{"id":411,"date":"2023-03-06T12:07:11","date_gmt":"2023-03-06T12:07:11","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/?page_id=411"},"modified":"2026-10-08T13:27:42","modified_gmt":"2026-10-08T12:27:42","slug":"trosolwg-or-themau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/","title":{"rendered":"Trosolwg o\u2019r them\u00e2u"},"content":{"rendered":"<p>Yn adran hon y pecyn cymorth, mae\u2019r tair thema graidd sy&#8217;n sail i&#8217;r holl waith dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd: sef cynhwysiant, cynaliadwyedd a chyflogadwyedd.<\/p>\n<figure id=\"post-11301 media-11301\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 412px;height: 209px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/files\/2026\/10\/diverse-students.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Mae cynhwysiant yn hanfodol er mwyn cynnig dysgu sy&#8217;n ystyrlon, yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb. Mae&#8217;n rhan graidd o brifysgol ffyniannus ac yn cydnabod bod pob aelod o&#8217;n cymuned yn dod \u00e2 phrofiadau, hunaniaethau a safbwyntiau unigryw sy&#8217;n cyfoethogi ein dysgu ar y cyd. Mae gan y thema hon 4 is-adran: Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol, Meithrin Ymdeimlad o Berthyn, Grymuso Myfyrwyr i Gyflawni eu Potensial, a Datblygu Meddylfryd Cynhwysol. Esbonnir yr adrannau hyn mewn perthynas \u00e2&#8217;r Fframwaith Addysg Gynhwysol, sydd yn adran Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol. Os ydych chi&#8217;n newydd i addysgu neu addysg gynhwysol, gallech chi ddechrau gyda&#8217;r Cyflwyniad,<\/p>\n<p>Mae&#8217;r thema Cyflogadwyedd yn cael ei harwain gan d\u00eem Dyfodol Myfyrwyr, a&#8217;r nod yw cefnogi datblygiad sgiliau a chymwyseddau myfyrwyr at y dyfodol. Yn y thema hon, cewch chi hyd i gyngor, arweiniad ac adnoddau fydd o gymorth wrth ichi geisio gwireddu\u2019r nodau sydd gennych chi o fewn eich rhaglen neu&#8217;ch modiwl. Gan adlewyrchu&#8217;r broses o weithio a chydweithio at ddiben ail-ddilysu, rydyn ni wedi rhannu ein hadnodd a&#8217;n canllawiau i\u2019r categor\u00efau a ganlyn: Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr, Rhinweddau Graddedigion, Cymeradwyo ac Ail-ddilysu Rhaglenni (CARh) ac ymgorffori cyflogadwyedd yn y cwricwlwm.<\/p>\n<p>Mae \u2018cynaliadwyedd\u2019 yn gysyniad eang sy&#8217;n mynd y tu hwnt i faterion amgylcheddol yn unig. Mae&#8217;n cyfeirio at y modd y mae prifysgolion yn gweithredu, yn addysgu, ac yn cyfrannu at gymdeithas mewn ffyrdd sy&#8217;n gyfrifol yn amgylcheddol, yn deg yn gymdeithasol, ac yn economaidd hyfyw yn y tymor hir. Mae &#8216;Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy&#8217; (ADC) wedi cymryd lle addysg amgylcheddol draddodiadol i raddau helaeth mewn polis\u00efau a thrafodaethau academaidd. Yn wahanol i addysg amgylcheddol, sy&#8217;n canolbwyntio&#8217;n fwy ar natur ac ecosystemau (eco-ganolog), mae ADC yn ymagwedd cyfannol sy\u2019n canolbwyntio ar lesiant dynol, sy\u2019n cynnwys materion megis tlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasol. Ar y tudalennau Cynaliadwyedd, gallwch ddysgu mwy am ddiffiniadau ac arferion ADC, a darllen nifer o Astudiaethau Achos o Brifysgol Caerdydd sy&#8217;n ymgorffori ADC.<\/p>\n<p><strong>Dysgu Pellach<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r themau hyn wedi\u2019u cynnwys ym mhob un o adrannau eraill y pecyn cymorth, mewn perthynas \u00e2 dylunio, dulliau addysgu, asesu ac adborth, a chydweithio.<\/p>\n<p>Ar gyfer staff Prifysgol Caerdydd: gallwch ddatblygu eich dealltwriaeth o&#8217;r them\u00e2u hyn drwy gymryd rhan mewn gweithdai cysylltiedig, sydd wedi&#8217;u rhestru ar y dudalen Rhaglenni DPP ar y fewnrwyd. Mae&#8217;r gweithdai hyn ar gael i\u2019w cymryd yn anghydamserol, yn eich amser eich hun, a gellir mynd ati wedyn i gynnal gweithdy byw (os oes digon o alw), neu gyfarfod pwrpasol gyda&#8217;r arweinydd i drafod sut i roi\u2019r egwyddor ar waith yn eich arferion. Cewch ragor o wybodaeth ar dudalen DPP LTA Caerdydd.<\/p>\n<p><strong>Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2024)<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r thema hon yn gysylltiedig \u00e2 PSF 2024 wrth ystyried Fersiwn 1: Parchu dysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr, a Fersiwn 2: hyrwyddo ymgysylltiad ym meysydd dysgu a chyfle cyfartal, a&#8217;r gofynion cyffredinol ar gyfer arddangos &#8216;Arferion effeithiol a chynhwysol&#8217;. Mae Cynaliadwyedd a Chyflogadwyedd hefyd yn ymwneud \u00e2 Fersiwn 4: ymateb i&#8217;r cyd-destun ehangach, a gofynion K5 ar gyfer Sicrhau Ansawdd a Gwella Ansawdd.<\/p>\n<figure id=\"post-9471 media-9471\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 291px;height: 257px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/files\/2026\/02\/Screenshot-2026-02-06-at-14.06.20.png\" alt=\"Diagram addurniadol yn nodi dimensiynau cydblethedig y PSF 2023: Gwerthoedd Proffesiynol mewn glas, Gwybodaeth Graidd mewn porffor, a Meysydd Gweithgaredd mewn gwyrdd.\" \/><figcaption class=\"caption\">Dimensiynau&#8217;r PSF 2023<\/figcaption><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn adran hon y pecyn cymorth, mae\u2019r tair thema graidd sy'n sail i'r holl waith dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd: sef cynhwysiant, cynaliadwyedd a chyflogadwyedd. Mae cynhwysiant yn hanfodol [&hellip;]","protected":false},"author":8903,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-411","page","type-page","status-publish","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/411","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8903"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=411"}],"version-history":[{"count":22,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/411\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11605,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/411\/revisions\/11605"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=411"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=411"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=411"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}