{"id":10900,"date":"2026-09-01T13:50:16","date_gmt":"2026-09-01T12:50:16","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/?page_id=10900"},"modified":"2026-10-23T13:30:38","modified_gmt":"2026-10-23T12:30:38","slug":"llythrennedd-asesu-ac-adborth","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/llythrennedd-asesu-ac-adborth\/","title":{"rendered":"Llythrennedd Asesu ac Adborth"},"content":{"rendered":"<div id=\"top\"><\/div>\n<section id=\"intro\" class=\"genai-section\">\n<div id=\"top\"><\/div>\n<div style=\"display: flex;gap: 30px;align-items: flex-start;flex-wrap: wrap\">\n<div style=\"flex: 3;min-width: 300px\">\n<p>Mae asesu ac adborth yn ganolog i ddysgu myfyrwyr, ond yn aml mae myfyrwyr yn ei chael yn anodd dehongli disgwyliadau asesu a gall deall adborth a gweithredu arno fod yn heriol. Mae llythrennedd asesu ac adborth yn helpu myfyrwyr i ddeall beth yw llwyddiant, ymgysylltu&#8217;n ystyrlon \u00e2 phrosesau asesu, a defnyddio adborth i wella perfformiad yn y dyfodol. Mae ymchwil yn awgrymu bod y galluoedd hyn yn datblygu&#8217;n raddol drwy weithgareddau dysgu pwrpasol, deialog a myfyrio, yn hytrach na thrwy sylwadau adborth yn unig.<\/p>\n<p>Cynlluniwyd y dudalen hon i staff sy&#8217;n cynllunio asesiadau, yn rhoi adborth, yn cefnogi dysgu, neu sy&#8217;n arwain gweithgareddau gwella mewn modiwlau a rhaglenni. P&#8217;un a ydych chi&#8217;n newydd i addysgu neu&#8217;n arwain mentrau gwella asesu yn eich Ysgol, mae&#8217;r dudalen hon yn cynnig dulliau ymarferol y gellir eu haddasu i ystod eang o ddisgyblaethau a chyd-destunau.<\/p>\n<p><strong>Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2023)<\/strong><\/p>\n<p>A1, A2, A3, A4, K2, K3, K5, V1, V2, V3, V5.<\/p>\n<\/div>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<div style=\"flex: 1;min-width: 250px;background: #f5f9fc;border-left: 5px solid #0066a1;padding: 20px;border-radius: 4px\">\n<h3 style=\"margin-top: 0;color: #0066a1\">Ar y dudalen hon<\/h3>\n<p><a href=\"#understand\">Deall llythrennedd asesu ac adborth<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#explore\">Datblygu llythrennedd asesu ac adborth<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#design\">Cynllunio adborth y gall myfyrwyr ei ddefnyddio<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#help-engage\">Ymgorffori arfer effeithiol<\/a><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/section>\n<hr \/>\n<div id=\"understand\"><\/div>\n<h2><strong>Deall Llythrennedd Asesu ac Adborth<\/strong><\/h2>\n<h3><strong>Deall Profiad y Myfyrwyr<\/strong><\/h3>\n<p>Mae myfyrwyr yn adrodd yn rheolaidd am ansicrwydd ynghylch disgwyliadau asesu, safonau ac arferion adborth. Mae llawer yn disgrifio anawsterau wrth ddeall gofynion aseiniadau, cymhwyso meini prawf marcio a dehongli sylwadau adborth. Gall y profiadau hyn leihau hyder, ymgysylltiad ac yn y pen draw berfformiad.<\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 32 24\">\n    <title>Right quote<\/title>\n    <path d=\"M0,28V16A12,12,0,0,1,12,4V8a8,8,0,0,0-8,8h8V28H0Zm20,0V16A12,12,0,0,1,32,4V8a8,8,0,0,0-8,8h8V28H20Z\" transform=\"translate(0 -4)\"><\/path>\n<\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Safbwyntiau Myfyrwyr ar Asesu ac Adborth<\/h3>                <p class=\"MsoNormal\"><span lang=\"CY\">\u201cDyw canllawiau aseiniadau ddim bob amser yn glir. Mae diffyg enghreifftiau yn gwneud aseiniadau\u2019n anodd.\u201d<\/span><\/p>\n<p class=\"MsoNormal\"><span lang=\"CY\">\"Dydw i ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng traethawd \u00e2 gradd dosbarth 1af neu 2.1.\"<\/span><\/p>\n<p class=\"MsoNormal\"><span lang=\"CY\">\u201cMae fy adborth yn gyfyngedig, ac anaml iawn y mae\u2019n esbonio sut y gallaf i wella fy ngwaith.\u201d<\/span><\/p>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n<h3><strong>Lleisiau Myfyrwyr: Profiad o Adborth<\/strong><\/h3>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Student views on academic feedback\" src=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/1191561715?h=92ecd515a6&amp;dnt=1&amp;app_id=122963\" width=\"500\" height=\"281\" frameborder=\"0\" allow=\"autoplay; fullscreen; picture-in-picture; clipboard-write; encrypted-media; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\"><\/iframe><\/p>\n<h3><strong>Beth mae Llythrennedd Asesu ac Adborth yn ei olygu?<\/strong><\/h3>\n<p>Mae llythrennedd asesu ac adborth yn gysyniadau \u00e2 chysylltiad agos.<\/p>\n<div style=\"display: flex;gap: 0;align-items: stretch\">\n<div style=\"flex: 1;background: #FDE9D9;border: 3px solid #D98B75;padding: 25px\">\n<h3 style=\"color: #2f7d20;margin-top: 0\">Llythrennedd Asesu \u200b\u200b<\/h3>\n<p style=\"font-style: italic;color: #666\">Mae llythrennedd asesu yn helpu myfyrwyr i ddeall::<\/p>\n<ul>\n<li>gofynion asesu<\/li>\n<li>safonau a meini prawf<\/li>\n<li>prosesau marcio<\/li>\n<li>sut beth yw gwaith llwyddiannus<\/li>\n<\/ul>\n<p style=\"text-align: right\">Price et al. (2012)<\/p>\n<\/div>\n<div style=\"flex: 1;background: #E5DFEC;border: 3px solid #6B5478;padding: 25px\">\n<h3 style=\"color: #0070a3;margin-top: 0\">Llythrennedd Adborth<\/h3>\n<p style=\"font-style: italic;color: #666\">Mae llythrennedd adborth yn helpu myfyrwyr i::<\/p>\n<ul>\n<li>adnabod a gwerthfawrogi adborth<\/li>\n<li>rheoli ymatebion emosiynol<\/li>\n<li>gweithredu<\/li>\n<li>dod i farn werthusol<\/li>\n<\/ul>\n<p style=\"text-align: right\">Carless &amp; Boud (2018)<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<figure id=\"post-9982 media-9982\" class=\"image aligncenter\"><\/figure>\n<p>Mae ymchwil yn awgrymu bod llythrennedd asesu ac adborth yn gysylltiedig \u00e2 gwell hunanreoleiddio, mwy o hyder a mwy o allu i gymhwyso adborth ar draws cyd-destunau dysgu. Mae myfyrwyr yn fwy tebygol o elwa o asesu ac adborth pan g\u00e2nt gymorth i ddeall safonau, gwerthuso ansawdd a defnyddio adborth i wella gwaith yn y dyfodol. Mae datblygu llythrennedd asesu ac adborth yn helpu myfyrwyr i ddod yn gyfranogwyr gweithredol yn eu dysgu eu hunain (Carless a Boud, 2018).<\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert alert-success\">        \n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>BLWCH MYFYRIO<\/h3>                <p class=\"MsoNormal\"><span lang=\"CY\">Ar hyn o bryd, sut mae myfyrwyr yn dysgu:<\/span><\/p>\n<ul style=\"margin-top: 0cm\" type=\"disc\">\n<li class=\"MsoNormal\"><span lang=\"CY\">beth yw llwyddiant?<\/span><\/li>\n<li class=\"MsoNormal\"><span lang=\"CY\">sut y caiff gwaith ei farnu?<\/span><\/li>\n<li class=\"MsoNormal\"><span lang=\"CY\">sut y gellir defnyddio adborth?<\/span><\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n<p style=\"text-align: right;margin-top: 20px\"><a style=\"display: inline-block;padding: 8px 14px;background: #0066a1;color: white;text-decoration: none;border-radius: 4px;font-size: 0.9rem;font-weight: 600\" href=\"#top\"> \u2191 Yn \u00f4l i&#8217;r brig <\/a><\/p>\n<hr \/>\n<div id=\"explore\"><\/div>\n<h2><strong>Datblygu Llythrennedd Asesu ac Adborth <\/strong><\/h2>\n<p><strong>Strategaethau Asesu ac Adborth<\/strong><\/p>\n<p>Mae llythrennedd asesu ac adborth yn datblygu&#8217;n raddol trwy weithgareddau dysgu pwrpasol, deialog a myfyrio. Mae&#8217;r diagram isod yn cyflwyno strategaethau sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu rhoi ar waith a&#8217;u haddasu ar draws disgyblaethau a chyd-destunau addysgu. Mae&#8217;r gorgyffwrdd yn tynnu sylw at arferion a all helpu i ddatblygu&#8217;r ddau fath o lythrennedd.<\/p>\n<figure id=\"post-10931 media-10931\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/files\/2026\/10\/CYM-AF-Infographic.png\" alt=\"Diagram Venn yn dangos strategaethau&apos;n seiliedig ar dystiolaeth sy&apos;n datblygu llythrennedd asesu a llythrennedd adborth myfyrwyr, gan gynnwys arferion sy&apos;n gorgyffwrdd fel myfyrio, deialog adborth a barn werthusol.\" \/><figcaption class=\"caption\">Strategaethau ymarferol sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygu a gwella llythrennedd asesu ac adborth myfyrwyr.<\/figcaption><\/figure>\n<p><span style=\"background-color: #ffffff;font-size: 16px\"> \n\n                        <div class=\"alert alert with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 32 24\">\n    <title>Right quote<\/title>\n    <path d=\"M0,28V16A12,12,0,0,1,12,4V8a8,8,0,0,0-8,8h8V28H0Zm20,0V16A12,12,0,0,1,32,4V8a8,8,0,0,0-8,8h8V28H20Z\" transform=\"translate(0 -4)\"><\/path>\n<\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Barn werthusol<\/h3>                <div style=\"color: #000000;font-size: 14px;line-height: 20px\"><span lang=\"CY\" style=\"font-size: 11.0pt;line-height: 107%\">Mae datblygu barn werthusol yn helpu myfyrwyr i adnabod ansawdd yn eu gwaith eu hunain a gwaith eraill, gan gefnogi defnydd mwy effeithiol o adborth (Tai et al., 2018).<\/span><\/div>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    <\/span><\/p>\n<p><strong>Defnyddio&#8217;r strategaethau&#8217;n ymarferol<\/strong><\/p>\n<p>Does dim angen i chi ddefnyddio pob strategaeth ar unwaith. Dechreuwch drwy nodi un agwedd ar asesu neu adborth y mae myfyrwyr yn ei chael yn heriol, yna dewiswch un neu ddwy strategaeth berthnasol i&#8217;w hymgorffori mewn gweithgaredd addysgu, asesu neu adborth cyfredol.<\/p>\n<p>Er mwyn archwilio&#8217;r strategaethau hyn yn fanylach, mae&#8217;r sesiwn DPP ategol ar Lythrennedd Asesu ac Adborth yn cynnig enghreifftiau ymarferol, trafodaeth strwythuredig a chyfleoedd i&#8217;w cymhwyso yn eich cyd-destun disgyblaethol chi. Gallwch ddefnyddio&#8217;r cynnwys anghydamserol neu gofrestru ar gyfer y sesiwn fyw yn yr adran Dysgu Pellach ar waelod y dudalen hon.<\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert alert-success with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Myfyrio ar eich ymarfer<\/h3>                <p class=\"MsoNormal\"><span lang=\"CY\">Pa un neu ddwy strategaeth allech chi eu cyflwyno neu eu cryfhau yn eich ymarfer presennol?<\/span><\/p>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n<figure id=\"post-9982 media-9982\" class=\"image align-center\"><\/figure>\n<p style=\"text-align: right;margin-top: 20px\"><a style=\"display: inline-block;padding: 8px 14px;background: #0066a1;color: white;text-decoration: none;border-radius: 4px;font-size: 0.9rem;font-weight: 600\" href=\"#top\"> \u2191 Yn \u00f4l i&#8217;r brig <\/a><\/p>\n<hr \/>\n<div id=\"design\"><\/div>\n<h2><strong>Cynllunio Adborth Y Gall Myfrwyr Ei Ddefnyddio<\/strong><\/h2>\n<h3><strong>Adborth fel Proses Ddysgu<\/strong><\/h3>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae adborth yn fwy na dim ond trosglwyddo gwybodaeth i fyfyrwyr. Mae adborth effeithiol yn broses lle mae myfyrwyr yn gwneud synnwyr o wybodaeth ac yn ei defnyddio i wella dysgu yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau\u2019r effaith fwyaf bosibl, dylai adborth gefnogi<strong> rhag-borth<\/strong> drwy helpu myfyrwyr i nodi sut i gymhwyso\u2019r hyn a ddysgwyd mewn un dasg i asesiadau a gweithgareddau dysgu yn y dyfodol.<\/p>\n<h3><strong>Saith Nodwedd Adborth Effeithiol <\/strong><\/h3>\n<p>Mae adborth effeithiol yn fwy na dim ond trosglwyddo gwybodaeth i fyfyrwyr. Dylai helpu myfyrwyr i ddeall perfformiad, gwneud synnwyr o gyngor a chymhwyso dysgu i&#8217;w gwaith yn y dyfodol. Mae&#8217;r saith nodwedd isod yn cynnig fframwaith ymarferol ar gyfer cynllunio fel bod myfyrwyr yn ymgysylltu ag adborth, yn ei ddeall a&#8217;i ddefnyddio.<\/p>\n<p>Dylai adborth effeithiol fod yn:<\/p>\n<p>\u2705 Canolbwyntio ar nodau<\/p>\n<p>\u2705 Meddu ar ffocws<\/p>\n<p>\u2705 Ymarferol<\/p>\n<p>\u2705 Addas i fyfyrwyr<\/p>\n<p>\u2705 Parhaus<\/p>\n<p>\u2705 Cyson<\/p>\n<p>\u2705 Amserol<\/p>\n<figure id=\"post-10028 media-10028\" class=\"image align-right\"><\/figure>\n<figure id=\"post-10028 media-10028\" class=\"image align-center\"><\/figure>\n<h3><strong>Adborth sy&#8217;n Ystyried Llwyth Gwaith<\/strong><\/h3>\n<p>Nid yw adborth gwell o reidrwydd yn golygu mwy o adborth.<\/p>\n<p>Gall gwelliant ddod o wneud y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>lleihau sylwadau ailadroddus<\/li>\n<li>gwella cysondeb<\/li>\n<li>gwella eglurder<\/li>\n<li>gweithredu cefnogol<\/li>\n<li>dewis dulliau adborth priodol<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Dewis Fformatau Adborth Priodol<\/strong><\/p>\n<p>Gellir cyflwyno adborth mewn gwahanol ffyrdd. Bydd y fformat mwyaf priodol yn dibynnu ar bwrpas y dasg, anghenion y garfan, yr amser sydd ar gael a sut mae disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio&#8217;r adborth.<\/p>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\"><\/ul> <div class=\"tab-content\"><\/div>\n        <\/div>\n<p style=\"text-align: right;margin-top: 20px\"><a style=\"display: inline-block;padding: 8px 14px;background: #0066a1;color: white;text-decoration: none;border-radius: 4px;font-size: 0.9rem;font-weight: 600\" href=\"#top\"> \u2191 Yn \u00f4l i&#8217;r brig <\/a><\/p>\n<hr \/>\n<div id=\"help-engage\"><\/div>\n<h2><strong>Ymgorffori arfer effeithiol<\/strong><\/h2>\n<p>Mae datblygu llythrennedd asesu ac adborth yn fwyaf effeithiol pan gaiff ei gynnwys yn rhan o brofiad dysgu cydlynol yn hytrach na chasgliad o weithgareddau ynysig.<\/p>\n<h3><strong>Egwyddorion Allweddol<\/strong><\/h3>\n<div style=\"background: #f7fbf6;border-left: 5px solid #2f7d20;padding: 22px;border-radius: 4px;margin: 25px 0\">\n<ul style=\"padding-left: 0;margin: 0;line-height: 1.7\">\n<li style=\"display: flex;gap: 10px;margin-bottom: 10px\"><span style=\"color: #2f7d20;font-weight: bold\">\u2714<\/span>Gweithio mewn partneriaeth \u00e2 myfyrwyr \u21d2 Trafod asesu ac adborth yn agored.<\/li>\n<li style=\"display: flex;gap: 10px;margin-bottom: 10px\"><span style=\"color: #2f7d20;font-weight: bold\">\u2714<\/span>Canolbwyntio ar Asesu ar gyfer Dysgu \u21d2 Defnyddio asesu fel cyfle i ddysgu, ac nid offeryn mesur yn unig. Rhoi cyfle i fyfyrwyr fethu.<\/li>\n<li style=\"display: flex;gap: 10px;margin-bottom: 10px\"><span style=\"color: #2f7d20;font-weight: bold\">\u2714<\/span>Cynllunio adborth ar gyfer gweithredu \u21d2 Sicrhau bod gan fyfyrwyr gyfleoedd i gymhwyso adborth o sylwadau rhag-borth.<\/li>\n<li style=\"display: flex;gap: 10px;margin-bottom: 10px\"><span style=\"color: #2f7d20;font-weight: bold\">\u2714<\/span>Datblygu barn werthusol \u21d2 Galluogi myfyrwyr i adnabod ansawdd a dod i farn wybodus.<\/li>\n<li style=\"display: flex;gap: 10px;margin-bottom: 0\"><span style=\"color: #2f7d20;font-weight: bold\">\u2714<\/span>Mabwysiadu dull ar lefel rhaglen \u21d2 Adeiladu llythrennedd asesu ac adborth yn raddol ar draws modiwlau a blynyddoedd astudio.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<h3><strong>Crynodeb Cyflym<\/strong><\/h3>\n<ul>\n<li>Mae llythrennedd asesu ac adborth yn datblygu trwy ymarfer.<\/li>\n<li>Mae angen cyfleoedd ar fyfyrwyr i ymgysylltu \u00e2 safonau ac \u00e2 meini prawf.<\/li>\n<li>Mae adborth yn fwyaf effeithiol pan fydd myfyrwyr yn gallu gweithredu arno.<\/li>\n<li>Gall newidiadau bach gael effaith sylweddol.<\/li>\n<li>Canolbwyntio ar ansawdd yr adborth yn hytrach na&#8217;r maint.<\/li>\n<\/ul>\n \n\n                        <div class=\"alert alert alert-success with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Myfyrdod Terfynol<\/h3>                <p class=\"MsoNormal\"><span lang=\"CY\">Gan feddwl am y strategaethau a drafodwyd, pa un fyddai \u00e2'r effaith fwyaf ar lythrennedd asesu ac adborth myfyrwyr yn eich cyd-destun chi, a pham?<\/span><\/p>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n<h3><strong>Ble nesaf?\u00a0<\/strong><\/h3>\n<p>Dolen i dudalennau pecynnau cymorth eraill<\/p>\n<p>Mae ein tri phrif faes ffocws, sef Meithrin Ymdeimlad o Berthyn, Grymuso Myfyrwyr i Gyflawni eu Potensial, a Datblygu Meddylfryd Cynhwysol, yn adran them\u00e2u Cynhwysiant y pecyn cymorth hwn. Gallwch ddarllen rhagor am Asesu ac Adborth yng ngweddill yr adran hon.<\/p>\n<h4><strong>Adnoddau a chyfeiriadau ychwanegol<\/strong><\/h4>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Advance HE 2018. Embedding EDI in the Curriculum: A programme standard. Online. Available at:\u202f<\/span><a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/sites\/default\/files\/2019-09\/Assessing%20EDI%20in%20the%20Curriculum%20-%20Programme%20Standard.pdf\"><span data-contrast=\"none\">https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/sites\/default\/files\/2019-09\/Assessing%20EDI%20in%20the%20Curriculum%20-%20Programme%20Standard.pdf<\/span><\/a><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Bass, G. and Lawrence-Riddell, M. 2020. Culturally Responsive Teaching and UDL\u202f<\/span><a href=\"https:\/\/www.facultyfocus.com\/articles\/equality-inclusion-and-diversity\/culturally-responsive-teaching-and-udl\/\"><span data-contrast=\"none\">https:\/\/www.facultyfocus.com\/articles\/equality-inclusion-and-diversity\/culturally-responsive-teaching-and-udl\/<\/span><\/a><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Carless, D. and Boud, D. (2018) &#8216;The development of student feedback literacy: enabling uptake of feedback&#8217;, <em>Assessment &amp; Evaluation in Higher Education<\/em>, 43(8), pp. 1315-1325. Available at: https:\/\/doi.org\/10.1080\/02602938.2018.1463354.<\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Hanesworth, P. Se\u00e1n Bracken &amp; Sam Elkington (2019) A typology for a social justice approach to assessment: learning from universal design and culturally sustaining pedagogy, <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">Teaching in Higher Education<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">, 24:1, 98-114<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Ice, P., Curtis, R., Phillips, P. and Wells, J. (2007) &#8216;Using asynchronous audio feedback to enhance teaching presence and students&#8217; sense of community&#8217;, <em>Journal of Asynchronous Learning Networks<\/em>, 11(2), pp. 3-25.<\/p>\n<p>Mahoney, P., Macfarlane, S. and Ajjawi, R. (2019) &#8216;A qualitative synthesis of video feedback in higher education&#8217;, <em>Teaching in Higher Education<\/em>, 24(2), pp. 157-179.<\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Morris, C. Milton, E. and Goldstone, R.\u202f2019\u202fCase study: suggesting choice: inclusive assessment processes,<\/span><i><span data-contrast=\"auto\">\u202fHigher Education Pedagogies<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">,\u202f4:1,\u202f435-447<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Nicol, D. (2010) &#8216;From monologue to dialogue: Improving written feedback processes in mass higher education&#8217;, <em>Assessment &amp; Evaluation in Higher Education<\/em>, 35(5), pp. 501-517.<\/p>\n<p>Nicol, D. and Macfarlane\u2010Dick, D. (2006) &#8216;Formative assessment and self\u2010regulated learning: a model and seven principles of good feedback practice&#8217;, <em>Studies in Higher Education<\/em>, 31(2), pp. 199-218.<\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Padden, L. and O\u2019Neill, G. 2021. Embedding equity and inclusion in higher education\u202fassessment strategies: creating and sustaining positive change in the post-pandemic era. In: Baughan, B. 2021. Assessment and Feedback in a Post-Pandemic Era: A Time for Learning and Inclusion. Advance HE:\u202f<\/span><a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/knowledge-hub\/assessment-and-feedback-post-pandemic-era-time-learning-and-inclusion\"><span data-contrast=\"none\">https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/knowledge-hub\/assessment-and-feedback-post-pandemic-era-time-learning-and-inclusion<\/span><\/a><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Price, M., Rust, C., O&#8217;Donovan, B., Handley, K. and Bryant, R. (2012) <em>Assessment literacy: the foundation for improving student learning<\/em>. Wheatley, Oxford: Oxford Centre for Staff and Learning Development (OCSLD), Oxford Brookes University.<\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Tai, J., Ajjawi, R., Bearman, M., Boud, D., Dawson, P., &amp; Jorre de St Jorre, T. (2023). Assessment for inclusion: rethinking contemporary strategies in assessment design.\u202f<\/span><i><span data-contrast=\"auto\">Higher Education Research &amp; Development<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">,\u202f<\/span><i><span data-contrast=\"auto\">42<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">(2), 483\u2013497. <\/span><a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1080\/07294360.2022.2057451\"><span data-contrast=\"none\">https:\/\/doi.org\/10.1080\/07294360.2022.2057451<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Winstone, N. &amp; Carless, D. (2020). <em>Designing Effective Feedback Processes in Higher Education: A Learning-Focused Approach<\/em>.<\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">There is an <\/span><a href=\"https:\/\/www.fulcrum.org\/concern\/file_sets\/j3860906x?locale=en\"><span data-contrast=\"none\">exhaustive inventory of Universal Design \u201cplaces to start\u201d<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> in the form of a long list of Universal Design suggestions, organised according to some of the different modes of \u201cdelivery\u201d or styles of teaching in higher education. The idea is to try any of these suggestions out in your own classroom, and see where they go. From: Dolmage, J. T. Academic Ableism: disability and Higher Education. University of Michigan Press.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Inclusive Assessment Authored by: Cardiff University Learning and Teaching Academy: Michael Lang (Literacy) and Dr Ceri Morris (Inclusive Approaches)<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae asesu ac adborth yn ganolog i ddysgu myfyrwyr, ond yn aml mae myfyrwyr yn ei chael yn anodd dehongli disgwyliadau asesu a gall deall adborth a gweithredu arno fod [&hellip;]","protected":false},"author":9706,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-10900","page","type-page","status-publish","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10900","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9706"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10900"}],"version-history":[{"count":13,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10900\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12374,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10900\/revisions\/12374"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10900"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10900"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10900"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}