{"id":1689,"date":"2024-07-02T13:36:53","date_gmt":"2024-07-02T12:36:53","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/?page_id=1689"},"modified":"2026-02-27T10:20:49","modified_gmt":"2026-02-27T10:20:49","slug":"diffinio-cyflogadwyedd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/cy\/fframwaith-dyfodol-myfyrwyr-student-futures-framework\/diffinio-cyflogadwyedd\/","title":{"rendered":"Diffinio Cyflogadwyedd"},"content":{"rendered":"<p>Mae Advance HE (2019) yn ystyried Cyflogadwyedd fel ymarferion a gweithgareddau sy\u2019n galluogi myfyrwyr i ddatblygu:<\/p>\n<div class=\"well\" style=\"background-color: #ffffff\"><strong>\u201cy wybodaeth, y sgiliau, y profiadau, yr ymddygiadau, y rhinweddau, y cyflawniadau a\u2019r agweddau sy\u2019n galluogi graddedigion i wneud trawsnewidiadau llwyddiannus sydd o fudd iddynt hwy, yr economi a\u2019u cymunedau\u201d.<\/strong><br \/>\n<strong class=\"\" style=\"color: #d3374a\"><b>AdvanceHE, 2019<\/b><\/strong><\/div>\n<p>Gan adlewyrchu&#8217;r dull hwn, mae&#8217;r Brifysgol wedi ymrwymo i alluogi pob myfyriwr i ddatblygu\u2019r<br \/>\nsgiliau a&#8217;r rhinweddau i ddod yn ddinasyddion byd-eang cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ymwybodol. Mae Rhinweddau Graddedigion y Brifysgol yn ymwneud \u00e2 6 maes eang, sy\u2019n canolbwyntio ar sicrhau bod graddedigion Caerdydd.<\/p>\n<h4>Rhinweddau Graddedigion Prifysgol Caerdydd yw:<\/h4>\n<figure id=\"post-999 media-999\" class=\"image align-center\"><\/figure>\n<table style=\"font-weight: 400;height: 249px\" width=\"1371\" data-tablestyle=\"MsoNormalTable\" data-tablelook=\"1184\">\n<tbody>\n<tr>\n<td>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 128px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/03\/GA-ICONS-Collaborative.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"color: #004376\"><b><br \/>\nYn Gydweithredol\u00a0 <\/b><\/strong><\/div>\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"color: #004376\"><b>\u00a0\u00a0<\/b><\/strong><\/div>\n<div><\/div>\n<\/td>\n<td data-celllook=\"4369\">\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 128px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/03\/GA-ICONS-Effective-Communicators.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"color: #a95f00\"><b><br \/>\nYn Gyfathrebwyr Effeithol<\/b><\/strong><\/div>\n<div><\/div>\n<\/td>\n<td data-celllook=\"4369\">\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 128px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/03\/GA-ICONS-Ethically-Socially-and-Environmentally-Aware.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"color: #006b2f\"><b><br \/>\nAg Ymwybyddiaeth o Faterion Moesegol, Cymdeithasol ac Amgylcheddol<\/b><\/strong><\/div>\n<\/td>\n<td data-celllook=\"4369\">\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 128px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/03\/GA-ICONS-Independent-and-Critical-Thinkers.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"color: #7f6800\"><b><br \/>\nYn Meddwl yn Annibynnol ac yn Feirniadol\u00a0<\/b><\/strong><\/div>\n<div><\/div>\n<\/td>\n<td data-celllook=\"4369\">\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 128px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/03\/GA-ICONS-Innovative-Enterprising-and-Commercially-Aware.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"color: #562c6a\"><b><br \/>\nYn Arloesol, yn Fentrus ac yn Fasnachol Ymwybodol<\/b><\/strong><\/div>\n<div><\/div>\n<\/td>\n<td data-celllook=\"4369\">\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 128px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/03\/GA-ICON-Reflective-and-Resilient.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 128px\">\n<div class=\"h-0\" style=\"text-align: left\"><strong class=\"\" style=\"color: #a10058\"><b>\u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 Yn Adfyfyriol a Chadarn<\/b><\/strong><\/div>\n<div><\/div>\n<\/figure>\n<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<figure id=\"post-999 media-999\" class=\"image align-center\"><\/figure>\n<p>Gan gydnabod bod myfyrwyr yn aml yn cydbwyso ystod o weithgareddau sydd yr un mor bwysig, gan gynnwys astudio, gweithio a chyfrifoldebau gofalu, mae\u2019r Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr yn cefnogi dau ddull eang o ymgorffori cyflogadwyedd:<\/p>\n<p><strong>gweithgareddau cwricwlaidd<\/strong> \u2013 cyflwynir y gweithgaredd cyflogadwyedd yn rhan o elfen sy&#8217;n cynnig credydau o raglen astudio&#8217;r myfyriwr (e.e. gweithgaredd cyflogadwyedd a ddefnyddir fel math o asesiad dilys ar gyfer modiwl, neu leoliad gwaith a wneir yn rhan o flwyddyn ar leoliad proffesiynol);<\/p>\n<p><strong>gweithgareddau allgyrsiol<\/strong> \u2013 cyflwynir y gweithgaredd cyflogadwyedd y tu allan i\u2019r elfennau sy\u2019n cynnig credydau yn rhaglen astudio&#8217;r myfyriwr (e.e. cymryd rhan mewn gweithdy sgiliau, neu fynd i gyflwyniad gan gyflogwr).<\/p>\n<p>Gellir darparu llawer o weithgareddau cyflogadwyedd ar sail gwricwlaidd ac allgyrsiol (e.e. dysgu yn y gwaith), ac mae ffocws Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig ystod o weithgareddau cyflogadwyedd sy&#8217;n galluogi pob myfyriwr i ddatblygu rhinweddau graddedigion. Mae&#8217;r cynllun amlinellol canlynol yn crynhoi sut mae&#8217;r Fframwaith yn helpu i wreiddio gweithgareddau cyflogadwyedd ar draws holl brofiad y myfyrwyr: (Tibby a Norton 2020)<\/p>\n<figure id=\"post-1569 media-1569\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/files\/2024\/04\/CYM-embedding-of-employability.png\" alt=\"Cwricwlwm wedi\u2019i gynllunio gyda chyflogadwyedd mewn golwg Addysgeg Mewnbwn gan gyflogwyr Wedi\u2019i lywio gan LMI a Data Mae cyflogadwyedd sy'n bodoli eisoes yn cael ei dynnu a'i amlygu Cwricwlwm Academaidd Prosiectau neu fodiwlau dan arweiniad cyflogwr Asesiad dilys gan ddefnyddio enghreifftiau ac offer sy'n adlewyrchu byd gwaith Iaith gyffredin Dulliau cydlynol Cysoni ar draws profiad cyfan y myfyrwyr Cynlluniau Mynediad a Chyfranogiad (APPs) a dulliau wedi'u teilwra Wedi'i alinio ac yn gyflenwol Gweithgareddau datblygu gyrfa Prosiectau neu fodiwlau dan arweiniad cyflogwr Asesiad dilys gan ddefnyddio enghreifftiau ac offer sy'n adlewyrchu byd gwaith CEIAG yn y cwricwlwm Sesiynau CV, cyflwyniadau Cyflogwyr, Profiad Gwaith, Ymgysylltu \u00e2 Chyflogwyr yn y cwricwlwm Cwricwlwm wedi\u2019i gynllunio gyda chyflogadwyedd mewn golwg Addysgeg Mewnbwn gan gyflogwyr Wedi\u2019i lywio gan LMI a Data Mae cyflogadwyedd sy'n bodoli eisoes yn cael ei dynnu a'i amlygu Cwricwlwm Academaidd Prosiectau neu fodiwlau dan arweiniad cyflogwr Asesiad dilys gan ddefnyddio enghreifftiau ac offer sy'n adlewyrchu byd gwaith Iaith gyffredin Dulliau cydlynol Cysoni ar draws profiad cyfan y myfyrwyr Cynlluniau Mynediad a Chyfranogiad (APPs) a dulliau wedi'u teilwra Wedi'i alinio ac yn gyflenwol Gweithgareddau datblygu gyrfa Prosiectau neu fodiwlau dan arweiniad cyflogwr Asesiad dilys gan ddefnyddio enghreifftiau ac offer sy'n adlewyrchu byd gwaith CEIAG yn y cwricwlwm Sesiynau CV, cyflwyniadau Cyflogwyr, Profiad Gwaith, Ymgysylltu \u00e2 Chyflogwyr yn y cwricwlwm\" \/><\/figure>\n<p style=\"text-align: center\">Fframweithiau AdvanceHE (02): Ymgorffori Cyflogadwyedd mewn Addysg Uwch (2019)<\/p>\n<h3>\u00a0Llinynnau Cyflogadwyedd<\/h3>\n<p>Mae Dyfodol Myfyrwyr wedi datblygu pedwar llinyn cyflogadwyedd trosfwaol sy\u2019n crynhoi\u2019r dysgu a\u2019r addysgu sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chyflogadwyedd y dylid eu cynnwys ym mhob agwedd ar brofiad myfyrwyr trwy ddulliau cwricwlaidd ac allgyrsiol:<\/p>\n<figure id=\"post-1708 media-1708\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/files\/2024\/11\/3-1-e1730710730490.png\" alt=\"Four circles that display each of the four employability htread icons.\" \/><\/figure>\n<h4>Dysgu Datblygu Gyrfa<\/h4>\n<figure id=\"post-1570 media-1570\" class=\"image align-center\"><\/figure>\n<p>Er mwyn i fyfyrwyr allu llywio a llwyddo mewn byd gwaith cynyddol hylifol a chymhleth, mae angen cymorth arnynt i gaffael y wybodaeth, y sgiliau a&#8217;r agweddau a fydd yn eu harfogi i reoli eu gyrfaoedd yn effeithiol. Diffinnir dysgu datblygu gyrfa fel:<\/p>\n<div class=\"well\" style=\"background-color: #ffffff\"><strong>\u201cCaffael galluoedd sy&#8217;n ddefnyddiol i ddatblygiad a rheolaeth barhaus eich gyrfa, wedi&#8217;i seilio ar broses ddysgu ddilys barhaus sy&#8217;n meithrin gwybodaeth am y byd gwaith ac amdanoch chi\u2019ch hun. Mae&#8217;r broses hon yn datblygu gallu&#8217;r dysgwr i wneud synnwyr o&#8217;r wybodaeth hon a&#8217;i chyfuno a ffurfio&#8217;r sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau effeithiol yn ymwneud \u00e2 dewisiadau gyrfa, datblygiad proffesiynol a gweithgarwch datblygu gyrfa (gan gynnwys caffael gwaith)\u201d. <\/strong><br \/>\n<strong class=\"\" style=\"color: #d3374a\"><b>Bridgstock, Grant-Iramu and McAlpine, 2019<\/b><\/strong><\/div>\n<p>Trwy ddysgu datblygu gyrfa, bydd myfyrwyr yn gwella eu hunanymwybyddiaeth, eu hymwybyddiaeth o gyfleoedd, eu gallu i wneud penderfyniadau am eu gyrfa a&#8217;u gallu i drosglwyddo i&#8217;r gweithle yn hyderus.<\/p>\n<h4>Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth<\/h4>\n<p>I rai myfyrwyr, bydd y newid i fyd gwaith yn golygu cymryd rhan mewn rhaglen fusnes newydd neu fenter gymdeithasol. Mae cyflogwyr yn ystyried meddylfryd entrepreneuraidd hefyd fel un sy&#8217;n ychwanegu gwerth at ddatblygiad sefydliad. Felly, mae addysg menter ac entrepreneuriaeth yn rhan allweddol o\u2019r Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr. Yn y sector addysg, y diffiniadau sefydledig o addysg menter ac entrepreneuriaeth yw:<\/p>\n<div class=\"well\" style=\"background-color: #ffffff\"><strong>&#8220;Gellir diffinio menter fel creu a chymhwyso syniadau, sydd wedi&#8217;u gosod mewn sefyllfaoedd ymarferol yn ystod prosiect neu ymgymeriad&#8230; Mae\u2019n cyfuno creadigrwydd, gwreiddioldeb, menter, creu syniadau, meddwl yn greadigol, ymaddasu, ymatblygaeth, adnabod problemau, datrys problemau, arloesi, mynegi, cyfathrebu a chymryd camau ymarferol.&#8221;<\/strong><br \/>\n<strong class=\"\" style=\"color: #d3374a\"><b>QAA, 2018<\/b><\/strong><\/div>\n<p>and Entrepreneurship education as:<\/p>\n<div class=\"well\" style=\"background-color: #ffffff\"><strong>\u201cDiffinnir Addysg Entrepreneuriaeth fel cymhwyso ymddygiadau, rhinweddau a chymwyseddau menter i greu gwerth diwylliannol, cymdeithasol neu economaidd. Gall hyn, ond nid bob tro, arwain at greu menter. Mae entrepreneuriaeth yn berthnasol i unigolion a grwpiau (timau neu sefydliadau), ac mae&#8217;n cyfeirio at greu gwerth yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a&#8217;r trydydd sector, ac mewn unrhyw gyfuniad o&#8217;r tri\u201d.<\/strong><br \/>\n<strong class=\"\" style=\"color: #d3374a\"><b>QAA, 2018<\/b><\/strong><\/div>\n<p>Trwy addysg menter ac entrepreneuriaeth, bydd myfyrwyr yn archwilio ac yn datblygu eu sgiliau entrepreneuraidd, eu meddylfryd a\u2019u meddwl creadigol, yn dysgu sut i sefydlu busnes neu ddod yn llawrydd ac yn dysgu sut i hyrwyddo eu hunain a\u2019u busnes gydag effaith.<\/p>\n<h4>Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang<\/h4>\n<p>Mae&#8217;r Brifysgol yn cydnabod pa mor bwysig ydyw i fyfyrwyr weithredu fel dinasyddion byd-eang, gan ymgysylltu \u00e2 gwahaniaethau diwylliannol a&#8217;u gwerthfawrogi trwy ddysgu ac addysgu \u00e2 ffocws rhyngwladol a\/neu drwy brofiad ymarferol o wledydd eraill. Diffinnir addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang fel:<\/p>\n<div class=\"well\" style=\"background-color: #ffffff\"><strong>\u201cMeithrin parch at bawb, adeiladu ymdeimlad o berthyn i ddynoliaeth gyffredin a helpu dysgwyr i ddod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol a gweithgar. Mae&#8217;n fath o ddysgu dinesig sy&#8217;n cynnwys cyfranogiad gweithredol myfyrwyr mewn prosiectau sy&#8217;n mynd i&#8217;r afael \u00e2 materion byd-eang o natur gymdeithasol, wleidyddol, economaidd neu amgylcheddol\u201d.<\/strong><br \/>\n<strong class=\"\" style=\"color: #d3374a\"><b>UNESCO, 2014<\/b><\/strong><\/div>\n<p>Trwy addysg dinasyddiaeth fyd-eang bydd myfyrwyr yn datblygu eu hymwybyddiaeth fyd-eang a\u2019u cymhwysedd diwylliannol, yn dysgu am gyfrifoldeb cymdeithasol, cynaliadwyedd a stiwardiaeth amgylcheddol, ac yn cymryd rhan mewn prosiectau a phrofiadau gyda ffocws byd-eang.<br \/>\nMae\u2019r Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr yn dilyn yr Is-Strategaeth Ryngwladol (Prifysgol Caerdydd, 2021) i hyrwyddo gweithgareddau symudedd rhyngwladol fel agwedd allweddol ar y rhaglen gyda ffocws ar:<\/p>\n<div class=\"well\" style=\"background-color: #ffffff\"><strong>\u201castudio, gweithio neu wirfoddoli mewn lleoliad rhyngwladol am o leiaf bythefnos, neu ennill profiad rhyngwladol sylweddol arall fel rhan o brofiad prifysgol myfyriwr\u201d.<\/strong><br \/>\n<strong class=\"\" style=\"color: #d3374a\"><b>Cardiff University, 2021<\/b><\/strong><\/div>\n<h4>Dysgu seiliedig ar waith<\/h4>\n<p>Er mwyn i fyfyrwyr allu pontio&#8217;r bwlch rhwng gwybodaeth academaidd a chymhwysiad yn y byd go iawn yn effeithiol a datblygu&#8217;r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyflogwyr, mae&#8217;n hanfodol eu bod yn dysgu o brofiadau ymarferol tra byddant yn y brifysgol. Diffinnir dysgu seiliedig ar waith fel:<\/p>\n<div class=\"well\" style=\"background-color: #ffffff\"><strong>&#8220;Dysgu drwy waith, dysgu ar gyfer gwaith a\/neu ddysgu yn y gwaith. Mae&#8217;n cynnwys cyfleoedd strwythuredig dilys ar gyfer dysgu sy&#8217;n cael eu cyflawni mewn lleoliad yn y gweithle neu sydd wedi&#8217;u cynllunio i ddiwallu angen a nodwyd yn y gweithle. Yn nodweddiadol, mae gan y math hwn o ddysgu swyddogaeth ddeuol, sef cael ei gynllunio i ddiwallu anghenion dysgu\u2019r gweithwyr, datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a\u2019u hymddygiad proffesiynol, a hefyd diwallu anghenion datblygu gweithlu\u2019r sefydliad\u201d.<\/strong><br \/>\n<strong class=\"\" style=\"color: #d3374a\"><b>QAA, 2018<\/b><\/strong><\/div>\n<p>Trwy ddysgu seiliedig ar waith, gall myfyrwyr wella eu gwybodaeth am y diwydiant, archwilio opsiynau gyrfa, gwella eu gwybodaeth gymhwysol a&#8217;u sgiliau ymarferol, a datblygu eu proffesiynoldeb a&#8217;u hunaniaeth broffesiynol.<\/p>\n<p>Mae integreiddio lleoliadau gwaith i\u2019r cwricwlwm hefyd yn agwedd bwysig ar y Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr, a disgwylir i hanner y myfyrwyr israddedig gwblhau lleoliad fel rhan o\u2019u hastudiaethau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"How Student Futures defines employability and how the Graduate Attributes and employability threads can be woven into the curriculum.","protected":false},"author":9375,"featured_media":0,"parent":1275,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1689","page","type-page","status-publish","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1689","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1689"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1689\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1721,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1689\/revisions\/1721"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1275"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1689"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1689"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/student-futures-framework\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1689"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}