{"id":913,"date":"2025-03-11T10:06:36","date_gmt":"2025-03-11T10:06:36","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/?page_id=913"},"modified":"2025-06-27T11:24:12","modified_gmt":"2025-06-27T10:24:12","slug":"gyrfaoedd-hunangyflogaeth-a-phortffolio","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/archwilio-opsiynau-gyrfa\/gyrfaoedd-hunangyflogaeth-a-phortffolio\/","title":{"rendered":"Hunangyflogaeth a gyrfaoedd portffolio"},"content":{"rendered":"<p>Gall entrepreneuriaeth, a allai gynnwys hunangyflogaeth, gwaith llawrydd neu gyfuniad o\u2019r rhain ochr yn ochr \u00e2 rolau cyflogedig (yn yr hyn y cyfeirir ato\u2019n gyffredin fel gyrfa bortffolio), fod yn llwybr gyrfa poblogaidd i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Mae ymchwilwyr yn datblygu rhai o&#8217;r sgiliau entrepreneuraidd pwysicaf sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant mewn busnesau newydd a phan maent yn hunangyflogedig \u2013 er enghraifft, creadigrwydd, sgiliau datrys problemau, arweinyddiaeth ac arloesedd \u2013 wrth feddu hefyd ar lefel uchel o arbenigedd yn y maes a ddewiswyd ganddynt. Er y gall ymchwilwyr ddefnyddio\u2019r sgiliau a gwybodaeth hyn i ehangu a sefydlu eu busnes eu hunain, gellir eu cymhwyso hefyd er mwyn datblygu ym mhob gyrfa \u2013 y sgiliau sy\u2019n gwneud entrepreneuriaid yn llwyddiannus (\u2018sgiliau entrepreneuraidd\u2019) yn aml yw\u2019r sgiliau <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/yr-hyn-y-mae-cyflogwyr-yn-chwilio-amdano\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt fwyaf.<\/a><\/p>\n<h4>Diffinio hunangyflogaeth, gweithio\u2019n llawrydd a gyrfaoedd portffolio<\/h4>\n<p>Mae hunangyflogaeth, gweithio\u2019n llawrydd a gyrfaoedd portffolio i gyd yn ffyrdd y gallwch chi ymgorffori ffyrdd o fod yn f\u00f2s arnoch chi eich hun yn eich gyrfa, ond mae pob un yn cyfeirio at batrymau gwaith sydd ychydig yn wahanol.<\/p>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\">\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link active\" href=\"#content-defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-1\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-1\">Hunangyflogaeth<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-2\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-2\">Gweithio\u2019n llawrydd<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-3\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-3\">Gyrfa bortffolio<\/a><\/li><\/ul> <div class=\"tab-content\">\n        <div class=\"tab-pane active\" id=\"content-defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-1\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-1\">\n        <p>Mae hunangyflogaeth yn Cyberia at unigolyn sy'n berchen ar, ac yn rhedeg, ei fusnes ei hun, yn hytrach na gweithio i rywun arall, neu unigolyn sy\u2019n gweithio fel gweithiwr llawrydd.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-2\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-2\">\n        <p>Mae gweithio\u2019n llawrydd yn ffurf benodol o hunangyflogaeth ac mae'n cyfeirio at rywun sy'n gweithio mewn ffordd hyblyg, yn \u00f4l ei ddewis, gan gynnig ei sgiliau, talentau neu arbenigedd i gleientiaid am ffi y gellir ei thrafod. Maent yn aml yn gweithio gartref ac i gleientiaid lluosog ar un adeg.<\/p>\n<p>Mae gan Prospects fwy o gyngor ar <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/self-employment\/freelancing\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">weithio\u2019n llawrydd<\/a>.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-3\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"defining-self-employment-freelancing-and-portfolio-careers-cy-3\">\n        <p>Er bod diffiniadau'n amrywio, mae gyrfa bortffolio yn aml yn cyfeirio at unigolyn sydd \u00e2 sawl elfen wahanol i'w yrfa, yn nodweddiadol trwy gyfuno mathau gwahanol o gyflogaeth \u00e2 hunangyflogaeth. Gallai hyn, er enghraifft, gyfeirio at ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa sy\u2019n gweithio\u2019n rhan-amser fel academydd wrth dreulio gweddill ei amser fel ymgynghorydd llawrydd yn y maes y mae ganddo arbenigedd ynddo. Yn aml, mae gyrfa bortffolio yn ddewis sy\u2019n eich caniat\u00e1u i ddilyn diddordebau lluosog neu ffrydiau incwm lluosog yn y maes y mae gennych chi arbenigedd ynddo. Nid yw gyrfa bortffolio fel arfer yn gysylltiedig \u00e2 chyflawni rolau lluosog oherwydd bod yn rhaid gwneud hynny am resymau ariannol, sef sefyllfa sydd fwy na thebyg yn gysylltiedig \u00e2\u2019r term \u2018economi gig\u2019 a ddefnyddir i ddisgrifio unigolion sy\u2019n gweithio rolau tymor byr, sy\u2019n aml yn ansicr, i ychwanegu at eu hincwm \u2013 ffordd o weithio sy\u2019n dod yn gynyddol cyffredin.<\/p>\n<p>Mae gan Careershifters ganllaw defnyddiol i\u2019ch helpu i benderfynu a yw <a href=\"https:\/\/www.careershifters.org\/expert-advice\/what-to-do-when-you-want-to-do-everything-is-a-portfolio-career-right-for-you\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gyrfa bortffolio yn iawn i chi<\/a>.<\/p>\n\n        <\/div><\/div>\n        <\/div>\n<h4>Pwysigrwydd sgiliau entrepreneuraidd ar gyfer eich gyrfa:<\/h4>\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.qaa.ac.uk\/docs\/qaas\/enhancement-and-development\/enterprise-and-entrpreneurship-education-2018.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Asiantaeth Sicrhau Ansawdd<\/a>\u00a0(Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, 2018: p19) yn disgrifio sut mae sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau unigolyn yn cyfuno i gynhyrchu <strong>meddylfryd entrepreneuraidd<\/strong>:<\/p>\n<ul>\n<li>yn hunanymwybodol o\u2019i bersonoliaeth a\u2019i hunaniaeth gymdeithasol<\/li>\n<li>yn awyddus i gyflawni uchelgeisiau a nodau personol<\/li>\n<li>yn hunan-drefnus, yn hyblyg ac yn wydn<\/li>\n<li>yn chwilfrydig tuag at bosibiliadau newydd ar gyfer creu gwerth<\/li>\n<li>yn ymatebol i broblemau a chyfleoedd drwy wneud cysylltiadau newydd<\/li>\n<li>yn gallu mynd y tu hwnt i gyfyngiadau canfyddedig a sicrhau canlyniadau<\/li>\n<li>yn oddefgar o ansicrwydd, amwysedd, risg a methiant<\/li>\n<li>yn sensitif i werthoedd personol, megis ymwybyddiaeth foesegol, cymdeithasol, amrywiaeth ac amgylcheddol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Nid yw bod yn fentrus a bod yn <em>entrepreneur<\/em> yn gyfystyr \u00e2\u2019i gilydd; nid oes angen i bob ymchwilydd wybod sut i sefydlu ei fusnes ei hun, ond gall elwa ar feddylfryd entrepreneuraidd. Gall profiadau a chyfleoedd i ddatblygu creadigrwydd, ymdopi ag ansicrwydd, a thrafod a datrys problemau ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd, heb fod angen sefydlu eich busnes eich hun. Gellir bod yn entrepreneuraidd ar draws pob maes addysg a bywyd proffesiynol. Mewn gwirionedd, mae&#8217;r term intrapreneuriaeth yn disgrifio gallu gweithwyr mewn sefydliadau i ddefnyddio eu meddylfryd entrepreneuraidd i ysgogi arloesedd a thwf busnes. Gallwch ddarllen mwy am hyn ar <a href=\"https:\/\/online.stanford.edu\/what-intrapreneurship-and-how-can-you-cultivate-it-your-company\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Stanford Online<\/a>.<\/p>\n<h4>Cymorth i fyfyrwyr ymchwil<\/h4>\n<p>Gall myfyrwyr ymchwil presennol Prifysgol Caerdydd gael mynediad at ystod eang o gymorth gan Dyfodol Myfyrwyr i\u2019w helpu i feithrin syniad am fusnes, dod yn weithiwr llawrydd neu ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd, gan gynnwys cymorth busnes un-i-un, cyfleoedd i rwydweithio, b\u0175t-campau, cystadlaethau a chyngor ar-lein manwl. Gallwch ddarllen mwy am y cymorth rydym yn ei gynnig ar <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\/start-a-business\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">fewnrwyd y myfyrwyr<\/a>.<\/p>\n<p>Os ydych yn aelod presennol o staff, gallwch ddod o hyd i gyngor defnyddiol ar-lein yngl\u0177n \u00e2 gweithio i chi&#8217;ch hun a sefydlu busnes ar wefannau <a href=\"https:\/\/busnescymru.llyw.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Busnes Cymru a Gov.uk<\/a>. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/jobs\/vacancies\/professional-services\/research-and-innovation-services\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gall Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi<\/a> hefyd eich cefnogi os ydych ar hyn o bryd yn ymwneud \u00e2 chynhyrchu cynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau sy&#8217;n werthfawr yn fasnachol oherwydd eich ymchwil.<\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert alert-error\">        \n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio rhagor am y pwnc hwn:<\/p>\n<ul>\n<li>Erthygl Nature <a href=\"https:\/\/www.nature.com\/articles\/nj7647-747a\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ar weithio hyblyg: Gwyddonydd unigo<\/a>l<\/li>\n<li>Jobs.ac.uk <a href=\"https:\/\/www.jobs.ac.uk\/enhanced\/careers-media\/career-planning-phd-ebook.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Career Planning for PhDs eBook<\/a> \u2013 mae tudalennau 11 i 13 yn ymwneud \u00e2 chychwyn busnes<\/li>\n<li>Astudiaethau achos Vitae o <a href=\"https:\/\/vitae.ac.uk\/resource\/careers-in-research\/research-career-stories\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ymchwilwyr doethurol sydd wedi dod yn entrepreneuriaid<\/a><\/li>\n<li>Cyngor Prospects <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/self-employment\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">am hunangyflogaeth<\/a><\/li>\n<li>Cyngor TargetJobs <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/skills-for-getting-a-job\/enterprise-and-entrepreneurial-skills-seizing-opportunities-and-seeing-them-through\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ar fenter a sgiliau entrepreneuraidd<\/a><\/li>\n<li>Blog \u2018<a href=\"https:\/\/masteringentrepreneurship.blog.jbs.cam.ac.uk\/understanding-intrapreneurship-and-how-to-make-intrapreneurs-better\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">The Mastering Entrepreneurship Blog<\/a>\u2019 gan Brifysgol Caergrawnt ar ddeall intrapreneuriaeth<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Deall opsiynau ar gyfer bod yn bennaeth eich hun, gweithio fel gweithiwr llawrydd a gweithio mewn sawl r\u00f4l ","protected":false},"author":9374,"featured_media":650,"parent":903,"menu_order":5,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-913","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/913","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9374"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=913"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/913\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1171,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/913\/revisions\/1171"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/903"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media\/650"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=913"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=913"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=913"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}