{"id":939,"date":"2025-03-13T11:46:09","date_gmt":"2025-03-13T11:46:09","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/?page_id=939"},"modified":"2025-07-01T11:01:26","modified_gmt":"2025-07-01T10:01:26","slug":"cvs-ceisiadau-a-chyfweliadau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/llwyddo-mewn-recriwtio\/cvs-ceisiadau-a-chyfweliadau\/","title":{"rendered":"CVs, ceisiadau, a chyfweliadau"},"content":{"rendered":"<p>Fel arfer, bydd angen cyfuniad o CV, cais ar-lein (a allai gynnwys datganiad personol neu ddatganiad ategol ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau academaidd) a phroses gyfweld ar gyfer ceisiadau am unrhyw swydd a hysbysebir. Gallwch sefyll ar wah\u00e2n i\u2019r gystadleuaeth trwy baratoi eich hun ar gyfer pob un o&#8217;r camau hyn, a deall sut y gallai&#8217;r prosesau hyn edrych ychydig yn wahanol ar gyfer rolau academaidd.<\/p>\n<h4>Ceisiadau am rolau y tu allan i&#8217;r byd academaidd<\/h4>\n<p>Yr hyn sy&#8217;n allweddol i lywio ceisiadau am swyddi y tu allan i&#8217;r byd academaidd yw sut y byddwch yn trosi&#8217;ch sgiliau a&#8217;ch profiadau yn effeithiol a&#8217;u gwneud yn berthnasol i&#8217;r rolau yr ydych yn ymgeisio amdanynt. Teilwra yw&#8217;r enw ar hyn ac mae&#8217;n hanfodol i ddangos i gyflogwyr y tu allan i&#8217;r byd academaidd bod gennych y sgiliau, yr wybodaeth a&#8217;r profiad y maent yn chwilio amdanynt. Er enghraifft, mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/files\/2025\/03\/PhD-graduate-CV-Public-engagement-roles.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV ffuglennol<\/a> hwn yn enghraifft ddefnyddiol o CV sydd wedi&#8217;i deilwra tuag at r\u00f4l ymgysylltu \u00e2&#8217;r cyhoedd. Mae pwyslais y CV yn fwy ar amlygu&#8217;r sgiliau a&#8217;r profiad perthnasol o fewn maes cyfathrebu gwyddoniaeth a chyfathrebu i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Rhoddwyd llai o bwyslais ar gyflawniadau academaidd, gwobrau a sgiliau technegol. Mae gan Vitae dempledi <a href=\"https:\/\/vitae.ac.uk\/login-signup\/?protected=1&amp;protected_page_id=1794\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV ychwanegol<\/a>.<\/p>\n<p>Defnyddiwch ein cyngor helaeth ar <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Dyfodol Myfyrwyr+<\/a> ar sut i lunio dogfennau CV a cheisiadau, a sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau, ar gyfer rolau nad ydynt yn rolau academaidd. Rydym hefyd yn argymell darllen ein cyngor ar sut i wneud cais am swyddi y tu allan i&#8217;r byd academaidd ar y <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/llwyddo-mewn-recriwtio\/gwneud-cais-am-swyddi-y-tu-allan-ir-byd-academaidd\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">wefan hon<\/a>. Mae <a href=\"https:\/\/www.jobsontoast.com\/overview\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Jobs on Toast<\/a> hefyd yn adnodd defnyddiol iawn i ymchwilwyr sydd am gael mynediad at swyddi y tu allan i&#8217;r byd academaidd.<\/p>\n<h4>Ceisiadau am rolau academaidd<\/h4>\n<p>Os ydych chi&#8217;n gwneud cais am rolau academaidd, mae&#8217;n bwysig bod yn ymwybodol o&#8217;r hyn sy&#8217;n gwneud CV, datganiad personol a chais effeithiol, yn ogystal \u00e2 sut i sefyll ar wah\u00e2n mewn cyfweliad. Er bod gorgyffwrdd, yn sicr, o ran yr arferion gorau ar gyfer gwneud cais am rolau y tu allan i&#8217;r byd academaidd, mae yna ffactorau penodol y dylech eu cofio er mwyn sicrhau bod eich cais wedi&#8217;i addasu&#8217;n ddigonol i&#8217;r amgylchedd academaidd a&#8217;r gofynion ar gyfer rolau academaidd.<\/p>\n<p>Defnyddiwch ein cyngor ac adnoddau isod i ddarganfod mwy am yr hyn sy&#8217;n gwneud CV a datganiad personol\/ategol academaidd effeithiol a sut i sefyll ar wah\u00e2n mewn cyfweliad academaidd.<\/p>\n<h4>Dogfennau CV academaidd<\/h4>\n<p>Mae dogfennau CV academaidd, er bod ganddynt lawer yn gyffredin \u00e2 dogfennau CV ar gyfer diwydiannau eraill, yn sefyll allan ar eu pennau eu hunain. Bydd eich CV academaidd yn datblygu ac yn aeddfedu gyda chi felly mae&#8217;n syniad da dechrau arno pan fyddwch yng nghanol cwblhau eich doethuriaeth a chadw cofnod o ddiweddariadau y mae angen i chi eu hystyried y tro nesaf y byddwch yn ei ddefnyddio. Os ydych chi eisoes yn cael eich cyflogi fel ymchwilydd, mae meddwl sut y bydd eich profiad cynyddol yn cael ei gyflwyno hefyd yn bwysig.<\/p>\n\n\n<figure class=\"quote  \">\n          \n    \n    <blockquote class=\"quote-body\">\n      \u201cMae CV academaidd yn wahanol i rai eraill gan y dylai gynnwys adrannau sy\u2019n ymwneud yn uniongyrchol \u00e2\u2019ch ymchwil, a sgiliau a phrofiadau cysylltiedig eraill \u2026 Nid oes fformat penodol ar gyfer CV academaidd: eich dewis chi yw eich cynllun \u2026 Cofiwch mai\u2019r tair elfen allweddol y mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdanynt yw Ymchwil, Addysgu a Gweinyddu, felly dylid blaenoriaethu\u2019r tair elfen hyn yn bendant a\u2019u cynnwys ym mhob CV academaidd.\".\u201d    <\/blockquote>\n    <figcaption class=\"quote-author\">\n    \n                        <a href=\"https:\/\/career-advice.jobs.ac.uk\/cv-and-cover-letter-advice\/academic-cv-template\/\">Jobs.ac.uk - Academic CV template<cite class=\"quote-source\"><\/cite><\/a>        \n                   \n\n    <\/figcaption>\n<\/figure>\n<p>Prif ffocws CV academaidd yw eich profiadau, sgiliau a gwybodaeth academaidd, ymchwil ac addysgu. Yn wahanol i ddogfennau CV ar gyfer sectorau eraill lle mae CV dwy dudalen yn nodweddiadol, gall CV academaidd, yn enwedig ar gyfer staff profiadol, fod hyd at bedair tudalen o hyd (ac weithiau&#8217;n hirach). Bydd ganddo adrannau arbenigol na fyddech chi&#8217;n disgwyl dod o hyd iddynt mewn CV y tu allan i&#8217;r byd academaidd \u2013 er enghraifft, cynadleddau a chyflwyniadau, cyhoeddiadau, profiad addysgu\/goruchwylio, cyllid, gwobrau a diddordebau ymchwil. Cymerwch olwg ar yr enghraifft yma o <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/cvs-and-cover-letters\/example-cvs\/academic-cv-example\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV academaidd\u00a0 a ddarperir<\/a> gan Prospects, sy&#8217;n rhoi mewnwelediad gwych i sut y gallech chi strwythuro eich CV.<\/p>\n<p>Mae UKRI hefyd wedi cyflwyno fformat CV naratif ar gyfer ceisiadau grant, y gallwch ddarllen mwy amdano ar <a href=\"https:\/\/www.ukri.org\/what-we-do\/supporting-healthy-research-and-innovation-culture\/research-and-innovation-culture\/supporting-the-community-adoption-of-r4r-like-narrative-cvs\/narrative-cvs-what-they-are-and-why-use-them\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">eu gwefan<\/a>.<\/p>\n<h4>Datganiadau personol\/ategol academaidd<\/h4>\n<p>Mae ceisiadau am swyddi academaidd yn aml yn gofyn am ryw fath o ddatganiad personol neu ddatganiad ategol. O fewn hyn, bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn bodloni&#8217;r meini prawf ar gyfer y swydd, wedi\u2019i rhannu yn aml yn feini prawf sydd naill ai&#8217;n hanfodol neu&#8217;n ddymunol ar gyfer y swydd. Yn ogystal \u00e2 hyn, bydd y darllenwyr hefyd yn ceisio cael amcan o\u2019ch cymhelliant i wneud cais am y r\u00f4l a dod yn rhan o&#8217;r brifysgol \/ adran \/ gr\u0175p penodol hwnnw, yn ogystal \u00e2 sut mae&#8217;r r\u00f4l hon yn cyd-fynd \u00e2&#8217;ch nodau gyrfa yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Rydym yn argymell dilyn yr awgrymiadau isod i helpu eich datganiad personol i sefyll ar wah\u00e2n:<\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-cvs-applications-and-interviews-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Dilyn strwythur clir <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-cvs-applications-and-interviews-cy-1\"><p>Dim ond un darn o destun yw eich datganiad felly mae angen iddo fod yn hawdd ei ddarllen a'i ddilyn \u2013 mae angen iddo fod yn glir pa faen prawf rydych yn mynd i'r afael ag ef. Rhestrwch bob maen prawf yn ei dro fel is-bennawd ond, os oes cyfrif geiriau, trafodwch bob un mewn paragraff ar wah\u00e2n gan ddefnyddio\u2019r un geiriau ag y mae\u2019r cyflogwr wedi\u2019u defnyddio.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-cvs-applications-and-interviews-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Rhoi enghreifftiau penodol<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-cvs-applications-and-interviews-cy-2\"><p>Dangoswch sut rydych chi'n bodloni pob maen prawf trwy ddefnyddio enghreifftiau penodol, wrth ddangos hefyd ehangder eich sgiliau a'ch arbenigedd.<\/p>\n<p>Rydym yn argymell datgan eich sgiliau, arbenigedd neu brofiad ac yna dangos hyn trwy enghraifft benodol. Er enghraifft:<\/p>\n<p><em>Meini prawf<\/em> \u2013 Profiad addysgu sylweddol o ansawdd rhagorol<\/p>\n<p><strong>Honiad<\/strong> \u2013 Rhowch drosolwg o ystod eich profiad addysgu (ar wahanol lefelau ac o wahanol fathau), gan gynnwys gwerthusiadau\/adborth a llwybr eich datblygiad proffesiynol (er enghraifft, unrhyw gymwysterau neu hyfforddiant ychwanegol, perthnasol yr ydych wedi'u cyflawni, e.e. cynllun cymrodoriaeth Advance HE)<\/p>\n<p>Dangos: Ehangwch ar enghraifft benodol o addysgu cwrs neu gr\u0175p bach, gan roi manylion eich dull a\u2019ch athroniaeth ac ansawdd eich addysgu. Gallwch <a href=\"https:\/\/nationalcareers.service.gov.uk\/careers-advice\/interview-advice\/the-star-method\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ddefnyddio'r dull STAR<\/a> i'ch helpu i ymhelaethu ar enghraifft neu brofiad penodol. Ystyr STAR yw Sefyllfa (Situation), Tasg (Task), Gweithred (Action) a Chanlyniad (Result) ac mae'r dull hwn yn darparu canllaw defnyddiol i\u2019ch helpu i ymhelaethu ar brofiadau er mwyn dangos tystiolaeth o sut mae cymwyseddau penodol wedi'u datblygu.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-cvs-applications-and-interviews-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Cynnwys eich cymhelliant a'ch diddordeb<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-cvs-applications-and-interviews-cy-3\"><p>Cynnwys eich cymhelliant a'ch diddordeb<\/p>\n<ul>\n<li>Eich cymhelliant ar gyfer gwneud cais am y r\u00f4l<\/li>\n<li>Eich diddordeb mewn ymuno \u00e2'r gr\u0175p ymchwil, yr adran neu'r brifysgol benodol honno<\/li>\n<li>Eich nodau gyrfa a sut mae'r r\u00f4l hon yn ategu\/cefnogi'r rheini<\/li>\n<li>Trosolwg o\u2019r hyn y gallwch ei gyfrannu at y r\u00f4l a\u2019r adran\/prifysgol \u2013 amlygwch rai o\u2019ch cyflawniadau, gwerthoedd a chryfderau allweddol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gallwch hefyd ddarllen cyngor Job.ac.uk ar yr hyn y dylech ei <a href=\"https:\/\/career-advice.jobs.ac.uk\/cv-and-cover-letter-advice\/what-you-should-include-in-a-personal-statement\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gynnwys mewn datganiad personol<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n<h4>Cyfweliadau academaidd<\/h4>\n<p>Defnyddiwch ein hadnodd isod i\u2019ch helpu i baratoi ar gyfer cyfweliad academaidd ac i ddeall beth i\u2019w ddisgwyl:<\/p>\n<p>\n<!-- iframe plugin v.6.0 wordpress.org\/plugins\/iframe\/ -->\n<iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_23426\" width=\"100%\" height=\"500\" scrolling=\"yes\" class=\"iframe-class\" frameborder=\"0\"><\/iframe>\n<br \/>\nOs ydych chi\u2019n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni\u2019n argymell eich <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_23426\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn ffenestr ar wah\u00e2n<\/a>.<\/p>\n<p>Gallwch hefyd ddarllen y canllaw defnyddiol hwn gan Jobs.ac.uk yngl\u0177n \u00e2 sut i wneud <a href=\"https:\/\/career-advice.jobs.ac.uk\/wp-content\/uploads\/How-to-Apply-for-an-Academic-Job.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">cais am swydd academaidd<\/a><\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert alert-error with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Further resources<\/h3>                <p>Use the below resources to explore this topic further:<\/p>\n<ul>\n<li>If you are a current PhD student, you can book a careers appointment via your <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\/student\/login\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Student Futures Account<\/a>\u00a0for help with CVs, applications and interviews<\/li>\n<li>Vitae <a href=\"https:\/\/vitae.ac.uk\/resource\/careers-in-research\/careers-beyond-academia\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">guide to careers beyond academia<\/a> \u2013 advice on applications and interviews for academic jobs<\/li>\n<li>Jobs.ac.uk <a href=\"https:\/\/career-advice.jobs.ac.uk\/jobseeking-and-interview-tips\/academic-interview\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">advice on academic interviews<\/a><\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Creu CVs a cheisiadau cymhellol a gwybod sut i sefyll allan mewn cyfweliadau.\r\n","protected":false},"author":9374,"featured_media":771,"parent":933,"menu_order":3,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-939","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/939","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9374"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=939"}],"version-history":[{"count":17,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/939\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1189,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/939\/revisions\/1189"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/933"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media\/771"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=939"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=939"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=939"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}