Graduate Attributes Map
Bydd yr adnodd hwn yn dangos sut mae’r hyn rydych chi’n ei ddysgu a’i astudio yn meithrin set o sgiliau trosglwyddadwy sy’n eich gwneud yn gyflogadwy.
Cyflwyno Rhinweddau Graddedigion Prifysgol Caerdydd
Beth yw’r Rhinweddau Graddedigion?
Set o sgiliau a galluoedd trosglwyddadwy yw’r Rhinweddau Graddedigion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi’u datblygu mewn partneriaeth â myfyrwyr, academyddion a chyflogwyr.
Bwriedir i’r rhinweddau fod yn llinyn aur sy’n rhedeg drwy amser pob myfyriwr yng Nghaerdydd a gellir eu datblygu drwy eich astudiaethau neu drwy gyfleoedd allgyrsiol yn eich ysgol ac ar draws y brifysgol ehangach.
Drwy ddatblygu’r rhinweddau, byddwch yn cynyddu eich siawns o sicrhau cyflogaeth ar lefel graddedigion fel dinasyddion byd-eang ag ymwybyddiaeth gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mae chwe Rhinwedd Graddedigion drosfwaol, pob un ag ystod o is-rinweddau sy’n dangos y nodweddion craidd y byddai myfyriwr graddedig o Brifysgol Caerdydd sydd â’r rhinwedd hon yn eu dangos.
Mae gan bob rhinwedd liw ac eicon penodol sy’n rhoi cynrychiolaeth weledol o’r hyn y mae’r priodoledd yn ei olygu, fel y dangosir isod:

I weld yr holl is-briodoleddau, cliciwch ar y Priodoleddau Graddedigion a restrir isod:
Cydweithredu (C)

Cydweithio
- Cyfrannu’n gadarnhaol ac yn effeithiol wrth weithio mewn tîm, gan wneud gwahaniaeth o’r dechrau.
- Dangos brwdfrydedd a’r gallu i ysgogi eu hunain a dylanwadu’n gadarnhaol ar bobl eraill yn unol â chyfrifoldebau y cytunir arnynt yn dilyn cyfarfod
- Dangos parch at rôl pobl eraill a chydnabod cyfyngiadau eu sgiliau/profiad eu hunain.
Cyfathrebu’n Effeithiol (CE)

Cyfathrebwyr Effeithiol
- Gwrando ar bobl eraill ac ystyried eu safbwyntiau.
- Cyfathrebu syniadau cymhleth yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Cyfrannu at drafodaethau, negodi a chyflwyno’n effeithiol.
- Rhoi, derbyn a defnyddio adborth adeiladol.
- Cyfathrebu’n broffesiynol, gan gynnwys drwy eu proffiliau ar-lein a’u proffiliau cyfryngau cymdeithasol, a bod yn ymwybodol o sut y gallai eraill ddehongli geiriau a gweithredoedd.
Ymwybyddiaeth Foesegol, Gymdeithasol ac Amgylcheddol (YFGA):

Ymwybodol yn Foesegol, yn Gymdeithasol, ac yn Amgylcheddol
- Ystyried eu cyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol personol a phroffesiynol.
- Dangos gonestrwydd, dibynadwyedd a gallu personol a phroffesiynol.
- Deall sefydliadau, eu rhanddeiliaid a’u heffaith ar y gymuned.
- Ysgwyddo cyfrifoldeb ymarferol dros hyrwyddo hawliau dynol, gan ddathlu amrywiaeth ac ehangu cynhwysiant.
- Cofio am yr argyfwng hinsawdd a nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
- Ymddwyn fel dinasyddion byd-eang, gan ymgysylltu a gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol trwy gael profiad ymarferol mewn gwledydd eraill.
Meddylwyr Annibynnol a Beirniadol (MAB):

Meddwl yn Annibynnol ac yn Feirniadol
- Adnabod, diffinio a dadansoddi materion a syniadau cymhleth, gan feddwl yn feirniadol i werthuso ffynonellau gwybodaeth.
- Arddangos chwilfrydedd deallusol a cheisio meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth.
- Ymchwilio i broblemau a chynnig datrysiadau effeithiol, gan fyfyrio a dysgu o lwyddiannau a methiannau.
Arloesol, Mentrus ac Ymwybodol yn Fasnachol (AMYF):

Bod yn Arloesol, yn Fentrus ac yn Ymwybodol o Faterion Masnachol
- Creu syniadau gwreiddiol a chymhwyso ffyrdd creadigol, llawn dychymyg a dyfeisgar o feddwl wrth ymateb i anghenion a phroblemau a nodwyd.
- Cymryd yr awenau wrth weithredu ar eu syniadau eu hunain a syniadau pobl eraill, gan gydbwyso’r risgiau a’r canlyniadau a gwneud i bethau ddigwydd.
- Bod yn hyderus wrth ddilyn llwybr gyrfa hyfyw a gwobrwyol mewn entrepreneuriaeth.
- Deall sefydliadau, eu rhanddeiliaid, a’u heffaith ar yr economi.
Myfyriol a Gwydn (MG):

Bod yn Fyfyriol ac yn Wydn
- Mynd ati’n bwrpasol i fyfyrio ar eich astudiaethau eich hun, eich cyflawniadau a’ch hunaniaeth.
- Dangos gwydnwch, hyblygrwydd a chreadigrwydd i ddelio â heriau, a bod yn agored i newid.
- Nodi a chyfleu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth eu hunain yn hyderus ac mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
- Ystyried syniadau, cyfleoedd a thechnolegau newydd, gan adeiladu ar wybodaeth a phrofiad i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol eu hunain.
- Gosod nodau uchelgeisiol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol parhaus, cynllunio’n effeithiol ac ymroi i ddysgu gydol oes.