{"id":10290,"date":"2026-10-07T15:46:16","date_gmt":"2026-10-07T14:46:16","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/?page_id=10290"},"modified":"2026-10-10T14:26:57","modified_gmt":"2026-10-10T13:26:57","slug":"learning-design-in-practice-designing-a-coherent-learning-journey-cym","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/learning-design-in-practice-designing-a-coherent-learning-journey-cym\/","title":{"rendered":"Dylunio Dysgu yn ymarferol: Dylunio taith ddysgu cydlynol"},"content":{"rendered":"<h2><b><span data-contrast=\"auto\">Dylunio taith ddysgu gydlynol\u00a0<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h2>\n<h3><b><span data-contrast=\"auto\">Pam mae\u2019n bwysig<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae modiwl sydd wedi\u2019i ddylunio\u2019n dda yn helpu myfyrwyr i ddeall sut mae gweithgareddau dysgu, asesiadau ac adnoddau yn ffitio gyda\u2019i gilydd drwy gydol eu hastudiaethau. Mae cynnig taith ddysgu clir a strwythuredig yn lleihau dryswch diangen, yn cefnogi ymgysylltiad ac yn helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar gyflawni\u2019r deilliannau dysgu a fwriedir. Mae dyluniad modiwl ystyrlon, cyfathrebu clir a threfniadaeth gyson yn helpu i greu profiad dysgu mwy effeithiol a chynhwysol.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h3><b><span data-contrast=\"auto\">Awgrymiadau ymarferol<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<ul>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Cr\u00ebwch fap modiwl ar gyfer y myfyrwyr, i ddangos sut mae pynciau, gweithgareddau ac asesiadau\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019i gilydd.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Gwnewch yn si\u0175r bod y cynnwys ar Ddysgu Canolog wedi\u2019i drefnu mewn strwythur clir a chyson.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Defnyddiwch gynllun modiwl syml y mae modd ei ragweld, i helpu myfyrwyr i weithio drwy\u2019r adnoddau dysgu.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Cyfathrebwch yn glir beth ddylai\u2019r myfyrwyr ei wneud cyn, yn ystod ac ar \u00f4l gweithgareddau dysgu.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Rhowch wybod am gysylltiadau rhwng pynciau, asesiadau a dysgu blaenorol.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Canolbwyntiwch ar ansawdd yn hytrach na swm, wrth ddewis adnoddau a gweithgareddau dysgu.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Rhannwch ddeunyddiau dysgu ymlaen llaw lle bo hynny&#8217;n bosibl i gefnogi hygyrchedd a pharatoi.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Defnyddiwch egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) drwy gynnig ffyrdd hyblyg i fyfyrwyr ymgysylltu \u00e2 gweithgareddau, cael mynediad i adnoddau a chymryd rhan yn y dysgu.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Defnyddiwch ddulliau ac offer cyfathrebu cyson trwy gydol y modiwl.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Adolygwch eich modiwl yn rheolaidd o safbwynt y myfyrwyr i nodi meysydd i&#8217;w gwella.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<h3><b><span data-contrast=\"auto\">Adnodd<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<p>Yn y fideo dwy funud hwn, mae Andre yn cynnig arweiniad ar strwythuro modiwl, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer creu taith ddysgu ddeniadol ac effeithiol i&#8217;ch myfyrwyr.<\/p>\n\n<!-- iframe plugin v.6.0 wordpress.org\/plugins\/iframe\/ -->\n<iframe loading=\"lazy\" class=\"image w-100%\" src=\"https:\/\/cardiff.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/embed.aspx?id=ea88165a-e846-4883-97fc-b12900af0231\" width=\"100%\" height=\"500\" scrolling=\"yes\" frameborder=\"0\"><\/iframe>\n\n<p><span data-contrast=\"auto\">Defnyddiwch y\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_21502\"><span data-contrast=\"none\">Canllaw Arfer Da ar Ddysgu Canolog<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">\u00a0i adolygu a gwella eich modiwl mewn pedwar maes allweddol:<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<ul>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Strwythur a Threfniadaeth<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Deunyddiau Dysgu<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Asesiadau ac Adborth<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><span data-contrast=\"auto\">Cyfathrebu ynghylch y Modiwlau<\/span><br \/>\n<span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae\u2019r canllaw yn cynnig ymarferion\u00a0<\/span><b><span data-contrast=\"auto\">Hanfodol\u00a0<\/span><\/b><span data-contrast=\"auto\">ac<\/span><b><span data-contrast=\"auto\">\u00a0Estynedig\u00a0<\/span><\/b><span data-contrast=\"auto\">er mwyn darparu profiadau myfyrwyr clir, hygyrch a diddorol.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h3><b><span data-contrast=\"auto\">Myfyrio a Chymhwyso<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Agorwch y\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_21502\"><span data-contrast=\"none\">Canllaw Arfer Da ar Ddysgu Canolog<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">\u00a0a dewiswch un o&#8217;r pedwar maes: Strwythur a Threfniadaeth; Deunyddiau Dysgu; Asesiadau ac Adborth; Cyfathrebu ynghylch y Modiwlau. Adolygwch eich modiwl yn erbyn y rhestr wirio perthnasol, a nodwch un newid a fyddai\u2019n gwneud y profiad dysgu\u2019n gliriach, yn fwy hygyrch neu\u2019n fwy diddorol i fyfyrwyr.<\/span><\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-deeper-dive-designing-a-coherent-learning-journey-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Archwilio\u2019n Ddyfnach<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-deeper-dive-designing-a-coherent-learning-journey-cy-1\"><h3><b><span data-contrast=\"none\">Aliniad Adeiladol ar Waith: Cysylltu Deilliannau, Gweithgareddau ac Asesiadau:<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<p><span data-contrast=\"none\">Mae aliniad adeiladol, fframwaith sylfaenol a ddatblygwyd gan John\u00a0Biggs, yn sail i ddylunio dysgu effeithiol. Mae\u2019n cyfuno\u2019r syniad bod myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth yn weithredol drwy ymgysylltu ag aliniad bwriadol rhwng Deilliannau Dysgu a Fwriedir (ILO), gweithgareddau dysgu a thasgau asesu. Pan fydd wedi'i alinio'n effeithiol, mae pob elfen ar fodiwl yn gweithio gyda'i gilydd i arwain myfyrwyr yn rhwydd tuag at lwyddiant.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h3 aria-level=\"4\"><b><span data-contrast=\"none\">Elfennau Craidd Aliniad Adeiladol<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;134245418&quot;:true,&quot;134245529&quot;:true,&quot;335559738&quot;:319,&quot;335559739&quot;:319}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<ol>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Deilliannau Dysgu a Fwriedir (ILO):<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Mae ILO yn diffinio'n benodol beth ddylai myfyrwyr ei wybod, ei ddeall a gallu ei wneud erbyn diwedd y daith ddysgu. Mae defnyddio berfau gweithredol (megis dadansoddi, syntheseiddio, neu arfarnu) yn pennu lefel wybyddol y targed ac yn llywio dyluniad yr addysgu a disgwyliadau myfyrwyr.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Gweithgareddau Addysgu a Dysgu (TLA):<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Rhaid i weithgareddau dysgu efelychu neu ymarfer yn uniongyrchol y broses wybyddol a nodir yn yr ILO. Yn hytrach na derbyn cynnwys yn oddefol, dylai\u2019r myfyrwyr ymgysylltu \u00e2 thasgau sy\u2019n caniat\u00e1u iddynt ddatblygu eu gwybodaeth yn weithredol.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Tasgau a Meini Prawf Asesu:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Mae dulliau asesu yn mesur i ba raddau mae\u2019r myfyrwyr wedi bodloni\u2019r ILO. Dylai tasgau asesu, waeth os ydynt yn rhai ffurfiannol neu grynodol, ofyn i\u2019r myfyrwyr arddangos y sgiliau a\u2019r wybodaeth darged dan safonau clir sy\u2019n cyfeirio at y meini prawf.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ol>\n<h3 aria-level=\"4\"><b><span data-contrast=\"none\">Pam mae aliniad adeiladol yn bwysig ar gyfer y daith ddysgu<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;134245418&quot;:true,&quot;134245529&quot;:true,&quot;335559738&quot;:319,&quot;335559739&quot;:319}\">\u00a0<\/span><\/h3>\n<ul>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Hyrwyddo Dysgu Manwl:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Pan fydd gweithgareddau ac asesiadau\u2019n efelychu\u2019r deilliannau craidd, anogir myfyrwyr i ymwneud yn fanwl \u00e2 deunyddiau, yn hytrach na mabwysiadu tactegau astudio strategol neu arwynebol yn unig.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Chwalu Mythau am Ddisgwyliadau:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Mae aliniad tryloyw yn lleihau amwysedd. Gall myfyrwyr weld yn glir pam maen nhw\u2019n cyflawni tasgau penodol, sut mae astudio annibynnol yn gysylltiedig \u00e2 sesiynau byw, a beth sydd ei angen i wneud yn dda mewn asesiadau.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li><b><span data-contrast=\"none\">Sicrhau Tegwch a Chydlyniad:<\/span><\/b><span data-contrast=\"none\">\u00a0Mae anghysondebau rhwng yr hyn sy'n cael ei addysgu a'r hyn sy'n cael ei asesu yn creu ffrithiant ac yn rhoi dysgwyr dan anfantais. Mae aliniad systematig yn sicrhau bod pob myfyriwr yn dysgu\u2019r ymarfer\u00a0sgaffaldio\u00a0angenrheidiol i lwyddo cyn sefyll asesiadau cryno.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<p><a href=\"https:\/\/www.qmul.ac.uk\/queenmaryacademy\/educators\/resources\/curriculum-design\/constructive-alignment\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Crynodeb defnyddiol o brif elfennau Aliniad Adeiladol o Brifysgol Queen Mary<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dylunio taith ddysgu gydlynol\u00a0\u00a0 Pam mae\u2019n bwysig\u00a0 Mae modiwl sydd wedi\u2019i ddylunio\u2019n dda yn helpu myfyrwyr i ddeall sut mae gweithgareddau dysgu, asesiadau ac adnoddau yn ffitio gyda\u2019i gilydd drwy [&hellip;]","protected":false},"author":9344,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[80],"tags":[],"class_list":["post-10290","page","type-page","status-publish","hentry","category-dylunio-dysgu"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10290","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9344"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10290"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10290\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11603,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10290\/revisions\/11603"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10290"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10290"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10290"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}