{"id":433,"date":"2023-07-20T10:13:11","date_gmt":"2023-07-20T09:13:11","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/?page_id=433"},"modified":"2024-06-24T10:49:22","modified_gmt":"2024-06-24T09:49:22","slug":"profiad-gwaith-lleoliadau-a-gweithio-gyda-chyflogwyr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cyflogadwyedd\/profiad-gwaith-lleoliadau-a-gweithio-gyda-chyflogwyr\/","title":{"rendered":"Profiad Gwaith, Lleoliadau a Gweithio gyda Chyflogwyr"},"content":{"rendered":"<h3>Tudalen Thema Cyflogadwyedd<\/h3>\n<h3>Dechrau Arni gyda Lleoliadau Gwaith<\/h3>\n<h2 id=\"section1\">Beth yw Lleoliad Gwaith?<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r Brifysgol yn ystyried nodweddion allweddol lleoliad gwaith fel:<\/p>\n<ol>\n<li>Gweithgaredd a gefnogir gan y Brifysgol (h.y. dim ond i&#8217;r myfyriwr yn rhinwedd bod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd y mae&#8217;r lleoliad ar gael)<\/li>\n<li>Profiad sy\u2019n cynnwys elfen o waith allanol (h.y. bydd gofyn i\u2019r myfyriwr ymwneud \u00e2 sefydliad sy&#8217;n allanol i&#8217;r Brifysgol neu ymgymryd \u00e2 gweithgaredd sydd y tu allan i&#8217;w raglen astudio).<\/li>\n<li>Gweithgaredd sy&#8217;n cynnwys ymrwymiad gan y myfyrwyr am o leiaf 35 awr<\/li>\n<\/ol>\n<hr \/>\n<h2 id=\"section2\">Pam mae Dysgu Seiliedig ar Waith o Bwys?<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r Brifysgol yn cydnabod bod profiad a enillir drwy ddysgu yn y gwaith yn cefnogi myfyrwyr i bontio i fyd gwaith, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod o leiaf 50% o fyfyrwyr israddedig yn gwneud lleoliad gwaith yn ystod eu hastudiaethau. Gellir ymgymryd \u00e2 lleoliadau a dysgu ehangach yn y gwaith ar sail gwricwlaidd ac allgyrsiol.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, yn \u2018Is-Strategaeth Addysg a Myfyrwyr 2018-2023 (wedi\u2019i hail-lunio yn ystod COVID-19), mae&#8217;r Brifysgol yn ymrwymo i wneud y canlynol:<\/p>\n<p><em>Dod o hyd i ystod eang o gyfleoedd am leoliadau domestig a rhyngwladol ym mhob sector, ar gael mewn fformatau traddodiadol, rhithwir a chymysg. Bydd hyn yn cynnwys cynnal lleoliadau myfyrwyr a graddedigion yn y Brifysgol, ehangu ein cyfleoedd mentora a lleoli cynfyfyrwyr, a darparu cyfleoedd lleoli gyda busnesau bach a chanolig yng Nghymru i gefnogi&#8217;r economi leol a sicrhau bod sgiliau graddedigion yn cael eu cadw yng Nghymru.<\/em><\/p>\n<p>Gall staff Dyfodol Myfyrwyr weithio gydag Ysgolion i drafod ymgorffori lleoliad yn y cwricwlwm ac mae amrywiaeth o waith papur a chymorth ar gael ar gyfer y broses o ymgorffori wedi\u2019u creu gan y Gofrestrfa ar y Fewnrwyd.<\/p>\n<hr \/>\n<h2 id=\"section3\">Creu Lleoliadau Gwaith ar gyfer Fy Myfyrwyr<\/h2>\n<p>Gall staff Dyfodol Myfyrwyr gydweithio \u00e2 chi i ragweld y lleoliad gorau ar gyfer eich rhaglen.\u202f Gallwn gysylltu \u00e2 chyflogwyr i ymgorffori gweithgarwch cyflogwyr o fewn y cwricwlwm, gan wella dysgu ac addysgu, a chyflogadwyedd myfyrwyr.\u202f Mae ymgysylltu \u00e2 chyflogwyr yn weithgarwch hynod amrywiol, ac yn amrywio o ddysgu yn y gwaith, interniaethau a lleoliadau gwaith, i gyflogwyr sy&#8217;n darparu astudiaethau achos, siaradwyr gwadd, mentoriaid, cyfnewid gwybodaeth, prosiectau ymgynghori a chynnig gwybodaeth am yrfaoedd.\u202f Gall cyflogwyr gynnig enghreifftiau o&#8217;r byd go iawn, prosiectau ymchwil a chyfleoedd i gynnal asesiadau dilys o fewn y cwricwlwm, gan alluogi myfyrwyr i gael gwell dealltwriaeth o sut mae eu pwnc a&#8217;i ddulliau yn cael eu cymhwyso&#8217;n ymarferol.<\/p>\n<p>Gall cyflogwyr a chynfyfyrwyr gynnig arbenigedd amhrisiadwy am yr ystod o lwybrau gyrfa sydd ar gael i fyfyrwyr, y wybodaeth a\u2019r sgiliau fydd eu hangen ar fyfyrwyr wrth bontio i fyd gwaith, a rhai o&#8217;r tueddiadau a&#8217;r heriau allweddol sy&#8217;n wynebu diwydiannau penodol.<\/p>\n<p>Yn gynyddol, mae cyflogwyr yn ceisio cynyddu amrywiaeth eu gweithlu ac yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda phrifysgolion mewn ffordd fwy pwrpasol.\u202f Mae gan Ddyfodol Myfyrwyr rwydwaith eang o gyflogwyr a chynfyfyrwyr, yn ogystal \u00e2 th\u00eem ymgysylltu ymroddedig sydd \u00e2 chyfoeth o arbenigedd i gefnogi ysgolion i ymgorffori gweithgarwch cyflogwyr o fewn y cwricwlwm.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 chael blas ar fyd gwaith ac interniaethau byr y gellir eu cwblhau yn ystod pob semester, gall myfyrwyr gael eu mentora gan gyflogwr neu gynfyfyriwr a chynnal lleoliad gwaith cyflogedig yn rhan-amser neu\u2019n amser llawn.\u202f Mae mwy o brofiad gwaith hyblyg ac wedi&#8217;i deilwra ar gael ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr sydd wedi&#8217;u tangynrychioli a allai wynebu rhwystrau, neu sydd heb y sgiliau neu\u2019r rhwydweithiau cyflogadwyedd.<\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert alert-success with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 30 30\"><title>Globe<\/title><path d=\"M15,2a15,15,0,1,1,0,30A15,15,0,0,1,0,17,15,15,0,0,1,15,2ZM10.34,7.44L10,8a5.88,5.88,0,0,0-.31.63C9.53,9.06,9.31,9.53,9.16,10H14V4.16a2.78,2.78,0,0,0-.66.25,5,5,0,0,0-.69.41,6.52,6.52,0,0,0-1.22,1.09,10.24,10.24,0,0,0-1.09,1.53h0ZM16,10h4.84c-0.09-.22-0.16-0.47-0.25-0.69A12.87,12.87,0,0,0,20,8a5.49,5.49,0,0,1-.34-0.56,10.13,10.13,0,0,0-1.09-1.53,6.55,6.55,0,0,0-1.22-1.09,7.68,7.68,0,0,0-.66-0.41A3.67,3.67,0,0,0,16,4.16V10h0ZM5.81,7.81q-0.52.52-.94,1C4.59,9.22,4.28,9.63,4,10H7A15.68,15.68,0,0,1,8.09,7.44,11.33,11.33,0,0,1,9.41,5.28,11.54,11.54,0,0,0,7.5,6.38,10.52,10.52,0,0,0,5.81,7.81ZM23,10h3c-0.25-.37-0.56-0.78-0.84-1.16a13.7,13.7,0,0,0-.94-1A10.58,10.58,0,0,0,22.5,6.38a11.51,11.51,0,0,0-1.91-1.09,13.28,13.28,0,0,1,1.34,2.16A19,19,0,0,1,23,10h0ZM6.5,12H3a9,9,0,0,0-.62,2A10.61,10.61,0,0,0,2,16H6a14.66,14.66,0,0,1,.16-2.06c0.09-.66.19-1.31,0.31-1.94h0ZM14,12H8.56c-0.16.63-.25,1.31-0.34,2A10.67,10.67,0,0,0,8,16h6V12h0Zm2,0v4h6a14.19,14.19,0,0,0-.16-2c-0.12-.66-0.22-1.34-0.37-2H16Zm8,4h4a13.75,13.75,0,0,0-.31-2A11.21,11.21,0,0,0,27,12H23.5c0.13,0.63.22,1.28,0.31,1.94A14.51,14.51,0,0,1,24,16h0ZM3,22H6.5c-0.12-.62-0.22-1.28-0.31-1.94A14.51,14.51,0,0,1,6,18H2a10.6,10.6,0,0,0,.34,2A9,9,0,0,0,3,22H3Zm11-4H8a10.67,10.67,0,0,0,.19,2c0.09,0.66.19,1.34,0.34,2H14V18h0Zm2,4h5.44c0.16-.62.25-1.31,0.38-2A14.06,14.06,0,0,0,22,18H16v4Zm7.5,0H27a11.21,11.21,0,0,0,.66-2A13.9,13.9,0,0,0,28,18H24a14.66,14.66,0,0,1-.16,2.06c-0.09.66-.19,1.31-0.31,1.94h0ZM7,24H4c0.25,0.38.56,0.78,0.84,1.13a9.9,9.9,0,0,0,.94,1.06A10.58,10.58,0,0,0,7.5,27.63a11.51,11.51,0,0,0,1.91,1.09,11.33,11.33,0,0,1-1.31-2.16A15.79,15.79,0,0,1,7,24H7Zm2.12,0,0.28,0.69A7,7,0,0,0,10,26c0.09,0.22.22,0.41,0.31,0.59a9.78,9.78,0,0,0,1.09,1.5,6.78,6.78,0,0,0,1.22,1.13,3,3,0,0,0,.69.38,2,2,0,0,0,.66.28V24H9.16Zm10.5,2.56c0.09-.19.22-0.37,0.34-0.59s0.22-.41.31-0.62c0.19-.44.38-0.87,0.53-1.34H16v5.84a2.45,2.45,0,0,0,.69-0.28,3.51,3.51,0,0,0,.66-0.37,6.78,6.78,0,0,0,1.22-1.12,9.78,9.78,0,0,0,1.09-1.5h0Zm4.53-.37a10,10,0,0,0,.94-1.06c0.28-.34.59-0.75,0.84-1.12H23a19.07,19.07,0,0,1-1,2.56,13.28,13.28,0,0,1-1.34,2.16,11.54,11.54,0,0,0,1.91-1.09,10.52,10.52,0,0,0,1.69-1.44h0Z\" transform=\"translate(0 -2)\"><\/path><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Astudiaeth Achos: Profiad Gwaith Cynhwysol<\/h3>                <p>Rydw i wedi cefnogi myfyriwr sy\u2019n niwroamrywiol drwy gynllun Hyder o Ran Gyrfa (cynllun GOWales gynt). Fe wnaeth Hyder o ran Gyrfa anfon e-bost cyffredinol yn gofyn i staff gynnig lleoliadau profiad gwaith. Ces i gyfarfod \u00e2 chydlynydd y rhaglen i weld beth oedd ei angen a'r hyn y gallwn i ei gynnig. Fe weithion ni mewn modd sensitif \u00e2\u2019r myfyriwr, a chytunodd y myfyriwr gwrdd i weld a oedd modd iddyn nhw weithio gyda fi. Trafodon ni opsiynau nes bod gennyn ni rywbeth yr oedden ni\u2019n hapus i gymryd rhan ynddo. Mae'r rhan fwyaf o fy nh\u00eem yn gweithio rhan-amser a dydyn nhw ddim yn gweithio ar ddydd Gwener, felly dewisodd y myfyriwr y diwrnod hwnnw i ddod i\u2019r gwaith, gan fod y gweithle yn dawelach. Fe wnes i gadw un o'r labordai llai er mwyn i'r myfyriwr allu gweithio ar eu pen ei hun, yn dawel a heb oleuadau. Fe wnes i yn si\u0175r fy mod i ar gael, a bob amser yn rhoi cymorth pan oedd y myfyriwr yn gofyn amdano. Dr Sarah Youde<\/p>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-international-mobility-accordion-cy1-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Canllawiau Astudio Dramor<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-international-mobility-accordion-cy1-1\"><p>Ewch i dudalennau'r <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/teach-and-assess-students\/curriculum-and-programme-design\/approving-and-managing-programmes\/new-programmes\/study-abroad-programmes\">Fewnrwyd Astudio Dramor<\/a>, i ddod o hyd i'r dogfennau polisi a'r gwaith papur a ganlyn:<\/p>\n<ul>\n<li>Polisi Astudio Dramor<\/li>\n<li>Asesiad Risg o\u2019r Ddarpariaeth ar y Cyd ar gyfer Cyflwyno Astudio Dramor<\/li>\n<li>Templed Disgrifiad o Fodiwlau Astudio Dramor<\/li>\n<li>Ffurflen Gais Partner Astudio Dramor<\/li>\n<li>Cytundeb Dysgu ar gyfer Myfyrwyr Rhaglenni Cyfnewid Rhyngwladol<\/li>\n<\/ul>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-international-mobility-accordion-cy1-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Polis\u00efau a Gwaith Papur Lleoliadau<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-international-mobility-accordion-cy1-2\"><p>Ewch i'r tudalennau <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/teach-and-assess-students\/curriculum-and-programme-design\/approving-and-managing-programmes\/new-programmes\/placements\">Mewnrwyd Lleoliadau<\/a>, i ddod o hyd i'r dogfennau polisi a'r gwaith papur a ganlyn<\/p>\n<p>Mae hyn yn cynnwys dolenni i:<\/p>\n<ul>\n<li>Polisi Darpariaeth Gydweithredol<\/li>\n<li>Ffurflen Asesu Risg ar gyfer cyflwyno Lleoliadau Lawrlwytho'r ddogfen<\/li>\n<li>Canllawiau ar Asesu Risg Lawrlwytho'r ddogfen<\/li>\n<\/ul>\n<\/div> <\/div><\/div>\n<hr \/>\n<h2 id=\"section4\">Gweithio gyda Chyflogwyr ar gyfer Gwella&#8217;r Cwricwlwm<\/h2>\n<p>Mae cyflogwyr yn awyddus i weithio gydag Ysgolion i ddatblygu cwricwlwm ac maent hefyd yn aml yn hapus i gymryd rhan yn y cwricwlwm trwy gynnal darlithoedd neu ddigwyddiadau panel. Mae&#8217;r T\u00eem Ymgysylltu \u00e2 Chyflogwyr yn Dyfodol Myfyrwyr yn fan cyswllt cyntaf da wrth feddwl am gysylltu \u00e2 chyflogwyr. Fel arall, yn aml mae gan Ysgolion eu cysylltiadau eu hunain sy&#8217;n eu helpu i ddatblygu cynnwys.<\/p>\n<p>Isod, mae rhai enghreifftiau o&#8217;r ffyrdd amrywiol y gall cyflogwyr gefnogi gweithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol mewn Ysgolion. Trefnwch drafodaeth gyda Phartner Busnes Dyfodol Myfyrwyr eich coleg os ydych am ddatblygu&#8217;r meddylfryd hwn wrth lunio rhaglen neu drwy ailddilysu.<\/p>\n<ul>\n<li>Mae Bwrdd Cynghori Dyfodol Myfyrwyr yn gweithio ar lefel strategol i drafod datblygu cyflogadwyedd ym Mhrifysgol Caerdydd<\/li>\n<li>Gall Partneriaethau Strategol Prifysgol Caerdydd gyda sefydliadau, neu brosiectau Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol, ddarparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cyd-gwricwlaidd neu allgyrsiol amrywiol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Enghreifftiau o fewnbwn gan gyflogwyr i weithgarwch y cwricwlwm:<\/p>\n<p>\u2b55ENGIN: Mae Babcock International yn rhedeg canolfan asesu ffug i fyfyrwyr (a drefnir gan Dyfodol Myfyrwyr).<\/p>\n<p>\u2b55CHEMY: Mae\u2019r BSc newydd mewn Cemeg Feddyginiaethol yn gobeithio cyrchu data gan gwmni fferyllol i fyfyrwyr ei ddefnyddio i weithio ar gyfrifiadau\u2019r byd go iawn mewn pwll tywod (mae hwn yn waith ar y gweill, ond mae\u2019r cysyniad o ddefnyddio data cyflogwyr go iawn yn y cwricwlwm yn tyfu mewn poblogrwydd).<\/p>\n<hr \/>\n<h2 id=\"section5\">Astudiaethau Achos<\/h2>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\">\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link active\" href=\"#content-work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-1\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-1\">Enghraifft CARBS<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-2\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-2\">Enghraifft JOMEC<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-3\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-3\">Enghraifft PSYCH<\/a><\/li><\/ul> <div class=\"tab-content\">\n        <div class=\"tab-pane active\" id=\"content-work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-1\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-1\">\n        <p>Mae t\u00eem y Parth Cyfleoedd yn yr Ysgol Busnes yn rhan o Ddyfodol Myfyrwyr ac mae\u2019n cynnwys t\u00eem lleoliadau sy\u2019n canfod, rheoli a hyrwyddo lleoliadau yn yr Ysgol, gan gefnogi cyfleoedd cwricwlaidd ac allgyrsiol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac \u00f4l-raddedig. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys lleoliad gwaith integredig am bum mis a blwyddyn ar leoliad ar gyfer israddedigion ac \u00f4l-raddedigion, yn ogystal \u00e2 phrosiectau busnes byw. Mae asesiadau wedi'u cyd-greu pan fo\u2019r cyfleoedd hyn yn rhai cwricwlaidd.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-2\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-2\">\n        <p>Mae Dyfodol Myfyrwyr yn cydweithio ag Arweinydd Academaidd yn JOMEC i gyflwyno modiwl Blwyddyn 2 dewisol, \u2018Cyflogadwyedd: Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad\u2019, MC2634.\u00a0 Mae'r modiwl hwn yn cynnwys lleoliad gorfodol y mae myfyrwyr yn ei gyrchu eu hunain, gyda chefnogaeth y t\u00eem Dyfodol Myfyrwyr.\u00a0 Cyflwynir yr addysgu yn yr hydref ac mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau lleoliad gwaith yn ystod semester y gwanwyn.\u00a0 Mae <a href=\"https:\/\/cf.sharepoint.com\/:p:\/r\/sites\/ManagementTeam19\/_layouts\/15\/Doc.aspx?sourcedoc=%7B54D44511-8D0B-44F4-B3FB-4D3A2790F047%7D&amp;file=JOMEC%20Seminar%201%20Placement%20Clinic%202021%20.pptx&amp;action=edit&amp;mobileredirect=true\">llawlyfr y modiwl<\/a> yn cynnwys canllawiau i fyfyrwyr ar sut i fynd ati i ddod o hyd i leoliad, a chynhelir clinig lleoliadau gyda\u2019r t\u00eem Dyfodol Myfyrwyr yn un o\u2019r seminarau i amlygu\u2019r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.\u00a0 Mae cymorth ychwanegol ar gael i unrhyw fyfyrwyr a allai wynebu rhwystrau rhag cael manteisio ar brofiad gwaith.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-3\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"work-experience-placements-working-with-employers-cy-tab-1-3\">\n        <p>Mae'r t\u00eem lleoliadau yn yr Ysgol Seicoleg yn cadw cronfa ddata o gyflogwyr i gefnogi myfyrwyr i ddod o hyd i leoliadau ar gyfer y flwyddyn ar leoliad yn y cwrs Seicoleg Gymhwysol. Mae myfyrwyr yn cael llawlyfr lleoliadau gyda rhestr o gysylltiadau cyflogwyr blaenorol myfyrwyr ar leoliad o Brifysgol Caerdydd. Mae mewnbwn gan Dyfodol Myfyrwyr yn cynnwys gweithdai ar geisiadau a chyfweliadau a chlinigau CV ar adegau allweddol o'r flwyddyn academaidd.<\/p>\n\n        <\/div><\/div>\n        <\/div>\n<hr \/>\n<h2 id=\"section6\">Archwilio\u2019n Ddyfnach<\/h2>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-work-experience-placements-and-working-with-employers-deeper-dive-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr\u202f <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-work-experience-placements-and-working-with-employers-deeper-dive-cy-1\"><p>I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2 Phartner Busnes Dyfodol Myfyrwyr eich coleg:<\/p>\n<ul>\n<li>Jon Forbes, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, AHSS<\/li>\n<li>Llinos Carpenter, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, PSE<\/li>\n<li>Joanne Jenkins, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, BLS<\/li>\n<\/ul>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-work-experience-placements-and-working-with-employers-deeper-dive-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Rhannwch eich Adborth <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-work-experience-placements-and-working-with-employers-deeper-dive-cy-2\"><p>\n<!-- iframe plugin v.6.0 wordpress.org\/plugins\/iframe\/ -->\n<iframe loading=\"lazy\" class=\"image w-75\" src=\"https:\/\/forms.microsoft.com\/pages\/responsepage.aspx?id=MEu3vWiVVki9vwZ1l3j8vFjmzr0UHJNEkrFqXd1VVfhURFkwR1E4TzlNNFJGR1VIRDdKRENOOFZFSS4u\" width=\"100%\" height=\"500\" scrolling=\"yes\" frameborder=\"0\"><\/iframe>\n<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-work-experience-placements-and-working-with-employers-deeper-dive-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ble Nesaf? <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-work-experience-placements-and-working-with-employers-deeper-dive-cy-3\"><p>Rydych chi ar dudalen 6 o 6 ar y thema Cyflogadwyedd. Archwiliwch y lleill yma:<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cyflogadwyedd\/\">Prif Dudalen Cyflogadwyedd<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cyflogadwyedd\/rhinweddau-graddedigion\/\">Rhinweddau Graddedigion<<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cyflogadwyedd\/datblygu-gyrfa\/\">Datblygu Gyrfa<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cyflogadwyedd\/menter-ac-entrepreneuriaeth\/\">Menter ac Entrepreneuriaeth<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cyflogadwyedd\/symudedd-rhyngwladol\/\">Symudedd Rhyngwladol<\/a><\/p>\n<p>Neu beth am thema arall?<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cynwysoldeb\/\">Cynwysoldeb<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cynaliadwyedd\/\">Cynaliadwyedd<\/a><\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Tudalen Thema Cyflogadwyedd Dechrau Arni gyda Lleoliadau Gwaith Beth yw Lleoliad Gwaith? Mae'r Brifysgol yn ystyried nodweddion allweddol lleoliad gwaith fel: Gweithgaredd a gefnogir gan y Brifysgol (h.y. dim ond [&hellip;]","protected":false},"author":8903,"featured_media":0,"parent":419,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[74],"tags":[],"class_list":["post-433","page","type-page","status-publish","hentry","category-cyflogadwyedd"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/433","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8903"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=433"}],"version-history":[{"count":16,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/433\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5628,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/433\/revisions\/5628"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/419"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=433"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=433"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=433"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}