{"id":462,"date":"2023-03-06T12:09:06","date_gmt":"2023-03-06T12:09:06","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/?page_id=462"},"modified":"2025-12-12T16:14:18","modified_gmt":"2025-12-12T16:14:18","slug":"datblygu-rhaglen","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/datblygu-rhaglen\/","title":{"rendered":"Datblygu Rhaglen"},"content":{"rendered":"<h2 id=\"section1\">Dechrau arni gyda Llunio Rhaglen<\/h2>\n<h2><strong>Datblygu Rhaglenni<\/strong><\/h2>\n<p>Mae Datblygu Rhaglenni ym Mhrifysgol Caerdydd yn broses gynhwysfawr ac ailadroddol. Mae wedi&#8217;i chynllunio i wneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn cael profiadau dysgu o ansawdd uchel sy&#8217;n drylwyr yn academaidd, yn gydlynol, ac yn cyd-fynd \u00e2 safonau cenedlaethol. Mae dyluniad a dull cyflwyno rhaglen yn seiliedig ar yr egwyddor bod dysgu yn daith barhaus: mae myfyrwyr yn symud ymlaen trwy lefelau astudio mewn modd sy&#8217;n atgyfnerthu gwybodaeth, sgiliau a rhinweddau, gan arwain at gyflawni Ddeilliannau Dysgu Rhaglenni (PLOs) a Rhinweddau Graddedigion (GA). Yn yr ystyr hwn, nid trefniant gweinyddol yn unig yw strwythur y rhaglen. Yn hytrach, mae\u2019n fframwaith addysgegol y mae&#8217;r Brifysgol yn gweithredu ei chenhadaeth addysgol drwyddo.<\/p>\n<figure id=\"post-9297 media-9297\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/files\/2025\/12\/programme-development-page.png\" alt=\"\" \/><figcaption class=\"caption\">Title: Process for Developing New Programmes<\/figcaption><\/figure>\n<p>Wrth wraidd dylunio rhaglenni mae&#8217;r syniad o <strong>aliniad adeiladol<\/strong>, sy&#8217;n mynnu bod rhaid i addysgu, gweithgareddau dysgu ac asesu i gyd gael eu halinio&#8217;n fwriadol \u00e2&#8217;r deilliannau dysgu mewn golwg (Biggs a Tang, 2011). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod amcanion y rhaglen, cynnwys y modiwlau, a thasgau asesu yn cael eu datblygu ar yr un pryd, ac mae pob elfen yn atgyfnerthu ei gilydd. Mae aliniad adeiladol yn gwneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn cael eu harwain yn gyson tuag at gyflawniadau y gellir eu dangos, boed hynny\u2019n ymwneud \u00e2 chaffael gwybodaeth sylfaenol yn gynnar, neu ymgymryd \u00e2 dadansoddiad cymhleth, annibynnol ar lefelau uwch.<\/p>\n<h2><strong>1.Strwythuro, Dylunio a Chyflwyno Rhaglenni: Camau Datblygu Rhaglenni<\/strong><\/h2>\n<h3><strong>Llywodraethu a Sicrhau Ansawdd<\/strong><\/h3>\n<p>Mae holl strwythurau a dyluniadau rhaglenni yn destun prosesau llywodraethu a sicrhau ansawdd trylwyr. Dilysir y rhain yn ffurfiol gan \u00a0Is-bwyllgor Cymeradwyo ac Ailddilysu Rhaglenni PARSC a&#8217;r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC).\u00a0 Mae hyn yn gwneud yn si\u0175r bod cynigion yn bodloni safonau sefydliadol, yn glynu wrth ddisgrifyddion FHEQ, ac yn alinio \u00e2 meincnodau\u2019r sector. Mae prosesau adolygu mewnol ac allanol, gan gynnwys craffu gan arholwyr allanol a mapio i ofynion cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRBs) (lle bo&#8217;n berthnasol), yn rhoi sicrwydd bod rhaglenni&#8217;n drylwyr yn academaidd, yn gydlynol, a bod modd eu cymharu \u00e2 safonau&#8217;r DU. Mae&#8217;r dull systematig hwn yn diogelu profiad y myfyrwyr yn ogystal ag uniondeb dyfarniadau Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae proses datblygu rhaglenni Prifysgol Caerdydd wedi&#8217;i strwythuro&#8217;n ffurfiol yn dri cham: <strong>Cymeradwyaeth Mewn Egwyddor, Dylunio a Dogfennu, a Chymeradwyaeth Derfynol a Gweithredu<\/strong>. Mae diben penodol i bob cam sy\u2019n cydbwyso ystyriaethau strategol, ansawdd academaidd, a hyfywedd ymarferol.<\/p>\n<p><strong>Cam 1, ar \u00f4l Cwmpasu&#8217;r Rhaglen, yw &#8216;Cymeradwyaeth Mewn Egwyddor&#8217;<\/strong>, sy\u2019n canolbwyntio ar y cyfiawnhad strategol dros raglen newydd neu ddiwygiedig. Yma, mae timau&#8217;r rhaglen yn mynegi&#8217;r rhesymeg dros y rhaglen, gan ddangos sut mae\u2019n cyd-fynd \u00e2 blaenoriaethau sefydliadol, y galw disgwyliedig gan fyfyrwyr, a\u2019i pherthnasedd academaidd a phroffesiynol. Yn y cam hwn rhaid ystyried adnoddau, staffio, safle yn y farchnad a chynaliadwyedd. Mae&#8217;r gymeradwyaeth yn gwneud yn si\u0175r bod y rhaglen yn fuddsoddiad hyfyw o amser ac adnoddau cyn i&#8217;r gwaith dylunio manwl ddechrau. Cewch wybod rhagor yn adran Cwmpasu Rhaglenni y pecyn cymorth hwn.<\/p>\n<p>Yr ail gam, <strong>Datblygu&#8217;r Rhaglen:<\/strong> <strong>Dylunio a Dogfennu <\/strong>yw hanfod gwaith datblygu rhaglenni. Mae timau rhaglenni yn llunio dogfennaeth fanwl, gan gynnwys Templed Gwybodaeth y Rhaglen, mapiau asesu, a disgrifiadau o\u2019r modiwlau. Caiff Deilliannau Dysgu Rhaglenni eu drafftio a&#8217;u mapio yn erbyn Rhinweddau Graddedigion. Ar yr un pryd, caiff deilliannau dysgu modiwlau a\u2019r asesiadau bwriadol eu halinio&#8217;n ofalus fel bod cydlyniant a dilyniant ar draws lefelau. Gwneir penderfyniadau ynghylch strwythur y rhaglen, dilyniant modiwlau, a\u2019r cynnwys craidd neu ddewisol yng nghyd-destun gofynion academaidd, addysgegol a rheoleiddiol. Yn arwyddocaol, mae&#8217;r cam hwn hefyd yn cynnwys cynllunio ar gyfer cynhwysiant, hygyrchedd, a phrofiad y myfyriwr, gan ymgorffori elfennau o bontio, ymgysylltu, a dysgu gweithredol ym mhensaern\u00efaeth y rhaglen.<\/p>\n<p><strong>Cymeradwyaeth Derfynol a Gweithredu<\/strong> yw&#8217;r cam pan fydd yr <strong>Is-bwyllgor Cymeradwyo ac Ailddilysu Rhaglenni (PARSC)<\/strong> a&#8217;r <strong>Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC)<\/strong> yn dilysu\u2019r rhaglen yn ffurfiol. Ar y pwynt hwn, caiff strwythur y rhaglen, y deilliannau dysgu, y strategaeth asesu a&#8217;r dulliau cyflwyno eu cymeradwyo&#8217;n ffurfiol, a bydd y Gofrestrfa yn paratoi\u2019r rhaglen i&#8217;w rhoi ar waith. Mae&#8217;r cam hwn yn gwneud yn si\u0175r bod pob elfen yn cydymffurfio \u00e2 rheoliadau Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ), gan ddiogelu uniondeb a chymaroldeb y dyfarniad.<\/p>\n<h3><strong>Diogelu Uniondeb Dyfarniadau a Mapio Lefelau FHEQ<\/strong><\/h3>\n<p>Un o\u2019r prif bryderon wrth ddylunio rhaglenni yw <strong>diogelu uniondeb dyfarniadau<\/strong>. Rhaid mynegi deilliannau dysgu rhaglenni a modiwlau yn glir ar y lefel FHEQ briodol, gan nodi&#8217;r wybodaeth, y sgiliau a&#8217;r galluoedd y disgwylir i fyfyrwyr eu cyflawni. Mae FHEQ yn rhoi <a href=\"https:\/\/www.qaa.ac.uk\/docs\/qaa\/quality-code\/the-frameworks-for-higher-education-qualifications-of-uk-degree-awarding-bodies-2024.pdf?sfvrsn=3562b281_11&amp;utm_source=chatgpt.com\">disgrifyddion cyffredinol ar gyfer pob lefel astudio<\/a>. Ar ben hynny, mae\u2019n gosod egwyddorion cyffredinol sy&#8217;n llywio deilliannau ar lefel y rhaglen a safonau asesu (QAA, 2024).<\/p>\n<p>Mae mapio canlyniadau dysgu ar draws lefelau yn gwneud yn si\u0175r bod y myfyrwyr yn gallu symud ymlaen drwy heriau gwybyddol ac ymarferol cynyddol soffistigedig. Mae modiwlau Lefel 4 fel arfer yn pwysleisio gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol. Mae modiwlau Lefel 5 yn datblygu sgiliau cymhwyso a dadansoddi, tra bod gwerthusiad beirniadol, cyfosod ac ymchwil annibynnol yn ofynnol ym modiwlau Lefel 6 neu \u00f4l-raddedig. Mae&#8217;r dilyniant atgyfnerthol hwn yn hanfodol er mwyn cynnal safonau academaidd a pharatoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd proffesiynol ac \u00f4l-raddedig.<\/p>\n<h3><strong>Strwythur Rhaglenni a&#8217;r Asgwrn Cefn Craidd<\/strong><\/h3>\n<p>Mae&#8217;r cysyniad o <strong>asgwrn cefn craidd<\/strong> yn ganolog i athroniaeth Caerdydd wrth ddylunio rhaglenni. Mae&#8217;r asgwrn cefn craidd yn set o fodiwlau hanfodol sy&#8217;n sail i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a rhinweddau graddedigion ar draws pob blwyddyn astudio. Drwy strwythuro rhaglenni o amgylch asgwrn cefn gweladwy o fodiwlau craidd, mae&#8217;r Brifysgol yn gwneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn cael cynnwys disgyblaethol hanfodol a chyfleoedd i feithrin sgiliau yn gyson drwy gydol cyfnod eu hastudiaethau.<\/p>\n<p>Ategir y modiwlau craidd gan fodiwlau dewisol a modiwlau a ddewisir o dan arweiniad, gan roi hyblygrwydd a r\u00f4l i\u2019r myfyrwyr wrth gynnal cydlyniant. Rhaid cynllunio opsiynau&#8217;n ofalus i osgoi gwrthdaro yn yr amserlen yn ogystal \u00e2 gwneud yn si\u0175r bod pob myfyriwr yn gallu cyflawni&#8217;r deilliannau dysgu ar lefel y rhaglen. Mae Prifysgol Caerdydd yn aml yn defnyddio <strong>casgliadau cynnwys<\/strong>, sef setiau strwythuredig o fodiwlau dewisol sy&#8217;n caniat\u00e1u i fyfyrwyr bersonoli eu haddysg gan ddiogelu dilyniant ac uniondeb dyfarniadau ar yr un pryd. Mae gwahaniaethu yn arbennig o bwysig mewn rhaglenni sy&#8217;n rhannu modiwlau, gan wneud yn si\u0175r bod deilliannau dysgu, asesu ac addysgeg yn parhau i fod yn benodol ar gyfer carfan pob rhaglen.<\/p>\n<h3><strong>Dynodi a Dilyniannu Modiwlau<\/strong><\/h3>\n<p>Mae dealltwriaeth o ddynodiad modiwlau yn hanfodol i uniondeb rhaglenni. Gellir dosbarthu modiwlau\u2019n rhai<strong> Gofynnol, Craidd, Dewisol, Cyd-ofynnol, Rhagflaenol, neu Ragofynnol<\/strong>, ac mae gan bob un oblygiadau penodol ar gyfer dilyniant myfyrwyr. Rhaid pasio modiwlau gofynnol ac ni ellir eu cydoddef os ydyn nhw\u2019n hanfodol er mwyn cyflawni deilliannau penodol y rhaglen. Er bod modiwlau craidd yn orfodol, gellir eu cydoddef mewn amgylchiadau eithriadol yn dilyn Rheoliadau&#8217;r Bwrdd Asesu ac Arholi. Mae modiwlau rhagofynnol neu ragflaenol yn gwneud yn si\u0175r bod gan fyfyrwyr y sylfaen angenrheidiol ar gyfer dysgu dilynol, gan hwyluso datblygiad cynyddol.<\/p>\n<p>Mae dilyniannu yr un mor hanfodol. Trefnir modiwlau i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau yn systematig, gan roi hwb i hyder ac annibyniaeth myfyrwyr yn ogystal \u00e2\u2019u gallu i ddatblygu eu galluoedd. Mae modiwlau lefel gynnar yn gosod y sylfaen, mae modiwlau lefel ganol yn atgyfnerthu ac yn ymestyn yr hyn a ddysgir, ac mae modiwlau lefel uwch yn herio myfyrwyr i integreiddio, gwerthuso a chymhwyso gwybodaeth yn annibynnol.<\/p>\n<h3><strong>Profiad Myfyrwyr, Cynhwysiant, a Datblygu Cynaliadwy<\/strong><\/h3>\n<p>Mae dyluniad rhaglenni yng Nghaerdydd yn canolbwyntio&#8217;n gadarn ar y myfyriwr. Y tu hwnt i gynnydd academaidd, mae rhaglenni wedi&#8217;u cynllunio i feithrin <strong>Addysg Gynhwysol<\/strong>. Mae hyn yn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn, safbwyntiau amrywiol, ac mae\u2019n grymuso myfyrwyr i gymryd rhan lawn yn eu haddysg. Mae&#8217;r Brifysgol yn ymgorffori <strong>Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy<\/strong> o fewn amcanion y rhaglen hefyd. Drwy wneud hyn, mae\u2019n herio myfyrwyr i ymgysylltu \u00e2 materion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, a chymhwyso\u2019r hyn y maen nhw\u2019n ei ddysgu mewn modd cyfrifol.<\/p>\n<p>Mae timau rhaglenni yn ymgorffori arferion cynhwysol drwy gwblhau&#8217;r Model Gwella Addysg Gynhwysol (2023) . Mae\u2019r model hwn yn cyflwyno cyfres o ddatganiadau myfyriol ar gyfer timau rhaglenni wedi&#8217;u mapio yn erbyn Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd . Ar bob cam o\u2019r broses datblygu rhaglenni, bydd timau rhaglenni yn defnyddio hyn i ystyried ehangder amrywiaeth y darpar fyfyrwyr. Maen nhw hefyd yn rhagweld ac yn nodi rhwystrau dysgu i ddarpar fyfyrwyr ar gyfer pob tasg, gweithgaredd, adnodd neu asesiad, ac yn datblygu eu hatebion.<\/p>\n<p>I gael trafodaeth am sut rydym yn gweld amrywiaeth ym maes AU, a sut y gallech chi ddefnyddio egwyddorion addysg gynhwysol a\u2019n Model Gwella i ragweld rhwystrau i ddysgu a datblygu atebion a chynlluniau gweithredu ar gyfer eich rhaglenni, darllenwch y dudalen Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol.<\/p>\n<p>Gallech ystyried atebion drwy ddefnyddio egwyddorion <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/theme-overview\/inclusivity\/universal-design-for-learning\/\">Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu<\/a>. Mae&#8217;r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd wedi datblygu \u00a0 hefyd i helpu timau rhaglenni i ddatblygu dysgu ac addysgu cynhwysol.<\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert alert-success with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 30 30\"><title>Globe<\/title><path d=\"M15,2a15,15,0,1,1,0,30A15,15,0,0,1,0,17,15,15,0,0,1,15,2ZM10.34,7.44L10,8a5.88,5.88,0,0,0-.31.63C9.53,9.06,9.31,9.53,9.16,10H14V4.16a2.78,2.78,0,0,0-.66.25,5,5,0,0,0-.69.41,6.52,6.52,0,0,0-1.22,1.09,10.24,10.24,0,0,0-1.09,1.53h0ZM16,10h4.84c-0.09-.22-0.16-0.47-0.25-0.69A12.87,12.87,0,0,0,20,8a5.49,5.49,0,0,1-.34-0.56,10.13,10.13,0,0,0-1.09-1.53,6.55,6.55,0,0,0-1.22-1.09,7.68,7.68,0,0,0-.66-0.41A3.67,3.67,0,0,0,16,4.16V10h0ZM5.81,7.81q-0.52.52-.94,1C4.59,9.22,4.28,9.63,4,10H7A15.68,15.68,0,0,1,8.09,7.44,11.33,11.33,0,0,1,9.41,5.28,11.54,11.54,0,0,0,7.5,6.38,10.52,10.52,0,0,0,5.81,7.81ZM23,10h3c-0.25-.37-0.56-0.78-0.84-1.16a13.7,13.7,0,0,0-.94-1A10.58,10.58,0,0,0,22.5,6.38a11.51,11.51,0,0,0-1.91-1.09,13.28,13.28,0,0,1,1.34,2.16A19,19,0,0,1,23,10h0ZM6.5,12H3a9,9,0,0,0-.62,2A10.61,10.61,0,0,0,2,16H6a14.66,14.66,0,0,1,.16-2.06c0.09-.66.19-1.31,0.31-1.94h0ZM14,12H8.56c-0.16.63-.25,1.31-0.34,2A10.67,10.67,0,0,0,8,16h6V12h0Zm2,0v4h6a14.19,14.19,0,0,0-.16-2c-0.12-.66-0.22-1.34-0.37-2H16Zm8,4h4a13.75,13.75,0,0,0-.31-2A11.21,11.21,0,0,0,27,12H23.5c0.13,0.63.22,1.28,0.31,1.94A14.51,14.51,0,0,1,24,16h0ZM3,22H6.5c-0.12-.62-0.22-1.28-0.31-1.94A14.51,14.51,0,0,1,6,18H2a10.6,10.6,0,0,0,.34,2A9,9,0,0,0,3,22H3Zm11-4H8a10.67,10.67,0,0,0,.19,2c0.09,0.66.19,1.34,0.34,2H14V18h0Zm2,4h5.44c0.16-.62.25-1.31,0.38-2A14.06,14.06,0,0,0,22,18H16v4Zm7.5,0H27a11.21,11.21,0,0,0,.66-2A13.9,13.9,0,0,0,28,18H24a14.66,14.66,0,0,1-.16,2.06c-0.09.66-.19,1.31-0.31,1.94h0ZM7,24H4c0.25,0.38.56,0.78,0.84,1.13a9.9,9.9,0,0,0,.94,1.06A10.58,10.58,0,0,0,7.5,27.63a11.51,11.51,0,0,0,1.91,1.09,11.33,11.33,0,0,1-1.31-2.16A15.79,15.79,0,0,1,7,24H7Zm2.12,0,0.28,0.69A7,7,0,0,0,10,26c0.09,0.22.22,0.41,0.31,0.59a9.78,9.78,0,0,0,1.09,1.5,6.78,6.78,0,0,0,1.22,1.13,3,3,0,0,0,.69.38,2,2,0,0,0,.66.28V24H9.16Zm10.5,2.56c0.09-.19.22-0.37,0.34-0.59s0.22-.41.31-0.62c0.19-.44.38-0.87,0.53-1.34H16v5.84a2.45,2.45,0,0,0,.69-0.28,3.51,3.51,0,0,0,.66-0.37,6.78,6.78,0,0,0,1.22-1.12,9.78,9.78,0,0,0,1.09-1.5h0Zm4.53-.37a10,10,0,0,0,.94-1.06c0.28-.34.59-0.75,0.84-1.12H23a19.07,19.07,0,0,1-1,2.56,13.28,13.28,0,0,1-1.34,2.16,11.54,11.54,0,0,0,1.91-1.09,10.52,10.52,0,0,0,1.69-1.44h0Z\" transform=\"translate(0 -2)\"><\/path><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Gallwch ddefnyddio'r awgrymiadau hyn wrth Ddylunio Rhaglenni i ystyried egwyddorion Dylunio Cyffredinol:<\/h3>                <p class=\"MsoNormal\" style=\"margin-left: 36.0pt\"><span lang=\"CY\">Gallwch ddefnyddio'r awgrymiadau hyn wrth Ddylunio Rhaglenni i ystyried egwyddorion Dylunio Cyffredinol:<\/span><\/p>\n<p class=\"MsoNormal\" style=\"margin-left: 36.0pt\"><span lang=\"CY\">\u2022 A allwch chi ymgorffori hyblygrwydd a dewis o ran testun, modd (fel ysgrifenedig neu lafar) neu ddewis modiwlau, fel egwyddor sylfaenol yn eich rhaglen?<\/span><\/p>\n<p class=\"MsoNormal\" style=\"margin-left: 36.0pt\"><span lang=\"CY\">\u2022 A oes cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu mewn sawl ffordd, er enghraifft yn gydamserol, neu'n anghydamserol trwy adnoddau ar-lein?<\/span><\/p>\n<p class=\"MsoNormal\" style=\"margin-left: 36.0pt\"><span lang=\"CY\">\u2022 A yw staff a myfyrwyr yn cyflwyno deunyddiau a gwybodaeth mewn amrywiaeth o ddulliau?<\/span><\/p>\n<p class=\"MsoNormal\" style=\"margin-left: 36.0pt\"><span lang=\"CY\">\u2022 A yw myfyrwyr yn gallu mynegi'r hyn y maen nhw\u2019n ei wybod mewn amrywiaeth o ffurfiau?<\/span><\/p>\n<p class=\"MsoNormal\" style=\"margin-left: 36.0pt\"><span lang=\"CY\">\u2022 Os nad oes modd cynnig dewis neu hyblygrwydd wrth asesu oherwydd gofynion eich corff proffesiynol, statudol a rheoleiddio, neu ofynion eich rhaglen, a ydych yn cynnig dull datblygu sgiliau sy\u2019n atgyfnerthu\u2019r hyn a ddysgwyd yn flaenorol sy\u2019n cynnwys cyfleoedd risg isel i ymarfer ac yn rhoi adborth?<\/span><\/p>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n<p>Mae pontio a llais y myfyriwr yn ystyriaethau canolog. Mae prosesau sefydlu, asesiadau ffurfiannol cynnar, a chyfleoedd strwythuredig i roi adborth yn gwneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn gallu llywio&#8217;r rhaglen yn llwyddiannus. Cewch ragor o wybodaeth am bontio ar y wefan Pontio Myfyrwyr Sharepoint hon.<\/p>\n<p>Mae ymgysylltu\u2019n barhaus \u00e2 chynrychiolwyr myfyrwyr a mecanweithiau gwerthuso ac adborth yn gwneud yn si\u0175r bod rhaglenni&#8217;n parhau i fod yn ymatebol, yn berthnasol ac yn effeithiol wrth ddiwallu anghenion dysgwyr. Cewch ragor o wybodaeth am Ymgysylltu \u00e2 Myfyrwyr ar y dudalen Ymgysylltu \u00e2 Myfyrwyr ar y fewnrwyd.<\/p>\n<h3><strong>Integreiddio \u00e2 Rhinweddau Graddedigion<\/strong><\/h3>\n<p>Er mai modiwlau yw&#8217;r prif gyfrwng dysgu, mae&#8217;r dyluniad ar lefel rhaglenni yn gwneud yn si\u0175r bod <strong>Rhinweddau Graddedigion wedi&#8217;u hymgorffori ar draws profiad y myfyriwr<\/strong>. Mae arferion cydweithredol, myfyriol, ymwybodol o foesoldeb, ac arloesol yn cael eu meithrin nid yn unig drwy weithgareddau dysgu penodol ond hefyd drwy strwythur rhaglenni, dilyniannu, a chynllunio asesiadau. Drwy integreiddio Rhinweddau Graddedigion \u00e2 chynnwys disgyblaethol, mae rhaglenni&#8217;n cynhyrchu graddedigion sydd nid yn unig yn gymwys yn academaidd ond hefyd yn alluog yn broffesiynol ac yn gyfrifol yn gymdeithasol.<\/p>\n<h3><strong>Casgliad<\/strong><\/h3>\n<p>Mae dyluniad, strwythur a dull cyflwyno rhaglenni ym Mhrifysgol Caerdydd yn fwriadol, yn gydlynol, ac yn canolbwyntio ar y myfyriwr. O&#8217;r rhesymeg gychwynnol y tu \u00f4l iddi hyd at ei chymeradwyo a&#8217;i rhoi ar waith yn y pen draw, mae dyluniad y rhaglen yn integreiddio gwybodaeth ddisgyblaethol, Rhinweddau Graddedigion, cynhwysiant, cynaliadwyedd, ac yn alinio asesiadau. Mae&#8217;r asgwrn cefn craidd gweladwy, dilyniant gofalus o fodiwlau, a deilliannau sydd wedi&#8217;u mapio yn gwneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn symud ymlaen drwy gwricwlwm cydlynol ac atgyfnerthol. Drwy ymgorffori Aliniad Adeiladol, meithrin profiadau dysgu dilys, a hyrwyddo graddedigion myfyriol, annibynnol, a chyfrifol yn gymdeithasol, mae Prifysgol Caerdydd yn gwneud yn si\u0175r bod pob rhaglen yn darparu addysg o ansawdd uchel, a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac sy&#8217;n berthnasol yn broffesiynol.<\/p>\n<h2><strong>2.Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion<\/strong><\/h2>\n<p>Yn ei hanfod, mae dylunio rhaglen astudio yn ymwneud \u00e2 diffinio&#8217;r galluoedd y dylai myfyrwyr eu dangos ar \u00f4l graddio. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae hyn yn cael ei fynegi drwy <strong>Ddeilliannau Dysgu Rhaglenni (PLOs)<\/strong>, sy&#8217;n gosod y safon ar gyfer yr hyn y disgwylir i fyfyrwyr ei wybod a\u2019i ddeall, ac yn gallu ei wneud erbyn diwedd eu rhaglen. Mae mwy iddyn nhw na datganiadau o\u2019r wybodaeth sydd wedi\u2019i chaffael; maen nhw\u2019n cwmpasu&#8217;r sgiliau deallusol, ymarferol a throsglwyddadwy sy&#8217;n ffurfio proffil cyfannol myfyriwr graddedig.<\/p>\n<p>Mae Deilliannau Dysgu Rhaglenni (PLOs) yn rhoi&#8217;r fframwaith sy\u2019n sail ar gyfer llunio\u2019r cwricwla o&#8217;i gwmpas, gan roi eglurder i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid allanol fel cyrff achredu a chyflogwyr. Maen nhw\u2019n llywio strategaethau addysgu, yn dylunio asesiadau, ac yn gwerthuso rhaglenni. Mae\u2019n gwneud yn si\u0175r bod y rhaglen yn parhau i fod yn gydlynol, yn flaengar, ac yn cyd-fynd \u00e2 blaenoriaethau sefydliadol a safonau cenedlaethol (Biggs a Tang, 2011; Purvis a Winwood, 2023).<\/p>\n<h3><strong>Swyddogaeth Deilliannau Dysgu wrth Ddylunio Rhaglenni<\/strong><\/h3>\n<p>Y deilliannau hyn yw\u2019r prif bwynt cyfeirio mewn <strong>dull dylunio am yn \u00f4l<\/strong>, sy&#8217;n dechrau gyda&#8217;r diwedd mewn golwg. Mae&#8217;r dull hwn yn gwneud yn si\u0175r bod pob modiwl, gweithgaredd ac asesiad o fewn y rhaglen yn cyfrannu&#8217;n ystyrlon at y deilliannau mewn golwg. Dyma egwyddor sydd wedi&#8217;i gwreiddio yn namcaniaeth <strong>aliniad adeiladol<\/strong> (Biggs, 1996). Yng Nghaerdydd, anogir timau rhaglenni i ystyried proffil y graddedigion yn gyntaf a gweithio am yn \u00f4l i ddiffinio deilliannau dysgu modiwlau, gweithgareddau dysgu, a strategaethau asesu sydd, gyda&#8217;i gilydd, yn galluogi myfyrwyr i gyflawni&#8217;r deilliannau hynny.<\/p>\n<p>Mae aliniad adeiladol yn atgyfnerthu cydlyniant y daith ddysgu, gan wneud yn si\u0175r bod profiadau dysgu myfyrwyr yn bwrpasol ac yn gronnus. Er enghraifft, gall modiwlau cyflwyniadol ganolbwyntio ar wybodaeth sylfaenol, gall modiwlau lefel ganolig bwysleisio elfennau cymhwyso a dadansoddi, ac mae prosiectau i gloi yn integreiddio cyfosod ac arloesedd. Drwy strwythuro dysgu yn y modd blaengar hwn, mae rhaglenni&#8217;n meithrin dealltwriaeth ddofn ac yn datblygu sgiliau. Gwneir hyn yn unol \u00e2 <strong>disgrifyddion lefel FHEQ<\/strong>, sy&#8217;n diffinio disgwyliadau o ran cymhlethdod, annibyniaeth, a soffistigedigrwydd deallusol ar bob lefel (QAA, 2024) (<a href=\"https:\/\/www.qaa.ac.uk\/docs\/qaa\/quality-code\/the-frameworks-for-higher-education-qualifications-of-uk-degree-awarding-bodies-2024.pdf?sfvrsn=3562b281_11&amp;utm_source=chatgpt.com\">qaa.ac.uk<\/a>).<\/p>\n<h3><strong>Categoreiddio Deilliannau Dysgu Rhaglenni<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Prifysgol Caerdydd yn dosbarthu deilliannau dysgu yn bedwar prif faes: <strong>Gwybodaeth a Dealltwriaeth, Sgiliau Deallusol, Sgiliau Proffesiynol\/Ymarferol, <\/strong>a<strong> Sgiliau Trosglwyddadwy neu Allweddol<\/strong>. Mae&#8217;r fframwaith hwn yn rhoi strwythur cyfannol sy&#8217;n cydbwyso gwybodaeth ddisgyblaethol \u00e2 sgiliau sy&#8217;n hanfodol ar gyfer cyflogaeth ac ymgysylltiad dinesig.<\/p>\n<p>Mae deilliannau Gwybodaeth a Dealltwriaeth yn disgrifio&#8217;r cynnwys disgyblaethol y disgwylir i fyfyrwyr ei ddeall. Mae Sgiliau Deallusol yn cwmpasu dadansoddi, gwerthuso a datrys problemau, gan adlewyrchu gallu myfyrwyr i ymgysylltu&#8217;n feirniadol \u00e2 gwybodaeth a thystiolaeth. Mae Sgiliau Proffesiynol neu Ymarferol yn ymwneud \u00e2 chymhwyso gwybodaeth ddisgyblaethol mewn cyd-destunau proffesiynol neu ddilys. Mae Sgiliau Trosglwyddadwy yn cynnwys cyfathrebu, cydweithio, myfyrio a hunanreolaeth, gan wneud yn si\u0175r bod graddedigion yn gallu addasu ac yn wydn.<\/p>\n<h3><strong>Deilliannau Graddedigion fel yr Edefyn Integreiddio<\/strong><\/h3>\n<p>Mae datblygu <strong>Deilliannau Graddedigion <\/strong>yn rhan annatod o athroniaeth ddylunio cwricwlwm Caerdydd ac mae\u2019n &#8220;edefyn aur&#8221; sy&#8217;n rhedeg drwy brofiad y myfyriwr. Dyluniwyd y rhinweddau hyn\u2014Cydweithredol, Cyfathrebwyr Effeithiol, Ymwybyddiaeth Foesegol, Gymdeithasol ac Amgylcheddol, Meddylwyr Annibynnol a Beirniadol, Arloesol a Mentrus, Myfyriol a Gwydn\u2014mewn cydweithrediad \u00e2 myfyrwyr, academyddion a chyflogwyr, i adlewyrchu&#8217;r galluoedd sydd eu hangen ar raddedigion yn eu bywydau personol, proffesiynol a chymdeithasol.<\/p>\n<p>Nid yw Rhinweddau Graddedigion yn cael eu trin fel elfennau atodol; yn hytrach, maen nhw wedi&#8217;u hymgorffori ym mhob agwedd ar y cwricwlwm. Er enghraifft, gall modiwl mewn polisi amgylcheddol ddatblygu ymwybyddiaeth foesegol a chymdeithasol drwy ddadansoddi astudiaethau achos yn feirniadol, meithrin arloesedd drwy ymarferion dylunio polis\u00efau, yn ogystal \u00e2 datblygu sgiliau cyfathrebu drwy gyflwyniadau gr\u0175p. Drwy fynd ati\u2019n fwriadol i gysylltu Deilliannau Dysgu Rhaglenni \u00e2 Rhinweddau Graddedigion, mae dylunwyr rhaglenni&#8217;n gwneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn gymwys yn academaidd ac yn meddu ar y cymwyseddau a ddisgwylir gan gyflogwyr a chyrff proffesiynol.<\/p>\n<h3><strong>Rhoi&#8217;r Aliniad rhwng Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion ar waith<\/strong><\/h3>\n<p>Mae\u2019r aliniad hwn yn cael ei roi ar waith drwy ddefnyddio offer fel <strong>Map<\/strong> <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_20832;rtpof=true&amp;sd=true#page1\"><strong>y Rhinweddau Graddedigion<\/strong>.<\/a> Mae hyn yn caniat\u00e1u i fyfyrwyr a staff ddelweddu&#8217;r cysylltiadau rhwng modiwlau penodol, Deilliannau Dysgu Rhaglenni, a&#8217;r rhinweddau y maen nhw\u2019n eu meithrin. Drwy ddefnyddio&#8217;r map, gall myfyrwyr weld sut mae dilyniant modiwlau yn datblygu eu harbenigedd pwnc a&#8217;u galluoedd trosglwyddadwy, gan ategu dysgu myfyriol a chynllunio datblygiad personol.<\/p>\n<p><strong>Nodweddion Graddedigion Prifysgol Caerdydd yw:<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-1241 media-1241\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/files\/2023\/08\/Picture-1.png\" alt=\"A decorative representation of the Graduate Attributes. Effective Communicators is represented by a student working in augmented reality wearing a black headset. Reflective and resilient is represented by a fingers posed to create a lens through which a field can be seen. Ethically, Socially and Environmentally Aware is represented by a hand holding a small globe against a blue sky. Innovative, Enterprising and Commercially Aware is represented by a low-angle of silver sky-scrapers. Independent and Critical Thinkers is represented by paperclips hanging like light bulbs in rising in height diagonally \u2013 the last of the 5 is depicted as a glowing yellow bulb. Collaborative is represented as a low-angled view of 5 smiling students.\" width=\"643\" height=\"434\" \/><\/figure>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Graduate Attributes Overview I Trosolwg Priodoleddau Graddedigion\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/4Rw6yEY4GeI?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Ar ben hynny, mae ymgorffori gweithgareddau myfyrio, portffolios ac asesiadau ffurfiannol yn rhan o fodiwlau yn galluogi myfyrwyr i fynegi sut mae eu profiadau dysgu yn cyfrannu at gyflawni Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion. Mae&#8217;r dull hwn nid yn unig yn hyrwyddo metawybyddiaeth, ond mae hefyd yn galluogi myfyrwyr i gymryd perchnogaeth dros eu datblygiad.<\/p>\n<h3><strong>Sicrhau Cydlyniant a Chynnydd<\/strong><\/h3>\n<p>Mewn rhaglen sydd \u00e2 strwythur cydlynol, rhaid ystyried yn ofalus sut mae deilliannau dysgu yn datblygu ar draws lefelau. Ar Lefel 4, gellir disgwyl i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth a sgiliau dadansoddi a gwerthuso sylfaenol. Erbyn Lefel 6 neu 7, dylai deilliannau adlewyrchu sgiliau gwybyddol uwch a mwy cynhwysfawr fel gwerthuso beirniadol, cyfosod, a datrys problemau yn annibynnol, yn unol \u00e2&#8217;r FHEQ a disgwyliadau mewnol Caerdydd (QAA, 2024).<\/p>\n<p>Mae\u2019r dull atgyfnerthol hwn yn gwneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn datblygu meistrolaeth yn raddol, a rhoddir cyfleoedd i atgyfnerthu sgiliau a gwybodaeth cyn mynd i&#8217;r afael \u00e2 thasgau integreiddiol cymhleth. Mae enghreifftiau naratif o fewn modiwlau yn atgyfnerthu&#8217;r dilyniant hwn: mae darlithoedd cyflwyniadol yn rhoi\u2019r sylfeini damcaniaethol, mae trafodaethau seminar yn hyrwyddo meddwl beirniadol, mae gwaith labordy neu waith maes yn galluogi cymhwysiad ymarferol, ac mae prosiectau i gloi yn galw am gyfosod, arloesedd a myfyrdod.<\/p>\n<h3><strong>Alinio \u00e2 Sicrhau Ansawdd a Meincnodi<\/strong><\/h3>\n<p>Er bod Caerdydd yn diffinio Deilliannau Dysgu ei Rhaglenni a&#8217;i Rhinweddau Graddedigion yn unol \u00e2 blaenoriaethau sefydliadol, maen nhw\u2019n cael eu meincnodi yn erbyn <strong>Datganiadau Meincnod Pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA)<\/strong> hefyd. Mae\u2019r rhain yn amlinellu disgwyliadau ar draws y sector ar gyfer gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau mewn disgyblaethau penodol. Mae alinio deilliannau \u00e2&#8217;r datganiadau allanol hyn yn gwneud yn si\u0175r bod y rhaglen yn cyd-fynd \u00e2 safonau academaidd y DU, gan olygu bod modd cymharu a dilysu\u2019n allanol (QAA, 2024).<\/p>\n<p>Mae\u2019r<strong> Templed Gwybodaeth am y Rhaglen<\/strong> yn ddogfen ffurfiol sy&#8217;n nodi&#8217;r deilliannau hyn ochr yn ochr \u00e2 strategaethau addysgu, dysgu ac asesu. Mae&#8217;n offeryn sy\u2019n galluogi cydlyniant mewnol yn ogystal ag arweiniad tryloyw i fyfyrwyr a rhanddeiliaid allanol, gan ddangos sut mae&#8217;r rhaglen yn bodloni disgwyliadau rheoleiddiol, proffesiynol ac addysgegol (QAA, 2024).<\/p>\n<h3><strong>Cynhwysiant a Chwarae Teg mewn Deilliannau Dysgu<\/strong><\/h3>\n<p>Un dimensiwn hollbwysig wrth ddatblygu Deilliannau Dysgu Rhaglenni yw gwneud yn si\u0175r eu bod yn gynhwysol ac yn hygyrch. Mae hyn yn cyd-fynd \u00e2 <strong>Fframwaith Addysg Gynhwysol <\/strong>Caerdydd, sy&#8217;n pwysleisio tegwch, chwarae teg, a darparu ar gyfer anghenion dysgu amrywiol. Dylid mynegi deilliannau mewn iaith glir a diamwys. Dylen nhw fod yn hygyrch i fyfyrwyr o gefndiroedd gwahanol, ac wedi&#8217;u cynllunio fel bod modd cyflawni mewn gwahanol ffyrdd. Mae ymgorffori cynhwysiant yn gwneud yn si\u0175r bod myfyrwyr sydd \u00e2 galluoedd, profiadau a hunaniaethau gwahanol yn gallu ymgysylltu&#8217;n ystyrlon \u00e2&#8217;r cwricwlwm. Cewch ragor o wybodaeth ar y tudalennau am y pecyn cymorth cynhwysiant.<\/p>\n<p>Wrth ddylunio Deilliannau Dysgu Rhaglenni, rydych yn creu&#8217;r amodau i asesu <em>pob<\/em> myfyriwr, beth bynnag fo&#8217;i ddimensiynau o ran amrywiaeth neu nodweddion. Felly, mae\u2019n hanfodol eich bod yn nodi safonau cymhwysedd y rhaglen, a\u2019r safonau academaidd, a\u2019ch bod yn ysgrifennu eich deilliannau dysgu mewn ffordd sy\u2019n cynyddu hyblygrwydd, dewis a thegwch yn eich asesiadau, i osgoi gwahaniaethu sefydliadol anfwriadol.<\/p>\n<p>Gwnewch yn si\u0175r nad yw eich deilliannau dysgu yn eithrio myfyrwyr yn anfwriadol am resymau nad ydyn nhw\u2019n gwbl angenrheidiol. Dylen nhw felly ymwneud \u00e2 safonau cymhwysedd y rhaglen neu&#8217;r maes disgyblaeth. Er enghraifft, os oes angen i fyfyrwyr ddangos sgiliau penodol mewn llythrennedd, dawn gymdeithasol, cyfathrebu neu ddeheurwydd i weithio gyda\u2019u dwylo, gall rhai o&#8217;ch dysgwyr fod dan anfantais. Bydd rhai o&#8217;r rhain yn safonau cymhwysedd hanfodol ar gyfer eich rhaglen, ond fel arall, efallai y bydd yn bosibl dylunio&#8217;r gofynion hyn, neu wneud addasiadau unigol ar gyfer rhai dysgwyr.<\/p>\n<p>Mae ysgrifennu Deilliannau Dysgu Rhaglenni Cynhwysol yn gwneud yn si\u0175r bod <em>pob<\/em> myfyriwr yn gallu dangos yr hyn y mae\u2019n ei wybod, neu&#8217;n gallu ei wneud, i&#8217;w alluogi i gyflawni&#8217;r deilliannau dysgu i&#8217;w lawn botensial. Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=Q0F_4DWtr08&amp;t=2s&amp;ab_channel=IncludeTrinity\">fideo defnyddiol hwn gan gr\u0175p Cytundeb Bologna<\/a> yn esbonio ymhellach\u00a0.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Learning Outcomes\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/Q0F_4DWtr08?start=2&#038;feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-programme-development-new-1-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Multiple Means of Action and Expression for Programme Learning Outcomes<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-programme-development-new-1-1\"><p>It is essential to design for varying forms of action and expression.\u00a0For example, all individuals approach learning tasks very differently, and may prefer to express themselves in written text but not speech, and vice versa.\u00a0It may not always be feasible to build in multiple options or choices for every activity or assessment, if a competence standard must be reached, but there should be diversity in assessment mode, as far as possible.<\/p>\n<p>It should also be recognised that action and expression require a great deal of strategy, practice, and organisation, and this is another area in which learners will differ.\u00a0In reality,\u00a0there is not one means of action and expression that will be optimal for every learner; options for action and expression are essential.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-programme-development-new-1-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Think about how learners are expected to act and express themselves. Design options that:<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-programme-development-new-1-2\"><ul>\n<li>Enable variety in interactions in responses, navigation, and movement, and enable options in interactions using accessible materials and assistive and accessible technologies and tools<\/li>\n<li>Provide options and flexibility for students in the expression and communication of their learning, through multiple media and multiple tools for construction, composition, and creativity, challenging exclusionary practices<\/li>\n<li>Build fluencies with graduated support for practice and performance, addressing biases related to modes of expression and communication<\/li>\n<li>Support students in strategy development and the setting of meaningful goals, enabling students to anticipate and plan for challenges and organise information and resources<\/li>\n<\/ul>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-programme-development-new-1-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Reflection: Do you design for:<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-programme-development-new-1-3\"><ul>\n<li>Choice or flexibility in responses, interactions, activities and collaborations within sessions?<\/li>\n<li>A range of accessible resources, tools and technologies for expression of learning<\/li>\n<li>Choice or flexibility in the mode students can demonstrate their knowledge or skills, such as written, spoken or multi-media?<\/li>\n<li>Scaffolded support for students to demonstrate essential skills in a particular mode, for example practice runs, formative tasks and clear criteria for skills as well as content?<\/li>\n<li>Support for goal setting, strategic planning, time-management and management of information, such as module and assessment maps, session plans and summaries of information resources?<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n<h3><strong>Deilliannau Dysgu Rhaglenni ac Addasiadau Rhesymol<\/strong><\/h3>\n<p>Mae gennych gyfrifoldeb i ddiffinio safonau cymhwysedd y rhaglen yn glir, cyn ysgrifennu&#8217;r deilliannau, er mwyn gwneud yn si\u0175r bod myfyrwyr ag Addasiadau Rhesymol ar gyfer asesiadau o dan ddarpariaethau&#8217;r Ddeddf Cydraddoldeb ar gyfer myfyrwyr anabl yn gallu cyflawni. Ni ddylai addasiadau rhesymol beryglu safonau cymhwysedd rhaglenni neu fodiwlau, gan nad yw\u2019r Ddeddf Cydraddoldeb yn gosod unrhyw ddyletswydd i wneud addasiad rhesymol i safon cymhwysedd. Mae safon cymhwysedd yn &#8216;safon academaidd, feddygol neu arall, a gymhwysir at y diben o benderfynu a oes gan berson lefel benodol o gymhwysedd neu allu&#8217;. Mae&#8217;n rhaid i safon cymhwysedd fod yr un mor berthnasol i bob myfyriwr, yn wirioneddol berthnasol i&#8217;r rhaglen, ac yn ffordd gymesur o gyflawni nod dilys.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, ceir dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i&#8217;r ffordd y caiff safon cymhwysedd ei hasesu fel na fydd myfyrwyr anabl dan anfantais o ganlyniad i&#8217;w hanabledd. Mae&#8217;n rhaid i addasiadau rhesymol beidio ag effeithio ar ddilysrwydd na dibynadwyedd y deilliannau asesu. Fodd bynnag, gallai\u2019r rhain gynnwys, er enghraifft, newid y trefniadau neu&#8217;r dull asesu arferol, addasu deunyddiau asesu, darparu ysgrifennydd neu ddarllenydd yn yr asesiad, ac ad-drefnu&#8217;r amgylchedd asesu.<\/p>\n<p>Ceir rhagor o ganllawiau a&#8217;r Polisi a&#8217;r Weithdrefn ar gyfer <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/teach-and-assess-students\/assessment-and-feedback\/preparing-and-supporting-students\/reasonable-adjustments\">Addasiadau Rhesymol ar gyfer Myfyrwyr Anabl ar fewnrwyd Prifysgol Caerdydd\u00a0<\/a>. Bu datblygiadau cyfreithiol diweddar yn y maes hwn yn 2024, ac fe gynhyrchwyd <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/knowledge-hub\/edi\/disabled-student-commitment\/competence-standards-and-reasonable-adjustments\">arweiniad gan Gomisiwn y Myfyrwyr Anabl<\/a> (a fabwysiadwyd gan Brifysgol Caerdydd): argymhellir eich bod yn darllen hwn cyn ysgrifennu eich deilliannau<\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-programme-development-new-2-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Creu Deilliannau Dysgu Cynhwysol: Enghraifft cam wrth gam:<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-programme-development-new-2-cy-1\"><p>I roi enghraifft, ystyriwch y deilliant dysgu hwn:<br \/>\n\u2022 Dadansoddwch y berthynas rhwng iaith dychan a\u2019r ffurf lenyddol drwy edrych yn fanwl ar nifer dethol o destunau'r ddeunawfed ganrif mewn traethawd ysgrifenedig.<\/p>\n<p>Yn gyntaf, byddech yn penderfynu a yw traethawd ysgrifenedig yn safon cymhwysedd ar gyfer y rhaglen hon: A yw hyn yn sgil hanfodol? A allai'r myfyriwr ddangos yr hyn y mae wedi\u2019i ddysgu mewn modd arall, megis cyflwyniad llafar?<\/p>\n<p>Mae'r<a href=\"https:\/\/betacdn.equalityhumanrights.com\/guidance\/advice-note-higher-education-sector-legal-case-university-bristol-vs-abrahart#what-we-think-compliance-with-the-law-looks-like-now\"> EHRC<\/a> yn datgan bod yn rhaid i brifysgolion 'wneud yn si\u0175r bod y staff academaidd sy'n gosod asesiadau yn gwybod pa agweddau ar eu prawf sy'n safonau cymhwysedd y mae'n rhaid eu bodloni, a pha agweddau yw'r dulliau asesu y gellir eu haddasu'n rhesymol'.<\/p>\n<p>Felly, os gellir cyfiawnhau bod dadansoddiad ysgrifenedig yn gymhwysedd craidd ar gyfer y rhaglen hon, gall y deilliant dysgu aros. Fel arall, gellid aralleirio'r meini prawf perfformiad i alluogi dulliau lluosog o weithredu a mynegi (gan ddefnyddio'r egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ), gyda\u2019r myfyriwr yn gallu cwblhau dadansoddiad llafar neu ysgrifenedig. Efallai y byddwch hefyd yn nodi nifer y testunau, i egluro disgwyliadau ar gyfer myfyrwyr. Er enghraifft:<\/p>\n<p>\u2022 Dadansoddwch y berthynas rhwng iaith dychan a\u2019r ffurf lenyddol drwy edrych yn ofalus ar ddeuddeg testun o'r ddeunawfed ganrif gan ddefnyddio'r dull cyflwyno a ffefrir gennych, sef naill ai gyflwyniad llafar wedi'i recordio neu draethawd ysgrifenedig.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n<h3><strong>Adolygu a Gwerthuso Deilliannau Dysgu<\/strong><\/h3>\n<p>Nid yw Deilliannau Dysgu Rhaglenni yn aros yr un fath. Mae angen eu monitro a&#8217;u hadolygu&#8217;n barhaus i wneud yn si\u0175r eu bod yn parhau\u2019n berthnasol ac effeithiol. Mae Prifysgol Caerdydd yn ymgorffori gwerthusiad o ddeilliannau dysgu yn ei <strong>chylchoedd Cymeradwyo ac Ailddilysu Rhaglenni<\/strong>, lle mae adborth gan fyfyrwyr, arholwyr allanol, cyflogwyr a staff academaidd yn llywio camau mireinio ailadroddol. Mae&#8217;r adolygiad cylchol hwn yn galluogi rhaglenni i barhau\u2019n gyfredol \u00e2 datblygiadau disgyblaethol, arloesedd addysgegol, yn ogystal \u00e2 newidiadau mewn arferion proffesiynol, gan wneud yn si\u0175r bod y dyfarniad yn gywir a chyfredol.<\/p>\n<h3><strong>Enghraifft Gymhwysol: Rhaglen Gynaliadwyedd<\/strong><\/h3>\n<p>Er enghraifft, gallai rhaglen Meistr ddamcaniaethol mewn Cynaliadwyedd fynegi ei deilliannau dysgu mewn fformat naratif: bydd graddedigion yn gwerthuso heriau amgylcheddol yn feirniadol mewn cyd-destunau economaidd-gymdeithasol, yn dylunio ymyriadau moesegol ac sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal \u00e2 chydweithio ar draws disgyblaethau i gynnig atebion arloesol. Ar draws y rhaglen, byddai modiwlau&#8217;n gweithio tuag at atgyfnerthu&#8217;r deilliannau hyn: mae modiwlau sylfaenol yn datblygu gwybodaeth gysyniadol; mae modiwlau lefel ganol yn pwysleisio sgiliau dadansoddol a gwerthuso; ac mae prosiectau i gloi yn integreiddio datrys gwaith problemau ymarferol, cydweithredol. Mae Rhinweddau Graddedigion fel Ymwybyddiaeth Foesegol, Meddwl yn Feirniadol ac Arloesedd ,wedi&#8217;u mapio&#8217;n glir ym mhob rhan o\u2019r rhaglen, gan wneud yn si\u0175r bod pob profiad dysgu yn cyfrannu&#8217;n ystyrlon at y proffil graddedigion mewn golwg.<\/p>\n<h3><strong>Casgliad<\/strong><\/h3>\n<p>Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd yw\u2019r sylfeini ar gyfer dylunio&#8217;r cwricwlwm, Maen nhw\u2019n gwneud yn si\u0175r bod pob elfen o&#8217;r daith ddysgu yn bwrpasol, yn gydlynol, ac yn cyd-fynd \u00e2 disgwyliadau sefydliadol a chenedlaethol. Drwy ymgorffori dilyniant, cynhwysiant a chynaliadwyedd, yn ogystal \u00e2 chyfleoedd myfyriol, mae rhaglenni&#8217;n meithrin graddedigion sydd nid yn unig yn wybodus, ond sydd hefyd yn alluog, yn gallu addasu, ac yn gyfrifol yn gymdeithasol. Mae integreiddio Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion yn gwneud yn si\u0175r bod profiad y myfyriwr yn gyfannol a thryloyw, a bod graddedigion yn cael eu grymuso a\u2019u paratoi i ffynnu mewn cyd-destunau proffesiynol a dinesig (Biggs a Tang, 2011; Purvis a Winwood, 2023).<\/p>\n<h2><strong>3. Cynllunio, Dylunio a Chyflwyno Asesiadau<\/strong><\/h2>\n<p>Asesu yw conglfaen unrhyw raglen academaidd. Mae\u2019n mesur cyflawniad myfyrwyr yn ogystal \u00e2 sbarduno dysgu. Ym Mhrifysgol Caerdydd, nid yw asesu\u2019n cael ei ystyried yn fecanwaith ar gyfer dyfarnu graddau yn unig. Mae hefyd yn elfen strategol ac annatod o ddylunio cwricwlwm yn ogystal \u00e2 dull dysgu sy\u2019n llywio profiad y myfyriwr ac yn meithrin datblygiad Rhinweddau Graddedigion. Ar ben hynny, mae\u2019n cynnal uniondeb a chymaroldeb cymwysterau ar draws y sector. Cewch hyd i ragor o fanylion am asesu ar y dudalen am <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cynwysoldeb\/grymuso-myfyrwyr-i-wireddu-eu-potensial\/asesu\/\">Asesiad Cynhwysol ym Mhecyn Cymorth Prifysgol Caerdydd.<\/a><\/p>\n<h3><strong>R\u00f4l Asesu mewn Dysgu<\/strong><\/h3>\n<p>Ym maes addysg uwch, mae asesu&#8217;n gweithredu ar draws tair r\u00f4l sy&#8217;n gorgyffwrdd. Yn gyntaf, mae <strong>asesu dysgu<\/strong> yn ardystio cyflawniad myfyrwyr ac yn helpu i wneud penderfyniadau ynghylch dilyniant, gan gyflawni dibenion crynodol sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 deilliannau ar lefel rhaglenni (Biggs a Tang, 2011). Yn ail, mae<strong> asesu ar gyfer dysgu<\/strong> yn rhoi adborth ffurfiannol sy&#8217;n arwain datblygiad parhaus myfyrwyr, gan eu helpu i nodi cryfderau a meysydd i&#8217;w gwella. Yn drydydd, mae <strong>asesu fel dull dysgu<\/strong> yn annog myfyrwyr i ymgysylltu \u00e2 metawybyddiaeth, gan fyfyrio ar eu prosesau dysgu eu hunain, gwella prosesau hunanreoleiddio, a&#8217;u paratoi ar gyfer ymarfer proffesiynol a dysgu gydol oes (Boud a Falchikov, 2006).<\/p>\n<p>Mae&#8217;r fframwaith cysyniadol hwn yn pwysleisio nad ychwanegiad at addysgu yw asesu effeithiol. Yn hytrach, mae\u2019n fecanwaith canolog ar gyfer adeiladu ac atgyfnerthu dysgu yn ogystal \u00e2 rhoi tystiolaeth ohono. Felly, mae&#8217;r aliniad rhwng <strong>Deilliannau Dysgu Rhaglenni<\/strong>, <strong>Deilliannau Dysgu Modiwlau<\/strong>, a <strong>dulliau asesu<\/strong> yn hollbwysig, gan ei fod yn rhoi cydlyniant rhwng yr hyn a ddysgir, sut y caiff ei ddysgu, a sut y dangosir cyflawniad (Biggs a Tang 2011).<\/p>\n<h3><strong>Alinio\u2019n Adeiladol wrth Ddylunio Asesiadau<\/strong><\/h3>\n<p>Mae dull asesu Prifysgol Caerdydd wedi&#8217;i wreiddio&#8217;n gadarn mewn <strong>alinio adeiladol<\/strong>, lle mae prosesau dylunio tasgau asesu yn adlewyrchu deilliannau bwriadol y rhaglen a&#8217;r dulliau addysgu a dysgu. Mae&#8217;r aliniad hwn yn gwneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn cael eu gwerthuso ar yr hyn y disgwylir iddyn nhw ei ddysgu, yn hytrach nag ar sgiliau neu gynnwys ymylol. Er enghraifft, os bydd y deilliannau dysgu yn ei gwneud yn ofynnol i raddedigion werthuso tystiolaeth yn feirniadol mewn cyd-destun disgyblaethol, rhaid i dasgau asesu roi cyfleoedd i ddangos y sgil hon, boed drwy ddadansoddiadau ysgrifenedig, gwerthusiadau o astudiaethau achos, neu brosiectau ymchwil cymhwysol.<\/p>\n<p>Mae alinio adeiladol yn cefnogi <strong>datblygiad cynyddol<\/strong> hefyd ar draws lefelau. Ar Lefel 4, gall asesiadau ganolbwyntio ar ddeall gwybodaeth sylfaenol a\u2019i chymhwyso. Ar Lefel 5, mae tasgau&#8217;n galw fwyfwy am ddadansoddi a chyfosod, ac ar Lefel 6 neu lefelau \u00f4l-raddedig, rhaid gwerthuso\u2019n feirniadol, arloesi ac integreiddio ymchwil annibynnol. Mae&#8217;r dull atgyfnerthol hwn yn gwneud yn si\u0175r bod strategaethau asesu yn meithrin galluoedd cynyddol soffistigedig ochr yn ochr \u00e2 thwf gwybyddol a phroffesiynol (QAA, 2024) (<a href=\"https:\/\/www.qaa.ac.uk\/docs\/qaa\/quality-code\/advice-and-guidance-assessment.pdf?utm_source=chatgpt.com\">qaa.ac.uk<\/a>).<\/p>\n<h3><strong>Dylunio ar gyfer Dilysrwydd a Pherthnasedd<\/strong><\/h3>\n<p><strong>Dilysrwydd<\/strong> yw un o egwyddorion canolog athroniaeth asesu Caerdydd. Mae asesiadau wedi&#8217;u cynllunio i adlewyrchu heriau&#8217;r byd go iawn ac arferion proffesiynol, gan bontio&#8217;r bwlch rhwng dysgu academaidd a chyflogadwyedd. Gallai asesiad dilys gynnwys paratoi adroddiadau, briffiau polisi, portffolios proffesiynol, arbrofion labordy, neu gynigion busnes, a bydd pob un wedi&#8217;i alinio \u00e2&#8217;r sgiliau penodol i&#8217;r ddisgyblaeth a&#8217;r Rhinweddau Graddedigion y mae&#8217;r rhaglen yn ceisio eu datblygu.<\/p>\n<p>Mae tasgau dilys yn meithrin ymgysylltiad a chymhelliant, gan ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddod o hyd i\u2019w ffordd drwy gymhlethdod, ansicrwydd a chyd-destunau rhyngddisgyblaethol, a thrwy hynny eu paratoi ar gyfer gofynion y gweithle. Yn arwyddocaol, mae asesu dilys yn annog creadigrwydd ac ymarfer myfyriol hefyd, gan fod yn rhaid i fyfyrwyr gyfiawnhau eu penderfyniadau, gwerthuso deilliannau, ac ystyried goblygiadau moesegol a chymdeithasol (Harden, 2001).<\/p>\n<h3><strong>Cynhwysiant, Hygyrchedd, a Chwarae Teg<\/strong><\/h3>\n<p>Rhaid dylunio asesiadau mewn modd cynhwysol a theg, gan ystyried amrywiaeth cefndiroedd, dewisiadau dysgu a galluoedd myfyrwyr. Mae ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i <strong>Addysg Gynhwysol<\/strong> ac egwyddorion <strong>Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL)<\/strong> yn gofalu bod asesiadau&#8217;n galluogi myfyrwyr i ddangos cyflawniad mewn sawl ffordd. Gallai hyn gynnwys cynnig fformatau amgen ar gyfer cyflwyniadau, gwaith ysgrifenedig, neu arteffactau digidol, gan gynnal safonau trylwyr.<\/p>\n<p>Mae cynhwysiant hefyd yn cynnwys eglurder cyfarwyddiadau, tryloywder meini prawf marcio, a rhoi adborth amserol ac adeiladol. Mae asesiadau wedi&#8217;u strwythuro i osgoi rhagfarn ac anfantais, ac rydym yn ystyried amrywiaeth ein myfyrwyr.<\/p>\n<h3>Ystyriaethau ar gyfer Strategaethau Asesu Cynhwysol<\/h3>\n<p>Ym Model Gwella\u2019r Fframwaith Addysg Gynhwysol (2023), amlygir cyfres o ystyriaethau at sylw timau rhaglenni ar gyfer asesu ac adborth:<\/p>\n<table width=\"614\">\n<tbody>\n<tr>\n<td width=\"614\"><strong>Mae ein t\u00eem rhaglen yn sicrhau\u2019r canlynol: <\/strong><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"614\">\n<table width=\"614\">\n<tbody>\n<tr>\n<td width=\"614\">Mae ein hasesiad wedi&#8217;i ddylunio ar lefel rhaglen, gan roi llwyth gwaith asesu hylaw i fyfyrwyr a lleihau gwrthdaro o ran dyddiadau cyflwyno gwaith<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"614\">Mae ein rhaglen yn defnyddio ystod o fformatau asesu, ac yn galluogi myfyrwyr i ddewis fformat asesu yn bersonol lle bo&#8217;n briodol<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"614\">Mae ein myfyrwyr wedi cael cyfle i ymarfer pob math o asesiad crynodol blwyddyn olaf yn gynharach yn y rhaglen, a deall y berthynas rhwng asesiadau ar wahanol lefelau<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"614\">Caiff ein hasesiadau eu hesbonio\u2019n glir i fyfyrwyr trwy ddogfennaeth modiwlau, deunyddiau ysgrifenedig a gweithgareddau yn y dosbarth, gan ddefnyddio iaith dryloyw a chyson i wneud gofynion yn glir<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"614\">Mae ein hasesiadau yn nodi\u2019r angen am ddewisiadau unigol eraill lle bynnag y bo modd (e.e. myfyrwyr yn cael dewis fformatau sain\/gweledol fel nad oes angen asesiad unigol arall ar fyfyrwyr ag amhariad ar y clyw\/golwg)<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"614\">Mae ein cynlluniau marcio wedi&#8217;u cysylltu&#8217;n glir \u00e2 deilliannau dysgu neu gymwyseddau i wneud yn si\u0175r bod y marcio&#8217;n briodol ac yn cyd-fynd \u00e2\u2019r cynllun asesu<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"614\">Nid yw ein cynlluniau marcio yn cosbi camgymeriadau mewn iaith ysgrifenedig neu gonfensiynau cyfeirnodi yn ormodol<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"614\">Mae sylwadau adborth marcwyr yn adeiladol, ac yn nodi ffyrdd y gall myfyrwyr wella eu gwaith ar gyfer aseiniadau yn y dyfodol.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"614\">Mae marcwyr yn rhoi adborth ffurfiannol perthnasol, \u00e2 ffocws ac amserol i gefnogi dysgu myfyrwyr<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"614\">Mae t\u00eem ein rhaglen yn sensitif i bryderon myfyrwyr ynghylch asesu ac adborth, felly maen nhw\u2019n creu diwylliant cefnogol o amgylch asesu, yn rhoi arweiniad clir, ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr fynegi pryderon<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<h3><strong>Cynllunio a Rheoli Llwyth Gwaith ar Lefel Rhaglenni<\/strong><\/h3>\n<p>Y ffordd fwyaf effeithiol o gynllunio asesiadau yw pan gaiff ei ystyried ar <strong>lefel y rhaglen<\/strong>, yn hytrach na fesul modiwl. Mae&#8217;r dull cyfannol hwn yn gofalu bod cydbwysedd priodol rhwng asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Mae\u2019n osgoi gorasesu, ac mae\u2019n dosbarthu&#8217;r llwyth gwaith yn rhesymol ar draws semestrau, i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae Prifysgol Caerdydd yn argymell creu <strong>Mapiau Asesu<\/strong>, sy&#8217;n manylu ar natur, pwysoliad ac amseriad pob asesiad ar draws modiwlau a lefelau. Mae&#8217;r mapiau hyn yn galluogi timau rhaglenni i nodi bylchau, unrhyw orgyffwrdd, neu ddyddiadau cau sydd tua\u2019r un amser a allai roi baich gormodol ar fyfyrwyr neu staff.<\/p>\n<p>Mae cynllunio ar lefel rhaglen hefyd yn gwneud yn si\u0175r bod asesiadau&#8217;n mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r holl ddeilliannau dysgu gyda&#8217;i gilydd ac yn cyfrannu&#8217;n ystyrlon at Rinweddau Graddedigion. Er enghraifft, gall prosiectau gr\u0175p, lleoliadau dysgu yn y gwaith, ac aseiniadau myfyriol ddatblygu cydweithio, ymwybyddiaeth foesegol, a meddwl yn feirniadol mewn ffyrdd na all modiwlau unigol eu gwneud ar eu pen eu hunain.<\/p>\n<h3><strong>Methodoleg ac Amrywiaeth Asesu<\/strong><\/h3>\n<p>Anogir amrywiaeth gyfoethog o ddulliau asesu i gofnodi&#8217;r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr ddangos yr hyn y maen nhw wedi\u2019i ddysgu. Mae Prifysgol Caerdydd yn galluogi\u2019r defnydd o aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau, tasgau ymarferol, cyflwyniadau, portffolios ac arteffactau digidol, ymhlith dulliau eraill. Dewisir pob dull yn seiliedig ar sut mae\u2019n cyd-fynd \u00e2&#8217;r deilliant dysgu mewn golwg a&#8217;i allu i roi tystiolaeth ddilys a dibynadwy o gyflawniad.<\/p>\n<p>Mae amrywiaeth mewn dulliau asesu yn gwella <strong>ymgysylltiad \u00e2 myfyrwyr<\/strong> hefyd yn ogystal \u00e2 darparu ar gyfer gwahanol anghenion dysgu. Er enghraifft, gallai myfyriwr sy\u2019n cael trafferth mewn arholiadau a amserir ragori mewn tasgau prosiect sydd \u00e2 phwyslais ar sgiliau cymhwysol a dadansoddi myfyriol. Lle bo&#8217;n briodol, gall rhaglenni gynnig dewis i fyfyrwyr o ran fformat asesu, ar yr amod nad yw hyn yn amharu ar brosesau cymharu na safonau.<\/p>\n<p><strong>I ystyried cynwysoldeb ac amrywiaeth eich asesiadau:<\/strong><\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-programme-development-new-3-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Mapiwch eich asesiadau i Ddeilliannau Dysgu'r Rhaglen<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-programme-development-new-3-cy-1\"><ul>\n<li>Nodwch unrhyw heriau o ran amrywiaeth: a oes unrhyw fathau penodol o asesu sy'n cael eu gorddefnyddio (er enghraifft yn ysgrifenedig yn erbyn ar lafar, arholiad yn erbyn gwaith cwrs)? (Gweler Mapio Asesiadau Rhaglenni Cynhwysol, isod.)<\/li>\n<\/ul>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-programme-development-new-3-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Mapiwch eich asesiadau yn \u00f4l taith y myfyriwr<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-programme-development-new-3-cy-2\"><ul>\n<li style=\"list-style-type: none;\">\n<ul>\n<li style=\"list-style-type: none;\">\n<ul>\n<li>Nodwch: clystyru, paratoadau cynnar ac isel ar gyfer mathau o asesiad, opsiynau posibl ar gyfer ychwanegu dewis wrth asesu, a chymorth digonol ar gyfer mathau newydd neu arloesol o asesu. Ystyriwch beth y gellir ei gynnig fel asesiadau amgen ar gyfer <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cynwysoldeb\/anabledd-a-dyslecsia\/\">myfyrwyr ag Addasiadau Rhesymol oherwydd anabledd, os nad yw cynllun cynhwysol ar gael oherwydd safonau cymhwysedd.<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-programme-development-new-3-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Mapiwch natur gymdeithasol eich asesiadau:<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-programme-development-new-3-cy-3\"><ul>\n<li>\n<ul>\n<li>Gellir creu arferion asesu trwy ddefnyddio 'addysgeg werin', gan ddefnyddio ffurfiau di-gwestiwn a chyffredin, sy'n cael eu normaleiddio ac sy\u2019n gallu ymyleiddio ac allg\u00e1u rhai myfyrwyr y mae arferion o'r fath yn anghyfarwydd ac yn anhygyrch iddyn nhw. Dadansoddwch eich asesiadau trwy lens Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ac Addysgeg sy'n Cynnal Diwylliannau (CSP) (Hanesworth et al. 2019), gan ein bod yn ymwybodol y gallwn ddefnyddio arferion cyfarwydd (fel y ffaith mai\u2019r traethawd ysgrifenedig sydd fwyaf cyffredin ym mhrifysgolion y DU), dros y rhai sy\u2019n fwy cyfarwydd mewn gwledydd eraill (fel arholiad llafar neu waith gr\u0175p). Gallwch ddarllen mwy am hyn ar y tudalennau D<a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cynwysoldeb\/anabledd-a-dyslecsia\/\">ylunio Cyffredinol<\/a> ar gyfer Dysgu \u00a0a '<a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cynwysoldeb\/grymuso-myfyrwyr-i-wireddu-eu-potensial\/\">Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial' \u00a0.<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n<p>Mapio Asesu Rhaglenni Cynhwysol<\/p>\n<p>Er mwyn mapio cynwysoldeb asesiadau ar raglen, mae angen inni gymhwyso egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu i alluogi myfyrwyr i ddefnyddio dulliau lluosog o weithredu a mynegi. Mae nodi&#8217;r dulliau asesu ar draws rhaglen yn ein galluogi i ddadansoddi&#8217;r ystod o wahanol ddulliau asesu a gynigir, a&#8217;r rhwystrau posibl i gyrhaeddiad ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr. Os caiff ei ddadansoddi fel llinell amser ar sail modiwlau \u00e2 chodau lliw, daw\u2019r defnydd mwyaf cyffredin o\u2019r dulliau asesu i\u2019r amlwg ynghyd \u00e2\u2019u llif:<\/p>\n<figure id=\"post-7502 media-7502\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/files\/2024\/11\/module-based-timeline.jpg\" alt=\"A 3 year map of a programme, showing assessments by mode for each semester. Semester 1 essay exam presentation Practical experiment group project exam. Semester 2 exam essay essay exam portfolio essay.\" \/><\/figure>\n<p>Llinell amser ar sail modiwlau o ddulliau asesu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dull hwn yn ein galluogi i weld yn yr enghraifft hon fod ystod resymol o ddulliau asesu ar draws y rhaglen, gyda rhai mathau o asesu llafar, digidol ac ymarferol. Fodd bynnag, mae semester 2 ym mlynyddoedd un a dau fel ei gilydd i gyd yn defnyddio dulliau asesu ysgrifenedig: efallai y bydd hyn yn fwy heriol i fyfyrwyr dyslecsig, neu\u2019r rhai y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddyn nhw. Mae dulliau asesu llafar yn creu llai o rwystrau i ddysgu na\u2019r dulliau asesu ysgrifenedig academaidd hyn ar gyfer y myfyrwyr hyn. Felly, byddai newid i un neu ddau o\u2019r dulliau asesu hyn yn decach i\u2019ch myfyrwyr amrywiol.<\/p>\n<p>O ran dilyniant, mae cyflwyniadau&#8217;n cael eu cyflwyno &#8211; yn ddefnyddiol iawn &#8211; yn y flwyddyn gyntaf cyn asesiadau cyflwyno lle mae&#8217;r mwyaf yn y fantol yn y blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, ni chyflwynir cwestiynau amlddewis ym mlwyddyn 1, a gallai prosiect ymchwil y traethawd hir gael ei gefnogi gan brosiectau ymchwil cynharach a llai ym mlynyddoedd 1 a\/neu 2.<\/p>\n<h3><strong>Asesu Ffurfiannol ac Adborth<\/strong><\/h3>\n<p>Mae asesu ffurfiannol yn elfen ganolog o addysg myfyrwyr ac mae\u2019n rhoi cyfleoedd i ymarfer, myfyrio a gwella. Mae Prifysgol Caerdydd yn pwysleisio pwysigrwydd <strong>adborth amserol ac y gellir ei roi ar waith<\/strong>. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall eu perfformiad mewn perthynas \u00e2 meini prawf asesu ac yn annog dulliau dysgu hunanreoledig (Nicol a Macfarlane-Dick, 2006). Dylai adborth fod yn adeiladol, yn benodol, ac wedi&#8217;i alinio \u00e2&#8217;r deilliannau dysgu, gan alluogi myfyrwyr i wneud gwelliannau pendant cyn asesiadau crynodol.<\/p>\n<p>Gall cyfleoedd ffurfiannol gynnwys cyflwyniadau drafft, ymarferion adborth gan gyd-fyfyrwyr, cwisiau digidol, dyddiaduron myfyriol, a seminarau rhyngweithiol. Yn arwyddocaol, mae asesu ffurfiannol yn atgyfnerthu Rhinweddau Graddedigion, gan ganiat\u00e1u i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau cydweithio, cyfathrebu a gwerthuso beirniadol mewn amgylchedd risg isel cyn cael eu hasesu&#8217;n ffurfiol.<\/p>\n<h3><strong>Meini Prawf, Marcio, a Chymedroli Asesiadau<\/strong><\/h3>\n<p>Mae cysondeb a thryloywder yn hanfodol wrth asesu. Mae Prifysgol Caerdydd yn rhoi <strong>meini prawf asesu cyffredinol<\/strong> ar gyfer pob lefel, gan wneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn deall y safonau sy&#8217;n ofynnol i gyflawni pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Arweinwyr modiwlau sy\u2019n gyfrifol am ddatblygu <strong>cyfarwyddiadau sy\u2019n benodol i dasgau<\/strong> ar gyfer asesiadau goddrychol, egluro disgwyliadau, ac arwain marcwyr i fod yn gyson.<\/p>\n<p>Mae <strong>Polisi Marcio a Chymedroli&#8217;r<\/strong> Brifysgol yn rhoi tegwch a chwarae teg ar draws modiwlau. Mae marcio dienw yn arfer safonol lle bo&#8217;n ymarferol, a chynhelir ymarferion safoni, ailfarcio, a phrosesau cymedroli i wneud yn si\u0175r bod modd cymharu. Mae arholwyr allanol yn adolygu samplau o waith a aseswyd, gan gadarnhau eu bod yn alinio \u00e2 safonau cenedlaethol a rhoi tawelwch meddwl bod asesiadau&#8217;n deg ac yn ddilys<\/p>\n<h3><strong>Technoleg, Asesiad Digidol, a Deallusrwydd Artiffisial<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod r\u00f4l esblygol technoleg a <strong>deallusrwydd artiffisial (DA)<\/strong> ym maes asesu. Anogir rhaglenni i ddylunio tasgau sy&#8217;n rhagweld defnydd cyfrifol o offer DA, megis gofyn i fyfyrwyr werthuso cynnwys a gynhyrchir gan DA, integreiddio offer digidol yn rhan o brosiectau, neu gymryd rhan mewn asesiadau amser real lle mae\u2019r defnydd o DA wedi&#8217;i gyfyngu. Mae cyfathrebu disgwyliadau yn glir ynghylch defnyddio DA yn hanfodol, gan gynorthwyo uniondeb academaidd wrth feithrin llythrennedd digidol ac ymgysylltiad beirniadol \u00e2 thechnolegau sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg.<\/p>\n<h3><strong>Safonau Asesu a Marciau Pasio<\/strong><\/h3>\n<p>Mae safonau asesu yn adlewyrchu gofynion rheoleiddiol a bwriad addysgegol. Mae&#8217;r marciau pasio gofynnol wedi&#8217;u gosod ar 40% ar gyfer lefelau israddedig (Lefelau FHEQ 3\u20136) a 50% ar gyfer lefelau \u00f4l-raddedig (Lefel 7 FHEQ), a cheir rheolau penodol sy&#8217;n llywodraethu ailasesu, capio a dilyniant. Ni ellir cydoddef modiwlau sydd wedi\u2019u dynodi\u2019n &#8220;fethiant critigol&#8221; oherwydd goblygiadau proffesiynol neu ddiogelwch, os oes rhaid pasio asesiadau &#8220;methiant gorfodol&#8221; i symud ymlaen. Mae&#8217;r rheolau hyn yn diogelu uniondeb dyfarniadau ac yn gofalu bod pawb sy\u2019n graddio yn bodloni meincnodau academaidd a phroffesiynol hanfodol.<\/p>\n<h3><strong>Ymgorffori Rhinweddau Graddedigion Trwy Asesu<\/strong><\/h3>\n<p>Mae pob asesiad yn cynnig y cyfle i ddatblygu Rhinweddau Graddedigion. Er enghraifft, gall adroddiad ymchwil ddatblygu sgiliau meddwl yn annibynnol, trylwyredd dadansoddol, a rhesymu moesegol; mae prosiect gr\u0175p yn meithrin cydweithio, cyfathrebu, a gwydnwch. Drwy fapio asesiadau i rinweddau a deilliannau yn benodol, mae timau rhaglenni&#8217;n gwneud yn si\u0175r nad offeryn mesur yn unig yw asesu, ond ei fod hefyd yn fodd o ddatblygu myfyrwyr. Mae&#8217;r <strong>Templed Mapio Rhinweddau Graddedigion<\/strong> yn cynorthwyo&#8217;r integreiddio hwn, gan gynnig mecanwaith tryloyw ar gyfer dylunio ac adolygu&#8217;r cwricwlwm.<\/p>\n<h3><strong>Adolygu a Gwella\u2019n Barhaus<\/strong><\/h3>\n<p>Mae strategaethau asesu yn cael eu hadolygu\u2019n rheolaidd i gynnal aliniad \u00e2 nodau&#8217;r rhaglen, gofynion rheoleiddiol ac arferion gorau ym maes addysgeg. Mae adborth myfyrwyr, adroddiadau arholwyr allanol, ac archwiliadau ansawdd mewnol yn llywio gwelliant ailadroddol, gan ofalu bod asesiadau\u2019n parhau i fod yn deg, yn ddilys, ac yn effeithiol. Ar ben hynny, mae adolygu parhaus yn caniat\u00e1u i raglenni ymateb i ddisgwyliadau disgyblaethol sy&#8217;n esblygu, technolegau sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg, a safonau proffesiynol newydd, gan ddiogelu perthnasedd a hygrededd dyfarniadau (QAA, 2024).<\/p>\n<h3><strong>Enghraifft esboniadol<\/strong><\/h3>\n<p>Ystyriwch raglen Meistr mewn Dadansoddeg Data. Mae asesiadau wedi&#8217;u cynllunio i wneud yn si\u0175r bod dilyniant a bod rhinweddau\u2019n cael eu datblygu. Ar Lefel 7, mae myfyrwyr yn ymgymryd \u00e2 phrosiect i gloi lle mae angen integreiddio technegau ystadegol, ystyriaeth foesegol o ddefnyddio data, cyfleu canfyddiadau i gynulleidfaoedd anarbenigol, ac ymgysylltu \u00e2 chyd-fyfyrwyr. Mae gwaith ffurfiannol, fel ymarferion cyn-brosesu data a dadansoddiadau drafft, yn helpu i ddatblygu sgiliau ac yn cynnig adborth i fireinio dull a methodoleg. Drwy\u2019r dilyniant asesu hwn sydd wedi\u2019i strwythuro\u2019n ofalus, mae myfyrwyr yn datblygu meistrolaeth ar y pwnc ac yn meithrin Rhinweddau Graddedigion ar yr un pryd, gan gynnwys meddwl yn feirniadol, cydweithio a gwydnwch.<\/p>\n<h3><strong>Casgliad<\/strong><\/h3>\n<p>Nid mecanwaith ar gyfer dyfarnu graddau yn unig yw asesu ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae\u2019n elfen ganolog o waith dylunio rhaglenni a datblygiad myfyrwyr. Drwy alinio asesiadau \u00e2 Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion, ymgorffori cynhwysiant a hygyrchedd, gofalu bod cydbwysedd ffurfiannol a chrynodol, yn ogystal \u00e2 glynu wrth brosesau marcio a chymedroli trylwyr, mae rhaglenni&#8217;n meithrin profiadau dysgu ystyrlon a dilys. Drwy wneud hyn, mae asesu ar yr un pryd yn ardystio cyflawniad, yn hyrwyddo dysgu, ac yn paratoi myfyrwyr i ffynnu&#8217;n academaidd, yn broffesiynol, ac yn bersonol mewn sefyllfaoedd cymhleth a deinamig.<\/p>\n<h2>4.<strong>Dylunio Modiwlau<\/strong><\/h2>\n<p>Modiwlau yw blociau adeiladu sylfaenol unrhyw raglen addysg uwch. Maen nhw\u2019n unedau dysgu arwahanol a chydlynol sydd, gyda&#8217;i gilydd, yn galluogi myfyrwyr i gyflawni Deilliannau Dysgu Rhaglenni a datblygu Rhinweddau Graddedigion. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae modiwlau\u2019n cael eu dylunio mewn modd cyfannol, gan integreiddio cynnwys, addysgeg, asesu a datblygu sgiliau mewn modd sy\u2019n adlewyrchu blaenoriaethau sefydliadol, canllawiau QAA ac arferion gorau\u2019r sector.<\/p>\n<h3><strong>Diben a R\u00f4l Modiwlau<\/strong><\/h3>\n<p>Mae gan bob modiwl sawl pwrpas o fewn rhaglen. Yn bennaf, mae&#8217;n rhoi gwybodaeth ddisgyblaethol a sgiliau ymarferol sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 deilliannau dysgu, gan roi cyfleoedd strwythuredig i fyfyrwyr ymgysylltu, cymhwyso a chydgrynhoi dysgu. Mae modiwlau yn gerrig milltir cynyddol hefyd, gan atgyfnerthu datblygiad deallusol a phroffesiynol myfyrwyr ar draws lefelau FHEQ. Er enghraifft, mae modiwlau lefel gynnar (Lefel 4\/5) yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth sylfaenol, mae modiwlau lefel ganol (Lefel 5\/6) yn rhoi pwyslais ar gymhwyso a dadansoddi, ac mae modiwlau uwch (Lefel 6\/7) yn annog gwerthuso beirniadol, cyfosod ac ymchwil annibynnol (Biggs a Tang, 2011).<\/p>\n<p>Ar ben hynny, mae modiwlau&#8217;n hollbwysig er mwyn ymgorffori Rhinweddau Graddedigion. Drwy integreiddio strategaethau addysgu a gweithgareddau dysgu ac asesu yn ofalus, mae modiwlau&#8217;n meithrin sgiliau cydweithredol, rhesymu moesegol, arloesedd, gwydnwch ac ymarfer myfyriol. Mae&#8217;r dull integredig hwn yn gofalu bod myfyrwyr yn datblygu mewn modd cyfannol, a heb fod yn gyfyngedig i ddysgu gwybyddol neu ddisgyblaethol yn unig.<\/p>\n<h3><strong>Strwythur y Modiwl a&#8217;r Prif Gydrannau<\/strong><\/h3>\n<p>Cynrychiolir modiwl Prifysgol Caerdydd yn ffurfiol mewn <strong>disgrifydd modiwl<\/strong>. Mae hwn yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o bwrpas, cynnwys a deilliannau dysgu\u2019r modiwl, ei strategaethau addysgu a dysgu, ei ddulliau asesu, a\u2019r cyfleoedd a gynigir ynddo i ddatblygu sgiliau. Mae disgrifydd y modiwl yn ddogfen ddylunio fewnol ac yn arweiniad i fyfyrwyr, gan wneud yn si\u0175r bod tryloywder a chysondeb. Mae\u2019n ddogfen ffurfiol, ac ar \u00f4l ei chymeradwyo, ni ellir ei newid heb i Fwrdd Astudiaethau ei hystyried. Ar gyfer newidiadau mwy sylweddol, rhaid cael cymeradwyaeth drwy brosesau Sicrhau Ansawdd.<\/p>\n<p>Mae <strong>Manylion y Modiwl<\/strong> yn sefydlu hyd a lled ymarferol yr hyn a ddysgir, gan gynnwys ei werth o ran credyd, oriau astudio, a lefel FHEQ. Mae modiwlau fel arfer yn amrywio o 10 i 40 credyd, ac mae uchafswm o 40 credyd ar gyfer darpariaeth safonol, ac eithrio prosiectau estynedig, lleoliadau gwaith, neu draethodau hir. Mae hyn yn gofalu bod y llwyth gwaith yn hylaw ac yn gymaradwy ar draws y Brifysgol. Mae dynodi\u2019n glir yr oriau astudio, yr amser cyswllt, a\u2019r disgwyliadau o ran dysgu annibynnol gan ganiat\u00e1u i fyfyrwyr gynllunio&#8217;n effeithiol a helpu i roi cyfleoedd dysgu teg.<\/p>\n<p>Mae <strong>Amlinelliad\/Disgrifiad y Modiwl<\/strong> yn rhoi crynodeb hygyrch o gynnwys, amcanion a rhesymeg y modiwl. Mae dau ddiben i\u2019r adran hon: cyfleu gwerth unigryw&#8217;r modiwl i fyfyrwyr, a rhoi cyd-destun i&#8217;r hyn a ddysgir o fewn y rhaglen ehangach. Dylai disgrifiadau fod yn gryno ond yn ddiddorol, gan dynnu sylw at y profiadau dysgu penodol a gynigir a&#8217;r cysylltiadau \u00e2 Rhinweddau Graddedigion. Er enghraifft, gallai modiwl \u201cCynllunio Trefol Cynaliadwy\u201d amlinellu sut y bydd myfyrwyr yn dadansoddi fframweithiau polisi yn feirniadol, dylunio ymyriadau sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth, a chydweithio mewn timau amlddisgyblaethol, a thrwy hynny\u2019n cysylltu dysgu ag arbenigedd disgyblaethol a sgiliau proffesiynol.<\/p>\n<h3><strong>Deilliannau Dysgu Modiwlau<\/strong><\/h3>\n<p>Deilliannau Dysgu Modiwlau yw\u2019r conglfaen ar gyfer dylunio modiwlau\u2019n effeithiol. Maen nhw\u2019n diffinio&#8217;r wybodaeth, y sgiliau a&#8217;r galluoedd y disgwylir i fyfyrwyr eu dangos ar \u00f4l cwblhau. Mae Prifysgol Caerdydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddeilliannau dysgu modiwlau fod <strong>yn gynhwysol, yn benodol, yn arsylladwy, yn fesuradwy, ac iddyn nhw gyd-fynd<\/strong> \u00e2\u2019r deilliannau dysgu. Dylai deilliannau dysgu modiwlau gael eu hanelu at y lefel FHEQ briodol, gan adlewyrchu&#8217;r cymhlethdod, y dyfnder a&#8217;r annibyniaeth a ddisgwylir yn y cam dysgu hwnnw (QAA, 2024).<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Brifysgol yn rhoi canllawiau ar ddrafftio deilliannau dysgu cadarn ar gyfer modiwlau, gan bwysleisio&#8217;r defnydd o <strong>ferfau gweithredu<\/strong> a dynnwyd o ddosbarthiad diwygiedig Bloom (Anderson a Krathwohl, 2001). Dylai pob deilliant dysgu mewn modiwl ganolbwyntio ar un deilliant y gellir ei arsylwi, gan osgoi berfau amwys fel \u201cdeall\u201d, \u201cgwerthfawrogi\u201d neu \u201cgwybod\u201d. Er enghraifft, yn hytrach na datgan \u201cdeall dulliau ymchwil,\u201d byddai deilliant dysgu mewn modiwl yn nodi, \u201cGwerthuso dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol yn feirniadol yng nghyd-destun y gwyddorau cymdeithasol.\u201d<\/p>\n<p>Mae deilliannau dysgu modiwlau <strong>wedi&#8217;u mapio&#8217;n benodol i ddeilliannau dysgu rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion<\/strong> hefyd gan ddefnyddio templedi mapio&#8217;r Brifysgol. Mae&#8217;r mapio hwn yn gwneud yn si\u0175r bod pob modiwl yn cyfrannu&#8217;n ystyrlon at ddeilliannau ar lefel rhaglenni yn ogystal \u00e2 chynnig llwybr datblygiadol cydlynol i fyfyrwyr. Mae mapio o gymorth hefyd o ran sicrhau ansawdd, gan ganiat\u00e1u i dimau rhaglenni ac arholwyr allanol wneud yn si\u0175r bod yr holl ddeilliannau&#8217;n cael sylw a&#8217;u hasesu&#8217;n briodol. Yn yr modd \u00e2 Deilliannau Dysgu Rhaglenni, dylai Deilliannau Dysgu Modiwlau fod <strong>yn gynhwysol,<\/strong> felly dylech wneud yn si\u0175r nad yw eich deilliannau dysgu yn eithrio myfyrwyr yn anfwriadol am resymau nad ydyn nhw\u2019n gwbl angenrheidiol. Dylen nhw felly ymwneud \u00e2 safonau cymhwysedd y rhaglen neu&#8217;r maes disgyblaeth.<\/p>\n<h3><strong>Dulliau Cyflwyno ac Agweddau Addysgegol<\/strong><\/h3>\n<p>Mae cyflwyno modiwlau&#8217;n effeithiol yn hanfodol er mwyn cyflawni deilliannau dysgu modiwlau. Mae Prifysgol Caerdydd yn annog <strong>dysgu gweithredol, dulliau cyfunol, ac addysgegau dilys<\/strong> fel bod cymaint o ymgysylltiad, cynhwysiant, a datblygu sgiliau \u00e2 phosibl (Biggs, 1999; Purvis a Winwood, 2023). Gall dulliau cyflwyno gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, sesiynau labordy, gweithdai, gwaith maes, gweithgareddau ar-lein, a phrosiectau cydweithredol. Mae&#8217;r dulliau a ddewisir yn cael eu harwain gan y cynnwys, y deilliannau bwriadol, ac anghenion amrywiol myfyrwyr.<\/p>\n<p>Mae dysgu cyfunol, sy&#8217;n cyfuno elfennau wyneb yn wyneb ac ar-lein, yn gynyddol safonol, gan ganiat\u00e1u hyblygrwydd a hygyrchedd wrth annog myfyrwyr i fod yn annibynnol. Mae <strong>Fframwaith Dysgu Cyfunol<\/strong> y Brifysgol yn annog technolegau rhyngweithiol i gael eu hintegreiddio. Mae\u2019r rhain yn cynnwys labordai rhithwir, byrddau trafod, a chwisiau digidol ffurfiannol, i gynorthwyo ymgysylltiad gweithredol a dysgu atgyfnerthol ar draws gwahanol gyd-destunau (<a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/blended-learning\/?utm_source=chatgpt.com\">sites.cardiff.ac.uk<\/a>).<\/p>\n<p>Ar ben hynny, dylid cynllunio dull cyflwyno\u2019r modiwlau gan ystyried <strong>egwyddorion Addysg Gynhwysol a Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL). <\/strong>Bydd hyn yn gwneud yn si\u0175r bod dulliau addysgu yn ystyried anghenion dysgu, cefndiroedd diwylliannol, profiadau a nodweddion amrywiol myfyrwyr. Mae strategaethau sy&#8217;n defnyddio egwyddorion UDL, fel cyflwyno cynnwys aml-foddol, cyfarwyddiadau clir, gweithgareddau dysgu amrywiol, a chymorth atgyfnerthol, yn hyrwyddo cydraddoldeb a hygyrchedd, gan alluogi pob myfyriwr i ddangos eu galluoedd.<\/p>\n<p>Bydd cyflwyno modiwlau cynhwysol yn ystyried y materion canlynol o leiaf:<\/p>\n<ul>\n<li>datblygu adnoddau (fel yr un strwythur \u00e2 holl dudalennau modiwlau Dysgu Canolog ar raglen, er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i lywio)<\/li>\n<li>darparu adnoddau (fel darparu adnoddau 48 awr ymlaen llaw, a darpariaeth safonol o recordiadau neu nodiadau am sesiynau)<\/li>\n<li>cyfleoedd ar gyfer cymorth ac ymholiadau (megis defnyddio dull safonol o ymdrin ag ymholiadau personol, anghydamserol ac anhysbys yngl\u0177n \u00e2 phob modiwl).<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gallwch werthuso dull cyflwyno arfaethedig eich modiwl ar gyfer addysg gynhwysol drwy ddefnyddio Model Gwella Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd. Dylai pob aelod o staff sy&#8217;n addysgu ar y modiwl fod yn ymwybodol o&#8217;r disgwyliadau o ran cynhwysiant yn ystod sesiynau addysgu. Mae hyn er mwyn gwneud yn si\u0175r bod addysgu&#8217;n gwella ymdeimlad myfyrwyr o berthyn a pharch at amrywiaeth, yn ogystal \u00e2 galluogi cyfleoedd i ddefnyddio sawl dull o gynrychioli ac ymgysylltu.<\/p>\n<p>Ar ben hynny, mae monitro a gwerthuso modiwlau&#8217;n rheolaidd yn hanfodol er mwyn gwneud yn si\u0175r bod yr egwyddorion hyn yn cael eu rhoi ar waith a&#8217;u hymgorffori.<\/p>\n<h3><strong>Integreiddio Sgiliau<\/strong><\/h3>\n<p>Mae modiwlau ym Mhrifysgol Caerdydd yn integreiddio <strong>sgiliau disgyblu, proffesiynol a throsglwyddadwy <\/strong>yn fwriadol. Mae sgiliau penodol i&#8217;r pwnc yn datblygu arbenigedd o fewn y maes academaidd, megis technegau arbrofol mewn gwyddoniaeth, dadansoddi polis\u00efau yn y gwyddorau cymdeithasol, neu ddatblygu algorithmau ym maes cyfrifiadura. Mae sgiliau proffesiynol ac ymarferol, fel rheoli prosiectau, diogelwch labordy, ac ymarfer moesegol, yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyd-destunau proffesiynol a gofynion rheoleiddiol. Mae sgiliau trosglwyddadwy, sy&#8217;n cwmpasu cyfathrebu, cydweithio, meddwl yn feirniadol a llythrennedd digidol, yn sail i gyflogadwyedd a dysgu gydol oes.<\/p>\n<p>Mae mynegi&#8217;r sgiliau hyn yn eglur mewn disgrifyddion modiwlau yn gwneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn ymwybodol o&#8217;r cymwyseddau y maent yn eu datblygu a&#8217;u bod nhw&#8217;n gallu eu cysylltu \u00e2 Rhinweddau Graddedigion. Er enghraifft, gall prosiect gr\u0175p mewn modiwl busnes ddatblygu arbenigedd pwnc (dadansoddi ariannol), sgiliau proffesiynol (ymgysylltu \u00e2 chleientiaid), a sgiliau trosglwyddadwy (gwaith t\u00eem, cyfathrebu, gwydnwch) ar yr un pryd.<\/p>\n<h3><strong>Strategaeth asesu<\/strong><\/h3>\n<p>Mae asesiad modiwl wedi&#8217;i gynllunio i roi tystiolaeth ddilys a dibynadwy bod deilliannau dysgu\u2019r modiwl wedi&#8217;u cyflawni wrth atgyfnerthu dysgu. Mae pob modiwl yn cynnwys cyfuniad o <strong>asesiadau ffurfiannol a chrynodol<\/strong>, ac mae pwysoliadau, dyddiadau cau, a mecanweithiau adborth yn cael eu mynegi\u2019n glir. Mae asesiadau ffurfiannol yn rhoi cyfleoedd i ymarfer a myfyrio, gan alluogi myfyrwyr i fireinio sgiliau a dealltwriaeth cyn cynnal gwerthusiad crynodol. Mae asesiadau crynodol yn tystio cyflawniad ac yn cyfrannu at raddau terfynol, gan sicrhau cymhariaeth a thegwch ar draws modiwlau a rhaglenni.<\/p>\n<p>Caiff asesiadau eu dylunio ar sail egwyddorion <strong>dilysrwydd, cynhwysiant, a dysgu sydd wedi&#8217;i alinio&#8217;n adeiladol<\/strong>. Dewisir tasgau i adlewyrchu heriau&#8217;r byd go iawn, confensiynau disgyblu, a disgwyliadau proffesiynol. Er enghraifft, gall modiwlau labordy gynnwys arbrofion ymarferol a asesir trwy adroddiadau labordy, dyddiaduron myfyriol, ac arholiadau llafar. Ar y llaw arall, gall modiwlau gwyddorau cymdeithasol gyfuno traethodau, dadansoddiadau o astudiaethau achos, a chyflwyniadau gr\u0175p.<\/p>\n<p>Mae <strong>Polisi Marcio a Chymedroli&#8217;r<\/strong> Brifysgol yn sicrhau cysondeb, tegwch a thryloywder. Mae marcio\u2019n cael ei wneud yn ddienw lle bo&#8217;n ymarferol. Cynhelir ymarferion safoni cyn-marcio, ac mae camau cymedroli \u00f4l-farcio yn gwneud yn si\u0175r bod yr holl farcwyr yn gyson. Mae arholwyr allanol yn adolygu samplau o waith a aseswyd i gadarnhau bod modd cymharu safonau \u00e2 sefydliadau eraill yn y DU, gan roi sicrwydd o drylwyredd academaidd a thegwch (<a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/assessment\/?utm_source=chatgpt.com\">sites.cardiff.ac.uk<\/a>).<\/p>\n<h3><strong>Cynnwys y Maes Llafur ac Integreiddio&#8217;r Cwricwlwm<\/strong><\/h3>\n<p>Mae&#8217;r <strong>maes llafur<\/strong> yn rhoi manylion am yr hyn sydd yn y modiwl, gan gynnwys cysyniadau allweddol, damcaniaethau, technegau ymarferol, a chysylltiadau \u00e2 gofynion cyrff proffesiynol neu statudol, lle bo&#8217;n berthnasol. Dylid cynllunio modiwlau i ategu cydrannau eraill y rhaglen, gan osgoi dyblygu wrth atgyfnerthu gwybodaeth a sgiliau craidd. Mae&#8217;r integreiddio hwn yn gwneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn dilyn llwybr dysgu cydlynol a bod pob modiwl yn cyfrannu&#8217;n strategol at Ddeilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion.<\/p>\n<p>Os bydd rhaglenni&#8217;n rhannu modiwlau, rhoddir sylw penodol i <strong>wahaniaethu<\/strong> er mwyn diogelu uniondeb y dyfarniadau. Hyd yn oed pan fydd y cynnwys yn gorgyffwrdd, mae deilliannau dysgu, gofynion asesu, a dulliau addysgegol wedi&#8217;u teilwra i bob rhaglen, gan wneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn cyflawni&#8217;r proffil graddedig bwriadol heb gyfaddawdu.<\/p>\n<h3><strong>Dylunio Ailadroddol a Gwella\u2019n Barhaus<\/strong><\/h3>\n<p>Mae dylunio modiwlau yn ei hanfod yn broses<strong> ailadroddol<\/strong> ac mae wedi&#8217;i llywio gan ymchwil addysgegol, adborth myfyrwyr, a phrosesau sicrhau ansawdd. Mae Prifysgol Caerdydd yn hyrwyddo gwelliant parhaus drwy fecanweithiau megis adolygiadau modiwlau, arolygon myfyrwyr, myfyrdodau staff, a phrosesau ailddilysu. Mae&#8217;r dull hwn yn gwneud yn si\u0175r bod modiwlau&#8217;n parhau i fod yn gyfredol, yn berthnasol ac yn effeithiol, gan fynd i&#8217;r afael \u00e2 newidiadau yn y ddisgyblaeth, datblygiadau technolegol a safonau proffesiynol sy&#8217;n esblygu.<\/p>\n<p>Er enghraifft, gellir diweddaru modiwl cyfrifiadura yn flynyddol i ymgorffori ieithoedd rhaglennu neu arferion seiberddiogelwch sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg. Yn yr un modd, gellir mireinio gweithgareddau asesu myfyriol i gynorthwyo ymgysylltiad myfyrwyr, a datblygu Rhinweddau Graddedigion yn well. Mae&#8217;r mireinio parhaus hwn yn cynnal uniondeb academaidd a pherthnasedd ymarferol modiwlau.<\/p>\n<p>Wrth fonitro, gwerthuso neu fyfyrio ar eich rhaglen, ystyriwch pa mor gynhwysol yw profiad y myfyrwyr i wneud yn si\u0175r eich bod yn casglu lleisiau&#8217;r <em>holl<\/em> fyfyrwyr, drwy ystod o dechnegau myfyrio a gwerthuso. Mae gan <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/knowledge-hub\/guidance-collection-diversity-monitoring-data\">Advance HE ganllawiau manwl ar gyfer casglu a monitro data am amrywiaeth.<\/a>\u00a0 Ystyriwch hefyd sut y byddwch yn casglu gwerthusiadau a barn grwpiau sy&#8217;n aml yn cael eu gwthio i&#8217;r cyrion neu eu heithrio o werthusiadau myfyrwyr, partneriaethau a gweithgareddau cyd-greu traddodiadol, i wneud yn si\u0175r eich bod yn parchu ac yn casglu lleisiau pawb. Mae llawer o\u2019n myfyrwyr mwyaf difreintiedig yn brin o amser ac yn cael llai o gyfle i gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau. Felly, gwnewch yn si\u0175r bod modd cydweithio, cyd-greu a gwerthuso ar wahanol adegau, gan ddefnyddio ystod o ddulliau, megis ar lafar neu\u2019n ysgrifenedig. Gallwch hefyd hunanfyfyrio: monitro a gwerthuso eich rhaglen ar gyfer addysg gynhwysol drwy ddefnyddio&#8217;r Model Gwella Addysg Gynhwysol.<\/p>\n<h3><strong>Ymgorffori Rhinweddau Graddedigion<\/strong><\/h3>\n<p>Mae pob modiwl yn cyfrannu&#8217;n benodol at <strong>Rinweddau Graddedigion<\/strong>, gan integreiddio datblygiad gwybyddol, proffesiynol a moesegol mewn gweithgareddau dysgu ac asesiadau. Mae offer mapio ac ymarferion myfyriol yn caniat\u00e1u i fyfyrwyr gydnabod a mynegi&#8217;r sgiliau a&#8217;r rhinweddau a ddatblygwyd ym mhob modiwl. Mae&#8217;r broses hon yn hyrwyddo hunanymwybyddiaeth, gwydnwch, a pharodrwydd ar gyfer ymarfer proffesiynol, gan wneud yn si\u0175r bod galluoedd graddedigion yn gydlynol, yn gronnus, ac yn weladwy ar draws y rhaglen.<\/p>\n<h3><strong>Casgliad<\/strong><\/h3>\n<p>Mae dylunio modiwlau ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddull bwriadol ac integredig ym maes addysg uwch. Mae\u2019n gwneud yn si\u0175r bod pob profiad dysgu yn cyfrannu&#8217;n ystyrlon at ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a rhinweddau. Drwy gyfuno deilliannau trylwyr, addysgeg ddilys a chynhwysol, aliniad adeiladol, a gwelliant parhaus, y modiwlau yw\u2019r cyfryngau sy\u2019n galluogi Deilliannau Dysgu Rhaglenni i gael eu gwireddu yn ogystal ag integreiddio Rhinweddau Graddedigion. Mae dylunio modiwlau mewn modd meddylgar yn gwneud mwy na gwarantu safonau academaidd ac uniondeb dyfarniadau. Mae hefyd yn grymuso myfyrwyr i ymgysylltu&#8217;n ddwfn \u00e2&#8217;u disgyblaeth, datblygu sgiliau proffesiynol a throsglwyddadwy, a bod yn raddedigion galluog, addasadwy a chyfrifol yn gymdeithasol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<h2 id=\"section9\">Archwilio\u2019n ddyfnach<\/h2>\n<p><a id=\"PD section9\"><\/a><br \/>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-programme-development-deeper-dive-accordion-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Canllawiau\u2019r asiantaeth sicrhau ansawdd (QAA) ar Ddatblygu Rhaglenni<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-programme-development-deeper-dive-accordion-cy-1\"><p>Mae\u2019r pecyn cymorth hwn gan Brifysgol Caerdydd yn gasgliad o adnoddau sydd \u00e2\u2019r nod o\u2019ch cefnogi wrth Ddatblygu Rhaglenni. Mae Cod Ansawdd QAA hefyd yn cynnwys cyngor ac arweiniad a nodir fel 12 thema, a luniwyd i gefnogi SAUau i fodloni gofynion gorfodol y Cod Ansawdd fel y dangosir isod. Mae'r rhain yn ganllawiau defnyddiol i bawb sy'n ymwneud \u00e2 dylunio rhaglenni eu hystyried.<\/p>\n<p>Mae'r ddelwedd trydydd parti ganlynol yn Saesneg yn unig.<\/p>\n<figure id=\"post-2299 media-2299\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/files\/2023\/08\/Quality_Code-Should-be-in-Welsh-Icons.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<figure id=\"post-1530 media-1530\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/files\/2023\/08\/QAA-Guidance-Icons.png\" alt=\"Twelve circular icons are used to represent the 12 themes within the QAA Quality Code. An arrow pointing towards an open book illustrates Admissions, Recruitment and Widening Access. A clipboard is used to highlight the theme Assessment. Speech bubbles represent Concerns, Complaints and Appeals. Three interconnected cogs illustrate Course Design and Development. A mortar board represents Enabling Student Achievement. Five arrows pointing towards a central focal point is used to highlight External Expertise. Three box folders standing in line represent Learning and Teaching. A document with a folded corner is used to illustrate Monitoring and Evaluation. Two hands shaking denotes Partnerships. A magnifying glass hovering over an open book signified Research Degrees. Three human silhouettes represent Student Engagement and two tall buildings illustrate Work-Based Learning.\" \/><\/figure>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-programme-development-deeper-dive-accordion-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Cyfeiriadau<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-programme-development-deeper-dive-accordion-cy-2\"><p>Arnaud, C, H. 2020. Block plan compresses one class into a few weeks for deeper learning. Chemical and Engineering News. Volume 98, Issue 26. Available at: <a href=\"https:\/\/cen.acs.org\/education\/undergraduate-education\/Block-plan-compresses-one-class\/98\/i26\">https:\/\/cen.acs.org\/education\/undergraduate-education\/Block-plan-compresses-one-class\/98\/i26<\/a><\/p>\n<p>Black, P., Harrison, C. and Lee, C., 2003. Assessment for learning: Putting it into practice. London: McGraw-Hill Education.<\/p>\n<p>Bowen, R. S. 2017. Understanding by Design. Vanderbilt University Center for Teaching. Available at: <a href=\"https:\/\/cft.vanderbilt.edu\/understanding-by-design\/.\">https:\/\/cft.vanderbilt.edu\/understanding-by-design\/.<\/a><\/p>\n<p>McTighe, J. and Wiggins, G., 2012. Understanding by design framework. Alexandria, VA: Association for Supervision and Curriculum Development.<\/p>\n<p>Lindblome-Ylanne, S., Parpala, A. and Postareff, L. (2018). What constitutes the surface approach to learning in the light of new empirical evidence? Studies in Higher Education, Volume 12 (4).<\/p>\n<p>Schellekens, L.H., Bok, H.G., de Jong, L.H., van der Schaaf, M.F., Kremer, W.D. and van der Vleuten, C.P., 2021. A scoping review on the notions of Assessment as Learning (AaL), Assessment for Learning (AfL), and Assessment of Learning (AoL). Studies in Educational Evaluation, 71, p.101094.<\/p>\n<p>QAA. 2020. Professional, Statutory And Regulatory Bodies. Available at: <a href=\"https:\/\/www.qaa.ac.uk\/about-us\/who-we-work-with\/professional-statutory-and-regulatory-bodies\">https:\/\/www.qaa.ac.uk\/about-us\/who-we-work-with\/professional-statutory-and-regulatory-bodies<\/a><\/p>\n<p>Wiggins, G., and McTighe, J., 2005. Understanding by design.<\/p>\n<p>Yan, Z. and Boud, D., 2021. Conceptualising assessment-as-learning. In Assessment as Learning (pp. 11-24). Routledge.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-programme-development-deeper-dive-accordion-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Rhannwch eich adborth<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-programme-development-deeper-dive-accordion-cy-3\"><p><iframe loading=\"lazy\" style=\"border: none; max-width: 100%; max-height: 100vh;\" src=\"https:\/\/forms.microsoft.com\/Pages\/ResponsePage.aspx?id=MEu3vWiVVki9vwZ1l3j8vFjmzr0UHJNEkrFqXd1VVfhURFkwR1E4TzlNNFJGR1VIRDdKRENOOFZFSS4u&amp;embed=true\" width=\"640px\" height=\"480px\" frameborder=\"0\" marginwidth=\"0\" marginheight=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\"><br \/>\n<\/iframe><\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-programme-development-deeper-dive-accordion-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Y camau nesaf<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-programme-development-deeper-dive-accordion-cy-4\"><p>Rydych chi ar dudalen 2 o 4 o dudalennau'r broses datblygu addysg.<\/p>\n<p>Y tudalennau nesaf yw:<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/dylunio-dysgu-a-pharatoi-i-addasu\/\">Dylunio Dysgu a Pharatoi i Addysgu<\/a>\u00a0(gweler y rhybudd isod cyn symud i'r dudalen hon)<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/gwella-dysgu\/\">Gwella Dysgu<\/a><\/p>\n<p>(oedd y dudalen flaenorol <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/chwmpasu-chreu-rhaglen\/\">Cwmpasu\u2019r Rhaglen<\/a>)<\/p>\n<p>\u2757 <strong>Argymhellir yn gryf, os ydych yn dylunio rhaglen newydd neu'n ailddilysu rhaglen, eich bod yn archwilio'r tudalennau canlynol wrth i chi adeiladu eich dogfennaeth ansawdd. Maent mewn trefn benodol:<\/strong><\/p>\n<ol>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/datblygu-rhaglen\/deilliannau-dysgur-modiwl\/\">Deilliannau Dysgu\u2019r Rhaglen<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/datblygu-rhaglen\/asesu-rhaglen\/\">Asesu Rhaglen<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/datblygu-rhaglen\/deilliannau-dysgur-modiwl\/\">Deilliannau Dysgu\u2019r Modiwl<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/datblygu-rhaglen\/asesur-modiwl\/\">Asesiadau\u2019r Modiwl<\/a><\/li>\n<\/ol>\n<\/div> <\/div><\/div><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dechrau arni gyda Llunio Rhaglen Datblygu Rhaglenni Mae Datblygu Rhaglenni ym Mhrifysgol Caerdydd yn broses gynhwysfawr ac ailadroddol. Mae wedi'i chynllunio i wneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn cael profiadau [&hellip;]","protected":false},"author":8900,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[84],"tags":[],"class_list":["post-462","page","type-page","status-publish","hentry","category-datblygu-rhaglen"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/462","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8900"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=462"}],"version-history":[{"count":67,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/462\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9329,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/462\/revisions\/9329"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=462"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=462"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=462"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}