanion amrywiol. Gallech fod yn gweithio ar ymchwil yn y maes y mae gennych arbenigedd ynddo mewn amgylchedd gwahanol \u2013 er enghraifft, mewn amgylchedd ymchwil a datblygu masnachol neu ar gyfer y llywodraeth. Neu fe allech chi fod yn defnyddio eich sgiliau ymchwil mewn ffyrdd gwahanol \u2013 er enghraifft, trwy weithio mewn ymgynghoriaeth neu drwy gynnal ymchwil i\u2019r farchnad.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r graffigyn isod gan <a href=\"https:\/\/authorservices.taylorandfrancis.com\/blog\/mentoring-support\/research-careers-outside-academia\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taylor a Francis<\/a> yn amlygu rhai llwybrau gyrfa ymchwil poblogaidd ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.<\/p>\n<figure id=\"post-1154 media-1154\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/files\/2025\/06\/CDR-Infographic-1.png\" alt=\"Welsh version of CDR Infographic\" \/><\/figure>\n<figure id=\"post-694 media-694\" class=\"image align-center\"><\/figure>\n<h4>Enghreifftiau o rolau ymchwil a pholisi<\/h4>\n<p>Isod ceir rhagor o fanylion am rai rolau ymchwil poblogaidd y tu allan i&#8217;r byd academaidd:<\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-research-and-policy-careers-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Rheoli a gweinyddu academaidd<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-research-and-policy-careers-cy-1\"><p>Mae gan unigolion sy\u2019n gweithio ym maes rheoli a gweinyddu ymchwil rolau eang ac amrywiol, y mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o effaith ac effeithiolrwydd ymchwil unigolion eraill. Gallai hyn gynnwys nodi ffynonellau cyllid, negodi contractau gyda noddwyr allanol, rheolaeth ariannol prosiectau ymchwil, a dosbarthu\/rhannu ymchwil. Er nad yw'r rhai sy'n rheoli ymchwil yn aml yn cynnal eu hymchwil eu hunain, mae eu gwaith yn hanfodol i bob agwedd ar allbwn ymchwil sefydliad. Gallai\u2019r math hwn o r\u00f4l fod yn addas i chi os ydych yn angerddol am effaith a gwerth ehangach ymchwil ac eisiau parhau i weithio o fewn y gymuned ymchwil, ond efallai nad ydych am fod yn gyfrifol am gynnal eich ymchwil eich hun. Mae\u2019r r\u00f4l hon hefyd yn bodoli mewn addysg uwch.<\/p>\n<p>Gallwch edrych ar <a href=\"https:\/\/arma.ac.uk\/about-arma\/about-us\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">wefan Cymdeithas y Rheolwyr a Gweinyddwyr Ymchwil<\/a> a throsolwg Indeed o <a href=\"https:\/\/ca.indeed.com\/career-advice\/finding-a-job\/research-manager\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">r\u00f4l rheolwr ymchwil<\/a> am ragor o wybodaeth. Mae hefyd yn syniad da edrych ar hysbysebion swyddi gwag mewn sectorau eraill i ddeall beth yw\u2019r gofynion o ran y rolau hyn, er enghraifft mae\u2019r <a href=\"https:\/\/learningandwork.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Job-description-research-manager.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hysbyseb swydd rheolwr ymchwil hwn<\/a> mewn sefydliad polisi annibynnol ac mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.health.org.uk\/sites\/default\/files\/2018-11\/Job Description Research Manager Improvement and Healthy Lives Internal November 2018 - Final.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hysbyseb swydd rheolwr ymchwil hwn<\/a> mewn elusen.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-research-and-policy-careers-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Gyrfaoedd ym meysydd eiddo deallusol a phatentau<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-research-and-policy-careers-cy-2\"><p>Ffordd arall o weithio mewn maes sy'n gysylltiedig ag ymchwil yw gweithio ym maes eiddo deallusol. Mae <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/intellectual-property-an-overview\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">eiddo deallusol<\/a> yn cynnwys unrhyw ddyfais, proses, dyluniad neu gynnyrch y gellir sicrhau hawlfraint, patent neu nod masnach ar ei gyfer i'w atal rhag cael ei ddwyn neu ei gop\u00efo gan eraill. Mae gweithio ym maes eiddo deallusol yn ffordd o barhau i weithio o fewn y byd ymchwil, trwy ddiogelu allbynnau ymchwil unigolion eraill.<\/p>\n<p>Mae llawer o wahanol bobl yn ymwneud \u00e2 diogelu eiddo deallusol, gan arwain at opsiynau gyrfa amrywiol i'r rhai sydd \u00e2 diddordeb yn y maes:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>T\u00eem eiddo deallusol y brifysgol:<\/strong> Mae gan y rhan fwyaf o brifysgolion d\u00eem penodedig i helpu academyddion i ddiogelu eu heiddo deallusol a nodi pa gynnwys sydd angen amddiffyniad o'r fath. Ym Mhrifysgol Caerdydd, er enghraifft, this is <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/jobs\/vacancies\/professional-services\/research-and-innovation-services\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd sy\u2019n gyfrifol am wneud hynnyResearch and Innovation Services<\/a><\/li>\n<li><strong>Archwilydd patentau:<\/strong> Unigolion sydd \u00e2 gwybodaeth dechnegol ym maes pob cais sy'n craffu ar agweddau technegol a chyfreithiol unrhyw gais am batent. Mae gan Prospects broffil swydd defnyddiol ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\/patent-examiner\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">archwiliwr patentau.<\/a><\/li>\n<li><strong>Twrnai patentau<\/strong>: IUnigolion mewn proffesiwn cyfreithiol arbenigol sy'n gymwys i gynghori cleientiaid am batentau (a hawliau eiddo deallusol eraill fel arfer). Fel arfer gyda gwybodaeth dechnegol yn y maes, mae twrneiod patentau yn cynorthwyo ymgeiswyr i gael patentau a roddir gan swyddfeydd patentau ledled y byd. Mae gradd mewn pwnc STEM fel arfer yn ofynnol i gael swydd hyfforddai ac, er nad yw'n hanfodol, mae gan nifer o dwrneiod patentau radd Meistr neu ddoethuriaeth. Mae gan Prospects broffil swydd defnyddiol ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\/patent-attorney\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">twrnai patentau<\/a> <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\/patent-attorney\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Patent Attorney job profile<\/a><\/li>\n<li><strong>Y Swyddfa Eiddo Deallusol<\/strong>: Yn y DU, dyma'r corff sy'n gyfrifol am reoleiddio hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys patentau, dyluniadau, nodau masnach a hawlfreintiau. Gallwch ddarllen mwy amdanynt a'u <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/intellectual-property-office\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gwaith ar wefan Gov.uk<\/a>\u00a0 a chwilio am rolau yn y Swyddfa Eiddo Deallusol ar wefan <a href=\"https:\/\/www.civil-service-careers.gov.uk\/departments\/working_for_ipo\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil\u00a0<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am yrfaoedd ym maes eiddo deallusol, ewch i wefan <a href=\"https:\/\/www.ipcareers.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">IP Careers<\/a><\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-research-and-policy-careers-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Gyrfaoedd ym meysydd polisi<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-research-and-policy-careers-cy-3\"><p>Polis\u00efau yw\u2019r rheolau, y rheoliadau a\u2019r cyfarwyddiadau sy\u2019n llywio ein gweithgareddau o ddydd i ddydd. O bolis\u00efau dychwelyd i siopau i gamau a nodir yn y gyfraith, mae polisi o'n cwmpas. Mae gweithwyr polisi yn ymdrechu i sicrhau bod y rheolau a ddilynwn yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu llywio gan ymchwil drwyadl o ansawdd uchel. Mae\u2019n bosibl na fydd gan unigolion sydd \u00e2\u2019r awdurdod i ddatblygu polis\u00efau\u2019r arbenigedd sydd ei angen i sicrhau eu bod yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r materion mwyaf priodol, ac yn cynrychioli anghenion y rhai y bydd y polisi\u2019n effeithio arnynt. O ganlyniad, mae gweithwyr ym maes polisi yn aml yn cael eu cyflogi mewn rolau cynghori i adolygu datblygu polisi ac i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol. Mae cwmpas r\u00f4l gweithiwr ym maes polisi yn llawer ehangach na r\u00f4l ymchwilydd academaidd; maent yn aml yn cynghori ar faes pwnc ar gyfer cleientiaid lluosog, yn hytrach na chanolbwyntio ar un pwnc ymchwil penodol. Yn hynny o beth, mae gyrfa ym maes polisi yn addas ar gyfer pobl sy'n hoffi r\u00f4l amrywiol a dynamig.<\/p>\n<p>Mae gyrfaoedd ym maes polisi yn gofyn am y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Dealltwriaeth o fanylion technegol a sut mae popeth yn cyd-fynd \u00e2'r darlun ehangach<\/li>\n<li>Y gallu i egluro deunydd pwnc i gynulleidfaoedd lleyg<\/li>\n<li>Gwasanaethau ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd rhagorol<\/li>\n<li>Sgiliau rhyngbersonol cryf<\/li>\n<li>Sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid, os ydynt yn rhyngweithio \u00e2 rhanddeiliaid<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae gweithwyr ym maes polisi i'w cael mewn amrywiaeth enfawr o sefydliadau, er enghraifft, y Gwasanaeth Sifil ac adrannau'r llywodraeth, elusennau, a melinau trafod. Mae gan Prospects <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\/policy-officer\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">broffil swydd Swyddog Polisi<\/a> defnyddiol. Mae\u2019n bosibl chwilio am swyddi Swyddog Polisi ar wefannau <a href=\"https:\/\/www.civil-service-careers.gov.uk\/professions\/working-in-policy\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.charityjob.co.uk\/%5d\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Charity Job<\/a>. Mae <a href=\"https:\/\/www.hmtreasurycareers.co.uk\/graduate-programme\/about-the-programme\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Trysorlys EF<\/a> a'r GIG yn cynnig cynlluniau i raddedigion ym maes polisi, a chyfleoedd i fyfyrwyr doethurol wneud interniaethau polisi, er enghraifft, <a href=\"https:\/\/acmedsci.ac.uk\/about\/administration\/internship-schemes\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cynllun Interniaethau Polisi i Fyfyrwyr PhD gydag Academi\u2019r Gwyddorau Meddygol<\/a>. Mae gan UKRI <a href=\"https:\/\/www.ukri.org\/blog\/science-policy-what-why-and-how\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">flog defnyddiol am bolisi gwyddoniaet<\/a>h sy'n tynnu sylw at ffyrdd o gymryd rhan mewn gwaith polisi fel ymchwilydd.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n \n\n                        <div class=\"alert alert alert-error with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio rhagor am y pwnc hwn:<\/p>\n<ul>\n<li>Adnodd The Careers Group\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ucl.ac.uk\/researchcareers\/_materials\/CEP_ResearchCareersoutsideAcademia.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ar gyrfaoedd ym maes ymchwil y tu allan i'r byd academaidd<\/a><\/li>\n<li>Cyngor Jobs.ac.uk\u00a0<a href=\"https:\/\/career-advice.jobs.ac.uk\/career-development\/research-careers\/research-careers-outside-higher-education\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ar yrfaoedd ym maes ymchwil y tu allan i addysg uwch<\/a>\u00a0a\u00a0<a href=\"https:\/\/career-advice.jobs.ac.uk\/career-development\/using-research-skills-outside-academia\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">defnyddio sgiliau ymchwil y tu allan i'r byd academaidd<\/a><\/li>\n<li>Adnoddau Vitae ar r<a href=\"\/\/vitae.ac.uk\/resource\/skills-for-research\/research-management\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">eoli ymchwil<\/a><\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Utilise your research expertise in research-related and policy careers.  ","protected":false},"author":9374,"featured_media":644,"parent":903,"menu_order":4,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-911","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/911","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9374"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=911"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/911\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1155,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/911\/revisions\/1155"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/903"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media\/644"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=911"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=911"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=911"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}