{"id":10282,"date":"2026-10-07T16:22:58","date_gmt":"2026-10-07T15:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/?page_id=10282"},"modified":"2026-10-09T11:13:36","modified_gmt":"2026-10-09T10:13:36","slug":"dylunio-dysgu-ar-waith-paratoi-a-chynnal-asesiadau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/dylunio-dysgu-ar-waith-paratoi-a-chynnal-asesiadau\/","title":{"rendered":"Dylunio Dysgu ar Waith: Paratoi a chynnal asesiadau"},"content":{"rendered":"<h2><b><span data-contrast=\"none\">Paratoi ar gyfer asesiadau a\u2019u cynnal<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h2>\n<h3><b><span data-contrast=\"none\">Pam mae\u2019n bwysig<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Nid yw dylunio asesiadau\u2019n dod i ben pan fo\u2019r strategaeth asesu wedi\u2019i gadarnhau. Ar ddechrau modiwl, mae\u2019n bwysig helpu\u2019r myfyrwyr ddeall diben yr asesiad, sut gallent baratoi ar ei gyfer, a sut gall adborth gefnogi eu dysgu. Gall cynnwys myfyrwyr mewn trafodaethau am asesu\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/key-principles\/principle-5-assessment-as-learning\/assessment-and-feedback-literacy\/\"><span data-contrast=\"none\">wella llythrennedd adborth am asesiadau<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">, eu helpu i wneud gwaith gwell, cefnogi cynllunio llwyth gwaith, a chyfrannu at brofiad dysgu mwy positif.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h3><b><span data-contrast=\"none\">Awgrymiadau ymarferol<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<p><span data-contrast=\"none\">Mae\u2019n ddefnyddiol ystyried y canlynol ymlaen llaw:<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<ul>\n<li><span data-contrast=\"none\">Sut bydd yr asesiad yn cefnogi datblygiad myfyrwyr wrth baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Gall helpu i gymell myfyrwyr os ydynt yn deall bod yr asesiad yn datblygu eu sgiliau gwaith tra hefyd yn profi eu gwybodaeth.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"none\">Sut rydych chi am i&#8217;ch myfyrwyr ymgysylltu \u00e2 thasgau ffurfiannol; y manteision sy&#8217;n deillio o hyn, y sylwadau adborth y byddant yn eu cael, a&#8217;r ffyrdd yr hoffech i&#8217;ch myfyrwyr ddefnyddio&#8217;r sylwadau hyn<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"none\">P\u2019un a oes ffyrdd y gall eich myfyrwyr gymryd rhan bellach wrth gefnogi&#8217;r tasgau ffurfiannol (e.e. trwy weithgareddau hunanasesu a\/neu asesu cymheiriaid);<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"none\">Sut yr ymgymerir \u00e2 marcio&#8217;r tasgau crynodol, e.e.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<ol>\n<li><span data-contrast=\"none\">P\u2019un a yw\u2019r rhain yn dasgau penagored sy\u2019n cael eu marcio orau trwy gymhwyso a dehongli meini prawf asesu ac, os felly, p\u2019un a yw\u2019r meini prawf generig a ddefnyddir ar draws y rhaglen yn briodol ac yn ddigon clir ar gyfer y dasg hon, neu p\u2019un a ddylech ddatblygu meini prawf penodol i\u2019w defnyddio gyda\u2019r asesiad hwn (a chynnwys eich myfyrwyr wrth ddatblygu&#8217;r rhain?); NEU<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"none\">P\u2019un a oes angen ateb sefydlog ar gyfer y cwestiynau a ddefnyddir yn yr asesiad, ac felly mae angen i&#8217;r dasg gael ei hategu gan gynllun marcio manwl i arwain staff a myfyrwyr ar sut y caiff marciau eu dyfarnu;<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ol>\n<p><span data-contrast=\"none\">Pa bynnag ddulliau asesu sy\u2019n cael eu defnyddio, mae angen i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth asesu ac adborth berthnasol ar gael i fyfyrwyr ac yn hygyrch iddynt, a bod gan farcwyr a myfyrwyr ddealltwriaeth gyffredin o sut y caiff y marcio ei wneud a\u2019r safonau academaidd y mae angen iddynt roi tystiolaeth ohonynt mewn gwaith a asesir.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h3><b><span data-contrast=\"none\">Adnodd<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Osgoi \u2018hunllefau\u2019 asesu cyn cynnal yr asesiad gyda rhestr\u00a0Sambell\u00a0o\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/lta.hw.ac.uk\/wp-content\/uploads\/23_AFL_Key-assessment-challenges-and-how-to-deal-with-them.pdf\"><span data-contrast=\"none\">hunllefau asesu a dulliau i\u2019w hosgoi<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><span data-contrast=\"none\">\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h3><b><span data-contrast=\"none\">Myfyrio a Chymhwyso<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Dewiswch un asesiad ar eich modiwl. Gofynnwch i\u00a0chi\u2019ch\u00a0hun: a fyddai myfyriwr yn gallu esbonio sut mae llwyddiant yn edrych, sut bydd y gwaith yn cael ei farcio a sut gall adborth eu helpu i wella? Os na, mae\u2019n bwysig gwneud y disgwyliadau hyn yn fwy eglur.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-deeper-dive-preparing-for-and-running-assessments-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Archwilio\u2019n Ddyfnach<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-deeper-dive-preparing-for-and-running-assessments-cy-1\"><h3><b><span data-contrast=\"none\">Datblygu Arferion Asesu ac Adborth Cynhwysol<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<p><span data-contrast=\"none\">Meini prawf asesu yw\u2019r pont benodol rhwng beth mae\u2019r myfyrwyr yn ei ddysgu a sut maen nhw\u2019n arddangos eu llwyddiant. Bydd symud y tu hwnt i fframweithiau cyffredinol tuag at ddylunio meini prawf asesu penodol yn galluogi timau modiwlau i egluro disgwyliadau, taclo rhwystrau cudd a grymuso cynnydd myfyrwyr yn weithredol.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h3 aria-level=\"4\"><b><span data-contrast=\"none\">Pennu Disgwyliadau a Meini Prawf Clir<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;134245418&quot;:true,&quot;134245529&quot;:true,&quot;335559738&quot;:319,&quot;335559739&quot;:319}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<ul>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Diffinio Llwyddiant:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Fel bod myfyrwyr yn bodloni disgwyliadau modiwlau, mae\u2019n rhaid iddynt ddeall sut mae gwaith o safon uchel yn edrych ar draws bandiau perfformio. Bydd dangos enghreifftiau o waith yn y gorffennol ar draws y graddau, a hwyluso gweithgareddau cymharu dan arweiniad y myfyrwyr yn helpu dysgwyr i ddeall safonau, ac addasu eu dulliau eu hunain.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Fframwaith EAT:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Gall ymyriadau strategol ar raddfa fach sy'n defnyddio'r Fframwaith EAT (Evans\u00a0Assessment\u00a0Tool) helpu i werthuso parodrwydd asesu eich modiwl, gan sicrhau mwy o ymgysylltiad myfyrwyr ac aliniad \u00e2 disgwyliadau.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Lliniaru \u2018Hunllefau\u2019 Asesu:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Mae bod yn weithredol a nodi pwyntiau methu posibl neu gamddealltwriaeth cyn cynnal asesiad yn helpu i chwalu rhwystrau diangen i staff a myfyrwyr (Sambell).<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<h3 aria-level=\"4\"><b><span data-contrast=\"none\">Cynllunio Strategol ar gyfer Marcio a Chyd-greu<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;134245418&quot;:true,&quot;134245529&quot;:true,&quot;335559738&quot;:319,&quot;335559739&quot;:319}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<ul>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Dylunio Cynlluniau Marcio yn gynnar:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Bydd pennu sut fydd asesiad yn cael ei farcio cyn dechrau addysgu yn sicrhau y gallwch roi gwybod yn llwyr i fyfyrwyr sut bydd llwyddiant yn cael ei fesur.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Gwerthuso Effeithlonrwydd Marcio:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Mae defnyddio gweithgareddau t\u00eem strwythuredig yn caniat\u00e1u i addysgwyr asesu dulliau marcio ar gyfer effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y llwyth gwaith.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Cyd-greu gyda\u2019r Myfyrwyr:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Ystyriwch gynnwys myfyrwyr wrth ddiffinio dulliau marcio. Er enghraifft, bydd cydbwyso marcio crynodol ysgafn gydag adborth ffurfiannol cadarn yn helpu i sicrhau bod adborth yn amserol a bod modd gweithredu arno.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<h3 aria-level=\"4\"><b><span data-contrast=\"none\">Dylunio Cyfleoedd Ystyrlon ar gyfer Adborth Ffurfiannol:<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;134245418&quot;:true,&quot;134245529&quot;:true,&quot;335559738&quot;:319,&quot;335559739&quot;:319}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<ul>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Sgaffaldio\u00a0trwy Dasgau Ffurfiannol:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Mae pob modiwl yn elwa ar dasgau ffurfiannol sydd \u00e2\u2019r nod o efelychu neu arwain at yr asesiad crynodol (e.e., defnyddio dull clytwaith). Er mwyn iddo fod yn effeithiol, rhaid rhoi adborth yn ddigon prydlon fel mod myfyrwyr yn gallu cymhwyso\u2019r adborth yn y darn gwaith terfynol.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Adborth Gweithredol ar Lafar yn y Sesiwn:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Dylid ymgorffori adborth ffurfiannol yn gyson drwy gydol y broses ddysgu, yn hytrach na\u2019i gadw ar gyfer cyflwyniadau ffurfiol yn unig. Defnyddiwch awgrymiadau ar lafar yn ystod sesiynau byw er mwyn:<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span>\n<ul>\n<li><span data-contrast=\"none\">Ymestyn a herio: Gofynnwch gwestiynau megis, \u201cPam ti\u2019n meddwl hynny?\u201d neu \u201cSut fyddai hynny\u2019n edrych yn ymarferol?\u201d<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"none\">Atgyfnerthu tystiolaeth: Gofynnwch i fyfyrwyr gyfiawnhau eu honiadau a nodi ffynonellau cyffredinol.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"none\">Amlygu trafferthion cyffredin: Rhybuddiwch fyfyrwyr o wallau arferol neu gamddealltwriaeth gysyniadol cyn iddynt gyflwyno gwaith terfynol.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Cymhwyso Myfyriol:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Gwnewch yn si\u0175r bod gan fyfyrwyr ddigon o gyfleoedd strwythuredig, megis cadw logiau myfyriol neu addasu cynlluniau gweithredu i gofnodi, prosesu a chymhwyso\u2019r adborth maen nhw\u2019n ei dderbyn.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<\/div> <\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Paratoi ar gyfer asesiadau a\u2019u cynnal\u00a0 Pam mae\u2019n bwysig\u00a0 Nid yw dylunio asesiadau\u2019n dod i ben pan fo\u2019r strategaeth asesu wedi\u2019i gadarnhau. Ar ddechrau modiwl, mae\u2019n bwysig helpu\u2019r myfyrwyr ddeall [&hellip;]","protected":false},"author":9344,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[80],"tags":[],"class_list":["post-10282","page","type-page","status-publish","hentry","category-dylunio-dysgu"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10282","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9344"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10282"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10282\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11878,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10282\/revisions\/11878"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10282"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10282"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10282"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}