{"id":10998,"date":"2026-10-05T14:30:30","date_gmt":"2026-10-05T13:30:30","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/?page_id=10998"},"modified":"2026-10-07T15:50:14","modified_gmt":"2026-10-07T14:50:14","slug":"adran-ddylunio","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/adran-ddylunio\/","title":{"rendered":"Adran Ddylunio"},"content":{"rendered":"<h2><span class=\"TextRun SCXW136308973 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"none\"><span class=\"NormalTextRun SCXW136308973 BCX8\" data-ccp-parastyle=\"heading 2\"> Darparu dysgu sy&#8217;n ddilys, yn ystyrlon ac yn berthnasol drwy gydnabod anghenion a safbwyntiau pob dysgwr, a chynllunio i bawb<\/span><\/span><\/h2>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae dylunio ein rhaglenni, modiwlau neu sesiynau addysgu mewn modd cynhwysol yn hanfodol er mwyn gwneud yn si\u0175r ein bod darparu dysgu sy&#8217;n ddilys, yn ystyrlon ac yn berthnasol drwy gydnabod anghenion a safbwyntiau pob dysgwr, a chynllunio ar gyfer pawb. Ar y dudalen hon byddwch yn darllen am sut y gallwch chi gefnogi pob dysgwr mewn Addysg Uwch, gan ddefnyddio egwyddorion cyfleoedd dysgu cynhwysol ac sydd wedi\u2019u cynllunio&#8217;n gyffredinol. Mae ar gyfer unrhyw un sy&#8217;n addysgu neu&#8217;n cefnogi myfyrwyr, mewn unrhyw r\u00f4l.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae dylunio cynhwysol yn cyd-fynd \u00e2 gofyniad cyffredinol y Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2024) ar gyfer &#8216;arferion effeithiol a chynhwysol&#8217;, ac yn benodol \u00e2 Gwerthoedd Proffesiynol Fersiwn 1: Parchu dysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr, a Fersiwn 2: hyrwyddo ymgysylltiad ym meysydd dysgu a chyfle cyfartal. Mae&#8217;n ganolog i A1: &#8216;Dylunio a chynllunio gweithgareddau a\/neu raglenni dysgu&#8217;. Mae hefyd yn galluogi K1: &#8216;Sut mae dysgwyr yn dysgu&#8217;, a K2: &#8216;Dulliau addysgu a\/neu gefnogi dysgu&#8217;.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span class=\"TextRun SCXW51539932 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun CommentStart CommentHighlightPipeRest PointComment CommentHighlightRest SCXW51539932 BCX8\">Mae gan Fodel <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_23078\">Gwella Addysg Gynhwysol<\/a><\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW51539932 BCX8\"> Prifysgol Caerdydd gyfres o dargedau allweddol ar gyfer gwella dylunio sy&#8217;n defnyddio ymchwil ac argymhellion y sector.<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW51539932 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Targedau\u2019r Model Gwella ar gyfer Dylunio:<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<ul>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"17\" data-list-defn-props=\"{&quot;335552541&quot;:1,&quot;335559685&quot;:720,&quot;335559991&quot;:360,&quot;469769226&quot;:&quot;Symbol&quot;,&quot;469769242&quot;:[8226],&quot;469777803&quot;:&quot;left&quot;,&quot;469777804&quot;:&quot;\uf0b7&quot;,&quot;469777815&quot;:&quot;multilevel&quot;}\" data-aria-posinset=\"1\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">Mae\u2019r dysgu a\u2019r asesu yn canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn rhyngweithiol, gan hybu cyfleoedd parhaus i fyfyrwyr wneud dewisiadau am y cwricwlwm, y dulliau addysgu, a\u2019r arferion asesu.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"17\" data-list-defn-props=\"{&quot;335552541&quot;:1,&quot;335559685&quot;:720,&quot;335559991&quot;:360,&quot;469769226&quot;:&quot;Symbol&quot;,&quot;469769242&quot;:[8226],&quot;469777803&quot;:&quot;left&quot;,&quot;469777804&quot;:&quot;\uf0b7&quot;,&quot;469777815&quot;:&quot;multilevel&quot;}\" data-aria-posinset=\"2\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">Mae cyfleoedd dysgu ar bob modiwl ac asesiad ar y rhaglen lle mae myfyrwyr yn dod \u00e2&#8217;u profiadau eu hunain i ddysgu sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 materion amrywiaeth a chynhwysiant neu gymunedau lleol neu ryngwladol<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"17\" data-list-defn-props=\"{&quot;335552541&quot;:1,&quot;335559685&quot;:720,&quot;335559991&quot;:360,&quot;469769226&quot;:&quot;Symbol&quot;,&quot;469769242&quot;:[8226],&quot;469777803&quot;:&quot;left&quot;,&quot;469777804&quot;:&quot;\uf0b7&quot;,&quot;469777815&quot;:&quot;multilevel&quot;}\" data-aria-posinset=\"3\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">Mae modiwlau yn cynnwys sesiynau addysgu sy&#8217;n defnyddio delweddau, senarios neu enghreifftiau llafar neu ar ffurf testun, ac astudiaethau achos, sy&#8217;n defnyddio nodweddion amrywiol neu\u2019n tynnu sylw atynt.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Gallwch ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol drwy gymryd rhan yn ein gweithdai cysylltiedig, sydd ar gael yn anghydamserol, i&#8217;w gwneud yn eich amser eich hun. Gallwch fynd ati wedyn i wneud gweithdy byw (os oes digon o alw), neu gyfarfod pwrpasol gyda&#8217;r arweinydd i drafod sut i\u2019w roi ar waith yn eich arferion. <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/events-and-training\">Cewch ragor o wybodaeth ar dudalen DPP LTA Caerdydd<\/a>.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae dylunio ar gyfer ein holl fyfyrwyr amrywiol yn ganolog i Strategaeth Prifysgol Caerdydd, &#8216;Ein Dyfodol, Gyda&#8217;n Gilydd&#8217;.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h2><span class=\"TextRun SCXW46424694 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"none\"><span class=\"NormalTextRun SCXW46424694 BCX8\" data-ccp-parastyle=\"heading 3\">Egwyddorion Allweddol dylunio cynhwysol, cyffredinol ar gyfer dysgu<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW46424694 BCX8\" data-ccp-props=\"{&quot;134245418&quot;:true,&quot;134245529&quot;:true,&quot;335559738&quot;:160,&quot;335559739&quot;:80}\">\u00a0<\/span><\/h2>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae dysgwyr yn amrywio\u2019n sylweddol o ran yr hyn sy&#8217;n tanio eu cymhelliant a&#8217;u brwdfrydedd dros ddysgu, a sut maen nhw\u2019n gallu cymryd rhan yn y broses ddysgu. \u200bRhaid i ddysgwyr hefyd allu dod \u00e2 phwy ydyn nhw go iawn i&#8217;r amgylchedd dysgu a nodi cysylltiadau \u00e2&#8217;r hyn sydd bwysicaf yn eu bywydau. Mae dysgwyr yn wahanol hefyd o ran sut maen nhw\u2019n canfod gwybodaeth ac yn ei deall. Rhaid inni ystyried sut mae pobl yn cael gwybodaeth, a sut mae pobl, diwylliannau, hunaniaethau a safbwyntiau unigol a chyfunol yn cael eu cynrychioli yn y cynnwys (CAST 2023).<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Wrth gynllunio sesiwn addysgu neu gyfres o sesiynau addysgu, cynlluniwch ddefnyddio ystod o strategaethau addysgu: nid oes un dull sy&#8217;n gynhwysol i bob dysgwr, gan y bydd pob gweithgaredd o fantais i rai, ac yn rhoi eraill o dan anfantais. Rydym yn tueddu i ddefnyddio &#8216;addysgeg werin&#8217;, lle rydym yn addysgu yn yr un modd ag yr ydym wedi cael ein haddysgu, ac sydd wedi bod o fudd i ni fel dysgwyr.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Er enghraifft, gweithgaredd cyffredin mewn sesiynau yw trafodaethau grwpiau bach gydag adborth i&#8217;r gr\u0175p mwy, sy&#8217;n galluogi dysgu cymdeithasol, adeileddol, ac yn meithrin sgiliau gweithio mewn t\u00eem. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai dysgwyr yn cael trafferth rhyngweithio yn y broses hon, oherwydd niwrowahaniaeth, pryder neu brofiadau diwylliannol o ddysgu, os ydyn nhw wedi dysgu\u2019n flaenorol mewn lleoliadau gwahanol, mwy didactig. Gallai rhai felly elwa o beth amser yn cwblhau gweithgareddau myfyrio distaw unigol, neu ddefnyddio mecanweithiau adborth digidol, fel Mentimeter neu Padlet. Efallai y bydd angen esboniadau clir ar rai o\u2019r disgwyliadau ar gyfer dysgu gweithredol.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<figure id=\"post-10978 media-10978\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/files\/2026\/10\/UDL.png\" alt=\"Multiple means of Engagement : Stimulate motivation and sustained enthusiasm for learning by promoting various ways of engaging with material. Multiple means of Representation: Present information and content in a variety of ways to support understanding by students with different learning styles\/abilities. Multiple means of Action\/Expression: Offer options for students to demonstrate their learning in various ways (e.g allow choices of assessment type). \" \/><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae Moriarty (2016) yn awgrymu bod egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu yn annog sefydliadau i ymgorffori addasiadau rhagweladwy wrth ddylunio cwricwla sy&#8217;n hyblyg, y gellir eu haddasu i sawl math o ymgysylltu ac felly&#8217;n hwyluso holl ddysgu myfyrwyr. Mae&#8217;r addasiadau disgwyliedig hyn, yn \u00f4l eu natur, yn berthnasol i BOB myfyriwr: &#8216;Mae&#8217;r hyn sy&#8217;n hanfodol i rai myfyrwyr yn fuddiol i bawb.&#8217;<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Wrth gynllunio eich sesiwn, neu gyfres o sesiynau, cynlluniwch ar gyfer sawl dull o ymgysylltu, cynrychioli a mynegi: gallwch wneud hyn o fewn yr un gweithgaredd, er enghraifft, drwy groesawu adborth ar y gweithgaredd ar ffurf testun neu lafar, neu ar draws cyfres o weithgareddau, drwy gael un gwaith gr\u0175p, un dasg unigol ac un gweithgaredd ymateb digidol o fewn sesiwn. Gallwch hefyd sicrhau ymgysylltiad anghydamserol i&#8217;r rhai na allant fynychu. Yn y modd hwn, gellir diwallu amrywiaeth anghenion eich dysgwyr amrywiol.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<table style=\"font-weight: 400\" data-tablestyle=\"MsoNormalTable\" data-tablelook=\"1184\">\n<tbody>\n<tr>\n<td data-celllook=\"4369\"><span data-contrast=\"auto\">Hyd\/Amser<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/td>\n<td data-celllook=\"4369\"><span data-ccp-props=\"{}\"><span class=\"TextRun SCXW40880217 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW40880217 BCX8\">Addysgu<\/span><\/span><span class=\"LineBreakBlob BlobObject DragDrop SCXW40880217 BCX8\"><span class=\"SCXW40880217 BCX8\">\u00a0<\/span><br class=\"SCXW40880217 BCX8\" \/><\/span><span class=\"TextRun SCXW40880217 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW40880217 BCX8\">addysgu a chynnwys<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW40880217 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span> <\/span><\/td>\n<td data-celllook=\"4369\"><span class=\"TextRun SCXW186177663 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW186177663 BCX8\">Myfyriwr<\/span><\/span><span class=\"LineBreakBlob BlobObject DragDrop SCXW186177663 BCX8\"><span class=\"SCXW186177663 BCX8\">\u00a0<\/span><br class=\"SCXW186177663 BCX8\" \/><\/span><span class=\"TextRun SCXW186177663 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW186177663 BCX8\">Gweithgaredd<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW186177663 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td data-celllook=\"4369\"><span data-contrast=\"auto\">10 munud<\/span><\/td>\n<td data-celllook=\"4369\"><span class=\"TextRun SCXW78574784 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW78574784 BCX8\">Cyflwyniad: Sgwrs athro<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW78574784 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/td>\n<td data-celllook=\"4369\"><span data-ccp-props=\"{}\"><span class=\"TextRun SCXW117812178 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW117812178 BCX8\">Gwrando a chymryd nodiadau (addysgu didactig o gynnwys craidd, sleidiau, deunydd darllen a nodiadau ar gael ymlaen llaw ac wedi hynny)<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW117812178 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span> <\/span><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td data-celllook=\"4369\"><span data-contrast=\"auto\">20 munud<\/span><\/td>\n<td data-celllook=\"4369\"><span class=\"TextRun SCXW62459442 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW62459442 BCX8\">Gweithgaredd gr\u0175p: Cymhwyso\u2019r sgwrs i arferion<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW62459442 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/td>\n<td data-celllook=\"4369\"><span class=\"TextRun SCXW5360014 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW5360014 BCX8\">Trafodaeth gr\u0175p gydag adborth drwy gyflwyniad llafar neu <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW5360014 BCX8\">Mentimeter<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW5360014 BCX8\"> (dysgu cymdeithasol gyda dewis modd adborth, ar gael yn anghydamserol)<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW5360014 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td data-celllook=\"4369\"><span data-contrast=\"auto\">10 munud<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/td>\n<td data-celllook=\"4369\"><span class=\"TextRun SCXW21875745 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW21875745 BCX8\">Cyflwyno gweithgaredd unigol: Myfyrio tawel a chrynodeb un funud<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW21875745 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/td>\n<td data-celllook=\"4369\"><span class=\"TextRun SCXW198228776 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW198228776 BCX8\">Gwrando ar neu ddarllen cyflwyniad i&#8217;r dasg, myfyrio, ac ysgrifennu crynodeb un funud (dewis o ddulliau ar gyfer cyfarwyddiadau ar gyfer y gweithgaredd)<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW198228776 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td data-celllook=\"4369\"><span data-contrast=\"auto\">10 munud<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/td>\n<td data-celllook=\"4369\"><span class=\"TextRun SCXW56889881 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW56889881 BCX8\">Casgliad: Cwis a chrynodeb <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW56889881 BCX8\">Mentimeter<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW56889881 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\"><br \/>\n<\/span><\/td>\n<td data-celllook=\"4369\"><span class=\"TextRun SCXW264299175 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW264299175 BCX8\">Cwis cyflawn ar-lein (amlgyfrwng ar gyfer ystod o weithgareddau, gellir ei gwblhau&#8217;n anghydamserol)<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW264299175 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<p><span class=\"TextRun SCXW211882112 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW211882112 BCX8\">Ac ar gyfer darllen pellach: Mae Bale a <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW211882112 BCX8\">Seabrook<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW211882112 BCX8\"> (2021) yn ystyried ystod o strategaethau addysgu cynhwysol yn eu llyfr <\/span><\/span><a class=\"Hyperlink SCXW211882112 BCX8\" href=\"https:\/\/librarysearch.cardiff.ac.uk\/discovery\/fulldisplay?docid=alma9912018174802420&amp;context=L&amp;vid=44WHELF_CAR:44WHELF_CAR_VU1&amp;lang=en&amp;search_scope=CU_Search_ALL&amp;adaptor=Local%20Search%20Engine&amp;tab=CSCOP_EVERYTHING&amp;query=any%2Ccontains%2Cbale%20and%20seabrook&amp;offset=0\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><span class=\"TextRun Underlined SCXW211882112 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"none\"><span class=\"NormalTextRun SCXW211882112 BCX8\" data-ccp-charstyle=\"Hyperlink\">&#8216;An introduction to university teaching&#8217;<\/span><\/span><\/a><span class=\"TextRun SCXW211882112 BCX8\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW211882112 BCX8\">, gan gynnwys addysgu mewn grwpiau bach a mawr, gwaith labordy, gwaith maes ac addysg ddigidol.<\/span><\/span><span class=\"EOP Selected SCXW211882112 BCX8\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 793 696\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><defs><linearGradient id=\"etZNF97Wf1q3-fill\" x1=\"351.931\" y1=\"516.34\" x2=\"670.917\" y2=\"516.34\" spreadMethod=\"pad\" gradientUnits=\"userSpaceOnUse\" gradientTransform=\"translate(0 0)\"><stop id=\"etZNF97Wf1q3-fill-0\" offset=\"0%\" stop-color=\"#12d69e\"\/><stop id=\"etZNF97Wf1q3-fill-1\" offset=\"100%\" stop-color=\"#00a870\"\/><\/linearGradient><linearGradient id=\"etZNF97Wf1q4-fill\" x1=\"0\" y1=\"153.98\" x2=\"318.986\" y2=\"153.98\" spreadMethod=\"pad\" gradientUnits=\"userSpaceOnUse\" gradientTransform=\"translate(0 0)\"><stop id=\"etZNF97Wf1q4-fill-0\" offset=\"0%\" stop-color=\"#02beff\"\/><stop id=\"etZNF97Wf1q4-fill-1\" offset=\"100%\" stop-color=\"#009dc1\"\/><\/linearGradient><linearGradient id=\"etZNF97Wf1q5-fill\" x1=\"-0.199167\" y1=\"512.304\" x2=\"309.144\" y2=\"512.304\" spreadMethod=\"pad\" gradientUnits=\"userSpaceOnUse\" gradientTransform=\"translate(0 0)\"><stop id=\"etZNF97Wf1q5-fill-0\" offset=\"0%\" stop-color=\"#fecb4d\"\/><stop id=\"etZNF97Wf1q5-fill-1\" offset=\"100%\" stop-color=\"#f49d03\"\/><\/linearGradient><linearGradient id=\"etZNF97Wf1q6-fill\" x1=\"361.627\" y1=\"159.063\" x2=\"671.043\" y2=\"159.063\" spreadMethod=\"pad\" gradientUnits=\"userSpaceOnUse\" gradientTransform=\"translate(0 0)\"><stop id=\"etZNF97Wf1q6-fill-0\" offset=\"0%\" stop-color=\"#ff6969\"\/><stop id=\"etZNF97Wf1q6-fill-1\" offset=\"100%\" stop-color=\"#fc3838\"\/><\/linearGradient><\/defs><g transform=\"translate(-489-1740)\"><path d=\"M636.253,636.253c47.169-47.169,47.169-122.638,0-168.759L536.675,366.868c-4.193-4.193-8.386-5.241-13.627-5.241s-9.433,2.096-13.626,5.241c-8.386,7.337-7.338,20.963,0,28.301l53.458,53.458c2.096,2.096,3.144,7.337,1.048,9.433-3.145,3.145-7.338,3.145-10.482,1.048L469.59,375.253c-4.192-4.193-8.385-5.241-13.626-5.241s-9.434,2.096-13.627,5.241c-8.385,7.337-7.337,20.964,0,28.301l82.808,82.808c3.144,3.144,3.144,7.337,0,10.481-3.145,3.145-7.338,3.145-10.482,0L404.602,384.687c-4.192-4.193-8.385-5.241-13.626-5.241s-9.434,2.096-13.627,5.241c-7.337,7.337-7.337,19.915,0,27.253L488.458,523.048c2.096,2.097,3.144,7.338,1.048,9.434-3.144,3.145-7.337,3.145-10.482,1.048l-94.337-93.289c-4.193-4.193-8.386-5.241-13.627-5.241s-9.433,2.096-13.626,5.241c-7.338,7.337-7.338,19.916,0,27.253l121.59,121.59c7.338,7.338-1.048,20.964-10.482,16.771l-37.735-14.674c-5.241-2.097-10.482-2.097-14.674,0-4.193,2.096-8.386,5.241-10.482,10.482-4.193,10.482,1.048,20.964,10.482,25.156l91.192,35.639c44.024,17.819,94.338,7.337,128.928-26.205v0Z\" transform=\"matrix(1.13937 0 0 1 503.331 1752.58)\" fill=\"url(#etZNF97Wf1q3-fill)\"\/><path d=\"M34.5904,34.5904c-47.1687,47.1686-47.1687,122.6386,0,168.7586l99.5786,99.579c4.192,4.193,8.385,5.241,13.626,5.241s9.434-2.097,13.627-5.241c8.385-7.338,7.337-20.964,0-28.301l-53.458-53.458c-3.145-1.049-3.145-6.289-1.048-8.386c3.144-3.144,7.337-3.144,10.482-1.048l83.855,83.855c4.193,4.193,8.386,5.241,13.627,5.241c5.24,0,9.433-2.096,13.626-5.241c8.386-7.337,7.337-20.963,0-28.301l-82.807-82.807c-3.145-3.145-3.145-7.337,0-10.482c3.144-3.145,7.337-3.145,10.482,0L267.289,285.108c4.193,4.193,8.386,5.241,13.627,5.241s9.433-2.096,13.626-5.241c7.338-7.337,7.338-19.915,0-27.253L182.386,147.795c-2.097-2.096-3.145-7.337-1.049-9.434c3.145-3.144,7.338-3.144,10.482-1.048l93.289,93.289c4.193,4.193,8.386,5.241,13.627,5.241s9.434-2.096,13.626-5.241c7.338-7.337,7.338-19.915,0-27.253L191.819,81.759c-7.337-7.3373,1.048-20.9638,10.482-16.771l37.735,14.6747c5.241,2.0963,10.482,2.0963,14.675,0c4.193-2.0964,8.385-5.241,10.482-10.482c4.193-10.4819-1.048-20.9638-10.482-25.1566L163.518,8.38554C119.494,-9.43374,69.1807,1.04819,34.5904,34.5904v0Z\" transform=\"matrix(1.13937 0 0 1 503.331 1752.58)\" fill=\"url(#etZNF97Wf1q4-fill)\"\/><path d=\"M34.5904,636.253c47.1686,47.169,122.6386,47.169,168.7586,0l99.579-99.578c4.193-4.193,5.241-8.386,5.241-13.627s-2.097-9.433-5.241-13.626c-7.338-8.386-20.964-7.338-28.301,0L221.169,562.88c-1.049,3.144-6.289,3.144-8.386,1.048-3.144-3.145-3.144-7.338-1.048-10.482L295.59,469.59c4.193-4.192,5.241-8.385,5.241-13.626s-2.096-9.434-5.241-13.627c-7.337-8.385-20.963-7.337-28.301,0l-82.807,82.808c-3.145,3.144-7.337,3.144-10.482,0-3.145-3.145-3.145-7.338,0-10.482L285.108,403.554c4.193-4.193,5.241-8.385,5.241-13.626s-2.096-9.434-5.241-13.627c-7.337-7.337-19.915-7.337-27.253,0L147.795,488.458c-2.096,2.096-7.337,3.144-9.434,1.048-3.144-3.144-3.144-7.337-1.048-10.482l93.289-93.289c4.193-4.193,5.241-8.386,5.241-13.627c0-5.24-2.096-9.433-5.241-13.626-7.337-7.337-19.915-7.337-27.253,0L81.759,479.024c-7.3373,7.338-20.9638-1.048-16.771-10.482l14.6747-37.735c2.0963-5.241,2.0963-10.482,0-14.674-2.0964-4.193-5.241-8.386-10.482-10.482-10.4819-4.193-20.9638,1.048-25.1566,10.482L8.38554,507.325C-9.43374,551.349,1.04819,601.663,34.5904,636.253v0Z\" transform=\"matrix(1.13937 0 0 1 503.331 1752.58)\" fill=\"url(#etZNF97Wf1q5-fill)\"\/><path d=\"M636.253,34.5904c-47.169-47.1687-122.638-47.1687-168.759,0L366.868,134.169c-4.193,4.192-5.241,8.385-5.241,13.626s2.096,9.434,5.241,13.627c7.337,8.385,20.963,7.337,28.301,0l53.458-53.458c2.096-2.097,7.337-3.145,9.433-1.048c3.145,3.144,3.145,7.337,1.048,10.482l-83.855,83.855c-4.193,4.193-5.241,8.386-5.241,13.627c0,5.24,2.096,9.433,5.241,13.626c7.337,8.386,20.964,7.337,28.301,0l82.808-82.807c3.144-3.145,7.337-3.145,10.481,0c3.145,3.144,3.145,7.337,0,10.482L384.687,266.241c-4.193,4.193-5.241,8.386-5.241,13.626c0,5.241,2.096,9.434,5.241,13.627c7.337,7.337,19.915,7.337,27.253,0L523.048,182.386c2.097-2.097,7.338-3.145,9.434-1.049c3.145,3.145,3.145,7.338,1.048,10.482l-93.289,94.338c-4.193,4.192-5.241,8.385-5.241,13.626s2.096,9.434,5.241,13.627c7.337,7.337,19.916,7.337,27.253,0l121.59-121.591c7.338-7.337,20.964,1.048,16.771,10.482l-14.674,37.735c-2.097,5.241-2.097,10.482,0,14.675c2.096,4.193,5.241,8.385,10.482,10.482c10.482,4.193,20.964-1.048,25.156-10.482l35.639-91.193c17.819-44.024,7.337-94.3373-26.205-128.9276v0Z\" transform=\"matrix(1.13937 0 0 1 503.331 1752.58)\" fill=\"url(#etZNF97Wf1q6-fill)\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Safbwynt y myfyrwyr ar Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL)<\/h3>                <div class=\"OutlineElement Ltr SCXW59863902 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr;color: #000000;font-size: 12px\">\n<div class=\"OutlineElement Ltr SCXW205519644 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr\">\n<p class=\"Paragraph SCXW205519644 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;vertical-align: baseline;background-color: transparent;color: windowtext\"><span class=\"TextRun SCXW205519644 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\">'Er nad ydw i\u2019n credu eu bod wedi'u gweithredu'n gyfartal ar draws gwahanol fodiwlau\/rhaglenni gradd, rwy'n teimlo bod llawer o fy narlithwyr wedi gwneud ymdrech i weithredu egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu yn eu haddysgu. Ar y cyfan, roedd y cwricwla a'r modd y cafodd ei gyflwyno\u2019n hyblyg ac yn addasadwy i anghenion penodol y myfyrwyr yn yr ystafell. Hefyd, er bod rhai darlithwyr yn gwneud hynny'n fwy nag eraill, roedd canllawiau ynghylch meini prawf asesu, a oedd yn cynnwys rhywfaint o drosolwg o derminoleg allweddol a ddefnyddir o ran asesiadau\u2019.<\/span><span class=\"EOP Selected SCXW205519644 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;cursor: default;background-color: #c6c6c6 !important;border-color: #c6c6c6 !important;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"OutlineElement Ltr SCXW205519644 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr\">\n<p class=\"Paragraph SCXW205519644 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;vertical-align: baseline;background-color: transparent;color: windowtext\"><span class=\"TextRun SCXW205519644 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\">Myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, 2025<\/span><span class=\"EOP Selected SCXW205519644 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;cursor: default;background-color: #c6c6c6 !important;border-color: #c6c6c6 !important;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n<h2><span data-contrast=\"none\">Addysgeg sy\u2019n Cynnal Diwylliant<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;134245418&quot;:true,&quot;134245529&quot;:true,&quot;335559738&quot;:160,&quot;335559739&quot;:80}\">\u00a0<\/span><\/h2>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae&#8217;r myfyrwyr yn ein hystafelloedd dosbarth yn cyrraedd gyda set amrywiol o anghenion dysgu ac ystod o brofiadau a hunaniaethau diwylliannol. Rhaid edrych ar ddysgu o fewn y cyd-destun a&#8217;r diwylliant y mae\u2019n digwydd ynddynt. Diffiniwyd diwylliant mewn sawl ffordd, er enghraifft, &#8216;patrymau ymddygiad a rhyngweithiadau a rennir, lluniadau gwybyddol, a dealltwriaeth affeithiol a ddysgir trwy broses o gymdeithasoli. Mae&#8217;r patrymau a rennir hyn yn nodi aelodau gr\u0175p diwylliant yn ogystal \u00e2 gwahaniaethu rhai o gr\u0175p arall&#8217; (Hanesworth et al. 2019: 1)<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae lefelau ymwybyddiaeth lluosog yn angenrheidiol er mwyn i athrawon fod yn ddiwylliannol ymatebol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ragfarnau personol, cefndir\/cryfderau myfyrwyr, sut y dylai&#8217;r amgylchedd dysgu adeiladu o gryfderau myfyrwyr; a sut i sicrhau newid mewn systemau addysg.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae addysgu sy\u2019n defnyddio Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) yn cael ei wella ymhellach wrth gydnabod sut y gallai gwahaniaethau hil, diwylliannol ac ieithyddol effeithio ar ddysgu myfyrwyr (Kieran ac Anderson 2019). Mae&#8217;r canllawiau Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu newydd (CAST 2024), fersiwn 3.0, yn ymgorffori addysgeg sy&#8217;n cynnal diwylliant.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 793 696\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><defs><linearGradient id=\"etZNF97Wf1q3-fill\" x1=\"351.931\" y1=\"516.34\" x2=\"670.917\" y2=\"516.34\" spreadMethod=\"pad\" gradientUnits=\"userSpaceOnUse\" gradientTransform=\"translate(0 0)\"><stop id=\"etZNF97Wf1q3-fill-0\" offset=\"0%\" stop-color=\"#12d69e\"\/><stop id=\"etZNF97Wf1q3-fill-1\" offset=\"100%\" stop-color=\"#00a870\"\/><\/linearGradient><linearGradient id=\"etZNF97Wf1q4-fill\" x1=\"0\" y1=\"153.98\" x2=\"318.986\" y2=\"153.98\" spreadMethod=\"pad\" gradientUnits=\"userSpaceOnUse\" gradientTransform=\"translate(0 0)\"><stop id=\"etZNF97Wf1q4-fill-0\" offset=\"0%\" stop-color=\"#02beff\"\/><stop id=\"etZNF97Wf1q4-fill-1\" offset=\"100%\" stop-color=\"#009dc1\"\/><\/linearGradient><linearGradient id=\"etZNF97Wf1q5-fill\" x1=\"-0.199167\" y1=\"512.304\" x2=\"309.144\" y2=\"512.304\" spreadMethod=\"pad\" gradientUnits=\"userSpaceOnUse\" gradientTransform=\"translate(0 0)\"><stop id=\"etZNF97Wf1q5-fill-0\" offset=\"0%\" stop-color=\"#fecb4d\"\/><stop id=\"etZNF97Wf1q5-fill-1\" offset=\"100%\" stop-color=\"#f49d03\"\/><\/linearGradient><linearGradient id=\"etZNF97Wf1q6-fill\" x1=\"361.627\" y1=\"159.063\" x2=\"671.043\" y2=\"159.063\" spreadMethod=\"pad\" gradientUnits=\"userSpaceOnUse\" gradientTransform=\"translate(0 0)\"><stop id=\"etZNF97Wf1q6-fill-0\" offset=\"0%\" stop-color=\"#ff6969\"\/><stop id=\"etZNF97Wf1q6-fill-1\" offset=\"100%\" stop-color=\"#fc3838\"\/><\/linearGradient><\/defs><g transform=\"translate(-489-1740)\"><path d=\"M636.253,636.253c47.169-47.169,47.169-122.638,0-168.759L536.675,366.868c-4.193-4.193-8.386-5.241-13.627-5.241s-9.433,2.096-13.626,5.241c-8.386,7.337-7.338,20.963,0,28.301l53.458,53.458c2.096,2.096,3.144,7.337,1.048,9.433-3.145,3.145-7.338,3.145-10.482,1.048L469.59,375.253c-4.192-4.193-8.385-5.241-13.626-5.241s-9.434,2.096-13.627,5.241c-8.385,7.337-7.337,20.964,0,28.301l82.808,82.808c3.144,3.144,3.144,7.337,0,10.481-3.145,3.145-7.338,3.145-10.482,0L404.602,384.687c-4.192-4.193-8.385-5.241-13.626-5.241s-9.434,2.096-13.627,5.241c-7.337,7.337-7.337,19.915,0,27.253L488.458,523.048c2.096,2.097,3.144,7.338,1.048,9.434-3.144,3.145-7.337,3.145-10.482,1.048l-94.337-93.289c-4.193-4.193-8.386-5.241-13.627-5.241s-9.433,2.096-13.626,5.241c-7.338,7.337-7.338,19.916,0,27.253l121.59,121.59c7.338,7.338-1.048,20.964-10.482,16.771l-37.735-14.674c-5.241-2.097-10.482-2.097-14.674,0-4.193,2.096-8.386,5.241-10.482,10.482-4.193,10.482,1.048,20.964,10.482,25.156l91.192,35.639c44.024,17.819,94.338,7.337,128.928-26.205v0Z\" transform=\"matrix(1.13937 0 0 1 503.331 1752.58)\" fill=\"url(#etZNF97Wf1q3-fill)\"\/><path d=\"M34.5904,34.5904c-47.1687,47.1686-47.1687,122.6386,0,168.7586l99.5786,99.579c4.192,4.193,8.385,5.241,13.626,5.241s9.434-2.097,13.627-5.241c8.385-7.338,7.337-20.964,0-28.301l-53.458-53.458c-3.145-1.049-3.145-6.289-1.048-8.386c3.144-3.144,7.337-3.144,10.482-1.048l83.855,83.855c4.193,4.193,8.386,5.241,13.627,5.241c5.24,0,9.433-2.096,13.626-5.241c8.386-7.337,7.337-20.963,0-28.301l-82.807-82.807c-3.145-3.145-3.145-7.337,0-10.482c3.144-3.145,7.337-3.145,10.482,0L267.289,285.108c4.193,4.193,8.386,5.241,13.627,5.241s9.433-2.096,13.626-5.241c7.338-7.337,7.338-19.915,0-27.253L182.386,147.795c-2.097-2.096-3.145-7.337-1.049-9.434c3.145-3.144,7.338-3.144,10.482-1.048l93.289,93.289c4.193,4.193,8.386,5.241,13.627,5.241s9.434-2.096,13.626-5.241c7.338-7.337,7.338-19.915,0-27.253L191.819,81.759c-7.337-7.3373,1.048-20.9638,10.482-16.771l37.735,14.6747c5.241,2.0963,10.482,2.0963,14.675,0c4.193-2.0964,8.385-5.241,10.482-10.482c4.193-10.4819-1.048-20.9638-10.482-25.1566L163.518,8.38554C119.494,-9.43374,69.1807,1.04819,34.5904,34.5904v0Z\" transform=\"matrix(1.13937 0 0 1 503.331 1752.58)\" fill=\"url(#etZNF97Wf1q4-fill)\"\/><path d=\"M34.5904,636.253c47.1686,47.169,122.6386,47.169,168.7586,0l99.579-99.578c4.193-4.193,5.241-8.386,5.241-13.627s-2.097-9.433-5.241-13.626c-7.338-8.386-20.964-7.338-28.301,0L221.169,562.88c-1.049,3.144-6.289,3.144-8.386,1.048-3.144-3.145-3.144-7.338-1.048-10.482L295.59,469.59c4.193-4.192,5.241-8.385,5.241-13.626s-2.096-9.434-5.241-13.627c-7.337-8.385-20.963-7.337-28.301,0l-82.807,82.808c-3.145,3.144-7.337,3.144-10.482,0-3.145-3.145-3.145-7.338,0-10.482L285.108,403.554c4.193-4.193,5.241-8.385,5.241-13.626s-2.096-9.434-5.241-13.627c-7.337-7.337-19.915-7.337-27.253,0L147.795,488.458c-2.096,2.096-7.337,3.144-9.434,1.048-3.144-3.144-3.144-7.337-1.048-10.482l93.289-93.289c4.193-4.193,5.241-8.386,5.241-13.627c0-5.24-2.096-9.433-5.241-13.626-7.337-7.337-19.915-7.337-27.253,0L81.759,479.024c-7.3373,7.338-20.9638-1.048-16.771-10.482l14.6747-37.735c2.0963-5.241,2.0963-10.482,0-14.674-2.0964-4.193-5.241-8.386-10.482-10.482-10.4819-4.193-20.9638,1.048-25.1566,10.482L8.38554,507.325C-9.43374,551.349,1.04819,601.663,34.5904,636.253v0Z\" transform=\"matrix(1.13937 0 0 1 503.331 1752.58)\" fill=\"url(#etZNF97Wf1q5-fill)\"\/><path d=\"M636.253,34.5904c-47.169-47.1687-122.638-47.1687-168.759,0L366.868,134.169c-4.193,4.192-5.241,8.385-5.241,13.626s2.096,9.434,5.241,13.627c7.337,8.385,20.963,7.337,28.301,0l53.458-53.458c2.096-2.097,7.337-3.145,9.433-1.048c3.145,3.144,3.145,7.337,1.048,10.482l-83.855,83.855c-4.193,4.193-5.241,8.386-5.241,13.627c0,5.24,2.096,9.433,5.241,13.626c7.337,8.386,20.964,7.337,28.301,0l82.808-82.807c3.144-3.145,7.337-3.145,10.481,0c3.145,3.144,3.145,7.337,0,10.482L384.687,266.241c-4.193,4.193-5.241,8.386-5.241,13.626c0,5.241,2.096,9.434,5.241,13.627c7.337,7.337,19.915,7.337,27.253,0L523.048,182.386c2.097-2.097,7.338-3.145,9.434-1.049c3.145,3.145,3.145,7.338,1.048,10.482l-93.289,94.338c-4.193,4.192-5.241,8.385-5.241,13.626s2.096,9.434,5.241,13.627c7.337,7.337,19.916,7.337,27.253,0l121.59-121.591c7.338-7.337,20.964,1.048,16.771,10.482l-14.674,37.735c-2.097,5.241-2.097,10.482,0,14.675c2.096,4.193,5.241,8.385,10.482,10.482c10.482,4.193,20.964-1.048,25.156-10.482l35.639-91.193c17.819-44.024,7.337-94.3373-26.205-128.9276v0Z\" transform=\"matrix(1.13937 0 0 1 503.331 1752.58)\" fill=\"url(#etZNF97Wf1q6-fill)\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Awgrymiadau Ardderchog gan Fyfyrwyr:<\/h3>                <div class=\"OutlineElement Ltr SCXW160034372 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr;color: #000000;font-size: 12px\">\n<div class=\"OutlineElement Ltr SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr\">\n<p class=\"Paragraph SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;vertical-align: baseline;background-color: transparent;color: windowtext\"><span class=\"TextRun SCXW32762260 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\">1. Nodwch yr Amcanion Dysgu ar ddechrau'r ddarlith neu'r seminar er mwyn i\u2019r myfyrwyr ddeall beth yw cynnwys y ddarlith neu'r sesiwn.<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"OutlineElement Ltr SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr\">\n<p class=\"Paragraph SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;vertical-align: baseline;background-color: transparent;color: windowtext\"><span class=\"TextRun SCXW32762260 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\">2. Rhowch grynodeb o ddarlleniad y seminar neu\u2019r cwestiynau rydych chi eisiau i'r myfyrwyr eu hystyried. Mae hyn yn ei gwneud yn glir beth yw\u2019r hyn y disgwylir inni ei wneud ac yn ein helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen.<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"OutlineElement Ltr SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr\">\n<p class=\"Paragraph SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;vertical-align: baseline;background-color: transparent;color: windowtext\"><span class=\"TextRun SCXW32762260 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\">3. Byddwch yn agored ac yn hyblyg yn eich dull addysgu. Ni waeth faint o baratoi rydych chi'n ei wneud cyn dysgu sesiwn, fyddwch chi byth yn gwybod beth fydd anghenion penodol y myfyrwyr yn y sesiwn honno. Byddwch yn agored i orfod newid a bod modd gwneud hynny pan fydd angen.<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"OutlineElement Ltr SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr\">\n<p class=\"Paragraph SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;vertical-align: baseline;background-color: transparent;color: windowtext\"><span class=\"TextRun SCXW32762260 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\">4. Gall arferion fel darparu sleidiau darlithoedd o leiaf 48 awr ymlaen llaw wneud cryn wahaniaeth, yn enwedig i fyfyrwyr rhyngwladol a'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"OutlineElement Ltr SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr\">\n<p class=\"Paragraph SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;vertical-align: baseline;background-color: transparent;color: windowtext\"><span class=\"TextRun SCXW32762260 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\">5. Cysoni dulliau asesu \u00e2 deilliannau dysgu a gweithgareddau addysgu. Mae'r math hwn o eglurder yn hollbwysig wrth egluro meini prawf asesu yn dda a\u2019u cysylltu'n glir \u00e2'r hyn rydyn ni'n ei ddysgu go iawn gan fod hyn yn llawer tecach ac yn haws i ganolbwyntio ar yr hyn a ddisgwylir.<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"OutlineElement Ltr SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr\">\n<p class=\"Paragraph SCXW32762260 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;vertical-align: baseline;background-color: transparent;color: windowtext\"><span class=\"TextRun SCXW32762260 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\">Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, 2025.<\/span><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n \n\n                        <div class=\"alert alert alert-success with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\"  xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 96 96\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g><path d=\"M48,20c1.1,0,2,.9,2,2s-.9,2-2,2-2-.9-2-2s.9-2,2-2ZM60,80c0-1.1-.9-2-2-2h-7v-50.8c.9-.5,1.7-1.3,2.2-2.2h19.2L66.8,54h4.1l4.4-22.8L80.9,54h4.1L77.7,25h1.3c1.7,0,3-1.3,3-3s-1.3-3-3-3h-25.8c-.5-.9-1.3-1.7-2.2-2.2v-5.8c0-1.7-1.3-3-3-3s-3,1.3-3,3v5.8c-.9.5-1.7,1.3-2.2,2.2L17,19c-1.7,0-3,1.3-3,3c0,1.4,1,2.7,2.4,2.9L10.7,54h4.1l4.4-22.8L24.9,54h4.1L21.7,25h21c.5.9,1.3,1.7,2.2,2.2v50.8h-7c-1.1,0-2,.9-2,2v2L24,82v6h48v-6h-12v-2Z\"\/><path d=\"M32,57h-24c0,3.3,5.4,6,12,6s12-2.7,12-6Z\"\/><path d=\"M64,57c0,3.3,5.4,6,12,6s12-2.7,12-6h-24Z\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Myfyrio ar brofiad myfyrwyr o ddysgu ac addysgu<\/h3>                <div class=\"OutlineElement Ltr SCXW129869055 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr;color: #000000;font-size: 12px\">\n<div class=\"OutlineElement Ltr SCXW141977961 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr\">\n<p class=\"Paragraph SCXW141977961 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;vertical-align: baseline;background-color: transparent;color: windowtext\"><span class=\"TextRun SCXW141977961 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;color: #ffffff;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"none\">Ewch i ganllawiau manwl Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu drwy eu darllen ar <\/span><a class=\"Hyperlink SCXW141977961 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;text-decoration: none\" href=\"https:\/\/udlguidelines.cast.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><span class=\"TextRun Underlined SCXW141977961 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;color: #ffffff;font-size: 11pt;text-decoration: underline;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"none\"><span class=\"NormalTextRun SCXW141977961 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px\" data-ccp-charstyle=\"Hyperlink\">wefan CAST<\/span><\/span><\/a><span class=\"TextRun SCXW141977961 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;color: #ffffff;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"none\"><span class=\"NormalTextRun SCXW141977961 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px\"> a nodwch ddwy agwedd ar eich addysgu neu drefniadaeth addysgu y byddech yn eu <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW141977961 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;background-position: 0px 100%;background-repeat: repeat-x;border-bottom: 1px solid transparent\">hailddylunio<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW141977961 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px\"> i wneud yn si\u0175r eich bod yn defnyddio dylunio cyffredinol ar gyfer dysgu ar gyfer pob un o'r tri maes canlynol, sef ymgysylltu, cynrychiolaeth, a gweithredu a mynegiant.<\/span><\/span><\/p>\n<\/div>\n<div class=\"OutlineElement Ltr SCXW141977961 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr\">\n<p class=\"Paragraph SCXW141977961 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;vertical-align: baseline;background-color: transparent;color: windowtext\">\n<\/div>\n<div class=\"OutlineElement Ltr SCXW141977961 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;clear: both;cursor: text;overflow: visible;position: relative;direction: ltr\">\n<p class=\"Paragraph SCXW141977961 BCX8\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;vertical-align: baseline;background-color: transparent;color: windowtext\"><span class=\"TextRun SCXW141977961 BCX8\" lang=\"CY-GB\" style=\"margin: 0px;padding: 0px;color: #ffffff;font-size: 11pt;line-height: 17px;font-family: Arial, Arial_EmbeddedFont, Arial_MSFontService, sans-serif\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"none\">\u00a0Efallai yr hoffech glicio ar bob pwynt bwled i gael syniadau a allai atseinio i'ch addysgu<\/span><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n<h2><span data-contrast=\"none\">Ble nesaf?<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;134245418&quot;:true,&quot;134245529&quot;:true,&quot;335559738&quot;:160,&quot;335559739&quot;:80}\">\u00a0<\/span><\/h2>\n<h2><span data-contrast=\"none\">Dolenni i dudalennau pecynnau cymorth eraill<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;134245418&quot;:true,&quot;134245529&quot;:true,&quot;335559738&quot;:160,&quot;335559739&quot;:80}\">\u00a0<\/span><\/h2>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae ein tri phrif faes ffocws, sef Meithrin Ymdeimlad o Berthyn, Grymuso Myfyrwyr i Gyflawni eu Potensial, a Datblygu Meddylfryd Cynhwysol, yn adran them\u00e2u Cynhwysiant y pecyn cymorthhwn.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Adnoddau a chyfeiriadau ychwanegol.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;134245418&quot;:true,&quot;134245529&quot;:true,&quot;335559738&quot;:160,&quot;335559739&quot;:80}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">CAST 2024.\u202f<\/span><i><span data-contrast=\"auto\">Canllawiau Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu fersiwn 3.0<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">. Ar-lein. Ar gael yn: <\/span><a href=\"http:\/\/udlguidelines.cast.org\/\"><span data-contrast=\"none\">http:\/\/udlguidelines.cast.org<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">\u00a0\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Hanesworth, P. Se\u00e1n Bracken a Sam Elkington (2019) Teipoleg ar gyfer dull cyfiawnder cymdeithasol o asesu: dysgu o ddylunio cyffredinol ac addysgeg sy&#8217;n cynnal diwylliant, <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">Teaching in Higher Education<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\"> , 24:1, 98-114<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Hockings, C. 2010.\u202fInclusive Learning and Teaching in Higher Education: A Synthesis of Research. Efrog: Higher Education Academy.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Kieran, L. ac Anderson, C. 2018. Cysylltu Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ag Addysgu sy&#8217;n Ymatebol i Ddiwylliant. <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">Education and Urban Society<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\"> 2019, Cyf. 51(9) 1202\u20131216<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Moriarty, A. a Scarffe, P. 2019. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ac Arweinyddiaeth Strategol. Cyrraedd: Bracken, S. a Novak, K. <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">Transforming Higher Education through Universal Design for Learning: An international perspective<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">. Abingdon, Oxon: Routledge<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Darparu dysgu sy'n ddilys, yn ystyrlon ac yn berthnasol drwy gydnabod anghenion a safbwyntiau pob dysgwr, a chynllunio i bawb Mae dylunio ein rhaglenni, modiwlau neu sesiynau addysgu mewn modd [&hellip;]","protected":false},"author":9344,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-10998","page","type-page","status-publish","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10998","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9344"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10998"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10998\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11003,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10998\/revisions\/11003"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10998"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10998"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10998"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}